Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Peter Williams

Howell Harris–Gwedi Yr Ymraniad Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
David Jones, Llangan

Y PARCH. PETER WILLIAMS, O GAERFYRDDIN

PENOD XVIII.
PETER WILLIAMS.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Peter Williams
ar Wicipedia

Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei fam yn ei fwriadu i'r weinidogaeth—Colli ei rieni yn foreu—Rhagluniaeth yn gofalu am yr amddifad—Peter Williams yn myned i athrofa Thomas Einion—Yn cael ei argyhoeddi trwg bregeth Whitefield—Cael ei urddo yn guwrad eglwys Gymmun—Colli ei le oblegyd ei Fethodistiaeth—Colli dwy guwradiaeth arall am yr un rheswm—Yn ymuno a'r Methodistiaid—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Cacl ei erlid oblegyd yr efengyl yn y Dê a'r Gogledd—Cael lle amlwg yn fuan yn y Gymdeithasfa—Yn ymuno a phlaid Rowland adeg yr ymraniad Ysgrythyroldeb ei bregethau—Dwyn allan y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod Cyhoeddi y "Mynegair," yn nghyd a "Thrysorfa Gwybodaeth," sef y cylchgrawn Cymreig cyntaf—Anfoddlonrwydd i'w sylwadau gyda golwg ar y Drindod—Yr anfoddlonrwydd yn cynyddu oblegyd iddo newid rhai geiriau yn Meibl Caune Dadleu brwd yn y Gymdeithasfa—Peter Williams yn cael ei ddiarddel gan y Methodistiaid—Yn gwneyd amryw geisiadau am ail brawf, ond yn glynu wrth ei olygiadau—Canlyniadau ei ddiarddeliad—Diwedd ei oes—Purdeb ei amcanion, a mawredd ei ddefnyddioldeb.

NID oes yn Nghymru enw mwy adnabyddus, na mwy parchedig, nag eiddo Peter Williams, y pregethwr efengylaidd, a'r esboniwr duwiolfrydig. Efallai mai yn brin y gellir ei rifo yn mysg sylfeinwyr y Cyfundeb Methodistaidd yr oedd tuag wyth mlynedd o'r diwygiad wedi pasio, ac amryw Gymdeithasfaoedd, chwarterol, a misol, wedi eu cynal, cyn iddo ef gael ei argyhoeddi. A bu am rai blynyddoedd drachefn cyn cael ei arwain gan Ragluniaeth i fwrw ei goelbren yn mysg y Methodistiaid. Ond, oblegyd dysgleirder ei dalentau, duwiol frydedd ei yspryd, eangder ei wybodaeth, a llwyredd ei ymroddiad, ni bu fawr amser gwedi ymuno cyn cael ei gydnabod fel yn perthyn i'r rhestr flaenaf oll, ac edrychid arno fel un o'r arweinwyr. "Peter Williams, Caerfyrddin," ei gelwir ar lafar gwlad; eithr ymddengys mai am ychydig amser y bu yn drigianydd yn y dref hono, ac y rhaid deall "Caerfyrddin" fel yn dynodi y sir yn hytrach na'r dref.

Ganwyd ef Ionawr 7, 1722, yn agos i Lacharn, mewn amaethdy, o'r enw Morfa, yr hwn, fel yr awgryma yr enw, oedd yn ymyl y môr. Saesneg ydoedd, ac ydyw, yr iaith arferedig yn Lacharn; y rheswm am hyny, meddir, ydyw ddarfod i drefedigaeth o Saeson ymsefydlu yno rywbryd yn yr hen amser. Y mae yr iaith wedi glynu yno hyd heddyw, er mai Cymraeg a siaredir trwy yr holl wlad o gwmpas. Ac am y rheswm hwn, yr oedd Peter Williams, pan yn blentyn, yn fwy o Sais nag o Gymro. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus, yn dda arnynt o ran pethau y byd, ac yn hanu o deuluoedd anrhydeddus. Ei fam, yn arbenig, oedd yn ddynes dra chrefyddol. Arferai fyned ar y Suliau ar gefn ei cheffyl i Landdowror, i wrando yr offeiriad enwog, Griffith Jones, ac nid anfynych cymerai y plentyn, Peter, gyda hi. plentyn. Er fod ganddi blant eraill, mab a merch, ymddengys mai am Peter yr oedd ei serchiadau wedi ymglymu yn benaf. Gwelai ynddo arwyddion annghamsyniol o dalent; parai ei feddwl bywiog, a'i gof cyflym, iddi ddysgwyl pethau mawr oddiwrtho; phenderfynodd roddi iddo bob manteision. addysg posibl. Ei dymuniad ydoedd ei gysegru i'r weinidogaeth, a diau iddi amlygu ei hawyddfryd i Peter ieuanc lawer gwaith wrth dramwyo rhwng Lacharn a Llanddowror, ac ar adegau eraill.

Eithr pan nad oedd Peter ond unmlwydd-ar-ddeg oed, bu farw ei fam yn ddisymwth mewn twymyn. Y flwyddyn ganlynol bu farw ei dad. A dyma y tri phlentyn amddifad yn cael eu gadael mewn oedran tyner i wynebu ar ystormydd bywyd. Ond, fel arfer, cyfryngodd Rhagluniaeth ar eu rhan, a dangosodd yr Arglwydd mewn modd annghamsyniol ei fod yn Dad yr amddifad. Rhyw foneddiges o Fryste a gymerodd ofal y ferch; daeth ewythr o du y tad yn mlaen i ymgymeryd â gofal y mab ieuangaf; ac ewythr o du y fam a dderbyniodd Peter i'w dŷ. Ymddengys i'r ferch farw yn gynar. Am Dafydd, y bachgen ieuangaf, cafodd ysgol dda gan ei ewythr, ac yn nghymydogaeth Bryste y preswyliodd hyd ddydd ei farwolaeth. A ddarfu iddo briodi, a chael plant, ni wyddom. Cawsai Peter ei gadw yn yr ysgol tra y bu ei rieni byw, a gwnaethai gynydd mawr mewn dysgeidiaeth. Darfu i'r ewythr ganlyn ar yr un llwybr, gan ei osod mewn ysgol ar unwaith, a than addysg y bu hyd nes yr oedd yn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Yr oedd ei wanc am wybodaeth yn angerddol. Pan fyddai plant yr ysgol allan yn chwareu, myfyrio uwchben ei lyfrau a wnelai ef; nis gallai eistedd wrth y bwrdd i fwyta heb fod rhyw lyfr yn agored ger ei fron. Wedi iddo ddechreu ymgydnabyddu a'r ieithoedd Lladin a Groeg, daeth ei gynydd yn fwy amlwg, a'i ymroddiad yntau yn llwyrach. Ni chymerai seibiant adeg y gwyliau, fel y gwnelai y llanciau eraill, eithr parhäi i ddarllen a meddwl o ddifrif. Oddiwrth yr hyn a ddywed am dano ei hun, gallwn dybio ei fod yn yr oedran hwn o duedd feudwyol, yn ddibris o bob chwareuon, yn ddifater am gwmniaeth llanciau o gyffelyb oed, ac yn llwyr ymroddedig i'w efrydiau.

Yr oedd ei fuchedd yn foesol, braidd o'r dechreuad. Am hyn, yr oedd yn ddyledus mewn rhan i dueddfryd ei natur, ac hefyd mewn rhan i ofal a chynghorion ei fam. Mynega ddarfod iddo, yn ystod adeg ei blentyndod, glywed rhywrai yn tyngu ac yn rhegu, ac iddo yntau ddysgu eu hymadroddion; ond pan y clybu ei fam ef, hi a'i ceryddodd yn llym, ac ni bu yn euog o'r cyfryw bechod mwy. A chwedi iddi hi gael ei phriddo, glynai ei chynghorion yn ei feddwl, fel na fu gan rysedd afael arno o gwbl. Dywed i Dduw ei gynal yn nyddiau ei ieuenctyd, a blynyddoedd ei ynfydrwydd, fel na fu yn euog o bechodau rhyfygus, nac o unrhyw fai a ystyrir yn waradwyddus yn mysg dynion. Nid ydoedd ychwaith yn amddifad o argraffiadau crefyddol. Llenwid ei gydwybod yn fynych gan ofn marw, a dychryn y farn. Meddai: "Y cwestiwn mwyaf genyf ydoedd, Pa fodd yr ymddangoswn gerbron Duw? Pa fodd y dysgwyliaf am ollyngdod a maddeuant gan y Duw pur a sanctaidd hwnw, o wydd yr hwn, yn ei ymddangosiad, y diflana'r byd, a'r cwbl sydd ynddo?" Ceisiai gysuro ei hun nad ydoedd yn waeth na dynion eraill, a bod miloedd o bechaduriaid, cynddrwg ag yntau, rhai o'r cyfryw a adwaenai, wedi marw mewn gobaith o adgyfodiad i fywyd tragywyddol. Ond nid oedd yr esgusodion gwagsaw hyn yn foddlonol i'w gydwybod. Ffurfiasai yr arferiad o hunanymholiad; arferai droi ei olygon i mewn i ystafelloedd ei galon; a gwelai yno hadau pob llygredigaeth. Eithr, er hyn oll, nid adwaenai yr Arglwydd, ac ni wyddai nemawr am drefn yr efengyl i faddeu.

Pan yr oedd o gwmpas un-mlwydd-ar bymtheg oed, ceisiodd ei ewythr ganddo ddewis rhyw alwedigaeth. Teimlai yntau anhawsder dirfawr i wneyd; neu, yn hytrach, teimlai anhawsder i wneyd ei ddewisiad yn hysbys. Yn nirgelwch ei galon, yr oedd wedi rhoddi ei fryd ar fyned yn offeiriad. Fel y darfu i ni sylwi, cawsai yr awyddfryd hwn ei blanu ynddo gan ei fam. A thua blwyddyn cyn ei marwolaeth, cawsai Peter ieuanc freuddwyd hynod, yn yr hwn, yn mysg pethau eraill, y gwelsai ddau ŵr dyeithr, mor hardd eu gwedd ag angelion, yn dyfod ato, ac yn ymddiddan ag ef. Dehonglai y fam y freuddwyd fel prophwydoliaeth y byddai hi farw yn fuan, ond y deuai Iesu Grist i gymeryd ei lle, ac y gwnelai yr Iesu ei hoff blentyn yn weinidog enwog yn ei deyrnas. Sicr ydyw i'r breuddwyd a'r dehongliad adael argraff ddofn ar feddwl Peter, a thebygol fod a fynai hyn a thueddu ei feddwl yn awr at y weinidogaeth. Y mae mor sicr a hyny mai nid o herwydd ei fod wedi cael gras, ac nid o herwydd fod ei enaid yn llosgi ynddo gan awydd am achub eneidiau, y chwenychai y swydd. Yn ol ei syniad ef ei hun, yr ydoedd eto heb gael troedigaeth. Ond oblegyd yr argraff a dderbyniodd oddiwrth ei fam, yn nghyd a'i hoffder yntau o lyfrau, a gwybodaeth, nid oedd dim a'i boddlonai ond yr offeiriadaeth. Eithr teimlai anhawsder dirfawr i ddatgan ei awyddfryd i'w ewythr. Nid yw yn ymddangos mai ofn ei ewythr oedd arno, ychwaith; yn hytrach, yr hyn a ofnai oedd fod y draul yn ormod. Eithr dweyd a fu raid, a throdd pethau allan yn well na'i ofnau. Gwelai yr ewythr, na wnelai ei nai amaethwr, ac felly yr oedd yn dda ganddo ei weled yn ymaflyd mewn rhywbeth mwy cydnaws a'i dueddiadau; a chafodd y llanc myfyrgar ei anfon i ysgol ramadegol dda, a gedwid yn Nghaerfyrddin, gan un Thomas Einion. Yno y bu am dair blynedd, yn ymroddgar i'w efrydiau. Yn ystod yr amser hwn gwnaeth y fath gynydd mewn gwybodaeth o'r ieithoedd. clasurol, fel, ar ei ymadawiad, yr oedd yn alluog i ysgrifenu llythyr o ddiolchgarwch i'w athraw yn yr iaith Ladin, yr hwn lythyr, fel y cawn weled eto, a fu yn foddion i ddwyn oddiamgylch ei ordeiniad.

Y mae genym bob sail i gredu ei fod, tra yn yr athrofa, yn foesol ei rodiad, ac yn foneddigaidd o ran ymddygiad; nid annhebyg yr edrychai ei athraw arno fel y penaf o'i efrydwyr. Ond nid oedd eto wedi cael ei ddwyn i gydnabyddiaeth â threfn yr iachawdwriaeth trwy Grist. Ar yr un pryd, yr oedd ei gydwybod yn anesmwyth o'i fewn; nid oedd dychrynfeydd y farn, a gorfod rhoddi cyfrif i Dduw, wedi ei adael; gwnelai lawer o addunedau, y rhai, yn ganlynol, a dorai. Eithr yn y flwyddyn 1743, yn mis Ebrill, cymerodd amgylchiad le, a newidiodd holl gyfeiriad ei fywyd, ac a'i gwnaeth yn ddyn newydd. Yr amgylchiad hwn oedd dyfodiad George Whitefield i dref Caerfyrddin i bregethu. Mawr oedd y son am dano cyn ei ddyfod. Yr oedd hyawdledd llifeiriol ei areithyddiaeth, yn nghyd a'r ffaith ei fod, ac yntau yn offeiriad, yn pregethu ar y maes agored, ac mewn lleoedd annghysegredig, yn cynyrchu dirfawr siarad; ond yr hynod rwydd mwyaf cysylltiedig ag ef oedd ei fod yn cyhoeddi y pechod gwreiddiol, yr angenrheidrwydd am ail—enedigaeth, ac am gyfiawnhad trwy ffydd heb weithredoedd. Heresi ronc y golygai y mwyafrif o glerigwyr Eglwys Loegr yr athrawiaethau hyn; felly hefyd yr ymddangosent i Mr. Thomas Einion, athraw yr ysgol ramadegol. Am un—ar—ddeg o'r gloch, arferai y meistr ollwng y plant allan; ond am y dosparth blaenaf, y rhai yr oedd eu llygad ar y weinidogaeth, arferai eu cadw yn ol am beth amser, er eu cyfarwyddo gyda golwg ar eu hefrydiau, a pha lyfrau y byddai mwyaf buddiol iddynt eu darllen. Ond y diwrnod y dysgwylid Mr. Whitefield, pwnc Mr. Einion oedd y pregethwr peryglus oedd i ymweled a'r dref, a rhybuddiai y dynion ieuainc yn ddifrifol ar iddynt beidio myned i'w wrando. Er gwaethaf y rhybudd, cydunodd pedwar o'r efrydwyr, un o ba rai oedd Peter Williams, yr aent i wrando yn ddirgelaidd, er cael gweled a chlywed drostynt eu hunain. O gwmpas deuddeg o'r gloch, safodd Mr. Whitefield yn mhen heol Awst. Ei destun ydoedd, Esaiah liv. 5: "Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth, Arglwydd y lluoedd yw ei enw, dy waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef." Dechreuodd trwy ddangos rhagoriaethau yr Arglwydd Iesu fel priod, ac anog y gynulleidfa i'w ddewis. "A oes rhywun," meddai, "am gael priod yn meddu doethineb? Crist ydyw hwnw. A oes rhywun yn dymuno priod cyfoethog: priod a dâl ei holl ddyled, fel y rhaid i ni bechaduriaid gael? Y cyfryw un yw yr Iesu; y mae yn berchen ar holl drysorau nefoedd a daear, y mae yn meddianu pob peth ag sydd yn meddiant y Tad tragywyddol. O fy nghyd—bechaduriaid tlodion, yr ydym oll yn ddyledwyr i gyfraith Duw; yr ydym mewn perygl bob awr o gael ein dal gan ei gyfiawnder, a chael ein tori i lawr yn ein pechodau, a chael ein rhan yn y lle hwnw nad oes obaith. Nid rhyfedd gan hyny i Ffelix grynu pan oedd Paul yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd. Er hyn i gyd, y mae dynion i'w cael a chanddynt feddyliau da am eu rhinweddau, a'u cyfiawnderau eu hunain; a haerant eu dieuogrwydd yn ngwyneb deddf ac efengyl. Pe y buasent ddieuog, yna bu Crist farw yn ofer, yr hyn sydd yn ynfydrwydd ac yn gabledd ei feddwl. Geill y goreu o honom ddweyd fel yr Apostol: Ynof fi, hyny yw yn fy nghnawd, nid oes dim da yn trigo.' Pe bai y goreu o honom yn cael ei alw i'r farn, a gwneuthur â ni yn ol ein haeddiant, fe'n bwrid i uffern yn dragywydd." Teimlai Peter Williams yn enbyd o dan y bregeth; ac eto, y mae lle i feddwl ei fod yn ceisio gwneyd noddfa o'i hunan—gyfiawnderau, gan lechu yn eu cysgod rhag y saethau ofnadwy a deflid oddiar fwa y pregethwr. Meddai ef ei hun: 66 Myfi a gefais fy nghlwyfo, ond nid fy nychwelyd; yr oeddwn fel yn teimlo blaen ei gleddyf, ond ni syrthiais i lawr." Eithr nid oedd Whitefield wedi gorphen eto, ac nid oedd Yspryd yr Arglwydd wedi darfod â Peter Williams. Y mae y pregethwr yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a chyda bloedd ofnadwy o effeithiol, sydd yn cyrhaedd cyrau eithaf y dorf, dywed: "Fy mhobl anwyl! Mi a fum am flynyddoedd mor ddiwyd a gofalus a neb sydd yn bresenol. Bum yn gweddïo saith gwaith yn y dydd; yn ymprydio ddwy waith yn yr wythnos; yn myned i'r eglwys bob dydd, ac yn derbyn y cymun bob Sabbath; ac eto, yr holl amser hwnw, nid oeddwn yn Gristion." Gyda yr ergyd hwn dyma noddfa hunan—gyfiawnder Peter Williams yn garnedd; nid oes ganddo loches mwy i ymguddio ynddi. Meddai: "Y geiriau uchod, yn cael eu llefaru gydag awdurdod, a aethant megys saeth at fy nghalon; cefais fy nharo yn y fath fodd, fel yr oeddwn yn crynu trwy bob aelod. Bellach, nid oeddwn yn debyg i mi fy hun; yr oeddwn fel y clai yn llaw y crochenydd." Y pwnc yr awyddai y llanc ei ddeall yn awr oedd, beth oedd bod yn Gristion. Ar y mater yma, ni adawodd y pregethwr ef mewn tywyllwch. "Bod yn Gristion," meddai, "yw derbyn Yspryd Crist.

LACHARN, SIR GAERFYRDDIN
[Golygfa ar y Castell a'r Morfa.]


'Od oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef.' Bod yn Gristion yw bod yn brofiadol o'ch trueni wrth natur; gweled eisiau Iachawdwr; credu fod y dyn Crist Iesu yn Fab Duw, ei fod wedi dyfod i'r byd i achub pechaduriaid, a'i fod yn alluog i gyflawni y gwaith y daeth ef i'r byd i'w wneuthur. Yn mhellach, bod yn Gristion yw adnabod llais Crist, codi ei groes, a'i ganlyn; bod yn un ag ef, yn asgwrn o'i asgwrn, ac yn gnawd o'i gnawd; aros ynddo; bod yn deml iddo; ymddiddan ag ef; adnabod ei ewyllys, a byw i'w glod."

Nis gallwn ddilyn y pregethwr yn hwy, ond cafodd Peter Williams ei achub yn y cyfarfod. Wrth ymadael, canmolai ei gymdeithion y pregethwr; mawr edmygent ei hyawdledd, ei ddifrifwch, a'i ddoniau; "ychydig a wyddent," meddai Peter Williams, "am yr adeilad a gododd efe ynof, neu'r creadur newydd oedd wedi ei ffurfio o'm mewn, a hyn oll mewn yspaid awr." Nid yw yn ymddangos, er hyn, ei fod wedi meddianu rhyddid yr efengyl. Gweinidogaeth Sinai a lanwai ei yspryd; yn nganol y taranau a'r mellt y preswyliai; nid oedd Calfaria eto wedi dyfod i'r golwg yn amlwg, ac nid oedd y mellt wedi diffodd yn y gwaed. Meddai: "Angelion yr uchelderau a ymwelasant â mi; amser fy niwygiad a ddaeth; a'm holl bechodau, mewn meddwl, gair, a gweithred, a ddaethant i'm cof, fel pe buasai llifddorau yn cael eu hagor, a'r llifeiriant yn myned droswyf, nes yr oedd fy enaid yn soddi mewn ofn a dychryn." Yr oedd pob peth wedi newid i'r llanc erbyn hyn. Aeth y llyfrau clasurol, gweithiau yr awdwyr paganaidd, Homer, Horace, Virgil, ac Ovid, yn ddiflas iddo; nis gallai osod ei feddwl arnynt o gwbl. Ceisiai gelu ystâd ei feddwl; ond deallai ei athraw yn dda fod pregeth Whitefield wedi dylanwadu arno; eithr ni ddywedodd air wrtho. Cefnodd ei gyfeill ion arno; ni chymerent arnynt ei weled ar yr heol. Cwynai eraill o'i blegyd, fod arwyddion unwaith y deuai yn ysgolhaig gwych, yn gystal a chyfaill dyddan; ond yn awr, ei fod wedi myned yn Fethodist. Meddai: "Câr a chyfaill a'm gadawsant." Ni wyddai am neb i adrodd ei dywydd wrtho, nac i ofyn gair o gyfarwyddyd, oddigerth un ddynes ieuanc, aelod o'r teulu yn mha un y lletyai; yr hon a gawsai ei hargyhoeddi dan yr un bregeth ag yntau. Pa hyd y bu cyn cael rhyddhad i'w enaid, a pha foddion a fendithiwyd i gymeryd ei faich i ffwrdd, sydd anhysbys; ond sicr ydyw i'r maglau gael eu tori, ac iddo yntau ddianc fel aderyn o law yr adarwr. Bellach, yr oedd Peter Williams yn ddyn newydd, a'r cwbl yn newydd iddo yntau. Cyn ei droedigaeth, yr ydoedd, mewn undeb â rhai o'i gyfeillion ieuainc, wedi gwneyd parotoadau i gynal cyfarfodydd llawen, a dawnsio, yn ystod gwyliau y Pasg a'r Sulgwyn; i'r pwrpas hwn, cyflogasent delynwr; ond bellach, nid oedd swyn iddo yn y cyfryw bethau. Nid ydym yn gwybod a gynhaliwyd y cyfarfodydd, ond y mae yn sicr nad aeth efe iddynt, os do. Ar yr un pryd, nid yw yn ymddangos iddo ymuno a'r seiat Fethodistaidd yn Nghaerfyrddin.

Yn fuan gwedi hyn gadawodd yr athrofa, ac aeth i gadw ysgol i Cynwil Elfed, plwyf gwledig tua phum' milltir o Gaerfyrddin. Nid yw yn ymddangos iddo geisio urddau esgobol yn uniongyrchol. Yr oedd arno eisiau hamdden i astudio duwinyddiaeth, a hwyrach fod ei argy. hoeddiad wedi dyrysu ei feddwl am dymhor, fel nas gallai dori allan gynllun i'w fywyd. Bu yn dra ymdrechgar yn Nghynwil, nid yn unig fel ysgolfeistr, a chyda ei efrydiau, eithr i atal llygredigaethau, ac i ddwyn y trigolion i feddwl am grefydd. Yr oedd gwneyd rhywbeth dros yr Iesu wedi dyfod yn awyddfryd ang herddol ynddo. Ail—gyneuodd yr awydd yn ei yspryd am ymgyflwyno i'r weinidog aeth; teimlai fel Paul, mai gwae ef oni phregethai yr efengyl. Eithr nid y cymhellion gynt, sef cydymdeimlad ag addysg, a hoffder o lyfrau, a ddylanwadai arno yn awr, ond dymuniad am gyhoeddi ar led drysorau gras, fel y gallai pawb gyfranogi o honynt fel yntau. Gwnaeth gais at yr esgob am ordeiniad, a chafodd gymeradwyaeth Mr. Einion, ei hen athraw, yr hwn a fu yn ddigon caredig i beidio a dweyd gair am ei duedd Fethodistaidd.

Ymddengys i Mr. Einion hefyd amgau i'r esgob y llythyr Lladin o ddiolchgarwch a anfonasai y gŵr ieuanc iddo. Profodd hwn yn allwedd effeithiol i agor iddo ddrws yr offeiriadaeth, a chafodd ei ordeinio i guwradiaeth eglwys Gymmun, plwyf ar gyffiniau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid yw dyddiad yr ordeiniad genym, ond y mae yn sicr iddo gymeryd lle tua diwedd y flwyddyn 1743, neu ddechreu y flwyddyn 1744.

Yn eglwys Gymmun yr oedd holl ofal y plwyf arno. Preswyliai y periglor yn Lloegr, lle y meddai swyddogaeth uchel, ac y caffai gyflog dda; ni ofalai am ei blwyfolion tlodion yn Nghymru o gwbl, oddigerth dyfod unwaith y flwyddyn i'w mysg i dderbyn y degwm. Bychan oedd cyflog Peter Williams; gofalai y periglor am gadw y brasder iddo ei hun, ond nid oedd hyn yn poeni y cuwrad ieuanc o gwbl, oblegyd ychydig oedd yn eisiau arno, a chadwai ysgol ddyddiol, fel na byddai mewn petrusder gyda golwg am gynhaliaeth. Ymdaflodd ar unwaith i'w waith. Pregethai gyda nerth, er mai darllen ei bregethau a wnelai. Yn fuan sefydlodd gyfarfod gweddi yn y plwyf, yr hwn at gedwid mewn gwahanol dai yn gylchynol. Yn y cyfarfodydd hyn, nid yn unig gweddïai, eithr rhoddai air o gynghor i'r rhai oedd yn bresenol, gan eu hanog i fywyd rhinweddol a duwiol. Y mae yn anmhosibl darllen ei hanes heb weled fod ei ddechreuad yn hollol yr un fath ag eiddo Howell Harris; yr unig wahaniaeth o bwys ydoedd fod Peter Williams yn ŵr mewn urddau, tra yr oedd Harris yn amddifad o'r cyfryw fraint. Ymddengys fod rhyw gymaint o gallineb y sarph yn y cuwrad ieuanc. Llenwid y wlad y pryd hwn gan ofn, rhag y byddai i'r Ymhonwr (Pretender) enill gorsedd Prydain; crynai Llundain ei hun. Parodd hyn i lawer weddio am ddwyfol amddiffyn dros y brenhin nad arferent blygu ar eu gliniau. Cymerodd Peter Williams yr helynt yn gochl i guddio yr hyn a ystyrid yn afreolaeth, yn ei waith yn cynal cyfarfodydd gweddio. Eithr er ei ofal, drwgdybid ef o fod yn tueddu yn ormodol at Fethodistiaeth. Yr oedd purdeb ei fuchedd, gwresawgrwydd ei weddïau, ei waith yn gweddio heb lyfr, a thôn ei gyfarchiadau, yn peri i'r bobl ledamheu mai Methodist ydoedd. Ac yr oedd tueddu at hyn yn cael ei ystyried yn bechod enbyd yn mysg yr Eglwyswyr yr adeg yma. Perai peth arall iddynt amheu y cuwrad. Pan fyddai un o'r plwyfolion farw, anghefnogai yn gyfangwbl y defodau Pabaidd oedd mewn arferiad yn yr ardal ar y cyfryw achlysur, eithr anogai y bobl i ddifrifwch, darllen y Beibl, gweddio, a chanu salmau.

Eithr dygwyddodd amgylchiad yn fuan a benderfynodd y mater tuhwnt i ddadl. Un boreu Sabbath aethai y cuwrad i'r eglwys fel arfer. Yr oedd ei bregeth ganddo wedi ei hysgrifenu yn ofalus ar bapyr. Gwedi myned trwy y gweddïau dechreuodd ddarllen yr hyn a ysgrifenasai gyda dwysder; eithr wrth godi ei ben, at thaflu golwg frysiog ar y gynulleidfa, gwelai ryw bobl ieuainc anystyriol, yn lle talu sylw i'w ymadroddion, yn cellwair, ac yn taflu blodeuglwm, mewn chwareu, y naill at y llall. Cyffrodd enaid gweinidog Crist o'i fewn. Arosodd am enyd, i edrych a wnelai ei ddystawrwydd eu cywilyddio. Pan welodd nad oedd hyn yn peri iddynt gywilydd, dechreuodd lefaru wrthynt am sancteiddrwydd tŷ Dduw, a'r parch dyladwy i ordinhadau y tŷ; dywedai fod eu hymddygiad yn gyfryw na oddefid mewn chwareudy, chwaethach yn nghysegr yr Arglwydd, a'u bod yn euog o daflu yr anfri mwyaf ar fawrhydi y Jehofah. Gwedi llefaru fel hyn nes esmwythhau ei gydwybod, ceisiodd ail ddechreu darllen, ond methai a chael o hyd i'r man y gadawsai, ac oddiyno i'r diwedd bu raid iddo ymdaflu ar ei adnoddau, a llefaru fel y rhoddai yr Arglwydd iddo ymadrodd. Teimlai ef ei hun ar y pryd fod hyn yn gryn drosedd, a gofynai yn gyhoeddus am faddeuant y gynulleidfa. Eithr yr oedd maddeu pechod mor ysgeler yn beth hollol anmhosibl i'r bobl foneddigaidd oedd yn bresenol. Dibwys ganddynt oedd fod yr ieuenctyd yn chwareu ac yn cellwair yn ystod yr addoliad cyhoeddus; bychan yn eu golwg oedd fod y werin yn marw o eisiau gwybodaeth; ond am lefaru yn y pwlpud, dan ddylanwad eiddigedd sanctaidd dros ogoniant Duw, heb fod y sylwadau wedi cael eu hysgrifenu yn flaenorol, yr oedd hyn yn bechod mor waradwyddus fel yr ystyrient ef y tu allan i derfynau maddeuant. Wrth fyned allan clywai Peter Williams y gwŷr mawr yn sibrwd wrth eu gilydd: "Yr oeddym yn ei ddrwgdybio yn flaenorol," meddent, "mai Methodist ydoedd; eithr dyma y peth yn amlwg o'r diwedd, y mae wedi tynu ymaith y llen-gudd." Dygwyddai gwraig y periglor fod yn bresenol, yr hon a anfonodd adroddiad o'r hyn a ddygwyddasai i'w gŵr. Gyda throad y post dyma lythyr i'r cuwrad yn cymeryd ei swydd oddiarno. Sail yr ymddygiad hwn, yn ol geiriau y llythyr, oedd a ganlyn: "Y mae y Parch. Peter Williams, cuwrad eglwys Gymmun, yn cael ei gyhuddo o bregethu y pechod gwreiddiol, cyfiawnhad trwy ffydd, a'r angenrheidrwydd anorfod am ail-enedigaeth." Pechodau difrifol, onide, mewn gweinidog? Atebodd Peter Williams, mai yr athrawiaethau, am bregethu pa rai yr oedd yn cael ei gondemnio, yn ol ei farn ef, oedd sylfaen erthyglau Eglwys Loegr; a dymunodd ar y periglor i ddatgan ei olygiadau gyda golwg arnynt, ac addawai, os medrai wneyd hyny gyda chydwybod rydd, i ddilyn y cyfarwyddiadau a gaffai. I'r llythyr hwn nid atebodd y periglor air; eithr yn mis Awst daeth i lawr, gan wasanaethu ei hun hyd nes gorphen blwyddyn y cuwrad. Aeth y gŵr ieuanc ato, gan ddymuno cael pregethu yn ei glyw, fel y gallai farnu parthed ei gymhwysder i'r offeiriadaeth. Yr unig ateb a roddai y periglor iddo oedd, ei fod yn credu mai Methodist ydoedd, ac na fyddai a fynai ag ef mwy. Dadleuai y cuwrad fod ganddo drwydded i bregethu oddiwrth Esgob Tyddewi. Atebai yr offeiriad y gwnai ei roddi yn Nghwrt yr Esgob, ac y cymerid ei drwydded oddiarno yn fuan. Erbyn hyn canfyddai Peter Williams ei bod yn tywyllu arno o bob tu, a brysiodd at yr Esgob, i ragflaenu y cyhuddiad a welai oedd yn dyfod. Eithr derbyniad hynod o oeraidd a gafodd. Yr oedd rhywrai wedi bod yn ddiwyd yn cludo chwedlau am dano i'r Esgob. "Yr wyf wedi clywed eich hanes," meddai, " yr ydych wedi bod yn pregethu yn Llanlluan a Chapel Ifan." Capelau Eglwysig oedd y rhai hyn, a gawsent eu gadael i fyned yn adfeilion; eithr yr oedd y Methodistiaid wedi cymeryd meddiant o honynt, gan eu hadgyweirio i raddau, a'u defnyddio i bregethu yr efengyl ynddynt. Awgryma cyhuddiad yr Esgob fod cryn gyfathrach wedi bod rhwng Peter Williams a'r Methodistiaid yn barod, er nad ydoedd wedi ymuno â hwy yn ffurfiol. Dadleuai yntau, yn ngwyneb y cyhuddiad, mai lleoedd cysegredig perthynol i Eglwys Loegr oeddynt. Yr unig atebiad a gaffai gan ei arglwyddiaeth ydoedd, os gwnai beidio pregethu am dair blynedd, ac ymddwyn yn weddus, sef, yn ddiau, peidio ymgymysgu â'r Methodistiaid, y rhoddai efe iddo ar ben y tymhor hwn gyflawn urddau. "Sut y gallaf fyw cyhyd heb na gwaith na chyflog?" gofynai y cuwrad. "Gwnewch fel y medroch," meddai yr Esgob yn ol. Felly y terfynodd yr ymddiddan, a chafodd Peter Williams ei ollwng o'r palas esgobol heb gael cynyg ar fwyd na diod.

Dyma Peter Williams, druan, heb le, na golwg am dano, oblegyd pregethu yr hyn a ystyriai efe yn wirionedd Duw. Eithr yr oedd ganddo gyfaill calon yn yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror. Pan glywodd efe am y tro, anfonodd am dano, a hysbysodd ef fod eisiau cuwrad yn nhref Abertawe. Brysiodd yntau yno, a'r guwradiaeth a gafodd. Eithr am fis yn unig y cafodd wasanaethu. Yr achos a barodd iddo gael ei yru i ffwrdd oedd a ganlyn: Daeth y Sabboth i'r maer, yn nghyd â chorphoraeth Abertawe, ac hefyd yr aelod seneddol dros y fwrdeisdref, i fyned i'r eglwys. Gwedi i Peter Williams ddarllen yr holl wasanaeth, cyfododd y boneddigion i fyned allan; nid yw yn ymddangos yr arferent gael pregeth ar y cyfryw achlysur. Eithr rhoddodd ef salm allan i'w chanu; eisteddodd y boneddigion yn eu holau, a thraddododd yntau bregeth effeithiol iddynt oddiar 2 Cron. xix. 67: "Canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd," &c. Taranodd yn erbyn derbyn gwobrau wrth farnu; a dywedodd wrthynt, oni ymddygent yn gydwybodol yn ol cyfraith Duw, y byddai holl bechodau y bobl yn gorwedd wrth eu drysau. Anfoddlonodd rhai o'r boneddwyr yn enbyd, a'r maer yn eu mysg. Ystyrient fod y cuwrad wedi gwneyd yn rhy hyf arnynt, a thalasant y pwyth iddo, trwy beidio ei wahodd i'r wledd arferol. Yn mhen y mis aeth Peter Williams i'r eglwys, a gwelai ŵr yn y pwlpud yn barod, ac wedi ymddiddan ag ef, deallodd ei fod wedi cael ei anfon i gymeryd ei le. Yr esgus a roddwyd i'r cuwrad ydoedd, fod y plwyfolion wedi anfoddloni wrtho. Er byred yr amser y bu yn Abertawe, ymddengys i'w lafur gael ei fendithio yn ddirfawr. Dywedai amryw o'r rhai a garent yr Arglwydd Iesu iddo fod yn offeryn i'w cadarnhau yn ngwirionedd Crist.

Wedi dychwelyd i Gaerfyrddin clywodd fod eisiau cuwrad yn Llangranog a Llandysilio, yn Sir Aberteifi, a chwedi appelio, cafodd y lle. Gwnaethai gytundeb pendant am chwarter blwyddyn, eithr am ddau fis yn unig y cafodd aros yno oedd yn dra derbyniol gan y plwyfolion, eithr rhoddodd ei Fethodistiaeth dramgwydd i'w noddwr, ac i ffwrdd y gorfu iddo fyned. Gyda hyn y mae ei gysylltiad â'r Eglwys Sefydledig yn darfod. Yr oedd yn dra ymlyngar wrthi; o fewn ei chymundeb, ac yn gwasanaethu wrth ei hallor, y treuliasai ei fywyd, pe y cawsai ganiatad; ond yr oedd duwioldeb, ac awydd am gyhoeddi yr efengyl yn ei phurdeb i bechaduriaid, yn bethau na oddefid o fewn terfynau yr Eglwys yr adeg hono, ac allan y bu rhaid i Peter Williams droi. Aeth allan fel Abram gynt, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Eithr clywodd am ryw gynghorwr enwog yn Sir Benfro, yr hwn, yn ol pob tebyg, nid oedd yn neb amgen na'r gwas enwog hwnw i Grist, y Parch. Howell Davies, a chafodd ar ddeall ei fod yn pregethu yr efengyl gyda nerth ac arddeliad mawr. Penderfynodd fyned i'w wrando. Mewn lle o'r enw Castell-y-Gwair, yn y flwyddyn 1746, y cymerodd hyn le, pan yr oedd Peter Williams tua phedair—mlwydd-ar-hugain oed. Cafodd y fath flas ar bregeth Howell Davies, fel y torodd allan i weddio yn gyhoeddus ar y diwedd; a gwnaeth hyny gyda'r fath wres ac eneiniad nefol, nes gwefreiddio pawb, ac aeth yn orfoledd cyffredinol trwy yr holl gynulleidfa. Penderfynodd fwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn ddiymdroi. Cymerodd y pregethwr ef i Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid rywle yn nghyffiniau Sir Benfro; cyflwynodd ef i sylw y frawdoliaeth, ac ysgrifenwyd ei enw yn mysg y brodyr.

O hyn allan, pregethwr teithiol yw Peter Peter Williams, ac ymddengys iddo ddechreu ar ei orchwyl ar unwaith. Yn bur fuan, aeth i gapel Abergorlech, er mwyn clywed Daniel Rowland; eithr gwnaeth Rowland iddo ef bregethu. Cafodd odfa nerthol; bu ei bregeth yn effeithiol, dan fendith Duw, er achubiaeth i amryw. Cymerodd Rowland ef i Langeitho, lle y pregethodd gyda chryn ddylanwad. Cyfaddefa na wyddai nemawr y pryd hwn am olygiadau gwahaniaethol yr amrywiol bleidiau; diau y clywsai am Arminiaid, Baxteriaid, a Morafiaid; eithr ni wyddai fwy am danynt na'u henwau; yr oedd eu golygiadau ar wahanol athrawiaethau crefydd yn hollol ddyeithr iddo. Eithr pregethai efe Iesu Grist wedi ei groeshoelio, fel Ceidwad holl-ddigonol i bechaduriaid, ac yr oedd yr Arglwydd yn arddel ei genadwri syml. O Langeitho, aeth am daith i Ogledd Cymru. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llanidloes, a chawsai ei gyfarwyddo i alw yn nhŷ crydd, o'r enw Evan Morgan, yr hwn a breswyliai yn heol y Gogledd. Yr oedd yspryd erlid yn gryf yn Llanidloes yr adeg hon; nid diberygl i Fethodist oedd ymweled a'r dref; bu yn gryn helbul ar Peter Williams cyn dod o hyd i dŷ y crydd, eithr wedi iddo lwyddo, cafodd garedigrwydd mawr yno. Nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn y dref, namyn cynghori yr ychydig bobl druain, dlodion, a ymgynullent yn nhŷ Evan Morgan. Oddiyma, aeth i gyfeiriad y Drefnewydd; pregethai pa le bynag y caffai gyfleustra; ac weithiau, byddai ganddo gyfaill crefyddol yn ei hebrwng o'r naill le i'r llall. Bu yn galed arno yn y Drefnewydd; galwasai gyda gôf i bedoli ei geffyl, ond yn fuan clywai y bobl yn sibrwd mai Cradog ydoedd, a dyma hwy yn dechreu lluchio cerig ato. Dywed fod y cerig yn dyfod gyda y fath ruthr, fel y tarawent dân allan o'r palmant. Ffodd am ei fywyd i gyfeiriad Llanfair-Careinion. Yn y gymydogaeth hono daeth o hyd i foneddwr lletygar oedd wedi gyfarfod yn flaenorol yn Llandrindod; gan hwn, cafodd garedigrwydd mawr, a gwahoddodd ef i bregethu y dydd canlynol yn nhŷ un o'i amaethwyr. Sylwa mai dyma y tro cyntaf iddo ganfod ychydig o haul er dechreuad ei brofedigaethau. Y lle nesaf iddo ymweled ag ef oedd y Bala, lle y clywsai fod ychydig o garedigion yr efengyl yn arfer cyfarfod. Yn nhy Ysgotiad duwiol yr arosai, ac ymddengys, hefyd, mai yma y darfu iddo bregethu. Ni wnaed ei ddyfodiad yn gyhoedd, eithr gwahoddwyd ychydig gyfeillion a pherthynasau i wrando. Daeth mwy nag a wahoddasid, ac er mwyn symud ymaith ragfarn, gwisgai y pregethwr ei dorchwddf (neck band) offeiriadol wrth lefaru. Gwrandawai rhai yn ystyriol; yr oedd eraill yn ddifater, ac hyd yn nod yn anfoesgar. Er mwyn enill eu sylw, cymerodd yn destun, nid adnod o'r Beibl, ond adran o'r gyffes a arferir yn y Llyfr Gweddi Cyffredin: "Aethom o'th ffyrdd di fel defaid ar gyfrgoll." Rhai yn unig a roddent glust; am y lleill, yr oeddynt yn llawn of yspryd erlid, a thaflent gerig mawrion, rhai yn dri phwys yn y man lleiaf, at y man y tybient ei fod yn cysgu. Eithr yr Arglwydd a'i cadwodd rhag derbyn niwed.

Clywsai fod ychydig yn gwrando yr efengyl yn Lleyn, ac yno yr aeth, eithr ni ddywed i ba leoedd. Cafodd gynulleidfaoedd lliosog, nid am fod y mwyafrif yn rhoddi gwerth ar Air yr Arglwydd, ond am eu bod yn awyddus am weled cyfarfod crefyddol yn cael ei gynal yn yr awyr agored, gan un o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig. Eithr cafodd amryw eu hargyhoeddi, ac yn eu mysg un foneddiges ieuanc, yr hon a ddywedai mai efe a gydnabyddai yn dad ysprydol tra y byddai byw. Oddiyma wynebodd ar Sir Fôn. Clywsai bethau enbyd am wŷr Môn, a'u hatgasedd at bregethu teithiol, ac am y dull ofnadwy yr ymosodent ar y pregethwyr, yn nghyd â'r rhai a'u canlynent. Yn arbenig, adroddid iddo hanes un odfa yn ddiweddar, pan yr oedd y gynulleidfa wedi ymranu, un blaid am glywed beth oedd gan y cablwr (dyna fel y galwent y pregethwyr tlawd) i'w ddweyd, a'r lleill am ei yru o'r wlad. Terfynodd y ffrwgwd mewn ymladdfa waedlyd, a bu raid i'r pregethwr ddianc am ei hoedl. Er y chwedlau yma ni chymerodd Peter Williams ei ddychrynu; wynebodd ar yr ynys yn nerth Duw. Ar y dechreu, cadwai o'r trefydd a'r lleoedd poblog, gan deithio ar hyd y rhan fwyaf bryniog o'r ynys, lle yr oedd y trigolion yn deneu. Gwyddai y byddai cynulleidfa fawr yn sicr o'i rwystro i siarad. Llefarai pa le bynag y cai bump neu chwech o wrandawyr; eithr pan elai y si ar led fod un o'r Pengryniaid wedi dyfod i bregethu yno, nes peri i'r lliaws ddyfod yn nghyd, byddai yntau yn dianc. Yn araf fel hyn daeth yn alluog i enill clustiau llawer o bobl, ac yn raddol eu calonau, nes medru bod yn fwy cyhoedd. Cyfarfyddodd hefyd a mab i ryw foneddwr, yr hwn a gawsai ei argyhoeddi trwy offerynoliaeth Howell Harris; bu hwn yn arweinydd iddo am beth amser, gan ei gymeryd i fanau lle yr oedd rhai mewn cydymdeimlad â'r efengyl. Nid oedd i gael ymadael o Fôn, modd bynag, heb brofi rhyw gymaint o lid y gelyn. Mewn tref, na rydd ei henw, yr oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu yn llu; gwawdient a chrochlefent, a cheisient ddychrynu ceffylau Peter Williams a'i gyfaill, trwy ysgwyd cwd llawn o gerig, wedi ei rwymo ar ben pastwn hir; eithr nid rhyw lawer o luchio cerig oedd yno. Pan y tybiai y pregethwyr y caent basio heb gael dim gwaeth na gwatwaredd daeth rhyw grydd allan o'i weithdy, yr hwn a gymerodd lonaid ei law o fudreddi yr heol, ac a'i taflodd i wyneb Peter Williams, nes yr oedd am ychydig yn hollol ddall o'r ddau lygad. Modd bynag, wedi ei rwbio ymaith, cafodd nad oedd yr un o'i lygaid wedi eu niweidio. "Yna gorfoleddais," meddai, "a bu dda genyf fy mod yn cael fy nghyfrif yn deilwng i'm herlid er mwyn Crist, a'i efengyl bur."

LACHARN.


O Sir Fôn aeth i Drefriw. Yma yr oedd ei ddyfodiad wedi cael ei hysbysu yn rhy gyhoeddus, ac felly yr oedd yr erlidwyr wedi cael cyfleustra i'w dderbyn, yn eu dull neillduol hwy. Daethai torf lawn o ffyrnigrwydd yn nghyd, y rhai a gyflogasid gan ddau foneddwr oedd ar y pryd wedi yfed i ormodedd. Ymddengys na ddarfu iddynt guro y pregethwr, eithr rhoisant ef yn garcharor yn y tafarndy, ac yno y cadwasant ef o chwech o'r gloch y nos, hyd ddau yn y boreu, a cheisient ei wneyd yn destun difyrwch, fel y Philistiaid â Samson gynt. Meddai Peter Williams: "Gwnaethant i mi yfed; rhyddhasant fy nillad, trwy ddatod fy motymau oddi fynu hyd i waered; rhoddasant ferch i eistedd ar fy nglin, a gofynent lawer o gwestiynau am fy nysgeidiaeth, fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a beth oedd fy nhestun y boreu hwnw. Atebais: Os gwelwch yn dda, foneddigion, adroddaf i chwi'r testun, a'r bregeth hefyd.' Ar hyn, galwodd un o honynt am ddystawrwydd; 'y mae o yn myned i bregethu i'n diwygio ni,' ebai efe, ac yna, chwerthin mawr drachefn a thrachefn. Gofynais am fwyd a gwely, pryd y chwarddasant eilwaith, a dywedasnt gyda dirmyg: Cewch fwyd a gwely yn y man.' Dysgwyliais gael fy nhroi allan, a'm curo â cherig i farwolaeth, ac felly, mai yn y tywyllwch y gwneid pen ar fy einioes. Rhoddais fy hun i'r Arglwydd, gan barhau mewn gweddi ar ran fy ngwatwarwyr rhagrithiol. Ni chaniateid i mi weddïo na phregethu mewn llais uchel; ac yr oeddwn yn gruddfan am y gorfodid fi i wrando ar eu maswedd, eu rhegfeydd, a'u hymadroddion llygredig." Diau mai noswaith anfelus iawn a dreuliodd yn nghanol y fath haid annuwiol, ac eto, cysurai ei hun trwy adgofio fod gwell triniaeth yn cael ei hestyn iddo nag i'w Arglwydd. Cyn caniad y ceiliog cafodd ei ryddhau. Pa ddylanwadau a fu yn effeithiol i ddwyn hyn oddiamgylch, nis gwyddom. Cyn ymadael, gorchymynodd y boneddwyr i'r tafarnwr roddi bwyd a diod iddo; talasant hefyd ei holl gostau, ond siarsiasant ef na phregethai yn y pentref. Yr oedd efe, modd bynag, erbyn hyn yn y cyfryw stad fel nas gallai na bwyta nac yfed. Aeth i'r gwely, a chysgodd, yr hyn na fedrai ei gyfaill. Eithr yr oedd ei urdd—lythyrau wedi cael eu lladrata trwy dwyll. Ond yn ystod y dydd, daeth merch y gŵr a'u cymerasai, ar ei ol, a dychwelodd hwynt, rhag ofn cyfraith. Teimlai efe, a'r cyfaill oedd yn gydymaith iddo, eu bod wedi cael cymaint gwaredigaeth a Daniel o ffau y llewod. Yn sicr, yr oedd y pethau hyn yn brawf tanllyd i ŵr ieuanc, heb gyrhaedd ei bump-ar-hugain mlwydd oed, i fyned trwyddynt.

Pa le yr ymgartrefodd Peter Williams pan yr ymunodd a'r Methodistiaid gyntaf, ni wyddis i sicrwydd; eithr cyn i lawer o flynyddoedd basio, cawn ef yn byw yn Llandyfeilog, gerllaw y ffordd fawr sydd yn arwain o Gydweli i Gaerfyrddin. Enw yr amaethdy a wnaeth yn breswyl oedd. Gellilednais, ac y mae yn gorwedd tua phum' milldir o dref Caerfyrddin. Yno y bu byw hyd derfyn ei oes, ac yn mynwent Llandyfeilog y rhoddwyd ei gorph i orwedd gwedi iddo farw. Fel yr arfera plant dynion, priododd yntau, a bu iddo deulu cymharol liosog. Enw ei briod oedd Mary Jenkins, merch i foneddwr o gymydogaeth Llanlluan. Ychydig a wyddis am dani, ond yn ol pob hanes yr oedd yn ddynes rinweddol, ddystaw, a nodedig o dduwiolfrydig. Bu fyw am chwech mlynedd-ar-hugain ar ol ei phriod, ac yr oedd yn nghymydogaeth cant pan y bu farw. Parhaodd i fyned i'r addoliad hyd y diwedd, a dywedir iddi farchogaeth i'r capel o fewn pythefnos i ddydd ei marwolaeth. Fel pob gwraig dda, yr oedd ei ffydd yn ei phriod yn ddiderfyn. Yn ei henaint, gwedi i'w golygon ballu, gwnelai i'w hwyrion ddarllen penod o'r Beibl iddi yn aml, a rhaid oedd darllen sylwadau eglurhaol ei phriod ar y benod yn ogystal, a braidd nad ystyriai y sylwadau mor ysprydoledig a'r benod ei hun. Cawsant y fraint o ddwyn i fynu chwech o blant, sef tri o feibion, a thair o ferched. Cyrhaeddodd dau o'r meibion, sef Ebenezer a Peter Bayley, fesur helaeth o enwogrwydd yn yr Eglwys Sefydledig fel offeiriaid dysgedig ac ymroddgar; eithr bu y mab arall, John, farw yn gymharol ieuanc. Enwau y merched oeddynt Deborah, Margaret, a Betti. Ymddengys i'r tair ymsefydlu yn y byd, a chael teuluoedd. Mab i un o honynt oedd y Parch. David Humphreys, Llandyfeilog, gweinidog o gryn enwogrwydd yn mysg y Methodistiaid, doniau yr hwn a gyffelybid gan lawer o'r hen bobl i eiddo Ebenezer Morris. Merch iddo ef, ac felly orwyres i Peter Williams, yw Mrs. Davies, gweddw R. J. Davies, Ysw., Cwrtmawr. Y mae nifer mawr o hiliogaeth Peter Williams, trwy y merched, i'w cael ar hyd a lled gwlad Myrddin, a siroedd eraill, hyd heddyw, a chan mwyaf y maent mewn cysylltiad a'r Cyfundeb Methodistaidd.

Ond i ddychwelyd at hanes Peter Williams. Y mae yn sicr iddo gael lle amlwg yn mysg y Methodistiaid ar unwaith. Un rheswm am hyn oedd ei fod yn offeiriad urddedig, yr hyn a ystyrid ar y pryd yn beth tra phwysig; ond y mae yn sicr fod a fynai helaethrwydd ei ddysgeidiaeth, a dysgleirder ei ddoniau, â hyn. Yn mis Mai, 1747, sef yn mhen tua blwyddyn gwedi ei ymuniad a'r Methodistiaid, yr ydym yn darllen am dano yn pregethu yn Nghymdeithasfa Chwarterol Cilycwm, o flaen Daniel Rowland. Ei destun ydoedd: "Mor gu genyf dy gyfraith di," a chanmolai Howell Harris y bregeth yn ddirfawr fel un dra Ysgrythyrol. O hyn allan, cawn ef yn cymeryd lle blaenllaw yn mysg yr arweinwyr. Os nad ystyrid ef ysgwydd yn ysgwydd yn hollol â Rowland, Harris, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yr oedd yn agos iawn atynt, ac yn mhell uwchlaw neb arall. Nodwedd fawr ei bregethau oedd Ysgrythyroldeb. Ni ryfygai un amser esgyn i'r pwlpud heb barotoi, ac felly, tra y dibynai eraill lawer ar hwyl, byddai ef braidd bob amser yn gyffelyb, sef yn sylweddol, a Beiblaidd, ac athrawiaethol. Hyn a barodd i Williams, Pantycelyn, ddweyd wrtho mewn tipyn o gellwair: "Gelli di, Peter, bregethu lawn cystal pe byddai yr Yspryd Glân yn Ffrainc; ond am danaf fi, nis gallaf wneyd dim o honi, heb ei gael wrth fy mhenelin.' Meddai John Evans, o'r Bala, am dano: "Gŵr cryf o gorph a meddwl oedd Peter Williams, a phregethwr da. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlawn; bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol, a chafodd llawer eu galw trwyddo." Clywsom sylw am dano mai fel "Gŵr y ddau bwnc" yr adwaenid ef; a'r ddwy linell yn cael eu cymhwyso ato:

"Y ddau iawn bwnc ganddo'n bod,
Y camwedd a threfn y cymod."


Prin y gellir meddwl fod gŵr o alluoedd Peter Williams yn cyfyngu ei hun at "y ddau bwnc" hyn; ac eto, diau eu bod yn cael arbenigrwydd yn ei weinidogaeth, gan fod holl wirioneddau trefn iachawdwriaeth yn dal cysylltiad hanfodol a'r naill neu y llall o'r pynciau hyn. Os mai byr oedd ei wybodaeth dduwinyddol ar y cyntaf, gwnaeth gynydd dirfawr yn fuan, a chyn pen nemawr amser, braidd y rhagorai neb arno yn mysg y Methodistiaid o ran dirnadaeth o egwyddorion crefydd.

Ymunodd Peter Williams a'r Methodistiaid ar adeg bwysig, sef pan yr oedd y ddadl rhwng Howell Harris a'r arweinwyr eraill ar dori allan. Cawn ef yn bresenol mewn amrai Gymdeithasfaoedd y bu dadleu brwd ynddynt, a theimladau cyffrous yn cael en henyn; yr ydoedd yn Nghymdeithasfa Llanidloes, ac yn pregethu, sef yr olaf i Harris a Rowland fod yn nghyd ynddi cyn yr ymraniad. Nid yw yn ymddangos iddo ef gymeryd rhan yn y ddadl o gwbl. Efallai yr ystyriai ei hun yn ormod o newyddian yn y ffydd i ddweyd dim, y naill ochr neu y llall. Gallesid dysgwyl, oddiwrth y golygiadau a gyhoeddwyd ganddo ar ol hyn, mai cymeryd plaid Harris a wnelai. Gellid meddwl fod cryn debygolrwydd yn syniadau y ddau gyda golwg ar y Drindod. Eithr wrth Daniel Rowland y glynodd. Ai efe oedd y pedwerydd offeiriad, oedd yn bresenol gyda Rowland, Williams, a Howell Davies, yn Nghymdeithasfa Llantrisant yn y flwyddyn 1750, pan y penderfynwyd tori pob cysylltiad â Harris, nis gwyddom. Ar y naill law, nid ydym yn adnabod unrhyw offeiriad arall oedd yn fyw ar y pryd, a fuasai yn debyg o gael ei alw i'r cyfryw gyfarfod. Ar y llaw arall, prin y mae y dybiaeth yn gyson â phresenoldeb Peter Williams yn Nghymdeithasfa gyntaf plaid Harris yn St. Nicholas. pha beth oedd ei neges yn St. Nicholas, sydd ddirgelwch. Amlwg yw nad aeth yno gyda'r bwriad i ymuno; gwrthododd hyny yn bendant. Braidd na ellid tybio mai ei amcan oedd ceisio rhwystro rhwyg, cyn i bethau fyned yn rhy bell; oblegyd pan y gwnaeth Harris araeth, yn gosod allan ddrygedd ymddygiad Rowland a'i ganlynwyr, a'r anmhosiblrwydd i uno â hwynt heb iddynt edifarhau mewn sachlian a ludw, aeth Peter Williams allan, ac ni fu unrhyw gyfathrach rhyngddo, mor bell ag y gwyddom, â "phobl Harris tra y buont yn blaid ar wahan. Pan y gwnaed heddwch rhwng Harris a'r Methodistiaid, yn mhen tair-blynedd-ar-ddeg gwedi, yr oedd Peter Williams yn un o brif ddynion y Gymdeithasfa. Braidd nad ystyrid ef y nesaf at Rowland. Ac yr ydym yn cael ei fod, yn ogystal a'r arweinwyr eraill, yn derbyn y Diwygiwr o Drefecca yn ol gyda breichiau agored. Eithr nid ydym yn cael fod cyfeillgarwch arbenig yn ffynu rhyngddo ef â Harris; dau brif gyfaill y diweddaf, hyd ei fedd, er y cymylau a godai rhyngddynt weithiau, oedd Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn. Yr oedd ei enaid wedi ymglymu am y ddau hyn, fel eiddo Jonathan wrth Dafydd.

Derfydd yr Hunangofiant a gyfansoddwyd gan Peter Williams gyda hanes ei daith gyntaf i Ogledd Cymru. Ychydig o hanes manwl a feddwn am dano o hyny allan. Y mae yn amlwg, modd bynag, mai fel pregethwr teithiol y treuliodd ei oes, ac iddo drafaelu holl Gymru, o Gaergybi i Gaerdydd, ddegau o weithiau. Meddai gymhwysderau arbenig tuag at deithio y wlad yr adeg hon. Yr oedd ei gorph yn gadarn a gwydn, fel y gallai ddal pob math o dywydd; ei yspryd oedd wrol a hyf, ac ni ddychrynai rhag lid yr erlidwyr; yr oedd ei ddoniau gweinidogaethol mor enillgar, fel yn aml y byddai yn swyno ei wrthwynebwyr heb yn wybod iddynt; ac yr oedd ei ddyoddefgarwch a'i ymroddiad yn ddiderfyn. A dylid cofio, mai nid myned yn ol cyhoeddiad, wedi cael ei drefnu yn fanwl, y byddai, o leiaf yn nechreuad ei lafur, a chyfeillion caredig yn dysgwyl am dano ac yn barod i'w groesawi yn mhob lle; ond byddai raid. iddo weithio ei ffordd yn mlaen goreu y medrai, gan anfon rywsut a rhyw ffordd i hysbysu ei fod yn dyfod; ac efallai mai yr unig dderbyniad a gaffai, fyddai lu o erlidwyr yn ei aros, gyda cherig a phastynau yn eu dwylaw, a llidiowgrwydd lonaid eu hyspryd. Nis gallwn ddychymygu am fawredd ei ddyoddefaint. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo [1]Ionawr 3, 1747, adrodda iddo ef ac eraill gael eu dal yn eu gwely yn Rhosllanerchgrugog, trwy warant wedi cael ei harwyddo gan Syr Watkin Williams Wynne; iddynt fod tan arholiad gan Syr Watkin, yn ei balas, hyd yr hwyr, heb gael tamaid i'w fwyta na thracht i yfed; ac i'r prawf orphen trwy iddo ef gael ei ddirwyo o ugain punt, a phob un o'i wrandawyr o bum' swllt yr un. Wedi cyhoeddi y ddedfryd gollyngwyd hwy yn rhydd. Eithr o gwmpas deg o'r gloch y nos dyma y cwnstabli, a'r churchwarden, yn llety Peter Williams, gan hawlio y ddirwy. Gomeddodd yntau dalu. Yna, y prif gwnstab a afaelodd yn ei fraich, a'r churchwarden a wthiodd ei law i'w logell, gan gymeryd yr holl arian oedd ganddo ar y pryd, sef punt a dwy geiniog. Ac felly y terfynodd yr helynt.

Ei brif elynion oeddynt offeiriaid Eglwys Loegr. Deuai rhai o honynt yn aml i'w gyfarfodydd i derfysgu; a phan na fyddent yn bresenol, yr oeddynt wedi gofalu cyflogi dihyrod i gyflawni y gwaith. Pregethai unwaith yn y Garnedd Fawr, yn Môn, a daeth clerigwr yn mlaen, a fuasai yn gydysgolor ag ef yn athrofa Caerfyrddin. "Ffei, Peter," meddai yr offeiriad; "pa fodd y meiddi bregethu mewn lle anghysegredig?" Ebai yntau yn ol: "Maddeuwch fy anwybodaeth; yr oeddwn i yn. tybio fod y byd oll, er pan y sangodd Mab Duw arno, yn gysegredig i efengyl Crist." Dro arall, pan ar un o'i deithiau yn Sir Fôn, safai i bregethu yn ymyl tafarndy yn Rhosllugwy. Eithr ymgasglasai torf o greaduriaid diriaid, y rhai a benderfynasent ei rwystro i lefaru. Ni chaniateid i'r pregethwr fyned i'r tŷ, ac ni chaffai ei anifail le. Ar hyn, yn hollol foneddigaidd, ond yn ddiegwan o ffydd, rhoddodd yr emyn ganlynol allan i'w chanu:

"Yr Arglwydd bia'r ddaear lawr, A'i llawnder mawr sydd eiddo; Yr Arglwydd bia yr holl fyd, A'r bobl i gyd sydd ynddo."

Cymaint oedd y dylanwad cydfynedol at rhoddiad allan yr emyn, fel y darfu i'r terfysgwyr daflu y pastynau, yn nghyd a'r cyrn, a holl daclau yr aflonyddwch o'u dwylaw; cafodd y pregethwr dawelwch hollol i draethu cenadwri ei Dduw; ac yn yr odfa hono achubwyd amryw a fuont gwedi hyny yn golofnau cedyrn dan achos y Gwaredwr yn Sir Fôn.

Nid yn y Gogledd yn unig y bu Peter Williams dan erledigaeth, cafodd ei gamdrin aml i dro yn y Dê, ac hyd yn nod yn ei sir ei hun. [2]Pregethai un prydnhawn Sabbath mewn lle a elwir Cwmbach, yn gyfagos i eglwys y plwyf. Safai y pregethwr ar gareg farch yn yr awyr agored, a daethai torf yn nghyd i wrando. Gyda ei fod wedi dechreu pregethu, dyma heliwr Mr. Pryse, Plasnewydd, yr hwn foneddwr oedd yn ynad heddwch, yn dyfod i'r lle. Gwelid fod yn mwriad yr heliwr i greu terfysg, a'i fod, trwy yfed cyflawnder o wirodydd, wedi parotoi ei hun i'r gwaith. Nesaodd at y gynulleidfa, gan fytheirio llwon a rhegfeydd, a chrochlefain yn erbyn cynal cyfarfod o'r fath. Ymataliodd Mr. Williams dros enyd, a gofynai ai nid oedd. yno neb a allai berswadio yr aflonyddwr i fyned allan. Aeth dau ŵr ato, un o ba rai ydoedd Henry Pugh, y rhai a'i hataliasant i ruthro ar Mr. Williams, eithr a'i harweiniasant ef ymaith. Wrth ei fod yn myned, galwodd Peter Williams sylw y gynulleidfa ato, ac mewn modd ofnadwy o ddifrifol, dywedodd: "Os wyf fi yn genad dros Dduw wrth lefaru yma heddyw, chwi a gewch weled mai nid fel dyn arall y bydd y dyn yna farw." Gwir oedd ei eiriau. Yn mhen naw diwrnod gwedi, syrthiodd i bwll glo dwfn, fel y bu farw gwedi ei ddryllio yn arswydus. "Diau fod Duw a farna ar y ddaear."

[3]Yn Nghydweli, tref fechan heb fod yn nepell o'i gartref, cafodd driniaeth mor arw a dim a dderbyniodd yn ystod ei oes. Ymddengys fod y lle yn enbyd o annuwiol. Ceir traddodiad ddarfod i Howell Harris gael ei gamdrin yn dost yno pan yn gwneyd ymgais am bregethu yr efengyl. Aeth Peter Williams yno un prydnhawn Sabbath, gan sefyll ar gareg farch yn ymyl tŷ gwr o'r enw John Rees. Ar hyny, dyma haid o oferwyr yn dyfod i aflonyddu arno, y rhai a flaenorid gan ddyn mawr, garw yr olwg arno, a elwid Deio Goch, a rhywun arall. Yr oedd Mr. Williams wedi darllen penod o'r Beibl, ac ar fyned i weddi, pan y neidiodd Deio Goch ato, gan gipio y Beibl o'i law, a'i dynu i lawr oddiar y gareg ar ba un y safai. Yr oedd y dihyrwyr, meddir, wedi cael eu gosod ar waith gan offeiriad y plwyf; ac yr oeddynt wedi ymgymhwyso at y gorchwyl oedd ganddynt mewn llaw trwy ymlenwi â diod gref. Yr oedd y pregethwr, bellach, yn ei gafael. Curasant ef yn ddidrugaredd a'u ffyn; yn ganlynol, gosodasant ef ar ei geffyl, a gyrasant hwnw ar hyd y morfa, gan ei symbylu i neidio dros ffosydd mawrion; a rhyfedd ydoedd na fuasai yr anifail wedi tori ei goesau, a'r hwn a'i marchogai wedi tori ei wddf. Yn nesaf, cymerasant y pregethwr i'r tafarn, gan benderfynu ei feddwi, a thrwy hyny ei wneuthur yn destun gwawd. Gofynent iddo: "A wnewch chwi yfed?" "Gwnaf, fel ych," oedd yr ateb. Estynwyd y ddiod iddo; yntau, yn ddirgel, a'i tywalltai, nid i'w enau, ond i'w fotasau, nes yr oedd y rhai hyny yn llawnion. Wrth ei weled mor hwyr yn dychwelyd, anfonodd ei briod y gweision i edrych am dano, a thrwy eu cymhorth amserol hwy y cafwyd ef yn rhydd o grafangau yr anwariaid.

Ofer fyddai ceisio adrodd yr oll a ddyoddefodd Peter Williams, yn ei lafur o blaid yr efengyl yn Nghymru. Adroddir iddo, yn y flwyddyn 1766, fyned i Lanrwst, gan amcanu pregethu wrth neuadd y dref. Gyda ei fod yn dechreu, dyma lances o forwyn yn dyfod allan o dŷ oedd gerllaw, ac yn ymosod arno a'i holl egni, trwy luchio wyau gorllyd ato, nes yr oedd ei ddillad mewn cyflwr enbyd. Yn mhen amser, gwelodd y ferch fod perthynas agos iddi, o'r enw Gabriel Jones, yn sefyll yn ymyl y pregethwr, a bod yr wyau weithiau yn ei daro ef. Mewn canlyniad, hi a ymataliodd. Eithr wedi iddi hi beidio, dyma haid o oferwyr yn gafaelu ynddo, ac yn ei lusgo at yr afon. Yno, rhai a ddalient ei freichiau i fynu; eraill a godent ddwfr o'r afon, ac a'i harllwysent i'w lawes; a chan fod yr hin yn rhewllyd ac yn oer, yr oedd ei fywyd mewn perygl. Anhawdd gwybod beth a fuasai y canlyniad, oni bai i Richard Roberts, Tymawr, gŵr cyfrifol, o gymeriad da, ac yn meddu corph cryf, ddyfod heibio megys ar ddamwain. Cyffrodd yspryd hwn ynddo pan ddeallodd beth oedd yn myned yn mlaen; ym osododd ar y dihyrwyr, gan eu chwalu yn chwimwth ar bob llaw, ac achubodd y diniwed o'u dwylaw. Cymerodd y pregethwr adref i'w dŷ yn ganlynol, a chwedi gweini iddo bob ymgeledd angenrheidiol, aeth i'w ddanfon, dranoeth, dair milltir o ffordd, rhag iddo syrthio drachefn i ddwylaw yr erlidwyr. Ni chymerai Richard Roberts arno ei fod yn bleidiwr i'r Methodistiaid. Eglwyswr ydoedd, ac felly y parhaodd trwy ystod ei oes; ond prydferthid ei gymeriad â llawer o rinweddau dynol a Christionogol, ac nis gallai oddef gweled gweinidog yr efengyl yn cael ei anmharchu.

GELLILEDNAIS, GER LLANDYFEILOG.
[Preswylfod Peter Williams.]


Dyoddef yn gyffredin a wnelai Peter Williams, heb wneyd unrhyw ymgais i amddiffyn ei hun; dyna, hefyd, arferiad cyffredinol y Methodistiaid cyntaf, ond ambell i dro rhedai eu hamynedd i'r pen, ac appelient at gyfraith y wlad.[4] Un waith yr ydym yn cael ddarfod i Mr. Williams gael ei gamdrin yn enbyd yn Ninbych; ac nid digon gan yr erlidwyr oedd ei guro, eithr yspeiliasant ef o'r oll a feddai. Wedi iddo ddychwelyd adref i'r Deheudir, adroddodd yr hanes wrth ei gyfeillion. Cyffrodd y rhai hyny, a chasglasant arian i'w amddiffyn. Rhoddwyd yr achos yn llaw cyfreithiwr a breswyliai yn Aberhonddu. Mewn canlyniad, gwysiwyd wyth o'r prif faeddwyr i Lundain, i sefyll eu prawf, ac yn eu mysg yr oedd dyn ieuanc yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf cyfrifol. Meddai hwn ddigon o gyfoeth i gyflogi y dadleuwyr goreu o'i blaid; ond methodd, er pob ymdrech, yn ei amddiffyniad, a chafwyd y rhai a gyhuddid oll yn euog. Y gosp a roddid arnynt oedd eu dihatru o nodded y gyfraith (outlawry). Trodd y teimlad, bellach, yn eu herbyn. Dywedai pawb mai cyfiawn oedd eu cosp. Gan hyny, yr oeddynt yn esgymunedig, ac ni allent aros yn y wlad. Bu farw rhai o honynt yn fuan o ymollyngiad meddwl; eraill a giliasant o'r golwg, ac ni chlybuwyd am danynt mwy. Am y gŵr ieuanc cyfoethog, bu yn nghudd ac yn alltud hyd nes y darfu i'w rieni allu prynu ei ryddid iddo, a'i ddwyn drachefn dan nawdd y gyfraith. Dywedir i'r ddedfryd hon ddwyn dirfawr ymwared i'r crefyddwyr, ac i arswyd eu herlid ddisgyn ar y gwŷr mawr.

Fel y darfu i ni sylwi, pregethwr athrawiaethol oedd Peter Williams yn benaf. Y deall a'r gydwybod a gyfarchai fel rheol, ac nid yn aml yr appeliai at y teimlad. Y mae lle i gasglu nad oedd yn gefnogol iawn i'r tori allan, a'r molianu, a fyddai yn cydfyned a'r diwygiadau. Ac eto, torai y cynulleidfaoedd allan mewn clodforedd a mawl, nid yn anaml, tan ei weinidogaeth ef ei hun. Pan yr ymwelai Howell Harris â Llangeitho un tro, wedi iddo ymgymodi a'r Methodistiaid, Peter Williams oedd yn pregethu yn y Gymdeithasfa, ac aeth yr holl gynulleidfa yn fflam, nes yr oedd enaid y Diwygiwr o Drefecca yn llawenychu ynddo. Ceir cofnod tra dyddorol am dano yn nydd-lyfr un o "deulu" Trefecca. Daeth ar daith i Frycheiniog, gwedi marw Harris, gan bregethu efengyl y deyrnas, ac nid oedd am ddychwelyd heb ymweled â Threfecca. Evan Moses a lywodraethai yno ar y pryd, ac ymddengys ei fod yntau yn anghefnogol i bob arddangosiad o deimlad mewn cyfarfod crefyddol. A ganlyn yw y cofnod: "Dydd Mercher, 6 Gorphenaf, 1774. Pregethodd Peter Williams yma. Aeth Gwen Vaughan i neidio. Yr oedd Evan Moses yn dra anfoddlawn, a mynai beri iddi fod yn llonydd. Eithr yr efrydwyr (yn athrofa yr Iarlles Huntington) a gymerent ei phlaid. Eithr efe (Evan Moses) a ddygodd dystiolaeth yn ei herbyn gyda brwdfrydedd priodol, ac a ddywedodd wrth Mr. Williams y byddai raid iddo roddi cyfrif am gefnogi y fath deimladau anmhriodol. Honai nad oedd hyn ond nwyd, a bod gwahaniaeth mawr rhwng calon ddrylliog ac yspryd cystuddiedig, ag yspryd cyfan a balch, fel ei heiddo hi, y rhai a wrthwynebent. Aeth Mr. Williams o'r pwlpud ar unwaith, pan ddywedodd Evan Moses wrtho y byddai raid iddo roddi cyfrif, gan ateb, y byddai raid iddo, yn ddiamheu." Felly y terfyna y cofnod, ac awgryma fod Peter Williams yn tueddu at fod o'r un syniad ag Evan Moses gyda golwg ar neidio a molianu.

Y mae yn bur sicr ddarfod i Peter Williams, heblaw teithio Cymru ar hyd ac ar led lawer gwaith, fod yn foddion i gychwyn llawer o achosion crefyddol yn ei sir ei hun. Efe, fel y cawn weled eto, a adeiladodd gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a hyny, gan mwyaf, os nad yn gyfangwbl, ar ei draul ei hun. Pe na buasai ond am ei lafur fel efengylydd, haeddai goffadwriaeth barchus, a lle uchel, yn mysg y Tadau Methodistaidd; eithr nid gormod dweyd mai mewn cylch arall y cyflawnodd waith pwysicaf ei fywyd, ac y gosododd ei gydgenedl tan y rhwymedigaeth fwyaf iddo. Yr ydym yn cyfeirio at ei lafur fel esboniwr. Darfu i'w waith yn dwyn allan y Beibl mawr, yn nghyd a sylwadau ar bob penod, yn y flwyddyn 1770, greu cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth grefyddol Cymru. Ychydig iawn a wnaethid yn y cyfeiriad yma o'r blaen. Ymddengys ddarfod i'r Parch. Evan Evans, "bardd ac offeiriad," fel ei gelwir weithiau, eithr sydd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddonol, Ieuan Brydydd Hir, ddechreu ysgrifenu sylwadau ar y Beibl, ar gynllun nid annhebyg i eiddo Peter Williams. Eithr dros nifer fechan o lyfrau cyntaf yr Hen Destament yn unig yr aeth efe, ac ni chafodd yr hyn a ysgrifenodd erioed ei argraffu. Yr unig lyfr Cymreig o natur esboniadol, a gawsai ei gyhoeddi yn flaenorol i Feibl Peter Williams, mor bell ag y gwyddom, oedd Cysondeb y Pedair Efengyl, gydag agoriad byr a nodau athrawus, ar yr hyn a dybid yn dywyll ac anhawsaf ynddynt, gan y Parch. John Evans, A.C. Cawsai John Evans ei ddwyn i fynu yn y Meini Gwynion, ger Llanarth, ond gwasanaethai yn Plymouth, ac felly, fel "Offeiriad Plymouth" yr adwaenid ef yn ei sir enedigol. Er ddarfod i'r Cysondeb ymddangos yn y flwyddyn 1765, sef tua phum' mlynedd o flaen y Beibl mawr, rhaid i Mr. Williams ddechreu ar ei waith lawn mor gynar a John Evans, os nad yn gynarach, gan fod ei faes yn llawer helaethach. Felly, nid gormod dweyd mai i Peter Williams y perthyn yr anrhydedd o fod yn dad esboniadaeth Gymreig.

Nis gellir dirnad y dylanwad a gafodd Beibl Peter Williams ar fywyd ysprydol y genedl. Prynwyd ef gydag awch; nid oedd teulu crefyddol o fewn y Dywysogaeth yn foddlon bod hebddo, os gallent rywlun hebgor yr arian i'w bwrcasu. Cynilai gweithwyr o'u henillion bychain, a braidd nad aent heb eu beunyddiol ymborth, er mwyn ei feddu. Yn y ddyledswydd deuluaidd, darllenid nid yn unig y benod allan o'r Ysgrythyr, eithr sylwadau Peter Williams yn ogystal, a phrin y deallai llawer o ddynion da a duwiol nad oedd y sylwadau mor ddwyfol a'r Beibl ei hun. Ofer fyddai i neb feiddio dweyd gair yn ei erbyn; yr oedd sylw y Beibl mawr ar unrhyw fater yn derfyn ar bob ymryson. Edrychid arno gyda y parchedigaeth mwyaf, fel rhan anhebgor o addoliad Duw yn y teulu; coffaid y sylwadau yn y seiadau, a buont yn ymborth ac yn faeth i bererinion Seion o'r adeg yr ymddangosasant hyd y dydd hwn. Ceir rhai yn bresenol yn dibrisio sylwadau Peter Williams, gan ddweyd na ddaliant eu cymharu ag amryw o'r esboniadau sydd erbyn hyn wedi eu cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Dywedwn ninau na ddylid eu cymharu. Cyn cael syniad priodol am werth y sylwadau, rhaid galw i gof sefyllfa Cymru o ran manteision addysg pan yr ysgrifenwyd hwynt. Ychydig o lyfrau oedd yn y wlad, a'r ychydig hyny, gan mwyaf, allan o gyrhaedd y werin. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol heb ei sefydlu, ac yr oedd yr hen Efengylydd o Gaerfyrddin yn tynu at derfyn ei yrfa, pan yr oedd Mr. Charles yn anterth ei nerth yn llafurio i'w chychwyn. Ychydig, mewn cymhariaeth, a fedrent ddarllen, er fod ysgolion cylchynol Griffith Jones wedi gwneyd llawer o les yn y cyfeiriad hwnw. Felly, braidd nad unig gyfrwng gwybodaeth grefyddol o fewn cyrhaedd y lliaws oedd yr hyn a geid yn ngweinidogaeth yr efengyl, ac yn y seiadau. I'r werin bobl, yn y sefyllfa yr oeddynt ynddi ar y pryd, nis gellid cael dim gwell na sylwadau Peter Williams. Ac erbyn cymeryd pob peth i ystyriaeth, y syndod yw eu eu bod mor sylweddol, cyfoethog, a chyflawn. Ei gynllun ei hun a gymerodd, ac y mae ei ddelw ei hunan ar yr holl sylwadau yn amlwg, er, ar yr un pryd, nad oedd yn amddifad o lyfrau cynorthwyol, yn mysg pa rai, y penaf, efallai, oedd sylwadau Osterwald, yr Allmaenwr, y rhai a gawsent eu cyfieithu ychydig yn flaenorol. Cadwai Mr. Williams ddau amcan o'i flaen wrth ysgrifenu ei sylwadau, sef, ar y naill law, gosod ynddynt ddigon o fater, fel ag i fod yn gymhorth sylweddol i'w gyd-genedl mewn ystyr grefyddol; ac ar y llaw arall, peidio esgyn uwchlaw cyrhaeddiadau gwerin ei oes, rhag i'w lafur brofi yn ddifudd. Yn y ddau beth hyn bu yn dra llwyddianus.

Nid bychan y llafur oedd yn angenrheidiol tuag at barotoi y gwaith, ac y mae yn syn iddo allu ei gyflawni, pan feddyliom ei fod yn teithio cymaint o gwmpas gyda phregethiad yr efengyl. Nid bychan oedd yr anturiaeth, ychwaith, o ddwyn allan argraffiad yn cynwys 8,600 o gopïau, yn arbenig pan y cofir nad oedd poblogaeth y Dywysogaeth y pryd hwnw fawr mwy nag un rhan o dair o'r hyn ydyw yn awr. Llawer o'i frodyr, â pha rai yr ymgynghorasai, a gredent mai ffolineb oedd meddwl am y fath beth, ac a geisient ei berswadio i roddi i fynu y syniad. Ond mor angerddol oedd ei zêl, a chymaint ei ffydd, fel y gosododd ei wyneb fel callestr. Profodd y canlyniad mai efe oedd yn ei le, a choronwyd yr anturiaeth â llwyddiant. Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf allan yn llwyr yn mhen ychydig flynyddoedd, a daeth galw am ail argraffiad.

Heblaw y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod, dygodd Peter Williams allan y Mynegair Ysgrythyrol, yr hwn lyfr, er nad ellir ei ystyried yn hollol wreiddiol, a fu o wasanaeth dirfawr i'r genedl. Siaradai Mr. Charles yn uchel iawn am dano, a chafodd gylchrediad helaeth. Iddo ef, hefyd, y perthyn yr anrhydedd o ddwyn allan y cyhoeddiad cyfnodol cyntaf yn yr iaith Gymraeg, yr hwn a alwai, Trysorfa Gwybodaeth, neu, Yr Eurgrawn Cymraeg. Cyhoeddiad pythefnosol ydoedd, pris tair ceiniog; pymtheg rhifyn o hono a ddaeth allan. Cyhoeddwyd ef yn y flwyddyn 1770. Erbyn hyn y mae cyfnodolion Cymru yn llu mawr iawn, ond Trysorfa Gwybodaeth Peter Williams oedd ysgub y blaenffrwyth. Yn ychwanegol at y Beibl Teuluaidd, Y Mynegair, yn nghyd â Beibl John Canne, at yr hwn y cawn gyfeirio eto, cyhoeddodd nifer mawr o fân lyfrau, ar wahanol faterion, rhai yn wreiddiol iddo ei hun, ac eraill yn gyfieithiadau o'r Saesneg, ond oll yn tueddu i lesoli ei gydwladwyr, yn foesol a chrefyddol. Ysgrifenodd gryn lawer o farddoniaeth o bryd i bryd, a thebyg fod y ddawn brydyddol yn bur gryf ynddo, ond gan fod Williams, Pantycelyn, yn cydoesi ag ef, ac yn seren mor ddysglaer, ni ddaeth ef i lawer o amlygrwydd fel bardd. Modd bynag, gellir gweled oddiwrth hyn oll fod ei lafur yn ddiderfyn, ac nad oedd ball ar ei yni.

Yr ydym wedi cyfeirio at y Beibl mawr, yn nghyd a'r sylwadau ynddo ar bob penod, fel prif waith Peter Williams, ac fel colofn benaf ei anrhydedd; ond yn nglyn â hyn, hefyd, y cychwynodd ei brofedigaethau, a dyma, yn y diwedd, a fu yn achos iddo gael ei ddiarddel gan Gymdeithasfa y Methodistiaid. Buasai yn dda genym allu pasio heibio hyn, ond y mae yr helynt yn un mor gyhoeddus, fel y rhaid i ni gyfeirio ati. Yn yr argraffiad cyntaf o'i Feibl, ceir y sylw canlynol ar y benod gyntaf yn Efengyl Ioan: "Yr un yw meddwl Duw a'i ewyllys, a'r un yw ei ewyllys a'i air (o herwydd nid yw yn cyfnewid), ac efe a ewyllysiodd cyn bod byd nac angel, roddi Crist yn ben ar y byd; felly, y mae Duw yn Dad, Mab, ac Yspryd Glân, o dragywyddoldeb, yn ei ewyllys dragywyddol ei hun; nid 'mewn dull angenrheidiol o fod, pe na buasai rhaid achub un dyn, na sancteiddio un enaid,' fel y mae rhai mewn annoethineb yn dywedyd; eithr am ei fod yn ewyllysio achub a sancteiddio; canys Crist (yn yr hwn y mae doethineb Duw yn ymddangos yn benaf) oedd hyfrydwch y Tad yn nechreuad ei ffyrdd; ac yn Alpha ac Omega ei holl weithredoedd; yn gytunol a'r hwn ewyllys, Y Gair (yn nghyflawnder yr amser) a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni,—ac fe welodd rhai ei ogoniant, ac a gredasant fod Iesu yn Dduw! Nid yn Dduw trwy ordeiniad,' fel y mae rhai yn ofer siarad, eithr mai efe yw yr unig wir a'r bywiol Dduw; canys y mae yr ysgrythyr yn tystio mae'r Dyn Iesu yw'r Tad tragywyddol; a phwy Gristion a ddichon ddyoddef cabledd y rhai a wadant Dduwdod Crist?"

Nid yw yn hollol glir pa beth a olyga yn y sylwad hwn. Efallai nad yw y

geiriau yn gwbl annghyson a'r syniad fod y Duwdod yn hanfodi erioed, ac o angenrheidrwydd natur yn Dri Pherson; ond am y berthynas hanfodol hon, nad oes genym unrhyw wybodaeth, am nad ydyw wedi ei ddatguddio i ni; ac mai perthynas y Personau Dwyfol a'u gilydd yn nhrefn iachawdwriaeth pechadur yn unig sydd yn cael ei dynodi yn yr enwau Tad, Mab, ac Yspryd Glân. Os mai hyn a feddyliai, bu yn dra anffortunus yn ei ddull o eirio, a dweyd y lleiaf. Pa mor fuan y craffodd yr arweinwyr yn mysg y Methodistiaid ar y sylwad, ac y dygwyd achos yr awdwr ganddynt i'r Gymdeithasfa, gan ei gyhuddo o Sabeliaeth, sydd yn anhysbys. Y tebygolrwydd yw na ddigwyddodd hyn cyn yr ail argraffiad o'r Beibl mawr, a ddygwyd allan yn y flwyddyn 1781, gan ddarfod i'r un sylwad yn hollol ymddangos yn hwnw. Eithr yn fuan ar ol hyn, daeth y pwnc yn destun dadleuaeth frwd a phoenus mewn gwahanol Gymdeithasfaoedd. Nid yw hanes y ddadl genym, eithr cyfeiria Peter Williams ati yn un o'i lythyrau, a ysgrifenwyd ganddo tua diwedd ei oes. Fel hyn y dywed: "Ond amheu yr wyf fod rhyw rai yn cyffroi cynhen, trwy adgoffa yr hen ddadl, yn nghylch Maboliaeth ein Hiachawdwr, Iesu Grist; sef, pa un ai trwy genhedliad tragywyddol o sylwedd y Tad, fel y dywed rhai, neu o herwydd y natur ddynol a genhedlwyd trwy yr Yspryd Glân, fel yr wyf fi, yn ostyngedig yn meddwl, y cafodd ei alw yn Fab. Salm ii. 7." Profa y difyniad i ddadl boenus gymeryd lle ar y mater yn y Gymdeithasfa. Y mae yn sicr fod y Gymdeithasfa yn gyffredinol yn annghymeradwyo y sylwad; yr oedd yn anmhosibl i Daniel Rowland yn arbenig beidio, gwedi y safle a gymerodd yn y ddadl â Howell Harris; a diau fod Williams, Pantycelyn, yn cydweled ag ef. Ar yr un pryd, tra yr oedd plaid am ddiarddel yr esboniwr fel un oedd yn euog o heresi, safai Rowland a Williams yn gryf yn erbyn defnyddio mesurau mor eithafol. Nid annhebyg fod. yn edifar gan y ddau na fuasent wedi cyd-ddwyn mwy â Harris; yr oedd canlyniadau alaethus yr ymraniad yn fyw yn eu cof; ac erbyn hyn, yr oedd addfedrwydd oedran a dechreuad henaint wedi dysgu goddefgarwch iddynt. Felly, ni fynai y naill na'r llall glywed am ddiarddel Peter Williams, eithr ymfoddlonasant ar annghymeradwyo ei olygiad, a gweini cerydd iddo. Nid annhebyg fod cerydd Rowland

David Jones, Llan-gan

yn dra llym, ond gwyddai yr Esboniwr ei fod yn cyfodi gariad, ac felly gallai ei oddef. Hyn arodd iddo ganu yn ei farwnad i Daniel Rowland:

"O, mrawd Rowland, ni'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen?"


Tawelodd yr ystorm am beth amser, a chafodd Peter Williams ryddid i fyned o gwmpas fel arfer, i bregethu yr efengyl, ac i werthu ei lyfrau. Eithr tua'r flwydd yn 1790, dyma y dymhest! yn ail gyfodi, a hyny gyda mwy o gynddeiriogrwydd. A ganlyn oedd yr achos: Yn y flwyddyn a nodwyd, dygodd Peter Williams allan argraffiad o Feibl bychan, gyda chyfeiriadau John Canne ar ymyl y dail, a nodiadau eglurhaol o'i eiddo ei hun ar y godre. Y tebygolrwydd yw ddarfod iddo ymgymeryd a'r anturiaeth o gyhoeddi y Beibl hwn oddiar gymeradwyaeth ei frodyr yn y Gymdeithasfa, a chydag addewid am eu cynorthwy tuag at ei ledaeniad.

Yr oedd y nodiadau eglurhaol yn cynwys sylwadau ar y Drindod, a Mabolaeth Crist, nid annhebyg i'r sylwad a ymddangosasai yn y Beibl Teuluaidd; yn wir, braidd na ddefnyddiai yr Esboniwr ymadroddion cryfach wrth egluro ei olygiadau neillduol ei hun. O angenrheidrwydd, tueddai hyn i ail enyn y tân. Er mwyn cael gwybodaeth helaethach am olygiadau. Peter Williams parthed y Drindod, ni a ddifynwn ychydig ymadroddion allan o draethawd a ysgrifenwyd ganddo yn fuan gwedi ei dori allan, yr hwn a eilw yn Dirgelwch Duwioldeb. Meddai: "Y mae yn angenrheidiol credu fod yn undod y Duwdod Drindod, sef Tri Pherson yn un Duw, ac a eilw yr Ysgrythyr, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân. Ond na feddylied Ond na feddylied y darllenydd fod tri hanfod gwahanol, canys fe fyddai hyny yn wrthwyneb i undod y Duwdod. Nage, eithr y maent yn Dri Pherson mewn un hanfod." Beth a allai fod yn fwy uniongred? Yn nes yn mlaen, cawn: "Y Tad yw ffynhon y Duwdod, canys Duw trwy yr Yspryd a genhedlodd y Mab o Fair y Forwyn. Ac, fel y dywed y Credo, y mae yr Yspryd yn deilliaw oddiwrth y Tad a'r Mab." Eithr yn fuan yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd; cymysgedd syniadau, yn gystal ac aneglurder geiriad: "Y sawl a ddysgir gan Dduw i weled y fendigedig Drindod yn nghnawd y dyn Crist Iesu (pa mor ddiffygiol bynag fyddont mewn dysgeidiaeth ddynol), hwy a fedrant dystiolaethu trwy brofiad fod yr olwg arno yn adfywio eu heneidiau." Eto: "Ni feiddiaf fi ddweyd fod Trindod yn angenrheidiol i hanfod Duw, fel y mae rhai yn rhyfygus haeru; eithr mi a ddywedaf, ac yr wyf yn credu, fod y Drindod yn gwbl angenrheidiol i ddatguddio Duw i etifeddion bywyd tragywyddol." Eto: "Un yw Duw, a'r Mab ynddo fel brigwydd (misletoe) yn y pren, yn byw ar nodd y pren, heb un gwreiddyn gwahanol." Eto: "Ail Berson," meddynt (sef gwrthwynebwyr Peter Williams), "wedi ei genhedlu gyda Duw! Y mae yn anmhosibl i Dduw genhedlu Duw arall; os darfu Duw genhedlu Duw, rhaid fod yr un a genhedlwyd yn llai na'r hwn a'i cenhedlodd. Onid yw y cyfryw athrawiaeth ddisail yn waradwydd i Gristionogrwydd?" Eto: "Nid yw yr Ail Berson a genhedlodd Duw yn nhragywyddoldeb, allan o hono ei hun, ar ei ddelw ei hun, ond person dychymygol, nad oes son am dano yn y Beibl." Eto: "Fel y mae'r Tri Pherson wedi ymbarotoi i waith iachawdwriaeth; neu, fe ellir dweyd, y mae Duw wedi addasu ei hun dan y tri enw, Tad, Mab ac Yspryd." Rhaid addef y cynwysa y difyniadau uchod ymadroddion dyeithriol, a dweyd y lleiaf, am y Drindod, ac am berson ein Harglwydd; ac oni thybir eu bod yn cael eu hachosi gan gymysgedd iaith a syniad, a chan anfedrusrwydd i gyflwyno ei olygiadau i'r cyhoedd mewn iaith glir, nis gellir rhyddhau yr Esboniwr oddiwrth y cyhuddiad ei fod yn tueddu yn gryf i gyfeiriad Sabeliaeth.

Darfu i beth arall yn nglyn â dygiad allan ei argraffiad o Feibl John Canne chwerwi y teimlad yn erbyn Peter Williams yn ddirfawr, sef ei waith yn newid y cyfieithiad mewn amrywiol fanau. Yng ngholwg llawer o'r Methodistiaid, yr oedd y cyfieithiad Cymraeg o'r Ysgrythyr lân agos mor ysprydoledig a'r Ysgrythyr ei hun; rhyfyg enbyd yn eu golwg fyddai i neb, pa mor ddysgedig bynag y gallai fod, geisio newid gair neu ymadrodd ynddo; a phwy bynag feiddiai, caffai deimlo pwys hanfoddlonrwydd. Pan ddeallwyd ddarfod i Peter Williams ryfygu newid y cyfieithiad, cododd cri cyffredinol yn ei erbyn. Cyhuddwyd ef o wneyd hyny er naddu yr adnodau i ffitio ei gyfundraeth. Nid yw yn ymddangos fod y cyfnewidiadau yn bwysig iawn, a thueddwn i feddwl na amcanai efe, wrth eu gwneyd, gefnogi unrhyw gyfundraeth benodol o'i eiddo ei hun; ar yr un pryd, rhaid addef fod rhai o honynt yn tueddu i greu drwgdybiaeth. Yn Diar. viii. 25, lle y gosodir yn ngenau Crist y geiriau: "Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau, y'm cenhedlwyd," cyfieithai Peter Williams, "O flaen y bryniau y'm hesgorwyd." A chan ei fod yn gwadu ddarfod i'r Mab gael ei genhedlu er tragywyddoldeb, oddigerth yn arfaethol, yr oedd y newidiad a wnaeth yn peri i bobl dda fyned yn ddrwgdybus o burdeb ei amcan. Ei reswm ef oedd fod y gair yn yr iaith wreiddiol yn cael ei arfer yn yr ystyr a roddai efe iddo. Yn Esaiah liii. 10, yn lle "pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod," darllenai, "pan osodo efe ei hun yn aberth dros bechod." Dros hyn, rhydd ddau rheswm, sef fod y gair yn y gwreiddiol yn arwyddo yr holl ddyn, a'i fod yntau am ragflaenu cyfeiliornad, gan fod rhai yn tybio mai enaid dyn yn unig sydd yn pechu, ac felly mai enaid y Gwaredwr yn unig a ddylai ddyoddef. Ond, yn sicr, nid oes gan gyfieithydd un hawl i roddi darlleniad penodol er rhagflaenu cyfeiliornad. Yn y 12fed adnod o'r un benod: "Efe a rana yr yspail gyd â'r cedyrn," darllenai, "Efe a feddiana yspail y cedyrn." Yn Hebreaid v. 9, yn lle "Efe a wnaethpwyd yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol," darllenai, "Efe a ddaeth yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol," Mewn llawer o'r cyfnewidiadau, nid oedd unrhyw newidiad ar y synwyr; ond rhwng ysgelerder y trosedd, yn ngolwg llawer, o gyffwrdd mewn un modd a'r cyfieithiad o'r Beibl, a'i fod yn dyfod ar gefn geiriadaeth gymysglyd, os nad rhywbeth gwaeth, am athrawiaeth y Drindod, cododd y llif yn uchel yn erbyn yr Esboniwr o Gaerfyrddin.

CAPEL HEOL-Y-DWR, CAERFYRDDIN.


Cyn canlyn y ddadl i'w therfyn, gweddus nodi fod Peter Williams mewn llafur dirfawr gyda gweinidogaeth yr efengyl yn ystod yr holl amser y dygai ei argraffiad o Feibl Canne allan, megys cyn hyny. Ceir prawf nodedig o hyn mewn llythyr o'i eiddo, yn ei lawysgrif ef ei hun, sydd ar gael yn Nhrefecca, yr hwn na argraffwyd erioed. Yr ydym yn ei gyhoeddi air am air, a llythyren am lythyren, fel yr ysgrif enwyd ef, gan fod cryn ddyddordeb yn perthyn iddo ar amryw gyfrifon: "Caerfyrddin, Awst 22, 1789. Fy nghyfeillion, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, fel, trwy drugaredd, yr wyf finau. Dyma Gig 4 X yn dyfod i'ch dwylaw; atolwg, a gawsoch chwi bob papurlen a ddylasech ei chael? Dywedodd Mr. Wosencroft wrthyf i'w gyfaill adael yr un a ymddiriedais iddo ef, naill ai gyda Longfellow yn Aberhonddu, neu yn y postdy. Os ydych heb ei chael, mi a ymofynaf yn fanylach. Yr wyf yn rhyfygu diwygio ambell air yn y cyfieithiad beunydd; ac yr wyf yn hyderu ynoch, yn yr Arglwydd, y bernwch yn ddiduedd; ac os gwelwch fi yn cyfeiliorni, dilynwch yr hen ffordd! Yr wy'n meddwl eich bod yn fy nyled o brawflen, ond nid ydych yn ofni y diangaf yn rhy bell arnoch! Yr wyf yn gweled Beibl Mr. Canne yn fwy buddiol pa fwyaf y trafodwyf arno; ac oni chaiff e' gam yn y wasg, e' fydd yn odidog. Chwi anfonasoch i mi ddwy brawflen y tro diweddaf. Pa un ai'n fwriadol, neu'n ddamweiniol, nis gwn; ond yr oedd un yn rhy ddu! ac mi taflais hi heibio. Yr wyf yn myned y Sabbath nesaf i Gapel Colby, neu'r Capel newydd, ar gyffyniau tref Aberteifi, ac yn bwriadu dychwelyd dydd Mawrth, i yru'r gwaith ymlaen drachefn. Llwydded yr efengyl fwy fwy er gwaethaf holl gryfder y gelyn. A bendith yr Arglwydd fo' ar bob duwiol amcan a lles i Sion ac adeiladaeth y Jerusalem newydd! yw dymuniad eich cydbererin a'ch cyfaill yn y cariad a bery byth,——PETER WILLIAMS." Ymddengys i'r llythyr yma gael ei anfon at y gŵr a arolygai yr argraffwasg yn Nhrefесса, lle yr oedd y Beibl hwn yn cael ei argraffu. Gwelir fod Peter Williams, er yn dynesu at ei nawfed-flwydd-a-thriugain, yn llawn llafur gyda phregethu yr efengyl, ac yn myned o gwmpas, a hyny i gryn bellder, yn feunyddiol. Gweddus hefyd hysbysu fod y Parch. David Jones, gweinidog perthynol i'r Bedyddwyr, yn gyfranog ag ef yn nygiad allan Beibl Canne, ond dywedir mai ar ysgwyddau Mr. Williams y disgynodd pwys y gorchwyl.

Y mae yn sicr ddarfod i'r dymhestl ruthro ar Peter Williams yn ei holl rym yn y flwyddyn 1790, ac i'w olygiadau fod yn destun dadleuaeth chwerw yn amryw o Gymdeithasfaoedd y flwyddyn hono, yn y De a'r Gogledd. Ei brif wrthwynebydd, fel y dywed traddodiad, oedd y Parch. Nathaniel Rowland, mab yr hen Efengylydd o Langeitho. Yr oedd ef yn llawn uchelgais, yn ddyn nodedig o falch, ac yn awyddu am lywodraethu yn y Gymdeithasfa, a diau diau y tybiai, ond iddo allu symud Peter Williams o'r ffordd, fod y llwybr i'r gadair uchaf yn rhydd iddo. Yr oedd Daniel Rowland yn llesg, ac yn analluog i fyned oddicartref, a bu farw, fel y gwelsom, Hydref, 1790. Yr oedd gwendidau henaint wedi cael goruchafiaeth ar Williams, Pantycelyn, yn ogystal, a bu yntau farw yr Ionawr canlynol. Felly, nid oedd neb o hen gyfeillion yr Esboniwr yn gallu dyfod i'r Gymdeithasfa i'w amddiffyn. Eithr dy wedir fod Rowland, tra yn annghymeradwyo golygiadau ei gyfaill, yn anfoddlawn i weithredu yn llym tuag ato; a phan y daeth ei fab, Nathaniel, adref o ryw gyfarfod, gan ymffrostio ei fod wedi llwyddo i gael pleidlais o gondemniad ar Peter Williams, iddo dori allan, a dweyd: "Nat, Nat, ti a gondemniaist dy well." Yn cynorthwyo Nathaniel Rowland yr oedd. Griffiths, Nevern, offeiriad arall; a phrin yr oedd neb yn y Gymdeithasfa yn meddu digon o nerth i wrthwynebu y ddau. Rhaid addef, hefyd, fod Peter Williams ei hun yn gyndyn a gwrthnysig; amddiffynai ei hun mewn tôn chwerw; ni wnai leddfu ei ymadroddion, na newid ei ddull o eirio, i gyfarfod â syniadau ei frodyr. Mor wir y dywediad, fod grym a gwendid gŵr yn tarddu o'r un ffynhonell! Yn awr, y mae ewyllys gref, anhyblyg, yr hen weinidog o Gaerfyrddin, yr hon a'i daliai yn ngwyneb llid ac erlid ei elynion, yn peri ei fod yn ystyfnig pan y ceisiai ei gyfeillion ei ddarbwyllo.

Dywed Owen Williams, yr hwn a ysgrifenodd gofiant iddo, i'r ddadl gael ei chychwyn yn Nghymdeithasfa y Bala, yn yr hon yr oedd Daniel Rowland yn bresenol, ac i Peter Williams amddiffyn ei hun mor gadarn, a rhesymol, ac Ysgrythyrol, nes taro ei wrthwynebwyr â mudandod; a phan y gofynwyd i Daniel Rowland a wnai ef ateb, dywedodd na wnai, fod y mater yn rhy bwysfawr, ac nad oedd ganddo ddigon o ddeall i wybod a ydoedd Peter Williams yn cyfeiliorni, ai nad oedd. Yr unig un, meddir, a feiddiodd wrthwynebu yn y Gymdeithasfa hono oedd Richard Tibbot, yr hwn, er ei fod wedi ymuno a'r Annibynwyr, a ddeuai i gymanfaoedd y Methodistiaid, ac a gymerai ran yn y dadleuon. Trueni mawr na fuasai yr Esboniwr wedi cael gwell cofiantydd; yr oedd Owen Williams, heblaw pob annghymhwysder arall, yn llawn rhagfarn at y Methodistiaid. Daeth y mater yn destun sylw drachefn yn Nghymdeithasfa Aberystwyth; nid oedd Daniel Rowland yn bresenol yn hon, ac yma tybir ddarfod i Nathaniel Rowland gymeryd rhan flaenllaw yn y ddadl. Yn Nghymdeithasfa Llanidloes, a gynhaliwyd yn y flwyddyn 1791, gwedi ymdriniaeth faith, ymddengys i'r frawdoliaeth ddyfod i'r penderfyniad fod yn rhaid diarddel Peter Williams, oddigerth iddo ymwrthod a'r syniadau a gyhoeddasai, ac addaw peidio eu cyhoeddi rhagllaw. Nid oedd ef yn bresenol, eithr anfonwyd llythyr ato yn ei hysbysu o'r penderfyniad. Mewn canlyniad, cawn ef yn ysgrifenu at ei gyfaill: "Mi a gefais lythyr anngharuaidd oddiwrth y brodyr yn Llanidloes, yr hwn a barodd i mi fawr ofid calon.' Eithr tynu ei eiriau yn ol ni fynai, nac addaw peidio eu cyhoeddi yn ol llaw; yn y peth hyn, nid oedd darbwyllo arno, a'r diwedd fu iddo gael ei lwyr ddiarddel yn Nghymdeithasfa Llandilo, yn y flwyddyn 1791. Nid yw hanes y drafodaeth genym, felly, ni wyddom pwy a gymerodd ran yn y ddadl. Nid oes amheuaeth mai prif wrthwynebydd Peter Williams yma eto oedd Nathaniel Rowland, i'r hwn y telid llawer o barch ar gyfrif ei dad enwog. Efe yn unig a ddelir yn gyfrifol am y weithred gan draddodiad, a chredir mai goddefol a fu corph y Gymdeithasfa. Gwir fod y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, a'i frawd, y pryd hwnw, Mr. David Charles, Caerfyrddin, yn bresenol; ond ymddengys iddynt fod yn hollol ddystaw yn ystod yr ymdrafodaeth. Nid oedd gan y Parch. Thomas Charles un drwgdeimlad at yr hen Esboniwr; yr oedd yn gyfoed, a buasai yn gydefrydydd, a'i fab, sef y Parch. Eliezer Williams, a dywedir ei fod ar delerau cyfeillgar, os nad rhywbeth mwy, ag un o'i ferched. Gwyddis am dano, hefyd, mai un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd. Eithr yr oedd yn gymharol ieuanc, ac nid oedd blynyddoedd lawer er pan yr ymunasai a'r Methodistiaid, felly, prin yr oedd yn briodol iddo gymeryd rhan mewn dadl mor bwysig, ac yr oedd yn rhy yswil i wrthwynebu dau offeiriad o safle. Am Mr. David Charles, nid oedd yntau ond dyn ieuanc, a phrin y gellir tybio iddo agor ei enau. Gwyddom y ffyna traddodiad yn mhlith disgynyddion Peter Williams, hyd y dydd hwn, ddarfod i'r ddau Charles brofi yn anffyddlon iddo yn y Gymdeithasfa, a'u bod i raddau mwy neu lai yn gyfrifol am ei ddiarddeliad; ac oblegyd hyn, na fu y teimladau goreu yn ffynu rhwng y ddau deulu am beth amser. Os oes rhyw sail i'r traddodiad, y tebygolrwydd yw mai bod yn ddystaw a wnaethant, pan, yn ol barn cyfeillion Peter Williams, y dylent lefaru.

Y mae llawer iawn o feio wedi bod ar y Methodistiaid oblegyd eu hymddygiad at Peter Williams; awgrymir fod a fynai cenfigen a'r peth, a'u bod yn gul, yn anfrawdol, ac yn honi anffaeledigrwydd. Am Nathaniel Rowland, ac eraill o'i wrthwynebwyr, gallent fod yn cael eu dylanwadu gan deimladau personol, ond y mae yn anmhosibl credu hyny, am gorph y Gymdeithasfa. Pe y cawsai teimlad personol le, diau y buasai yn troi o blaid cadw yr hen Esboniwr i mewn, ar gyfrif ei oedran, ei barchusrwydd, a'i ddefnyddioldeb. Ac y mae yn anmhosibl pwysleisio gormod ar y ffaith mai goddefol yn benaf a fu y Gymdeithasfa ar y mater. Dylid cofio hefyd fod pwys mawr yn cael ei roddi y pryd hwnw ar uniongrededd, fod cyfeiliornad mewn barn. ar brif bynciau yr efengyl yn cael ei ystyried yn waeth na chyfeiliornad mewn buchedd. Talai ein tadau warogaeth i wirionedd; credent fod y ffydd a rodded unwaith i'r saint yn werth dyoddef o'i phlegyd, ac yn teilyngu aberthu cyfeillgarwch, a theimlad personol er ei mwyn. Pwy a faidd ddweyd nad hwy oedd yn eu lle? Ai nid yw llawer o'r rhyddfrydigrwydd, a'r goddefgarwch, am yr hyn bethau y molir yr oes bresenol, pan fyddo syniadau amheus yn cael eu traethu, yn codi o ddifaterwch, ac o ddiffyg teyrngarwch dwfn o'r gwirionedd? Anhawdd peidio tosturio wrth Peter Williams, pan y gwelwn ef yn ei henaint yn cael ei alltudio o fysg ei frodyr a'i gyfeillion, a hyny am amddiffyn yr hyn a ystyriai ef yn wir athrawiaeth. Yr oedd y Gymdeithasfa hefyd yn wrthddrych tosturi, oblegyd yr oedd llygaid llawer o'r aelodau yn llawn dagrau wrth ei weled yn cael ei fwrw allan. Meddai Methodistiaeth Cymru: "Os gwnaed cam ag ef, o gamsynied y bu hyny, ac nid o fwriad; os bwriwyd ef allan gyda gormod ffrwst a haerllugrwydd, fe wnaed hyny mewn poethder dadl, ac oddiar syfrdandod yr ymryson." Y mae yn dra sicr genym, oddiar ein hadnabyddiaeth o brif ddynion y Methodistiaid ar y pryd, mai goddefol a fuont yn y cam, os cam hefyd; ac na fuasent yn oddefol oni bai fod cymysgedd syniadau yr Esboniwr yn peri iddynt. betruso.

Trychinebus iawn i Peter Williams a fu ei ddiarddeliad gan y Methodistiaid, oblegyd nid yn unig cauwyd capelau yr enwad rhag iddo gael pregethu ynddynt, ac anghefnogwyd yr aelodau i fyned i'w wrando; eithr trwy hyny, rhwystrwyd gwerthiant y Beibl bychan a ddygodd allan, neu Feibl Canne. Ymosoda ei fywgraffydd, Owen Williams, Waunfawr, yn enbyd ar y Methodistiaid o'r herwydd, gan eu cyhuddo o dori amod ag ef. Yn y mater yma hefyd, y mae yn sicr ei fod yn gwneyd cam â hwynt. Nid oeddynt wedi amodi cefnogi gwerthiant llyfr a gynwysai sylwadau oeddynt, yn ei barn hwy, yn gyfeiliornus a pheryglus. Os bu tori amod yn y mater, Peter Williams wnaeth hyny, trwy osod i mewn yn nglyn a'r Beibl nodiadau ag yr oedd y Methodistiaid yn flaenorol wedi dangos annghymeradwyaeth hollol o honynt. Mewn canlyniad, arosodd y Beiblau yn llu ar law Peter Williams a David Jones, a throdd yr anturiaeth allan yn dra cholledus. Gwedi ei ddiarddel, elai yr hen Esboniwr o gwmpas i bregethu fel cynt, eithr cadwai ei hen gyfeillion i ffwrdd oddiwrtho. Agorai yr enwadau eraill eu capelau iddo, ond y mae lle i ofni nad tosturi at ei gyflwr, na chydymdeimlad a'i olygiadau, oedd y rheswm am hyny, yn mhob amgylchiad; yn hytrach, hoffent gael cyfle i dderbyn un ag yr oedd y Methodistiaid wedi ei wrthod. Eithr os tybiai y naill blaid neu y llall y gwnai yr hen Esboniwr ymuno â hi, gwnaeth gamgymeriad; ni ddangosodd efe yr awydd lleiaf am ymuno â chyfundeb crefyddol arall; yn wir, nid yw yn ymddangos i'r syniad ddyfod i'w feddwl. Eithr gwnaeth apel drosodd a throsodd at ei frodyr yn y Gymdeithasfa am ail driniaeth ar ei achos; y mae y llythyrau a ysgrifenodd ar gael, ac y maent yn dangos dysgeidiaeth, cydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr, a gallu ymresymu o radd uchel; ond dangosant hefyd lawer o chwerwder yspryd. Eithr gan na ddangosai yr awydd lleiaf ei fod am dynu dim yn ol, na rhoddi i fynu amddiffyn ei olygiadau neillduol, ni wnai y Gymdeithasfa dderbyn ei apêl. Y mae ei ymlyniad ef o un tu, a'r Gymdeithasfa o'r tu arall, wrth yr hyn a ystyrid yn wirionedd ganddynt, er cryfed y cymhellion i roddi ffordd, yn ddangoseg o gydwybod olrwydd dwfn yn y naill a'r llall. Eithr nis gallwn lai na gofidio iddo gael ei demtio i fyned i Gymdeithasfa y Bala, a gosod ei hun a'i hen gyfeillion mewn profedigaeth chwerw. Dywed ei fywgraffydd iddo gael ei wahardd i bregethu ar y platform. Yr ydym yn amheus iddo geisio hyny; os do, gwnaeth y cais, gan wybod mai ei wrthod a gaffai. Nid oedd rhith o reswm dros osod un a gawsai ei ddiarddel am gyfeiliornad, i bregethu yn y lle mwyaf cyhoeddus, a hyny gan y blaid a'i diarddelodd. Modd bynag, rhwng yr odfaeon, pan oedd yr heolydd yn llawn dynion, safodd Peter Williams ar gongl heol i bregethu. Rhaid mai enyn tosturi, a thaflu gwaradwydd ar y Methodistiaid, oedd ei amcan. Ar yr un pryd, gweddus hysbysu na ddywedodd air yn anmharchus am neb; ond iddo yn aml yn ystod ei bregeth gyfeirio gyda chymeradwyaeth at y pregethau blaenorol. Ond yr oedd yn flin gan y rhai a'i hadwaenent ei weled wedi gosod ei hun yn y cyfryw sefyllfa.

Nid ymddibynai Peter Williams am wrandawyr, a chyfleustra i bregethu, ar deithio o gwmpas; efe, fel y darfu i ni sylwi, a adeiladasai gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a hyny yn benaf ar ei draul ei hun; nid yw yn ymddangos fod ymddiriedolwyr wedi cael ei gosod ar y capel, nac unrhyw drosglwyddiad o hono i'r Methodistiaid wedi ei wneuthur; felly, yn gyfreithiol, ei eiddo personol ef ydoedd. Ac yma, yn benaf, y darfu iddo bregethu yr efengyl yn mlynyddoedd olaf ei oes, heb fod mewn undeb ag unrhyw blaid. Rhyw bum' mlynedd y bu byw wedi Cymdeithasfa Llandilo; gwanhaodd ei iechyd yn raddol, ac ymollyngodd ei gyfansoddiad cryf, eithr daliodd i bregethu ac i efrydu tra y medrai. Er dangos ansawdd ei yspryd, difynwn ranau lythyr a ysgrifenwyd Awst 5, 1796, sef tri diwrnod cyn ei farw, gan ei fab, y Parch. Peter Bailey Williams, Llanrug: "Fy anwyl Frawd,—Yn ol pob ymddangosiad, bydd y post nesaf yn dwyn i chwi hanes marwolaeth fy anwyl dad. . . . . Pregethodd yn Nghaerfyrddin bythefnos i'r Sul diweddaf, ac yn Llanlluan y Sabbath dilynol. Yn y lle cyntaf, pregethodd yn rymus ac effeithiol i gynulleidfa fawr; ac yn y diweddaf, yr oedd yn anmhosibl i'r mwyaf anystyriol ddal dan ei appeliadau difrifol. Ond yr hyn a chwanegai at bruddder yr olygfa oedd, ei fod yn siarad ac yn edrych fel dyn yn marw; ac yr oedd yr holl gynulleidfa yn wylo yn hid wrth feddwl na chaent ei weled byth mwy. Y mae yn parhau i godi yn foreu; neu, gwnai hyny hyd o fewn ychydig ddyddiau yn ol; ac yn dilyn ei efrydiau arferol. Mae yn hynod dduwiolfrydig ei yspryd, ac yn hollol dawel dan ei flinderau. Parhaodd y weddi deuluaidd tra y gallodd dori geiriau. Y Sabbath diweddaf, gofynodd i Bowen, yr hwn oedd yn bresenol, fyned i weddi, gyda dweyd ei fod ef yn analluog, o herwydd diffyg anadl. Tra yr oeddwn yn gallu,' meddai, fy hyfryd waith oedd neshau at orseddfainc y gras.' Ddoe, pan ddygodd fy mam iddo ychydig o lymru a gwin, safodd i fynu i ofyn bendith, er yn gwegian gan wendid, ac heb fod yn ddealladwy iawn cyn hyny, a dywedodd y geiriau canlynol mor eglur ag y clywais ef erioed: Anwyl Arglwydd, gaf fi y fraint o neshau o dy flaen unwaith yn ychwaneg, a llefaru wrthyt, a deisyf dy fendith? Beth a ddywedaf? Rhyfedd wyt ti yn mhob peth, tu yma i golledigaeth ac uffern. Dysg i ni ymostwng i dy ewyllys, a dywedyd gyda'r hen Eli, Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.' Mae fy mam yn drallodedig iawn, ac yn mhell o fod yn iach; ofnaf na bydd iddi fod yn hir ar ei ol. Yr wyf wedi cynyg gwerthu y capel yn Heol-y-dwr, mewn trefn i dalu ei ddyledion. A oes genych ryw wrthwynebiad? Mae y Methodistiaid wedi cynyg £250 am dano. Bydd yr elw oddiwrth y Beiblau mawr yn ddigon i gyfarfod y draul yn nglyn a'r Beiblau bychain; a bydd £200 arall, feallai, yn ddigon i glirio yr oll. Mae wedi gwneyd ei ewyllys yn ffafr fy mam, wrth gwrs; ac wedi gadael y cwbl iddi hi tra y bydd byw, a'r gweddill, ar ei marwolaeth hi, i fyned i David Humphreys a'i blant. Yr wyf wedi gwylio fy nhad nos a dydd er pan ddaethum adref, ac ni chanfyddais erioed agwedd meddwl mwy nefolaidd. Aethum ar fy ngliniau i weddïo ar fy anwyl Iachawdwr,' meddai un diwrnod, ' ond yr oeddwn mor wan, fel mai prin y gallwn godi oddiar fy ngliniau.' Ddiwrnod neu ddau yn ol ymwelodd offeiriad o'r gymydogaeth ag ef, a'r unig ran ddifrifol oedd cyngor i fy nhad i beidio bod yn isel ei feddwl; neu, fel y dywedai ef (yr offeiriad), peidio gadael i'w galon fyn'd i lawr.' Nis gall fyn'd yn mhell, Syr, canys y mae craig o dani,' oedd ateb cyrhaeddgar ac effeithiol fy nhad. Mae fy mhapyr yn fy ngorfodi i derfynu; bydd fy llythyr nesaf, yr wyf yn ofni, yn dwyn newydd drwg."

EGLWYS A MYNWENT LLANDYFEILOG.
[Lle claddedigaeth Peter Williams.]


Nis gallwn sylwi ond ar un neu ddau o bethau yn y llythyr tra dyddorol hwn. Y "David Humphreys" y cyfeirir ato, oedd mab-yn-nghyfraith Peter Williams, a thad y Parch. David Humphreys, Llandyfeilog. Gallem feddwl, gan mai y Methodistiaid a feddianent gapel Llanlluan, ac i Peter Williams draddodi yno ei bregeth ddiweddaf ar y ddaear, ei fod yn ei amser olaf yn cael ei oddef i bregethu yn rhai o gapelau y Cyfundeb. Nis gwyddom yn hollol pa fodd i gysoni yr hyn a geir yn y llythyr parthed capel Heol-y-dwr, a'r adroddiad a roddwyd i'r diweddar Barch. J. Wyndham Lewis gan un o flaenoriaid y lle, sef ddarfod i Peter Williams osod adran i mewn yn ei ewyllys, fod y Methodistiaid i gael y capel, ar yr amod iddynt dalu tri chant o bunau i'w ymddiriedolwyr ef. Modd bynag, naill ai yn ol yr ewyllys, neu ynte trwy gytundeb a'r meibion, cafodd y capel ei werthu i'r Methodistiaid am dri chant o bunau, yn y flwyddyn 1797. Yr oedd yr ymddiriedolwyr cyntaf yn gynwysedig o dri offeiriad, sef y Parchn. Jones, Llangan, Griffiths, Nevern, Davies, Abernant; a thri lleygwr, sef Mri. D. Charles, W. Lloyd, Henllan, a J. Bowen, Tygwyn, Llangunnor.

Dydd Llun, Awst 8, 1796, bu farw Peter Williams, yn 76 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Llandyfeilog. A ganlyn yw ei feddargraff: "Yma y gorwedd gweddillion y Parchedig Peter Williams, yn ddiweddar o'r Gellilednais, yn y plwyf hwn. Cysegrodd ei holl fywyd er dyrchafu ei gydwladwyr, yn dymhorol ac yn ysprydol. I'r amcan hwn, cyhoeddodd dri argraffiad o'r Beibl pedwar plyg yn Gymraeg, gyda sylwadau ar bob penod. Cyhoeddodd hefyd argraffiad o Feibl wyth-plyg, a Mynegair Cymraeg, yn nghyd â nifer o draethodau bychain, gan mwyaf yn Gymraeg; am hyn oll, gellir dywedyd yn gywir na dderbyniodd ond anniolchgarwch ac erledigaeth. Parhaodd i lafurio gyda ffyddlondeb a diwydrwydd fel gweinidog yr efengyl am 53 mlynedd; a bu farw, yn gorfoleddu yn Nuw ei Iachawdwr, Awst 8, 1796, yn 76 mlwydd oed. Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dyoddefaswn; nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; eithr chwi, y rhai oedd felus genym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dy Dduw yn nghyd.'" Diau mai y meibion oedd yn gyfrifol am y beddargraff, a naturiol iddynt oedd cydymdeimlo a'u tad; ond trueni iddynt wneyd mynwent a chareg bedd yn gyfleustra i arllwys allan chwerwder eu hyspryd.

Dywedir yn Methodistiaeth Cymru na ddarfu i fwriad allan Peter Williams effeithio cymaint ar y Cyfundeb ag a allesid ddysgwyl; ac na fu nemawr ymadawiad oddiwrth y Corph o'r herwydd yn un man, er fod teimlad o dosturi ato, a pharch iddo yn gryf yn meddyliau pawb a'i hadwaenai. Diau fod hyn, ar y cyfan, yn gywir. Ac eto, mor bell ag y gallwn ddeall, teimlai y werin, nad oedd yn alluog i ddeall manylion yr ymdrafodaeth, ddarfod i'r hen Esboniwr gael ei drin yn galed. Dyna fel y teimlai llu o'r Methodistiaid, er na ddarfu iddynt fyned mor bell a gadael y Cyfundeb o'r herwydd. Eithr bu un ymadawiad cymharol bwysig yn Mro Morganwg, dan arweiniad Thomas Williams, gwedi hyny, y Parch. Thomas Williams, Bethesda-y-Fro.[5]

Haedda y gŵr hwn air o sylw. Cafodd ei enw[6] mewn amaethdy, o'r enw Trerhedin, yn mhlwyf Pendeulwyn, nid yn nepell o'r Bontfaen, Morganwg. Amaethwr oedd ei dad, ac yr oedd yn gefnog o ran ei amgylchiadau. Yr oedd yn feddylgar a dwys er yn blentyn, a phan yn ddeg oed, ymunodd a'r seiat Fethodistaidd yn Nhrehill. Bu bron cael ei ddigaloni wrth ymuno a'r seiat, am, pan y methai ateb rhyw ofyniad, i arweinydd y cyfarfod, meddir, gynyg ei fod i gael ei anfon allan hyd nes y dysgai ei wers yn well. Eithr ar gynydd yr aeth Thomas Williams. Dechreuodd fynychu y cyfarfodydd gweddi, a'r seiadau, ac ni ystyrid fod unrhyw gyfarfod o'r fath yn Mro Morganwg yn llawn heb ei fod ef yno. Nid annhebyg yr ystyrid ef yn fath o gynghorwr, er nad oes genym wybodaeth ddarfod iddo gael ei gydnabod felly gan Gyfarfod Misol. Yn y flwyddyn 1790, mewn canlyniad i'w briodas, aeth i fyw i Ffonmon, yn mhlwyf Penmarc, a thebygol mai yn Aberddawen yr oedd yn aelod. Cydymdeimlai yn ddwfn â golygiadau Peter Williams; a oedd amryw o'r un syniadau yn seiat Aberddawen, nis gwyddom; ond, bron o'r dechreuad, yr oedd plaid gref yn yr Aberthyn yn tueddu at Sabeliaeth. Pan ddiarddelwyd Peter Williams, darfu i Thomas Williams, a'r rhai yn seiadau y Fro a ymsynient yn gyffelyb, droi eu cefnau ar y Methodistiaid, ac ymffurfio yn blaid ar wahan. Cyfarfyddent i addoli mewn tri o wahanol leoedd, sef tỷ Thomas Williams, yn Penmarc; tỷ ardrethol yn yr Aberthyn, a thŷ arall yn y Brittwn. Buont am rai blynyddoedd heb neb i weinyddu yr ordinhadau iddynt; eithr yn y flwyddyn 1789, dewisasant Thomas Williams yn weinidog, gan ei neillduo i'r gwaith trwy gyfodiad dwylaw yr henuriaid, yn nghyd ag ympryd a gweddi. Ysgrifenydd yr eglwysi oedd John Williams, St. Athan, bardd o radd uchel, ac awdwr y penillion adnabyddus:

"Pwy welaf o Edom yn dod?"

Fel y darfu i ni sylwi, yr oedd Thomas Williams yn edmygydd diderfyn o'r hen Esboniwr; llosgai ei galon ynddo wrth weled y gamwri, yn ei dyb ef, a gaffai gan y Methodistiaid, a phan y bu Peter Williams farw, cyfansoddodd alarnad iddo, yn yr hon y fflangella ei wrthwynebwyr yn llym. Cymerer y penillion a ganlyn yn engrhaifft:

"Dacw ych o lawr y dyrnu,
Wedi myned eto i'r lan;
Hir ddydd gwresog iawn y gweithiodd,
Heddyw safodd yn ei ran;
Fe fu'n nod i saethau lawer,
Darfu hyny, fe aeth trwy,
Ni ddaw rhagfarn nac anghariad
Byth i'r lle mae'n aros mwy.

Peter, mae llyth'renau d'enw
Yn creu hiraeth dan fy mron;
Dyn a gerais, dyn a'm carodd,
Meddwl dy fod dan y don;
Anwyl oeddem yn ein bywyd,
Cu iawn genyf oeddit ti,
A thu hwnt i gariad gwragedd
Oedd dy gariad ataf fi.

Fe chwedleuodd yn dy erbyn
Ddynion rai o ddoniau mawr,
Dynion eraill isel raddau
Geisiodd dynu d'enw lawr;
Ti ge'st wawd oddiwrth bob enw,
Ti ge'st wawd oddiwrth bob dawn,
Plant dy fam edrychent arnat
Megys estron dyeithr iawn.

Ca'dd ei guro, nid mewn cariad,
Gan y cyfiawn is y nen;
Waith eu holew penaf dorodd
Glwyfau dyfnion ar ei ben;
Ond mae'r clwyfau dyfnion hyny,
Heddyw'n holliach yn y nef,
Ga'dd e'n nhy ei garedigion,
Yn mhrydnawn ei fywyd ef.

Cymryd og i ddyrnu ffacbys
Wnaeth dy frodyr (gwyro 'mhell),
Troisant olwyn men ar gwmin,
Pan oedd gwiail lawer gwell;
Geiriau llym fel brath cleddyfau,
Leflwyd atat heb un rhi',
Saethau tân ac arfau marwol
Gym'rwyd i'th geryddu di.

Am wrthod credo Athanasius,
Fel gwnaeth gwyr o ddoniau maith:
Fe siglwyd urn yr hen Sabelius
Yn dy wyneb lawer gwaith;
Cyffes ffydd, a llunio credo,
Gwneyd articlau mawr eu clod,
Magu 'mryson, rhanu eglwysi,
Fu effeithiau rhai'n erioed.

Tithau gym'raist aden c'lomen,
Est o'u swn yn ddigon pell,
Draw i'r dymhestl a'r gwynt 'stormus,
I ardaloedd llawer gwell;
Lle mae myrdd o rai lluddedig,
Fu mewn carchar, fu mewn tân,
Yno'n gorphwys wedi gorphen
Eu cystuddiau mawr yn lân."


Teimlir serch yn treiddio trwy bob llinell o'r alargan, a bu am beth amser yn dra phoblogaidd. Nis gwyddai a amcanai Thomas Williams, a'r rhai a gydymdeimlent ag ef, ffurfio yn blaid wahaniaethol; os gwnaent, trodd yr ymgais allan yn fethiant. Yn mhen amser, ymgydnabyddodd a'r Annibynwyr; ac yn y flwyddyn 1814, derbyniwyd ef, a'r rhai a lynent wrtho, i'r undeb Annibynol holwyd rhywbeth iddynt am eu golygiadau athrawiaethol, nis gwyddom. Yr oeddynt cyn hyn wedi gadael y Brittwn, ac ymsefydlu yn Bethesda-y-Fro. Yr oedd Thomas Williams yn bregethwr o'r melusaf; tuag ugain mynyd, meddir, oedd hyd ei bregeth; ac am y pum' mynyd olaf, byddai yr holl gynulleidfa ar ei thraed fel gallt o goed, gan faint y dylanwad. Ond ni fu yn llwyddianus o gwbl, fel y profa y penillion canlynol, a gyfansoddwyd ganddo gwedi llafur gweinidogaethol o dros ddeng-mlynedd-ar-hugain:

"Deg-ar-hugain o flynyddau,
Bum yn hau trwy hyd y rhai'n,
Syrthio wnaeth yr had gan mwyaf,
Wrth y ffordd, y graig, a'r drain;
Mewn tir da ni syrthiodd nemawr,
Nemawr iawn—fe syrthiodd peth,
Gwlith y nef aroso arno,
Fel nad elo byth ar feth.

O Bethesda anniolchgar,
Ac anghofus iawn o Dduw,
Wedi hau, a hau drachefn,
Braidd eginyn sydd yn fyw;
Mae'r hen frodyr, ond rhyw 'chydig,
Wedi myned draw i dre,
Ac nid oes arwyddion nemawr
Am rai eraill yn eu lle.

O na ddoi rhyw un o'r Gogledd,
Neu o'r Dwyrain, ynte'r Dê,
O'r Gorllewin, neu o rywle,
Ni waeth genyf ddim o b'le;
Ond i'r nefoedd fawr ei anfon,
Heb ei anfon, thal ef ddim,
I Bethesda i bregethu
Gair y bywyd yn ei rym."


Cwestiwn dyddorol ydyw; ydyw; sut y bu gweinidogaeth gŵr, a feddai y fath dalentau dysglaer, mor aflwyddianus? Priodola Dr. Thomas Rees yr aflwyddiant i waith Thomas Williams yn gweinidogaethu i bobl ei ofal yn rhad; a dywed fod eglwys heb gyfranu yn gymaint rhwystr. Diau i lwyddiant ag eglwys ddi weddi. fod rhyw gymaint o wirionedd yn hyn; efallai hefyd fod rhesymau eraill, nas gwyddom ni yn awr am danynt. Bydded y rheswm y peth y bo, aflwyddianus a fu Thomas Williams. Cafodd oes faith; a bu farw Tachwedd 23, 1844, yn 84 mlwydd oed.

Yr ydym wedi aros cyhyd gyda Thomas Williams, oblegyd mai efe oedd yr unig un y gwyddom am dano, o unrhyw enwogrwydd, gyda yr eithriad o'i gyfaill, ac ysgrifenydd ei eglwys, sef John Williams, St. Athan, a ymadawodd a'r Methodistiaid oblegyd diarddeliad Peter Williams, ac a geisiodd ffurfio eglwysi ar wahan. Eithr i ddychwelyd at Peter Williams. Dywedir ei fod o ymddangosiad boneddigaidd ac urddasol, yn tueddu at fod yn dal, ei wynebpryd braidd yn hir, ac liw gwelw; a'i fod bob amser yn drefnus a glanwaith yn ei wisg a'i berson. Meddai gorph cryf, ac yspryd eofn a phenderfynol, ac yr oedd fel pe wedi ei gyfaddasu o ran corph a meddwl ar gyfer sefyllfa Cymru. yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nid oes amheuaeth am ei dduwioldeb, a'i gydwybodolrwydd dwfn. Pa gamgymeriadau bynag a wnaeth, yr oedd ei amcanion yn bur, a'i olwg yn wastad yn syml ar ogoniant Duw, a lles eneidiau. Perarogla ei goffadwriaeth hyd y dydd hwn. Ac er i'r Methodistiaid deimlo ei bod yn ddyledswydd arnynt i dori pob cysylltiad ag ef, teimlent barchedigaeth dwfn iddo, ac i'w goffadwriaeth, ar ol iddo huno. Yn y rhifyn cyntaf o'r Drysorfa Ysprydol, ceir ysgrif arno, o gyfansoddiad y Parch. Thomas Charles, yn ol pob tebyg, yn yr hon nid oes cymaint a gair yn tueddu i'w iselu; eithr yn hytrach, dyrchefir ef fel gwr a fu yn dra defnyddiol. "Yr oedd Mr. Peter Williams," meddai Mr. Charles, "yn rhagori mewn cynheddfau cryfion, corph a meddwl; yspryd gwrol, er hyny, addfwyn a thirion tuag at ei gyfeillion a'i deulu; ac yn ymroddi gyda phob dyfalwch, diwydrwydd, ac egni parhaus yn ngwaith yr Arglwydd. Bu o fendith, y mae lle i obeithio, i lawer o eneidiau, ac yn offeryn i'w troi o'r tywyllwch i'r goleuni, ac o feddiant Satan at Dduw." Dywedai y Parch. John Elias unwaith, pan yn anerch efrydwyr y Bala, iddo ef fod yn pregethu am flynyddoedd, heb feddu un esboniad ar y Beibl, ond eiddo Peter Williams. Ac ychwanegai:[7] Esboniad byr a da ydyw; a dyn da a defnyddiol yn ei oes a fu efe." A gwyddis nad oedd gan Mr. Elias fawr cydymdeimlad a'r rhai a gyfeiliornent oddiwrth y wir athrawiaeth. Ffaith dra arwyddocaol ydyw, fod mwy o hiliogaeth Peter Williams wedi parhau yn aelodau crefyddol yn mysg y Methodistiaid, nag ef eiddo un o'r tadau eraill. Awgryma hyn eu bod i raddau yn argyhoeddedig mai goddefol yn benaf a fu y Cyfundeb yn yr helynt. Nis gallwn orphen ein hysgrif ar yr hen Esboniwr enwog yn well na thrwy ddifynu penil arall o'i farwnad gan Thomas Williams:

"'Nawr yn mynwent Llandyfeilog,
'Nol ei flin siwrneion pell,
Gorphwys mae ei gnawd mewn gobaith
Am yr adgyfodiad gwell.
Y corph gwael ar ddelw Adda,
'R Adda cyntaf aeth i lawr,
A ddihun ar ddelw ei Arglwydd,
Gyda rhyw ogoniant mawr."




HANES Y DARLUNIAU.

Mae y darlun o Peter Williams a gyhoeddir genym yn gopi o'r un a ymddangosodd yn y Beibl Teuluaidd, a wnaed yn Nghaernarfon, ac a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Evan Jones, yn y flwyddyn 1822. Yr oedd cynifer ag wyth argraffiad o Feibl Teuluaidd Peter Williams wedi eu cyhoeddi ganddo ef ei hun, ac o dan nawdd y teulu, cyn yr argraffiad hwn, ond nid oedd darlun o'r awdwr yn yr un o honynt. Nid dan nawdd teulu Peter Williams y cyhoeddwyd argraffiad Caernarfon; ond yn erbyn eu hewyllys, ac yn ddiystyr o wrthdystiad a wnaed ganddynt. Cyhoddwyd amryw argraffiadau o'r Beibl hwn wedi hyny, ond nis gwyddom fod darlun o'r awdwr ynddynt, hyd yr argraffiad a gyhoeddwyd gan William Mackenzie, Glasgow, yn 1868. Darfu iddo ef wneyd darlun mawr o Peter Williams, i'w gyflwyno i'w dderbynwyr fel presentation plate. Darlun i'w fframio ydoedd hwn; a gwelir copiau o hono ar furiau ein haneddau. Gwnawd ef oddiwrth gopi Caernarfon.

Gwelir fod y ddalen ar ba un y mae y darlun yn mynegu fel yma: "From an engraving in the Gospel Magazine, 1777." Ond y mae yn debygol nad oes darlun o Peter Williams i'w gael yn y misolyn hwnw am y flwyddyn hono, nac ychwaith yn y blynyddoedd cyfagos. Nid oes ond un copi o'r misolyn o fewn ein cyrhaedd, sef yr un sydd yn Llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd (British Museum), felly, nid ydym mewn ffordd i sicrhau na chyhoeddwyd ef yn y Gospel Magazine o gwbl. Gall y copi a welsom ni fod yn annghyflawn, a bod y darlun wedi ei gymeryd o hono i ryw bwrpas neu gilydd, ond y mae hyn i fesur yn annhebygol, am nad oes grybwylliad am ddarlun o Peter Williams i'w gael o gwbl yn y Gospel Magazine, mor belled ag y gallasom graffu wrth chwilio. Nid ydym yn alluog i roddi unrhyw eglurhad ar y ffaith hon; y mae hyd yma yn hollol anesboniadwy. Gellir dyfalu llawer, ond nis gellir penderfynu dim.

Gwelir fod y darlun o wneuthuriad celfydd, er nas gellir sicrhau ei fod yn ddarluniad cywir o Peter Williams. Y mae llythyr, a ysgrifenodd ei fab, y Parch. Peter Bailey Williams, i'r Gwyliedydd, yn mhen blynyddau ar ol cyhoeddiad y darlun, yn taflu amheuaeth ar hyn. Dywed fel yma: Nid yw y darlun (portrait) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Beibl Cymraeg, a argraffwyd yn Nghaernarfon, yn debyg i fy mharchedig dad, mewn pryd, na gwedd, na lliw, na llun, na chorpholaeth. Gwelais gynt ddarlun o hono wedi ei dynu yn Nghaerodor (Bristol), yr hwn oedd yn hollol annhebyg i'r un blaenorol; ac yno, yr oedd yn ymddangos mewn gown du a band, a'i wallt yn rhanedig, yn lled debyg i lun Mr. John Wesley, a'i law ddebeu ar y pwlpud, a'i aswy ar ochr ei wyneb, fel y byddai yn arferol wrth bregethu, ac o danodd yr oedd y geiriau hyn: The Rev. Peter Williams, of Carmarthen, Chaplain to the Countess of Huntington." Ac nid yw disgynyddion Peter Williams drwy y blynyddoedd yn credu yn nghywirdeb darlun Caernarfon.

Yn y flwyddyn 1823, blwyddyn ar ol ymddangosiad argraffiad Caernarfon, yn nghyd â darlun Peter Williams, ymddangosodd argraffiad o'r Beibl Teuluaidd gan Henry Fisher, o Lundain. Yn hwnw, ceid darlun o'r Parch. Peter Bailey Williams, Rector of Llanrug and Llanberis, sef un o feibion Peter Williams, gyda nodiad fel yma: "Gan nad oedd yn ddichonadwy gan y cyhoeddwyr gael darlun o'r awdwr, y maent yn deisyf cenad i anrhegu eu tanysgrifwyr ag un o'i fab, y Parch. Peter Bailey Williams, o Lanrug, swydd Gaernarfon, yr hwn, fel yr ydym wedi clywed, sydd yn dwyn tebygolrwydd agos i'w ddiweddar dad parchus." Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn, y mae'n ymddangos, dan nawdd teulu Peter Williams, a gwneir i ddarlun Peter Bailey i wasanaethu yn lle darlun Peter Williams, naill am nad oedd ganddynt ddarlun o hono o gwbl, neu ynte, am nad oedd ganddynt ddarlun o hono ag yr oeddynt hwy yn eu hoffi.

Y mae tebygrwydd neillduol rhwng y darlun o Peter Williams, a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Evan Jones, Caernarfon, a'r un a gyhoeddwyd o'i fab, Mr. Peter Bailey Williams, gan Mr. Henry Fisher, yn Llundain. Pe buasai darlun Peter Bailey wedi ymddangos flwyddyn o flaen ei dad, ac nid ar ei ol, buasem yn cael ein tueddu i feddwl fod Mr. Lewis Evan Jones wedi gwneyd darlun o Peter Williams trwy gymeryd ei fab yn gynllun, a'i ddiosg o'i ddillad clerygol—y gown a'r band; ond gan mae fel arall y bu, yr oedd gwneyd felly yn anmhosibl.

Gwnaethom bob ymchwiliad dichonadwy i gael copi o'r darlun a wnaed o Peter Williams yn Mhristol, fel y tystiolaethir gan ei fab, ond nid ydym wedi llwyddo.

Dichon, gyda threigliad amser, y deuir i fwy o sicrwydd nag sydd genym yn bresenol o barth i hanes ag awduraeth darlun Peter Williams; hyd hyny, rhaid ymfoddloni ar y darlun a gyflwynwyd i ni gan Mr. Lewis Evan Jones, o Gaernarfon.

Y mae y darluniau eraill sydd yn y benod hon yn egluro eu hunain.

Nodiadau

golygu
  1. Gwel |Y Tadau Methodistaidd, tudal. 350.
  2. Methodistiaeth Cymru.
  3. Ibid.
  4. Methodistiaeth Cymru
  5. Traethodydd, Mai, 1894, tudal. 145
  6. sic. ?eni?
  7. Llythyr oddiwrth yr Hybarch John Jones, Ceinewydd.