Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Harris–Gwedi Yr Ymraniad

Yr Ymraniad Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Peter Williams

PENOD XVII
HOWELL HARRIS–GWEDI YR YMRANIAD

Howell Harris yn gosod i lawr sylfaen yr adeilad newydd yn Nhrefccca–Ei afiechyd difrifol–Anerchiad pwysig yn y "Cynghor"— Anfon milwyr i'r fyddin– Harris yn gadben yn y milisia–Ei lafur yn Yarmouth a manau eraill. Gostegu y terfysgwyr yn Nghymdeithasfa Llanymddyfri–Blwyddyn ei Jiwbili–Anfon at Rowland, yn Llangeitho, i ofyn am undeb–Y ddau yn cyfarfod yn Nhrecastell– Harris yn teithio yn mysg y Methodistiaid Cymdeithasfa eto yn Nhrcfecca, gwedi tair blynedd–ar–ddeg–Cymdeithasfa Woodstock–Amryw Gymdeithasfaoedd eraill Coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefccca—Isaf–Ymweliadau y Methodistiaid a Threfccca–Terfyn oes Howell Harris.

YMDDENGYS fod gwneyd Trefecca yn rhyw sefydliad crefyddol pwysig yn syniad oedd wedi cael lle yn meddwl Harris er ys blynyddoedd, er nad oedd ganddo weledigaeth eglur, mewn modd yn y byd, parthed ei natur, a'i ffurf. Yr oedd yn adeiladu yno er ys cryn amser, a hyny heb wybod yn iawn i ba bwrpas. Yn awr, gwedi yr ymraniad, dyma y meddylddrych yn cymeryd ffurf bendant. Dywed yn ei ddydd-lyfr fod Trefecca y lle mwyaf canolog a ellid gael; ei fod yn gorwedd yn y canol rhwng Caerfyrddin a Chaerloyw; a rhwng Bryste a LlanfairCareinion; ac mai agos yr un faint o ffordd oedd oddiyno i Dregaron, Llanidloes, Casnewydd, Caerdydd, Llantrisant, Castellnedd, ac Abertawe. Ar y 13eg o Ebrill, 1752, gosododd i lawr sylfaen darn newydd o adeilad, eangach, a mwy golygus, na'r adeilad blaenorol. Nid oedd ganddo arian o gwbl at y gwaith, na dim i syrthio yn ol arno, wrth wynebu ar yr anturiaeth, ond addewidion y digelwyddog Dduw. Er holl lafur Howell Harris, a'i ymdrechion difesur, nid oedd wedi cael fel ffrwyth i'w lafur, mor bell ag y mae aur ac arian yn myned, ond prin digon i gynal ei hun a'i deulu. Cawn ef yn dweyd droiau, er nad mewn ffordd o achwyniad, ei fod ef yn llymach ei wisg na neb, a bod ei geffyl yn waelach. Yn bur fynych yr ydym yn ei gael mewn dyled, ac mewn pryder mawr am gael swm o arian i gyfarfod â rhyw ofyn oedd arno. Er hyn oll, y mae yn anturio ar waith a gostiai filoedd o bunoedd, heb geiniog y tu cefn. Tranoeth, wedi gosod i lawr y sylfaen, cychwynodd am Lundain, a dywed iddo adael ar ol yn Nhrefecca un-ar-bymtheg o weithwyr, tair o fenywod, a phedair yn rhagor i ddyfod yn fuan. Gorchymynodd hwy i'r Arglwydd wrth ymadael, gan ddweyd ei fod yn ei adael ef yn ben arnynt.

Yn haf 1752, cymerodd dau amgylchiad pwysig yn nglyn à Howell Harris le. Un oedd marwolaeth Madam Griffiths, yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ar y dydd olaf o Fai. Galarodd ef yn fawr ar ei hol, meddyliodd fod ei hymadawiad yn golled. anadferadwy i'r gwaith; ond y mae yn sicr ddarfod i'w marwolaeth brofi yn fendith iddo, gan ei bod, tra y bu mewn cysylltiad ag ef, yn un o'r elfenau a ddylanwadodd gryfaf i wenwyno ei yspryd. Y llall oedd iddo gael ei daro i lawr gan afiechyd difrifol, y tybiai ef a fyddai yn angeuol iddo. Ffrwyth gorlafur oedd hwn. Er cadarned cyfansoddiad Harris, ac er gwydnwch ei natur, nis gallasai cnawd ddal yr holl lafur, y lludded, a'r teithio yr aethai trwyddynt, heb dori i lawr. Yn arbenig, y ddwy flynedd ddiweddaf, gwedi yr ymraniad, nid oedd ganddo neb o gyffelyb feddwl iddo ei hun i fod yn gynorthwy iddo, ac felly, yr oedd yr holl faich yn dod i bwyso arno ef. Mordeithiau Whitefield, yn y rhai y caffai seibiant oddiwrth ei lafurwaith dibaid, a gadwodd y gŵr enwog hwnw cyhyd yn iach ac yn gryf. Erbyn Gorph. 28, 1752, yr oedd un adran o'r adeilad yn barod, ac yr oedd Cynghor wedi cael ei drefnu i gyfarfod y pryd hwnw yn Nhrefecca, er gwneyd math o agoriad ar y lle, yn gystal ag er trefnu materion. Sal enbyd oedd Howell Harris; tybiai ef ei fod ar groesi yr Iorddonen; eto, mynai ymlusgo i'r Cynghor y naill ddiwrnod ar ol y llall, er anerch y pregethwyr cynulledig. Cyfranogai ei anerchiadau o ddifrifwch byd arall. "Yr wyf yn ffarwelio â chwi am dragywyddoldeb," meddai; "nid wyf yn dysgwyl gweled eich wynebau mwy. Yn ngwaed y Duwdod yn unig y mae fy mae fy hyder, ac eto yr wyf wedi eich galw, gan ddatgan fy serch angerddol at bawb sydd yn dyfod ato. Y chwi, sydd wedi myned yn ol, gadewch i mi yn fy marwolaeth wneyd yr hyn y methais ei gyflawni yn ystod fy mywyd, sef eich cyffroi i ddyfod yn mlaen, gyda phalmwydd yn eich dwylaw, fel y dysgleirioch am byth gerbron yr orsedd. Y mae gwaed Crist yn golchi oddiwrth bob pechod. Er fod Satan wedi eich dallu ac wedi eich caledu, dewch at y ffynhon hon, a chwi a orchfygwch, ac a gyfarfyddwch â Duw. O na allwn beri i'r holl greadigaeth fy nghlywed! Mi a'u hanfonwn oll at y ffynhon. Gadewch i mi eich cyfarch o ymyl tragywyddoldeb. Deuwch at y groes; chwi a welwch yno bob rhyfeddod, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan, y Tri yn Un, yn llewyrchu arnoch. Gadewch i mi ymadael mewn gobaith cryf y caf eich cyfarfod gerbron yr orsedd." Wrth draddodi yr anerchiad hwn bu agos iddo lewygu, a'i gario a gafodd yn ei ol i'w ystafell. Rhaid ei bod yn olygfa i'w chofio byth. Cofnodir fod rhai yn bresenol ar yr achlysur o bob sir yn Nghymru, oddigerth Aberteifi a Fflint.

Ond yn wrthwyneb i'w ddysgwyliadau, gwellhaodd yn raddol. Mor fuan ag y daeth yn abl, dechreuodd bregethu i'r gweithwyr, ac i'r rhai oedd wedi dyfod i Drefecca i fyw, dair gwaith yn y dydd. Canlyniad hyn ydoedd i ddynion ymgynull yno o bob parth o'r wlad; rhai teuluoedd cyfain; ond yn benaf dynion dibriod, yn feibion ac yn ferched, y rhai a dybient ei bod yn ddyledswydd arnynt i ymroddi i wasanaeth yr Arglwydd. Nid oedd ef wedi dysgwyl am ddim o'r fath. Lle i ryw haner dwsin o deuluoedd, a nifer o bregethwyr sengl, yn nghyd ag ychydig ferched i weini arnynt, oedd ef yn olygu wrth osod i lawr sylfaen yr adeilad. Eithr yr oedd bob amser yn ymddyrchafu goruwch ei anhawsderau, a chawn ef yn awr yn prysuro i helaethu ei dŷ, ac yn codi tai o gwmpas, nes ffurfio yno bentref. Daeth amaethwyr crefyddol, hefyd, i'r gymydogaeth, gan gymeryd y tiroedd o gwmpas ar ardreth, neu eu prynu, er mwyn bod yn ddigon agos i fwynhau y breintiau. crefyddol oedd i'w cael yno. Cyn pen blwyddyn a haner, yr oedd "teulu" Trefecca yn rhifo dros gant, y rhai a ddaethent yno o bob sir yn Nghymru braidd. Cyn ymuno a'r "teulu," yr oedd yn rhaid i bawb gyflwyno yr oll a feddent i'r drysorfa gyffredin. Ac yr oedd rhai yn dra chyfoethog; ond diau fod y rhan fwyaf yn dlodion, ac felly, disgynodd y baich o gynal y teulu mawr hwn ar ysgwyddau Howell Harris yn gyfangwbl. Cymerodd yntau dir i'w amaethu, mynodd wlan i'r merched i'w nyddu a'i wau, a daeth Trefecca yn ganolbwynt amryw fathau o ddiwydrwydd. A gofalodd Duw am danynt, fel na welsant eisiau dim. "Bum yn fynych mewn pryder," meddai, "ac eisiau ugain neu gant punt o arian arnaf, heb wybod pa le i droi am danynt, a'r Arglwydd heb estyn ymwared hyd y pwynt diweddaf; ond bob amser daeth ymwared, a hyny fynychaf o gyfeiriad nad oeddwn yn ddysgwyl. Anfonid deg, ugain, ac weithiau gan' punt i mi, gan bersonau yn byw ugeiniau o filltiroedd o bellder, heb un rheswm, ond fod rhyw orfodaeth arnynt nas gwyddent ei natur. Digwyddodd hyn i mi lawer gwaith." Nid oedd. dim i attynu y diog na'r mursenaidd i Drefecca. Yr oedd yr holl deulu tan ddysgyblaeth lem, ac yn gorfod byw ac ymarweddu yn mhob dim wrth reolau manwl. Caled oedd yr ymborth, a garw oedd y gwisgoedd, a gofynai dysgyblaeth y lle am hunanymwadiad mawr. Nid Howell Harris oedd y dyn i hulio bwrdd â danteithion, ac i roddi achles i segurdod a diofalwch; nid oedd erioed wedi ymroddi i'r cyfryw bethau ei hun, ac nid oedd am eu darpar i eraill. Ond yr oedd un peth yn y lle, mwy ei werth na phob peth daear yn ngolwg y bobl ddysyml oedd wedi ymgynull yno, gwerth aberthu cysuron naturiol er ei fwyn; yr oedd efengyl Crist yn cael ei phregethu yno yn ei phurdeb; yr oedd bara y bywyd yn cael ei ranu yn dafellau mawrion gyda chysondeb difwlch. Meddai Williams, yn ei farwnad:

"Ti fuost ffyddlon yn dy deulu,
Llym yn dy adeilad mawr,
Ac a dynaist flys ac enw,
A gogoniant dyn i lawr.

Ac ti wnest dy blant yn ufudd
At eu galwad bob yr un,
Byw i'th reol, byw i'th gyfraith,
Byw i'th oleu di dy hun;


Fel na fedr neb yn Nghymru,
Trwy na chleddyf fyth na ffon,
Ddod â thy, o'r un rhifedi,
Tan y dymher hyfryd hon.

Y mae gweddi cyn y wawrddydd
Yn Nhrefecca ganddo fe,
'R amser bo trwm gwsg breuddwydlyd
Yn teyrnasu yn llawer lle;

A chyn llanw'r bol o fwydydd,
Fe geir yno gynghor prudd,
A chyn swper, gweddi a darllen—
Tri addoliad yn y dydd."

Parodd cyfodiad yr adeilad, a sefydliad y teulu, yn Nhrefecca, i liaws o chwedlau anwireddus gael eu taenu ar led yn Nghymru. Awgrymid mai amcan y Diwygiwr oedd ymgyfoethogi ar drau y bobl oludog a hudai i'r lle, a gwneyd arian trwy eu llafur a'u diwydrwydd. Nid oedd un sail i'r chwedlau hyn. Pa beth bynag oedd ffaeleddau Howell Harris, nid oedd gwanc am gyfoeth, nac anrhydedd daearol, yn un o honynt. Ar yr un pryd, nid oedd yn gwbl rydd o roddi achlysur i ddrwgdybiaeth. Pan fyddai pobl gyfoethog, yn arbenig os mai merched ieuainc a fyddent, yn bwrw yr oll a feddent i'r drysorfa gyffredin yn Nhrefecca, yr oedd yn naturiol i'r perthynasau a ddysgwylient elwa oddiwrth eu meddianau mewn rhyw ffordd neu gilydd, fyned yn chwerw eu teimlad, a hau eu drwgdybiau ar led. A chwedi i'r meddiant gael ei fwrw i mewn, nid heb anhawsder dirfawr y gellid ei gael allan drachefn, hyd yn nod pan fyddai yr amgylchiadau yn cyfreithloni hyny. Fel esiampl, gallwn gyfeirio at helynt Miss Sarah Bowen, un o'r ddwy chwaer o'r Tyddyn, yr hon oedd yn meddu cryn gyfoeth, ac fel pawb a ddeuent i Drefecca a'i rhoddasai oll i'r sefydlaid. Un diwrnod, daeth Mr. Simon Lloyd, o Plasyndref, Bala, i'r lle, mewn rhan, feallai, o gywreinrwydd, ac mewn rhan er cael budd ysprydol i'w enaid. Wedi iddo guro, pwy agorodd y drws iddo ond Miss Bowen. Rhedodd serch y boneddwr ar y ferch ieuanc ar unwaith; a chan iddo allu ei denu hithau i gyfranogi o'r unrhyw deimlad, gwnaeth y ddau drefniadau i briodi. Ond sut i gael meddianau y foneddiges yn ol oedd yr anhawsder. Bu yn gryn helynt yn nghylch y peth; daeth John Evans, y pregethwr adnabyddus o'r Bala, yn ei un swydd i Drefecca, i gyfryngu, ac wedi tipyn o ddadleuaeth, llwyddwyd i wneyd gweithred briodas foddhaol, yr hon sydd ar gael hyd y dydd hwn.

Tua'r flwyddyn 1756, yr oedd y deyrnas yn llawn cyffro o ben bwy gilydd iddi gan ofn y byddai i'r Ffrancod geisio croesi trosodd i ddarostwng Prydain. Yr oedd Howell Harris yn deyrngar hyd ddyfnder ei yspryd; credai fod crefydd, yn ogystal a gwleidlywiaeth, yn galw arno i bleidio y Brenhin Sior; ac nid oedd mewn un modd yn amddifad o yspryd rhyfelgar. Dan ddylanwad y cyffro, darfu i Gymdeithas Amaethyddol Brycheiniog gyflwyno anerchiad i'r brenhin, yn cynyg ymffurfio yn gatrawd o feirch-filwyr ysgeifn, a myned ar eu traul eu hunain i unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol y gelwid am eu gwasanaeth. Pan glywodd Harris am y peth, anfonodd at y gymdeithas, y gwnai efe, os derbynid eu cais, godi deg o feirch-filwyr mewn llawn arfogaeth, ar ei draul ei hun, i fod yn ychwanegiad at y gatrawd. O herwydd rhyw resymau, ni dderbyniwyd cynygiad gwladgarwyr Brycheiniog, ond darfu i'r gymdeithas gydnabod ei rhwymedigaeth i Harris trwy ei ethol yn aelod anrhydeddus o honi. Yn fuan gwedi hyn rhoes fater y rhyfel gerbron y teulu yn Nhrefecca, ac mewn canlyniad, ymrestrodd pump o wyr ieuainc crefyddol i'r fyddin. Buont mewn amryw frwydrau poethion; cymerasant. ran yn enilliad Quebec oddiar y Ffrancod, pan laddwyd y Cadfridog Wolf. Tra y syrthiai eu cydfilwyr yn feirwon o'u cwmpas, yr oedd rhyw amddiffyn dros filwyr Harris, ac ni laddwyd cymaint ag un o'r pump. Bu pedwar o honynt feirw o farwolaeth naturiol mewn gwledydd tramor, a dychwelodd y pumed yn ei ol i Drefecca, ar ol cael ei gymeryd yn garcharor gan y Ffrancod, lle yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth.

Tua gwanwyn y flwyddyn 1760, yr ydym yn cael Howell Harris, tan ddylanwad cymhellion ei frawd, Joseph, ac aelodau Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, yn ymuno a'r milisia, ac yn dwyn gydag ef o deulu Trefecca bedwar-ar-hugain o wŷr. Yn bur fuan, rhoddwyd iddo gomisiwn fel cadben. Ar un olwg, peth syn oedd canfod efengylwr, fel Harris, yn troi yn filwr; ond ystyriai efe fod Protestaniaeth yn y chwareu; credai, os yr enillai y Ffrancod y dydd, y deuai Pabyddiaeth yn oruchaf, ac y cai y Beiblau eu halltudio o'r wlad mewn canlyniad. Teimlai ei fod yn gwasanaethu ei Dduw lawn mor wirioneddol wrth afaelu yn y cledd, ag y gwnelai gynt wrth deithio o gwmpas i bregethu yr efengyl. Cyn myned, gosododd y sefydliad yn Nhrefecca yn nwylaw ymddiriedolwyr hyd oni ddychwelai, a phenododd Evan Moses i fod yn llywodraethwr yn ystod ei absenoldeb. Brodor o Aberdar oedd Evan Moses, a dyn annysgedig, ond tra difrifol, ac yr oedd ei barchedigaeth i Howell Harris yn ddiderfyn. Y lle cyntaf yr anfonwyd y milisia iddo oedd Yarmouth, ac ar ei ffordd yno, pregethai Harris yn mhob man. Wedi cyrhaedd y dref, holodd ai nid oedd Methodistiaid yno? Hysbyswyd ef ddarfod i amryw wneyd ymgais i bregethu yno, ond iddynt gael eu rhwyso gan gynddaredd y werinos, ac mai yn brin y dihangasant a'u bywyd ganddynt. Yn ddiegwan o ffydd, anfonodd griwr y dref allan i roddi rhybudd y byddai pregethwr Methodistaidd yn llefaru yn y farchnadfa ar awr benodol. Yno yr ymgasglodd tyrfa anferth, gyda cherig, a darnau o briddfeini, a llaid, i'w hyrddio at y pregethwr, pan ddeuai, a thyngent y gosodent derfyn ar ei hoedl. Yr oedd Harris ar y pryd yn peri i'w ddynion fyned trwy ryw ymarferiadau milwraidd, ar lecyn oedd yn ymyl. Pan ddaeth awr y cyhoeddiad i fynu, aeth at y dyrfa, a gofynodd beth oedd y mater. Atebasant eu bod yn dysgwyl pregethwr Methodistaidd, a bod yn dda iddo na ddaeth. Dywedodd yntau yn ol fod yn drueni iddynt gael eu siomi, ac y gwnai ef ganu emyn gyda hwy, a myned i weddi, ac hefyd roddi gair o gyfarchiad. Aeth i ben bwrdd oedd wedi ei osod yn ymyl; ymgasglodd ei wŷr o'i gwmpas; canwyd nes adseinio y farchnadfa, a gweddïodd yntau yn ganlynol gyda nerth dirfawr. Yr oedd newydd-deb yr olygfa, y gwŷr arfog oedd o gwmpas i amddiffyn eu cadben, y rhai a ddywedent Amen yn uchel, yn nghyd â rhyw ddylanwad dwyfol oedd yn y lle, wedi trechu y dorf, fel cafodd Harris bob llonyddwch i bregethu. A chafodd odfa nerthol iawn; disgynodd y fath ddylanwadau ar y werin fel yr argyhoeddwyd amryw ar y pryd. Bob prydnhawn, braidd yn ddieithriad, pregethai yn y farchnadfa i dorf anferth, yn ei wisgoedd milwraidd. Yn raddol, daeth pregethwyr eraill yno, ffurfiwyd seiat gref a lliosog, a daeth Yarmouth mor enwog am ei chrefyddolder ag oedd yn flaenorol am ei hannuwioldeb.

Y gauaf canlynol, cafodd y milisia eu gorchymyn i Aberhonddu, ac aeth Cadben Harris i bregethu i amryw leoedd, fel yr arferai gynt. Ymddengys, hefyd, fod teimladau llawer caredicach yn ffynu yn awr rhyngddo ef a Rowland a'i blaid; yr oedd y ddwy ochr wedi dyfod i deimlo ddarfod iddynt gamddeall eu gilydd, mai ymryson yn nghylch geiriau oedd y cweryl a fuasai rhyngddynt, i raddau mawr; a bod y naill a'r llall wedi cyfeiliorni oddiwrth frawdgarwch yr efengyl. Teimlai y Methodistiaid eisiau gwroldeb a medr trefniadol y Diwygiwr o Drefecca yn eu cyfarfodydd. Yn y flwyddyn 1759, yr oeddynt wedi myned mor bell ag anfon cenadwri ato i geisio ganddo ddychwelyd; a chariwyd y genadwri i Drefecca mewn llythyr gan Daniel Rowland yn bersonol. Ni welai efe ei ffordd yn rhydd ar y pryd i gydsynio, ond diau i'r cais effeithio yn ddirfawr ar ei yspryd. Tybir mai yr adeg hon, pan yr oedd y milisia yn Aberhonddu, y digwyddodd yr helynt yn nglyn à Chymdeithasfa Llanymddyfri. Y traddodiad yw iddo unwaith, wrth fyned tua thref Llanymddyfri, gyfarfod a Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a nifer o gynghorwyr, yn dianc oddiyno am eu bywyd, wedi methu cynal Cymdeithasfa oblegyd terfysg ac erledigaeth y werinos. Ceisiodd yntau ganddynt ddychwelyd gydag ef. Wedi cyrhaedd y dref, esgynodd i ben y gareg farch, a wasanaethai fel pwlpud, a chan edrych fel llew ar y terfysgwyr, gwaeddodd: "Gosteg, yn enw Brenhin y nefoedd!" Ni effeithiodd ei floedd ddim ar y dorf, rhegent a bygythient fel cynt. Ar hyny, diosgodd ei wisg uchaf, nes yr ymddangosai ei ddillad milwraidd, a bloeddiodd: "Gosteg, yn enw y Brenhin Sior!" Dychrynwyd y dorf gan y gwisgoedd swyddogol; aethant yn fud ac yn welw; teyrnasodd dystawrwydd hollol trwy y lle, a chymerodd yntau fantais ar y cyfleustra i ddanod iddynt fod arnynt. fwy o ofn brenhin Lloegr nag oedd arnynt o ofn Duw. Wedi hyn, cafodd y Methodistiaid berffaith lonyddwch i gynal eu Cymdeithasfa.

Yn mis Rhagfyr, 1762, ymwasgarodd y milisia yn Aberhonddu, a rhoddodd Harris ei gomisiwn fel cadben i fynu. Yr oedd wedi enill iddo ei hun ganmoliaeth nid bychan trwy ei wladgarwch a'i ddewrder; teimlid parch diffuant ato gan fonedd Brycheiniog, a chawn yn awr yr efengylydd distadl, a fygythid gynt â dirwy ac â charchar, a'r hwn yr oedd uchel reithwyr y sir wedi dwyn achwyn yn ei erbyn gerbron un farnwyr ei Fawrhydi, yn uchel yn ffafr y rhai a'i herlidient. Yr oedd ei wŷr wedi ymddwyn yn y modd mwyaf canmoladwy. Ysgrifenai Syr Edward Williams, milwriad y gatrawd, ato fel y canlyn: "Cadben Harris—Nid oes genyf hamdden i wneyd tegwch ag ymddygiad eich gwŷr, ond gallaf eich sicrhau, ar fyr eiriau, fod eu buchedd yn adlewyrchu anrhydedd ar yr egwyddorion crefyddol y darfu i chwi gymeryd cymaint o drafferth i'w hyfforddi ynddynt."

Ar y 23ain o Ionawr, 1763, yr oedd Howell Harris yn dechreu ar ei haner canfed flwyddyn, yr hon a eilw yn flwyddyn ei Jiwbili. Erbyn hyn, yr oedd ei yspryd yn dyheu o'i fewn am undeb a'i hen gyfeillion; ac anfonasai Evan Moses, ei ben gwas, bedwar diwrnod cynt, gyda llythyr at Daniel Rowland, Llangeitho, yn gofyn am ail uno. diaufod Rowland ac yntau wedi trin y pwnc yn flaenorol, pan alwodd y blaenaf arno gyda llythyr y brodyr, a'i fod yn gwybod fod y Diwygiwr o Langeitho yn coleddu y cyffelyb deimlad ag yntau, onide ni fuasai yn anfon ei was gyda'r fath genadwri. Yr oedd yn amser braf ar Gymru yr adeg hon. Ar ol blynyddoedd o falldod ac o sychder dirfawr, torasai diwygiad allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762, gyda dyfodiad hymnau Williams, Pantycelyn, yr hwn a ymledodd dros yr holl wlad, nes yr oedd y pentrefydd a'r cymoedd yn adsain gan foliant; a diau i'r gwres nawsaidd doddi ysprydoedd y Diwygwyr, a'u dwyn i deimlo yn gynhes at eu gilydd. Ar y 30ain o Ionawr, cafodd lythyr oddiwrth Evan Moses, yn ceisio ganddo gyfarfod â Daniel Rowland, yn Nhrecastell-yn-Llywel y dydd Mercher canlynol. Ymddengys fod Rowland yn myned y pryd hwnw i Gyfarfod Misol a gynhelid yn Llansawel. "Pan y darllenais," meddai Harris, "teimlwn yn llawen tu hwnt fod yr Arglwydd yn agor drws o ddefnyddioldeb i mi. Yr oeddwn wedi clywed am y bywyd oedd yn eu mysg, ac am eu llwyddiant; a'm hunig ofn ydoedd rhag i mi, trwy fy hunanoldeb a'm pechod, ddwyn melldith arnynt. Darostyngwyd fi; yr oeddwn mor rhydd oddiwrth eiddigedd fel y bendithiwn Dduw am eu cyfodi, ac y dymunwn ar iddynt beidio cyfranogi o angau gyda mi, ond i mi gael cyfranogi o'u bywyd hwy. Gwnaed fi yn llawen yn y gobaith o gael myned i'w mysg eto." Gwelir fod ei syniadau am Rowland a'i ganlynwyr wedi newid yn hollol, a bod yspryd newydd wedi ei feddianu. Cychwynodd i Drecastell i gyfarfod Rowland, ond yr oedd dirfawr bryder yn llanw ei fynwes, rhag iddo fod yn anffyddlawn i'w Dduw y naill ffordd neu y llall. Am y dull y cyfarfyddodd Rowland ac yntau, ni ddywed air; ond sicr yw yno wasgu dwylaw cynhes, os nad oedd yno gofleidio a thywallt dagrau. Gwasgodd Rowland arno am fyned gydag ef i'r Cyfarfod Misol i Lansawel, dywedai mai dyna ddymuniad y bobl gyffredin, yn gystal a'r eiddo yntau. Yr oedd Harris, yn y rhagolwg y gwnelid y fath gais ato, wedi penderfynu gwrthod; ond aeth cymhellion ei gyfaill yn drech nag ef, ac ar ol gwneyd y peth yn fater gweddi, cafodd fod yr Arglwydd yn foddlawn. Boreu dranoeth,. cychwynodd y ddau yn nghyd, a chyrhaeddasant Lansawel o gwmpas chwech. Yno cyfarfyddasant à Williams, Pantycelyn, Peter Williams, a llu o gynghorwyr. "Yr oeddwn wedi clywed," meddai, “am yr yspryd canu oedd wedi disgyn yn ngwahanol ranau Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, ac am y canoedd oedd yn ymgynu i wrando. Agorodd yr Árglwydd fy ngenau i lefaru, na ddylem dderbyn na gwrthod yr arwyddion allanol hyn, ond y dylem eu barnu wrth eu dylanwad ar y galon, a'r bywyd, ac yn arbenig wrth chwilio a oeddent yn cynyrchu tlodi yspryd." Cyfeiriodd yn ei anerchiad, hefyd, at lyfr Williams, Pantycelyn, sef, Pantheologia, neu hanes holl grefyddau y byd, a chanmolodd ef fel llyfr tra buddiol. Y noswaith hono, lletyai Williams ac yntau yn yr un tŷ, a buont i lawr hyd ddeuddeg o'r gloch. "Addefai Williams," medd Harris, "ei ofid o herwydd iddo fy ngwrthwynebu gynt, ac eglurodd y modd yr arweiniwyd ef yn ganlynol i bregethu ac i argraffu yr athrawiaeth a wrthwynebasai. Dywedai, yn mhellach, mai myfi oedd ei dad." Diau fod y gymdeithas yn felus odiaeth. Y nos hono, wedi myned i'w wely, cymerwyd Harris yn glaf gan boen enbyd yn ei goluddion; nid annhebyg mai cyffro ei deimladau, a'i orlawenydd o herwydd cael ei hun unwaith drachefn yn mysg ei frodyr, oedd achos y selni. Yr oedd yn dra eiddil dranoeth, ond aeth i fysg y cynghorwyr, a siaradodd wrthynt yn faith ac yn ddifrifol. Yn mysg pethau eraill, dywedodd wrthynt am iddynt wylio yr yspryd canu oedd yn ffynu, rhag iddo ddiflanu, neu ynte roddi achlysur i'r cnawd. Cynghorai hwy, yn mhellach, i beidio ymgymysgu gormod a'u gwrandawyr, ond ar iddynt, wedi pregethu, ymneiliduo. Yna, gwnaed iddo bregethu yn y capel, yr addoldy y buasai ef yn benaf yn offerynol i'w godi, ac y casglasai trwy Gymru tuag ato. Ei destun oedd, Zechariah xii. 10: "A thywalltaf ar dŷ "A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau." Nis gallwn gofnodi y bregeth, ond cafodd odfa wrth ei fodd. Y noswaith hono, dychwelodd i Lanymddyfri, ac y mae ei brofiad boreu dranoeth yn haeddu ei groniclo: "Dychwelais yma neithiwr, wedi cael y gwahoddiadau taeraf i fyned i Gastellnedd, Cilycwm, Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, gan Rowland, William Williams, Thomas Davies, John Williams, ac eraill. Yr wyf yn cael fod y cynghorwyr wedi cael eu gosod ar fy nghalon fel fy mhlant. Yn sier, dyma flwyddyn y Jiwbili! Y mae yr amser wedi dyfod; cysgodau rhagfarn ydynt yn cilio; yr hen gariad a'r symlrwydd ydynt yn dychwelyd, ac ymddengys fod y pethau a rwystrent gynt wedi cael eu symud. Y mae yr yspryd canu yma sydd wedi disgyn yn ymddangos yn hollol rydd oddiwrth yr ysgafnder, a'r hunan, a welid yn nglyn a'r diweddaf. Ac wrth weled cynifer o leoedd newydd wedi cael eu cychwyn ganddynt hwy, a dim un genyf fi, teimlwn ei fod yn anrhydedd cael myned i'w mysg, a chysur i mi yw gweled fod fy lle, a'm gwaith, a'm pobl gynt, yn cael eu cynyg i mi eto, gwedi ymraniad o dair-blynedd-ar-ddeg."

Ni phasiwyd unrhyw benderfyniad ffurfiol yn Llansawel gyda golwg ar ailuniad Howell Harris a'r Methodistiaid, ond cawsai ei wahodd yn y modd mwyaf caredig i ddyfod i'w mysg fel cynt, a theflid pob drws yn agored iddo. Ar y 18fed o Fawrth, 1763, cychwynodd am daith fer i ranau o Sir Gaerfyrddin, a Sir Aberteifi. Y lle cyntaf y pregethodd ynddo oedd Cilycwm, cartref crefyddol Williams, Pantycelyn. Ar y maes y cedwid yr odfa, oblegyd lliosogrwydd y dorf; y testun oedd: "Chwiliwch yr Ysgrythyrau;" pregethodd am ddwy awr a haner, gyda nerth a dylanwad arbenig; ac yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a ddirmygent neu a esgeulusent Air Duw. Wedi yr odfa, aeth drachefn i'r capel i gadw seiat; yr oedd rhai canoedd yno, ac anogodd hwynt oll i weddi. Ciniawodd gyda chuwrad yr eglwys, Williams, Pantycelyn, ac amryw o'i hen gyfeillion, nad oedd wedi eu gweled er adeg yr ymraniad, ac yna aeth i'w hen lety, Llwynyberllan, i gysgu. Ar y ffordd yno, cafodd lawer o wybodaeth gan ei arweinydd am y diwygiad oedd yn ymledu dros y wlad. Meddai: "Llefwn am i beth o'r tân hwn gydio yn fy yspryd inau; oblegyd deallwn fod llawer wedi cael eu deffro yn y rhanau hyn, trwy yr yspryd canu a bendithio yr Arglwydd sydd wedi tori allan, yr hwn a barha weithiau trwy gydol y nos.' "Dengys ei sylwadau, nad oes genym yn awr un syniad priodol am y dylanwad a fu gan emynau Williams, er ail enyn tân Duw yn Nghymru, pan yr oedd agos wedi cael ei ddiffodd trwy ymrafaelion ac ymraniadau. Yn nesaf, cawn ef yn nghapel Llansawel yn pregethu ar ol un Mr. Gray. Diau mai y Parch. Thomas Gray, olynydd yr hen Mr. Pugh yn Llwynpiod, Abermeurig, a Ffosyffin, ydoedd hwn, yr hwn, gwedi hyn, a lwyr ymunodd a'r Methodistiaid. Ac ymddengys iddo wneyd hyny yn bur fuan. Hysbysa cyfaill ni ei fod wedi chwilio yn fanwl gofnodau hen gymanfaoedd yr Annibynwyr, fel eu ceir yn yr Evangelical Magazine, a chyhoeddiadau eraill, ac nad oes ynddynt gymaint a chyfeiriad at Gray; tra y ceir ef yn pregethu yn barhaus yn Nghymdeithasfaoedd y Methodistiaid yn y Dê a'r Gogledd. Daethai cynulleidfa anferth yn nghyd yr oedd capel Llansawel y pryd hwn wedi dyfod yn fath o ganolbwynt i'r Methodistiaid yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd odfa nerthol, ac yr oedd yn llym wrth y rhai oedd mewn rhyddid heb fod yn gyntaf mewn caethiwed. Wedi iddo orphen, nid ai y bobl i ffwrdd; eithr tyrent i'r capel, a bu raid iddo lefaru yno drachefn. Yr angenrheidrwydd am hunanymholiad oedd ei fater. Oddiyno aeth i Gaerfyrddin, ac am ddau o'r gloch pregethodd ar Castle Green i'r gynulleidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd; cyfrifa ei bod yn ddeng mil. Llefarai yn Gymraeg ac yn Saesneg oddiar: "Ni a welsom ei ogoniant ef; a dangosai mai y ffordd i gynyrchu moesoldeb uchel oedd trwy bregethu Iesu Grist. Nid ymfoddlonodd ychwaith ar athrawiaethu; taranodd yn ofnadwy yn erbyn rhegu, meddwdod, a phuteindra, a phechodau cyffelyb; a llefodd gyda nerth: "Gyda y rhai sydd yn ei adwaen ac yn ei garu ef bydded fy nghartref yn dragywydd!" Aeth y noson hono i Bant Howell; yr un oedd ei destun yma eto, eithr gwahaniaethai y bregeth it gryn raddau. Yr oedd ei yspryd yn bresenol wrth ei fodd. "Yr wyf yn gweled," meddai, "yr anrhydedd dirfawr a osodir arnaf, fy mod yn cael fy ngalw gan fy Arglwydd anwyl i'w waith, a'i fod wedi rhoddi lle i mi eto yn ei dŷ." Ar ddydd Gwener Croglith, y mae yn nhref Aberteifi, a gwelai wrth deithio tuag yno fod pawb wedi myned o'i flaen ef mewn goleuni, ffydd, a chymundeb â Duw. Bu yn yr eglwys yn y boreu; yn y prydnhawn pregethodd ei hun, ac er mai y nos flaenorol y cawsai y bobl wybod am ei ddyfodiad, daeth torf anferth yn nghyd. Dyoddefiadau y Gwaredwr oedd ei fater. Yn yr hwyr yr oedd yn Twrgwyn, lle yr oedd capel erbyn hyn wedi cael ei adeiladu. Mat. xi. 28, oedd ei destun; cofnoda fod torf fawr wedi ymgynull, ac meddai: Y fath ganu, a'r fath orfoleddu, ni chlywais erioed." Gwelsom ei fod ar y cychwyn yn ddrwgdybus o'r canu, ac yn erchi i'r crefyddwyr ei wylio; yn awr, modd bynag, y mae wedi cael ei lwyr orchfygu ganddo. "Arweiniwyd fi," meddai, "i gyfiawnhau y canu sydd yn awr yn y sir, lle y mae llawer yn canu clodydd Duw ac yn ei folianu trwy gydol y nos. Dangosais i'r cnawdol, y rhai ydynt yn tramgwyddo oblegyd fod y crefyddwyr yn canmol Duw yn ormodol, y dylent ystyried nad ydynt hwy (y cnawdol) yn caninol Duw o gwbl, ac felly y rhaid i'r crefyddol ei ganmol, nid yn unig drostynt eu hunain, eithr drostynt hwy yn ogystal. Wedi yr odfa, aeth i letya i dŷ Mr. Bowen, ynad heddwch, Gwaunifor, ac yr oedd yn ddeuddeg o'r gloch y nos arno yn cyrhaedd. Boreu dranoeth, am naw o'r gloch, pregethodd gerllaw y capel, yr hwn a adeiladasai Mr. Bowen ar ei draul ei hun, i dorf fawr. Yma ymadawodd â Mr. Gray, a Mr. Popkin, y rhai a fuasent yn gymdeithion iddo o Gilycwm hyd yn awr, a dychwelodd ar ei union i Drefесса. Gwelir mai brasgamu a wnaeth, a phaham y dewisodd yr ychydig leoedd a nodwyd i ymweled â hwynt, nis gwyddom.

Dydd Mawrth, gwedi y Pasg, aeth i Lanfair-muallt, lle na fuasai ynddo ond unwaith er ys deuddeg mlynedd. Pregethodd gyda nerth mawr. Cyfarfyddodd yno â John Richard, Llansamlet, a chynghorwr arall o'r enw Evan Roberts; aeth y ddau gydag ef i Drefecca, a boreu dranoeth yr oedd John Richard yn cychwyn am daith i'r Gogledd. Ychydig ddyddiau ar ol hyn, dywed ei fod yn darllen gweithiau Rowland, ac eiddo Williams, Pantycelyn; ac iddo gael ei ddarostwng yn enbyd wrth weled mor ddiddefnydd ydoedd o'i gymharu a'i frodyr. "Nid oedd genyf ddim i'w ddweyd trosof fy hun," meddai, "ond fy mod yn segur, diddefnydd, a llygredig." Yn sicr, yr oedd yn rhy galed arno ei hun; oblegyd gallai ddweyd lawn mor wirioneddol a'r apostol Paul: "Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll." Ond tebygol mai meddwl am ei ymneillduad yr ydoedd. Ebrill 21, 1763, cychwyna am daith faith trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llangamarch, lle y pregethodd, heb gymeryd unrhyw destun, i dorf liosog. "Cyfarwyddais y dychweledigion ieuainc," meddai, ac adeiledais y ffyddloniaid." "ac Profa hyn fod nifer lliosog yn y cymydogaethau yma wedi ymuno â chrefydd yn ddiweddar. Cymerodd un o'r diwygiadau mwyaf nerthol a welodd Cymru erioed le y flwyddyn yma; ymledodd yn dân anorchfygol dros yr holl wlad, nes oedd y cymoedd mynyddig, yn ogystal a'r gwastadedd, fel pe yn llawn o foliant Duw. A ydoedd wedi tori allan mor gynar a hyn yn y flwyddyn, nis gwyddom; ond boed a fo, yr oedd "dychweledigion newydd" yn Llangamarch. Dranoeth, sef dydd Mawrth, croesodd y Mynydd Mawr, a daeth i Dregaron. Yma yr oedd Daniel Rowland yn ei gyfarfod, ac meddai: "Gwnaed fi yn ostyngedig wrth weled fod yr Arglwydd yn agor y drysau i mi, i fyned o gwmpas gyda fy hen gydlafurwyr, yr hon safle oeddwn wedi fforffetio trwy fy mhechod." Cafodd ryddid dirfawr ar weddi, ac wrth bregethu yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a farnent, ac a wrthwynebent Dduw a'i waith, a dangosai ysprydolrwydd y gyfraith, ac mor fewnol a manwl oedd ei gofynion. Cofnoda fod tri offeiriad heblaw Daniel Rowland yn gwrando. O Dregaron, aeth i Lwyniorwerth, nid yn nepell o Aberystwyth. Dilynai y bobl ef, gan ganu a molianu yr holl ffordd. Wrth weled a chlywed, teimlodd fod yr Arglwydd wedi dwyn yn mlaen ei waith hebddo ef, a'i fod wedi anrhydeddu Rowland a'r cynghorwyr yn fwy; eithr yr oedd yn mhell o fod yn eiddigus, ac yr oedd yn barod i ymroddi i'w cynorthwyo, gan obeithio y caffai fendith yn eu plith. Aeth i ymddiddan a'r bobl, a chafodd eu bod yn syml, yn barod i gymeryd eu dysgu, yn addfwyn, a hunan ymwadol. "Iesu Grist wedi dyfod i gadw pechaduriaid" oedd ei fater yma, ac efengylu yn felus a wnelai. Y noswaith hono yr oedd yn Lledrod; yr oedd yr holl wlad wedi ymgynull i'r odfa, a chafodd yntau nerth rhyfedd i bregethu oddiar y geiriau: "Canys efe. a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Dranoeth, yr oedd yn ddydd. o ddiolchgarwch cyffredinol am yr heddwch gwladol a gawsid, ac aeth yntau i'r eglwys yn Lledrod i uno.

Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn Llangeitho, lle na fuasai ynddo er ys pedairblynedd-ar-ddeg; deng mil o bobl o leiaf oedd ei gynulleidfa; a chwedi cael gafael ryfedd ar weddi, pregethodd gyda rhyddid mawr oddiar y geiriau: "Canys yr ydym ni y rhai a gredasom yn myned i mewn i'w orphwysfa ef." Dangosai mai ffydd sydd yn puro y galon, ac yn gorchfygu y byd, ac yr oedd yn dra llym wrth y rhai a geisient wneyd ffydd a phenboethni yr un. Cafodd fod tros ddau cant o ddynion, a thros ddeugain o blant cymharol ieuainc wedi ymuno a'r seiat yma. Wedi yr odfa, gwnaed iddo gadw seiat breifat, yn yr hon y llefarodd ar amryw faterion, ac ar y terfyn gweddïodd yn daer dros Mr. Rowland. Gwelaf," meddai, "fod yr Arglwydd wedi ei ddyrchafu ef yn uwch na mi; ei fod wedi rhoddi iddo yr holl waith a'r anrhydedd hwn, ac hefyd yr holl seiadau, a'r holl gynghorwyr." Os oedd Harris, wrth ganfod y pethau hyn, yn gwbl rydd oddiwrth eiddigedd, fel y dywed ei fod, rhaid fod gras Duw wedi ei dywallt yn helaeth yn ei yspryd. Dydd Gwener, cawn ef yn Abermeurig; yna, gadawa ddyffryn prydferth Aeron, gan groesi y bryniau i Lanbedr, yn nyffryn Teifi. Ei destun yma oedd: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad;" yr oedd amryw o'r dosparth uchaf yn gwrando, felly, pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyfeiria at ddwy foneddiges yn benodol, sef Miss H. Lloyd, a Miss Evans. Wedi galw yn Dolgwm, ffermdy pur fawr islaw Llanbedrpont-Stephan, daeth, nos Wener, i Waunifor. Yr oedd Rowland yn cyd-deithio ag ef o hyd, ac ar y ffordd agorai ei fynwes wrth ei gyfaill am gael John Wesley, ac un o'r Morafiaid, i fyned o gwmpas Cymru gydag ef; ac am ffurfio undeb cyffredinol rhwng y gwahanol bleidiau yma, oddifewn i Eglwys Loegr. Beth a atebodd Rowland iddo, nis gwyddom. Yn Waunifor, pregethodd gydag awdurdod ar waed Crist yn glanhau oddiwrth bob pechod.

Yn y seiat breifat a ddilynai, gwasgai ar y crefyddwyr yr angenrheidrwydd am alaru yn ogystal a molianu. Wedi pregethu yn Twrgwyn, ac yn Nghwmcynon, daeth i Lechryd, nos Sul, lle y cafodd y gynulleidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd, a chyfrifa ei bod yn ddeuddeg mil. "Mawr yw dirgelwch duwioldeb," oedd ei destun. Pregethais ei glwyfau a'i waed," meddai; "mai dyma yr unig noddfa; gelwais a gwahoddais bawb ato, gan ddangos fod Duw ynddo, fel yn ei deml. Yr oeddwn yn llym wrth y rhai a wrthwynebent y gwaith hwn, ac a ddymunent ar iddo ddyfod i'r dim, gan ddangos eu bod o'r un yspryd â Chain." Cafodd ymddiddan yma ag un Mr. Enoch, arolygwr ysgolion Madam Bevan yn y tair sir, a gwelai ei fod yn ddyn syml a gostyngedig.

Ymddengys i Daniel Rowland ddychwelyd oddiyma, a darfod i Mr. Popkins gael ei osod i fod yn gydymaith i Harris yn ystod ei daith yn Sir Benfro. Dyn o yspryd balchaidd oedd Popkins; yn tueddu yn gryf at Antinomiaeth, a chofir i Daniel Rowland gael trafferth ddirfawr gydag ef ar ol hyn, ac yn y diwedd iddo orfod ei ddiarddel. Dechreuodd Popkins ddanod i Harris ei ymadawiad a'r Methodistiaid, a'i fod wedi gwastraffu llawer o'i amser yn ofer; a chanmolai Daniel Rowland i'r cymylau. Dyoddefodd y Diwygiwr yn amyneddgar am dipyn; eithr yn y diwedd. trodd arno, a dywedodd na chai efe (Popkins) fod yn esgob arno ef. Wedi pasio drwy Lwynygrawys, daeth i Drefdraeth; Fy nghnawd i sydd fwyd yn wir," oedd ei destun, ac arweiniwyd ef yn gyntaf i daranu yn enbyd, gan gyfeirio gyda difrifwch at angau a thragywyddoldeb. Ond cyn gorphen, efengylodd yn felus, a chyhoeddai fod yr Arglwydd Iesu yn ddigyfnewid. Yr oedd cynulleidfa fawr, yn rhifo amryw filoedd, yn Abergwaun; "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid," oedd y testun; ac yr oedd yn dra lym wrth y rhai na theimlent eu pechadurusrwydd. Am y tro cyntaf yn ystod y daith, cafodd fod cryn ragfarn ato yn meddyliau y bobl. Nid oedd y diwygiad wedi cyrhaedd yma eto; nid oeddynt yn canu, fel y gwnaent yn Sir Aberteifi. Y noswaith hono yr oedd yn Nhyddewi, a dywed fod yno gynulleidfa o amryw filoedd. Wedi pasio trwy y rhan Saesnig o Sir Benfro, daeth i Hwlffordd, a phregethodd yn y capel; yr oedd yno gynulleidfa dda, ond nid cynifer ag a fuasai oni bai fod rhyw gamddealltwriaeth wedi bod am y cyhoeddiad. Wrth bregethu, cyfeiriodd am y dymunoldeb o gael undeb rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol, mai brodyr oeddynt, a'u bod i dreulio tragywyddoldeb yn nghwmni eu gilydd. Wrth ymddiddan â Mr. Howell Davies, yr hwn yntau oedd wedi dyfod i'w wrando, am y priodoldeb o gael John Wesley ac un o'r Morafiaid i fyned trwy y wlad gydag ef (Harris), deallodd fod meddwl Mr. Davies yn rhagfarnllyd yn erbyn. Dranoeth, aeth i Woodstock, lle yr oedd capel wedi ei adeiladu, a phregethodd gyda nerth oddiar y geiriau: "Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Yn nghwmni y cynghorwr John Harry, aeth i Mounton, ac yna i Lacharn, ac achwyna ei fod yn dra egwan o ran ei gorph. Yma yr oedd yn nghymydogaeth Llanddowror, ond yr oedd ei hen gyfaill, yr Hybarch. Griffith Jones, wedi noswylio er ys dwy flynedd. Eithr galwodd i weled Madam Bevan; ceisiodd siarad â hi am amryw bethau perthynol i grefydd, ond nid oedd yn barod i gofleidio ei syniad ef parthed cael undeb rhwng yr oll o bobl yr Arglwydd, ac yr oedd yn gryf yn erbyn pregethu lleygol. Gwrthododd giniawa gyda Madam Bevan, a brysiodd i Gaerfyrddin, lle y pregethodd am ddwy awr glir, gydag awdurdod, a bywyd, ac effeithioldeb, i dorf o amryw filoedd, oddiar y geiriau: "A thi a elwi ei enw ef lesu." Yn hwyr yr un dydd, pregethodd yn Brechfa, Sir Gaerfyrddin, ar gyfiawnhad a sancteiddhad. Dranoeth, cawn ef yn Llansawel, lle y mae Williams, Pantycelyn, yn cyfarfod ag ef. Anghrediniaeth oedd mater Williams; darluniai ef fel y gwaethaf o'r holl bechodau, a dywedai pan y cawn ffydd i weled y byd hwn a'i deganau fel dim, yr awn i ddibrisio ei wŷr mawr, ac y gallwn lawenhau yn wastadol. "Yr oeddwn yn caru yr yspryd a'r llais," meddai Harris. Pregethodd yntau yn ganlynol; "Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," oedd ei destun; yr oedd myn'd ar y bregeth hon yn wastad, a chafodd hwyl arni yn Llansawel. Wedi pregethu Wedi pregethu yn Llanymddyfri ar yr heol, i gynulleidfa yn rhifo dros dair mil, dychwelodd i Drefecca yn hapus ei yspryd. Cawsai ei sirioli yn ddirfawr gan gymdeithas cyfeillion na welsai wynebau llawer o honynt er ys tair-blynedd-ar-ddeg.

Yn ystod y daith flaenorol, gwahoddasai y Gymdeithasfa ganlynol i Drefecca, lle nad oedd cynulliad o'r fath wedi bod oddiar yr ymraniad, a chydsyniai y brodyr gyda phob parodrwydd. Yr oedd ei galon yn dychlamu ynddo wrth feddwl am gael y fraint o groesawu gweision Duw; dywed fod ugain o welyau at eu gwasanaeth ganddo ef yn Nhrefecca, heblaw cyflawnder o letyau yn y ffermdai o gwmpas. Fel hyn yr ysgrifena: Trefecca, Mai 18. Y Gymdeithasfa unedig gyffredinol gyntaf. O! Jiwbili! Neithiwr, am saith, daeth Mr. Rowland yma, a'i fab, Mr. Edward Rowland, yn nghyd â William Richard, William Richard, yr ail, David William Rees, John Thomas, Thomas Gray, y gweinidog Ymneillduol, cuwrad o'r enw Lewis, yn nghyd â Popkins a William John, dau gynghorwr. Daeth wyth o fenywod a saith o ddynion yn ychwanegol. Wedi cael taer anogaeth, pregethais ar dlodi ein Hiachawdwr. Cefais nerth ac awdurdod anarferol. Derbyniais hwynt oll gydag yspryd gostyngedig, ac yn yr Arglwydd, llefwn am i'r Arglwydd ddyfod in mysg i'n bendithio, yr hyn hefyd a wnaeth yn ehelaeth. Y boreu hwn yr oeddwn i fynu am chwech, boreufwyd am saith, ac am wyth eisteddasom yn nghyd. Erbyn hyn, yr oedd amryw yn ychwanegol wedi cyrhaedd, sef Mr. Peter Williams, John Williams, Jeffrey, Stephen Jones, a David Williams. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Howell Davies, William Williams, John Richard, a John Harry, yn esbonio eu habsenoldeb. Eglurais iddynt y modd y danfonasent am danaf bedair blynedd yn ol, ac y daethwn i gyfarfod Llansawel; nas gallwn uno â hwy, oddigerth fy mod yn cael sicrwydd eu bod oll yn yr Eglwys Sefydledig; ac oni unant yn addoliad a chymundeb eglwys y plwyf, eu bod yn sect newydd; a phan y bydd Mr. Rowland farw, y rhaid iddynt gael gweinidogion Ymneillduol drostynt oll. Dywedais nad oeddwn yn wrthwynebol iddynt fyned i gapelau, a derbyn y cymundeb o law Mr. Rowland, tan ddysgyblaeth ac arholiad priodol. Cydunodd pawb i aros i mewn (yn yr Eglwys), os gallent berswadio y bobl i foddloni. Yna, dangosais yr angenrheidrwydd anorfod am ddysgyblaeth, a dechreu yn y Gymdeithasfa gyda y cynghorwyr, y rhai y dylid eu harholi yn fanwl; yna, yn y seiadau, a chael trefniant priodol gyda golwg ar deuluoedd; heb hyn, yr ai y cyfan i annhrefn. Cydunodd pawb, ac unasant i geisio fy nghymorth gyda hyn, am fod fy lle yn wag er pan yr ymadewais. Wedi penderfynu cyfarfod yn mhen pythefnos eto, torwyd y cyfarfod i fynu."

Yn y difyniadau uchod gwelir athrylith arbenig Howell Harris yn amlwg; ei hoffder o drefn, ei ofal am ddysgyblaeth; ac hefyd ei ymlyniad cryf wrth Eglwys Loegr. Wedi y cyfarfod preifat, yr oedd yr odfa gyhoeddus yn yr awyr agored yn y pentref; daethai cynulleidfa anferth yn nghyd, nid yn unig o'r cymydogaethau cyfagos, ond hefyd o gyrau pellenig y sir, ac o Sir Forganwg. Diau fod son am Drefecca, a'r sefydliad hynod a gynwysai, wedi ymledu dros y wlad; a thueddai hyn, yn nghyd a'r swyn oedd yn nychweliad Harris at ei hen gyfeillion, i dynu pobl yn nghyd. Popkins a bregethai yn mlaenaf; ei destun oedd: "Dy briod yw yr hwn a'th wnaeth;" dynoda Harris hi fel un dra Chalfinaidd; gellir darllen rhwng y llinellau y golygai hi yn tueddu at Antinomiaeth. "Ond," meddai, "pan y cododd Rowland ar ei ol, ac yr agorodd ei enau, teimlais yr Arglwydd yn llanw fy yspryd, a fy holl rasau yn cael eu cyffroi. Teimlwn mai fy mrawd ydoedd, fy mod yn ei garu, a llawenychwn wrth ei glywed y dydd hwn. Ei destun ydoedd; Cysurwch, cysurwch fy mhobl;' yr oedd yn dra argyhoeddiadol, gan ddangos nad oes eisiau cysur ar y rhai sydd yn hapus yn y cnawd. Yr oedd awelon melus yn chwythu dros y cyfarfod; daeth y mawr ragorol ogoniant i lawr; ysgydwid y cwbl; yn wir, y mae yr Arglwydd wedi ymweled â ni yn ei gariad." Pan yr oedd yspryd Howell Harris yn ei le, byddai gweinidogaeth Daniel Rowland yn wastad yn ei orchfygu, ac y mae yn amlwg ei fod yn awr wedi toddi yn swp tan ei dylanwad. Tranoeth, ysgrifena: "Y ddoe, cefais ryddid i ofyn i'r Arglwydd ddyfod i lawr a'n bendithio, gan fy mod yn gweled mai peth anarferol yw gwneyd i fynu rwyg yn nhŷ Dduw, a dwyn Israel a Judah yn nghyd drachefn. Llefwn y gwyddai mai er ei fwyn ef yr oeddwn wedi eu gwahodd yma, ac fel y gallwn inau gyfranogi o'u bywyd a'u bendith. Yr oeddwn yn ddedwydd wrth eu gwrando. Am dri, aethom i giniaw; ac yr oeddym yn hapus. Datgenais fy serch atynt; gwelwn mai Rowland yw eu tywysog, a'u bod yn plygu iddo, ac yr oeddwn yn llawen am hyny." Hawdd darllen serch angerddol at Daniel Rowland yn treiddio trwy bob brawddeg. Am bedwar, pregethodd Peter Williams, am yr afon bur o ddwfr y bywyd, a phren y bywyd yn tyfu o'r ddau tu. Cafodd ddylanwad mawr. "Yr oedd yma lawer," meddai Harris, “o Sir Aberteifi a lleoedd eraill, yn canu ac yn molianu; yn sicr, y mae Duw wedi ateb ein gweddi, ac wedi tynu ymaith ein gwaradwydd." adwydd." Aeth pawb ymaith yn hapus, ac yn llawn o gariad. Yr unig beth anhyfryd yn y Gymdeithasfa oedd gwaith Popkins, yr hwn a feddai yspryd pigog a chwerw, yn ceisio rhoddi sèn i'r Diwygiwr o Drefecca.

Yn sicr, gyda yr eithriad o'r dydd y cafodd ollyngdod oddiwrth ei faich bechod, adeg ei argyhoeddiad, y diwrnod hwn, pan y teimlai ei fod yn cael ei dderbyn yn ol i fynwes ei frodyr, oedd yr hapusaf a gafodd Howell Harris ar y ddaear. "O'r Arglwydd y mae hyn," meddai. Bellach, y mae galwadau yn gwlawio arno o bob cyfeiriad. Yr wythnos ganlynol i'r Gymdeithasfa, cawn ef yn cofnodi ei fod wedi derbyn gwahoddiadau o Blaen Crai, Trecastell-yn-Llywel, Merthyr, Tir Abbad, Hay, a lleoedd eraill. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn Mryste, aeth i Bath; a chawn ef ar y dydd cyntaf o Fehefin yn Nghaerdydd. Llandaf, cyfarfyddodd â Mrs. Jones, Ffonmon, "dynes syml, ddiragfarn," yr hon a'i hysbysodd am erledigaeth yn tori allan, a bod y barnwyr ar y fainc yn datgan yn erbyn y diwygiad, a'i bod yn cael ei rhybuddio i godi trwydded ar ei thy. I hyn yr oedd Harris yn anfoddlawn; sawrai yn ormodol o Ymneillduaeth, a chynghorodd hi i ymddiddan a'r esgob. Aeth i'r Aberthyn, lle yr addawsai gyfarfod Rowland mewn Cymdeithasfa Fisol; eithr cyn iddo gyrhaedd, yr oedd y cyfarfod drosodd, a'r bobl wedi ymwasgaru. Eithr casglwyd cynulleidfa drachefn, a phregethodd yntau ar: "A hwy a edrychant arnaf fi, yr hwn a wanasant." Oddiyma, teithia i'r Pil, ac Abertawe, lle yr oedd tua phedair mil yn gwrando, a Llansamlet, a Phontneddfechan, o'r hwn le dychwela i Drefecca yn llesg o gorph. Yn mis Gorphenaf, yr ydym yn ei gael yn Llundain, er mwyn bod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid. Yno ceisiwyd ganddo gan Mr. Charles Wesley i anerch y pregethwyr, yr hyn a wnaeth yntau. Dywedodd wrthynt fod yn dda ganddo weled y fath gariad a'r fath symlrwydd yn eu mysg, a bod y gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr yspryd y cafodd ei ddechreu; lle yn wag er pan yr ymadewais. Wedi penderfynu cyfarfod yn mhen pythefnos eto, torwyd y cyfarfod i fynu."

Yn y difyniadau uchod gwelir athrylith arbenig Howell Harris yn amlwg; ei hoffder o drefn, ei ofal am ddysgyblaeth; ac hefyd ei ymlyniad cryf wrth Eglwys Loegr. Wedi y cyfarfod preifat, yr oedd yr odfa gyhoeddus yn yr awyr agored yn y pentref; daethai cynulleidfa anferth yn nghyd, nid yn unig o'r cymydogaethau cyfagos, ond hefyd o gyrau pellenig y sir, ac o Sir Forganwg. Diau fod son am Drefecca, a'r sefydliad hynod a gynwysai, wedi ymledu dros y wlad; a thueddai hyn, yn nghyd a'r swyn oedd yn nychweliad Harris at ei hen gyfeillion, i dynu pobl yn nghyd. Popkins a bregethai yn mlaenaf; ei destun oedd: "Dy briod yw yr hwn a'th wnaeth;" dynoda Harris hi fel un dra Chalfinaidd; gellir darllen rhwng y llinellau y golygai hi yn tueddu at Antinomiaeth. "Ond," meddai, "pan y cododd Rowland ar ei ol, ac yr agorodd ei enau, teimlais yr Arglwydd yn llanw fy yspryd, a fy holl rasau yn cael eu cyffroi. Teimlwn mai fy mrawd ydoedd, fy mod yn ei garu, a llawenychwn wrth ei glywed y dydd hwn. Ei destun ydoedd; Cysurwch, cysurwch fy mhobl;' yr oedd yn dra argyhoeddiadol, gan ddangos nad oes eisiau cysur ar y rhai sydd yn hapus yn y cnawd. Yr oedd awelon melus yn chwythu dros y cyfarfod; daeth y mawr ragorol ogoniant i lawr; ysgydwid y cwbl; yn wir, y mae yr Arglwydd wedi ymweled â ni yn ei gariad." Pan yr oedd yspryd Howell Harris yn ei le, byddai gweinidogaeth Daniel Rowland yn wastad yn ei orchfygu, ac y mae yn amlwg ei fod yn awr wedi toddi yn swp tan ei dylanwad. Tranoeth, ysgrifena: "Y ddoe, cefais ryddid i ofyn i'r Arglwydd ddyfod i lawr a'n bendithio, gan fy mod yn gweled mai peth anarferol yw gwneyd i fynu rwyg yn nhŷ Dduw, a dwyn Israel a Judah yn nghyd drachefn. Llefwn y gwyddai mai er ei fwyn ef yr oeddwn wedi eu gwahodd yma, ac fel y gallwn inau gyfranogi o'u bywyd a'u bendith. Yr oeddwn yn ddedwydd wrth eu gwrando. Am dri, aethom i giniaw; ac yr oeddym yn hapus. Datgenais fy serch atynt; gwelwn mai Rowland yw eu tywysog, a'u bod yn plygu iddo, ac yr oeddwn yn llawen am hyny." Hawdd darllen serch angerddol at Daniel Rowland yn treiddio trwy bob brawddeg. Am bedwar, pregethodd Peter Williams, am yr afon bur o ddwfr y bywyd, a phren y bywyd yn tyfu o'r ddau tu. Cafodd ddylanwad mawr. "Yr oedd yma lawer," meddai Harris, “o Sir Aberteifi a lleoedd eraill, yn canu ac yn molianu; yn sicr, y mae Duw wedi ateb ein gweddi, ac wedi tynu ymaith ein gwaradwydd." adwydd." Aeth pawb ymaith yn hapus, ac yn llawn o gariad. Yr unig beth anhyfryd yn y Gymdeithasfa oedd gwaith Popkins, yr hwn a feddai yspryd pigog a chwerw, yn ceisio rhoddi sèn i'r Diwygiwr o Drefecca.

Yn sicr, gyda yr eithriad o'r dydd y cafodd ollyngdod oddiwrth ei faich bechod, adeg ei argyhoeddiad, y diwrnod hwn, pan y teimlai ei fod yn cael ei dderbyn yn ol i fynwes ei frodyr, oedd yr hapusaf a gafodd Howell Harris ar y ddaear. "O'r Arglwydd y mae hyn," meddai. Bellach, y mae galwadau yn gwlawio arno o bob cyfeiriad. Yr wythnos ganlynol i'r Gymdeithasfa, cawn ef yn cofnodi ei fod wedi derbyn gwahoddiadau o Blaen Crai, Trecastell-yn-Llywel, Merthyr, Tir Abbad, Hay, a lleoedd eraill. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn Mryste, aeth i Bath; a chawn ef ar y dydd cyntaf o Fehefin yn Nghaerdydd. Llandaf, cyfarfyddodd â Mrs. Jones, Ffonmon, "dynes syml, ddiragfarn," yr hon a'i hysbysodd am erledigaeth yn tori allan, a bod y barnwyr ar y fainc yn datgan yn erbyn y diwygiad, a'i bod yn cael ei rhybuddio i godi trwydded ar ei thy. I hyn yr oedd Harris yn anfoddlawn; sawrai yn ormodol o Ymneillduaeth, a chynghorodd hi i ymddiddan a'r esgob. Aeth i'r Aberthyn, lle yr addawsai gyfarfod Rowland mewn Cymdeithasfa Fisol; eithr cyn iddo gyrhaedd, yr oedd y cyfarfod drosodd, a'r bobl wedi ymwasgaru. Eithr casglwyd cynulleidfa drachefn, a phregethodd yntau ar: "A hwy a edrychant arnaf fi, yr hwn a wanasant." Oddiyma, teithia i'r Pil, ac Abertawe, lle yr oedd tua phedair mil yn gwrando, a Llansamlet, a Phontneddfechan, o'r hwn le dychwela i Drefecca yn llesg o gorph. Yn mis Gorphenaf, yr ydym yn ei gael yn Llundain, er mwyn bod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid. Yno ceisiwyd ganddo gan Mr. Charles Wesley i anerch y pregethwyr, yr hyn a wnaeth yntau. Dywedodd wrthynt fod yn dda ganddo weled y fath gariad a'r fath symlrwydd yn eu mysg, a bod y gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr yspryd y cafodd ei ddechreu; mai efe a gawsai yr anrhydedd o fod y lleygwr cyntaf a aeth o gwmpas i bregethu, a darfod iddo fyned at yr esgob bedair gwaith i geisio cael ei urddo, a chael ei wrthod bob tro. Terfynodd ei anerchiad trwy waeddi am undeb cyffredinol, yr hwn a gynwysai y Morafiaid, y Wesleyaid, a'r Methodistiaid. Cafodd bregethu, hefyd, yn nghapel Spittalfields, lle yr oedd cynulleidfa fawr. Yr oedd y syniad am undeb wedi llyncu bryd Harris y pryd hwn; dyna yn benaf a'i dygasai i Lundain; er ei gael, yr oedd yn barod i wneyd pob aberth, oddigerth aberth o wirionedd.

EGLWYS LLANDDEWI-BREFI
Fel ydoedd yn amser Daniel Rowland


Ar y trydydd o Awst, cychwynai i Gymdeithasfa Llangeitho, gan basio trwy Abergwesyn, a Llanddewi-brefi. Teimlai fod Rowland wedi myned yn mhell yn mlaen arno; heblaw ei fod yn offeiriad urddedig, yr oedd y diwygiad presenol wedi cael ei gychwyn trwyddo, ac iddo ef y plygai yr holl gynghorwyr; "ond," meddai, "nid wyf yn eiddigeddu wrtho; yn gyflawn o ogoniant yr ydoedd pan y gwelais ef gyntaf yn y pwlpud yn Defynog." Pan gyrhaeddodd Langeitho yr oedd y Gymdeithasfa wedi dechreu, a Thomas Davies (Hwlffordd?) yn gweddïo; a phregethodd yr un gŵr yn ganlynol, ar y Cristion fel milwr, a Popkins ar ei ol, ar Dduwdod Crist. Wedi ciniaw, pregethodd Howell Harris. Y mae yn amlwg oddiwrth y dydd-lyfr fod Daniel Rowland yn gwneyd yn fawr o hono, ac yn ei anrhydeddu yn mhob modd. Yr oedd y cynghorwyr yn pwyso ar feddwl Harris, a chasglodd Rowland hwy yn nghyd er mwyn iddo eu cyfarch. Ei fater oedd, yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth, onide, nas gallent byth sefyll. Ymddengys mai yr hyn y cwynai yn benaf arno oedd fod y cynghorwyr yn cael myned o gwmpas gwlad fel yr ewyllysient, heb neb yn trefnu eu cyhoeddiadau, na neb yn eu llywodraethu, a'u bod yn gwneyd casgliadau yn y cynulleidfaoedd. Cydunai Williams, Pantycelyn, yn y cwyn; dywedai fod Rowland yn dysgleirio yn y pwlpud, ond nad oedd yn alluog i ddwyn y cynghorwyr i drefn; a chyn i'r diwygiad diweddar dori allan, fod pethau wedi myned i stâd isel yn y seiadau. "Cydunodd pawb i gael dysgyblaeth," meddai Harris. "Dywedodd Mr. Rowland eu bod ol yn gwybod iddo ef o'r dechreu wrthod bod yn ben, pan y cynygiwyd hyny iddo; ei fod wedi dweyd wrthynt bob amser fod fy lle i yn wag er pan yr ymadewais; a'i fod yn parhau yn yr un meddwl, ac yn fy ngalw i i'm lle, yn yr hwn yr oeddwn o'r blaen." Golygai hyn osod Harris, fel cynt, yn arolygwr cyffredinol, gydag awdurdod helaeth dros y cynghorwyr. Rhaid fod Rowland o feddwl tra ardderchog pan y gwnelai y fath gynygiad, a rhaid fod ganddo syniad uchel am ddoethineb ei gyfaill fel trefnydd. Tueddai Howell Davies, modd bynag, i wrthwynebu, am fod Harris yn ceisio undeb rhyngddynt a'r Wesleyaid, a'r Morafiaid; dywedai nad oedd hyny yn bosibl, ac achwynai ar waith John Wesley yn dyfod i Sir Benfro. Modd bynag, daeth yn foddlawn. Yna, cynygiodd Harris fod y tri offeiriad yn unol yn gweithredu fel arolygwyr; gwrthododd pob un; ac yn unfrydol darfu iddynt alw arno ef i gymeryd y lle. Yr oedd arno yntau eisiau amser i ystyried pwnc mor bwysig, eithr addawodd wneyd a allai i gyfarfod y seiadau. Yr oedd Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn gafaelu yn dyn yn Harris, a Howell Davies i raddau; ond yr oedd amryw o'r cynghorwyr, y penaf o ba rai oedd Popkins, yn tueddu i wrthwynebu yn ddystaw; a sibrydent wrth eu gilydd ddarfod iddo gael ei dderbyn yn ei ol fel y mab afradlon.

Y mae un frawddeg o bwysigrwydd hanesyddol yn y dydd-lyfr yn y fan hon, sef: "Y mae Mr. Rowland newydd gael ei fwrw allan o'r eglwysydd." Ceir rhai haneswyr Eglwysyddol am wadu i Rowland gael ei droi allan, am nad oes gofnod am y peth ar lyfrau yr esgobaeth, heb gofio na raid wrth gofnod na phenderfyniad ffurfiol gyda golwg ar guwrad; eithr pe byddai eisiau prawf ychwanegol am beth ag y mae genym dystiolaeth llygad-dystion arno, ceir ef yn y crybwylliad hwn o eiddo Harris, yr hwn sydd yn cael ei ysgrifenu yn Llangeitho, ac yn ol pob tebyg yn nhŷ Daniel Rowland ei hun. O Langeitho aeth Harris, yn nghwmni Howell Davies, i Abermeurig, lle y pregethodd ar barhad. mewn gras. Yna, croesodd trwy Lanymddyfri i Drefecca. Treuliodd ddarn mawr o fis Awst yn Bath ac yn Mryste. Ar yr ugeinfed o Fedi, cychwyna i Lanymddyfri, i ymgynghori â Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn nghyd â William Richards, ar amryw bethau o bwys i'r Cyfundeb. Cyfeiria yma yn fwy manwl at dröad Rowland allan. Fel hyn y dywed: "Y mae Mr. Rowland wedi cael ei droi allan, ac nid yw yn cael ei dderbyn yn ei eglwysydd. Teimlwn ei bod yn galed arno, ei fod ef y cyntaf i gael ei droi ymaith, oddigerth Mr. Harris, Exon; ac efallai fod hyn yn ddechreu erledigaeth gyffredinol. Crefais arnynt am berswadio y bobl, yn (1) I beidio troi at Ddeddf Goddefiad, mai braich o gnawd ydyw hono, ac y gallai gael ei symud. (2) Ar iddynt beidio meddwl am adael yr Eglwys ar gyfrif hyn, rhag i hyny fod yn ddialedd, neu ymddangos felly, ac yn llid at yr esgob oblegyd ei lymder. (3) Ar iddynt beidio siarad yn chwerw am waith yr esgob, rhag i hyny fod yn hedyn drwg, a pheri i ni godi yn erbyn y llywodraeth.' Nis geill dim fod yn fwy clir gyda golwg ar gysylltiad Esgob Tyddewi a thröad Daniel Rowland allan na hyn; ac y mae yn gryfach am ei fod yn dyfod oddiwrth Howell Harris, yr hwn yn awr a lynai wrth Eglwys Loegr trwy y tew a'r tenau. Am y cynghorion a roddai, yr oedd yn rhaid wrth lawer o ras i'w cario allan, ac y mae peth amheuaeth am ddoethineb y ddau gyntaf, o leiaf; dylasai ofyn, ai nid oedd hyn yn awgrym oddiwrth ragluniaeth, yn eu cyfarwyddo i ymffurfio yn blaid ar wahan iddi? Dyma yr awgrym y dysgwyliai ef am dano ugain mlynedd cyn hyn. Yr unig beth a benderfynwyd rhwng y cyfeillion yn Llanymddyfri oedd gohirio dysgyblaeth y cynghorwyr hyd y Gymdeithasfa ddyfodol yn yr un lle.

Treuliodd Howell Harris yr oll o fisoedd Medi a Hydref ar daith yn Lloegr. Ymwelodd â Swyddi Caerloyw, York, Bedford, Lincoln, a Rutland, a threuliodd ryw gymaint o amser yn Llundain. Pregethai yn mysg y Morafiaid, y Wesleyaid, yn nghyd a'r rhai perthynol i Eglwys Loegr a'i derbyniai. Ei brif genadaeth, heblaw cyhoeddi yr efengyl, oedd ceisio uno yr holl seiadau y gellid edrych arnynt fel cynyrch y diwygiad, yn un sefydliad cryf, a'r oll yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig. Y dydd olaf o Dachwedd, y mae yn cychwyn o Drefecca, wedi aros yno yn brin wythnos, i Gymdeithasfa Llanymddyfri. Nid oedd Daniel Rowland yn bresenol; eithr yr oedd Williams, Pantycelyn, wedi dyfod, a William Richards, John Thomas, William Harry, a Peter Williams. Daeth yma i benderfyniad i ail-gymeryd a bod yn arolygwr cyffredinol dros yr holl seiadau, fel y cawsai ei anog yn Nghymdeithasfa Llangeitho; gwelai ei fod nid yn unig yn cael ei garu, ond hefyd ei anrhydeddu. Ymddengys fod William Richard ac yntau yn arbenig yn ymglymu am eu gilydd; ac aethant yn nghyd i Drefecca. Ond yr oedd Popkins ar ei eithaf yn ceisio cynyrchu rhwyg. Dau beth o bwys a grybwyllir ganddo oddiyma i ddiwedd y flwyddyn, sef iddo bwrcasu fferm Trefecca Isaf, gan ei frawd Thomas; ac hefyd iddo, ar anogaeth Evan Roberts, un o'i brif ddynion yn Nhrefecca, brynu chaise. Daeth Evan Roberts a'r chaise ganddo i lawr o Lundain. Ond braidd nad oedd Harris yn rhy yswil i ddefnyddio y cerbyd. wedi ei gael. "O rhyfedd," meddai, "cerbyd yn dyfod i'r lle hwn! Dy waith di, Arglwydd, ydyw hyn."

Gyda dechreu y flwyddyn 1764, rhaid i ni ymfoddloni ar ychydig ddifyniadau o'r dydd-lyfr draw ac yma, y rhai a daflant fwyaf o oleuni ar yr hanes.

Ionawr 3. Price Davies, ficer Talgarth, yn caniatau cymundeb bob mis yn yr cglwys; y newydd yn cael ei gludo i Harris gan John Morgan, y cuwrad, a'i enaid yntau yn llawenychu ynddo o'r herwydd.

Ionawr 22. Harris yn cychwyn i Sir Aberteifi i sefydlu y seiadau, ac am y tro cyntaf yn myned yn ei chaise. Pregethu i dorf o amryw filoedd yn Nghilycwm; yr oedd yn foddlon cadw seiat breifat, ond ni ofynwyd hyn ganddo. Ymweled â Chayo, Llanâ bedr-pont-Stephan, Abermeurig, a chyrhaedd Llangeitho ar y 25ain. Pregethu yno ar y maes i amryw filoedd; yna, cyfarch canoedd yn y capel mewn seiat breifat. Clywed gan Rowland beth oedd ateb Esgob Tyddewi pan yr appeliwyd ato parthed ei wrthwynebiad i'r diwygiad, sef fod y bobl wedi gadael yr Eglwys, ac yn gwarthruddo y clerigwyr; mai dyna y rheswm am droi y cuwradiaid allan, ac na ordeinid neb eto yn dal cysylltiad a'r Methodistiaid. Ymweled â Lledrod; pregethu i dorf anferth, a gosod pob un yn ei le yn y seiat breifat. Ymweled a'r Morfa, Gwndwn, Gwaunifor, Dolgwm, Talyllychau, a Llanymddyfri. Ar y daith hon, Harris yn cynal seiadau preifat am y tro cyntaf gwedi yr ymraniad, yspaid o bedair-blynedd-ar-ddeg; ac yn cael ei argyhoeddi fwy fwy mai Rowland oedd tad y cynghorwyr, a'r prif ddyn mewn cysylltiad â gwaith y diwygiad yn Nghymru.

Cwefror 19. Teulu Trefecca yn eistedd am y tro cyntaf ar yr oriel yn eglwys Talgarth, ac yn canu yn fendigedig, nes yr oedd yr holl eglwys yn llawn o ogoniant. Chwefror 27. Harris yn myned am daith i Blaen Crai, Blaenglyntawe, Castellnedd, Abertawe, a gwlad Gower; dych welyd trwy Gelly-dorch-leithe, a chyrhaedd Trefecca, Mawrth 4.

Ebrill 1. Harris yn myned eto i daith; yn pregethu ar yr heol tua phum' milltir o Lanymddyfri i dorf liosog; cyrhaedd Cross Inn yn hwyr. Pregethu dranoeth yn Nghaerfyrddin, ar Castle Green, i dorf fawr, a chael awdurdod anarferol; wedi ei gymhell, yn pregethu yn y capel drachefn; ac yr oedd Williams, Pantycelyn, Thomas Davies, William John, Evan Richard, a phregethwyr eraill yn gwrando. Y dydd nesaf yn myned i'r Capel Newydd, yn Sir Benfro; yna i Trefdraeth; Abergwaun, lle yr oedd yn curo yn drwm ar y pechod o angrhediniaeth; ac Woodstock, lle y dysgwyliai glywed Howell Davies, a chyfranogi o'r sacrament, gan mai y Sabbath ydoedd, ond y cyfarfod drosodd cyn iddo gyrhaedd. Trwy wlaw dirfawr y daethai yma. Ymweled â Chastellyblaidd, Solfach, a Hwlffordd. Yn y lle diweddaf, cyfarfod â Mr. Nyberg, gweinidog yr eglwys Forafaidd, a theithio yn nghyd i dref Penfro. Yn Mhenfro, Harris yn pregethu yn y capel i dorf fawr, ar, "Gwir yw y gair," Mr. Nyberg yn y pwlpud gydag ef. Dychwelyd trwy Lacharn, Llandilo Fawr, a Llangadog; yn y lle diweddaf, pregethu ar y maes i dorf o amryw filoedd; Rhaiadr, y Tyddyn, a Llanfair-muallt. Cofnoda i'r daith barhau am ddau-ddiwrnod-arbymtheg; iddo bregethu ddeunaw gwaith; teithio dros dri chant o filltiroedd ar hyd ffordd ddrwg, a phe y rhoddid ei holl gynulleidfaoedd yn nghyd, y byddai eu rhif dros haner can' mil.

Mai 9. Harris yn cychwyn i Gymdeithasfa Woodstock, gan basio trwy Drecastell, Caerfyrddin, St. Clears, a Hwlffordd, a phregethu yn mhob un o'r lleoedd hyn, ac yn cyrhaedd Woodstock ar y 15fed. Yn y Gymdeithasfa, y mae Harris yn gwasgu ar Daniel Rowland y dylai ymgymeryd a bod yn ben; yntau yn gwrthod drachefn a thrachefn. Williams, Pantycelyn, yn dweyd fod gan Harris y ddawn oedd eisiau arnynt; mai prif ddawn Rowland, Howell Davies, ac yntau, oedd appelio at y teimladau, a bod Duw gyda hwy felly; ond er pan ymadawsai Harris, nad oedd neb wedi gallu llanw ei le, ei fod yn pregethu yn rhagorol, gan osod Crist uwchlaw pob peth, a'i fod yn gosod pwys ar ddwyn ffrwyth; ond mai dyn ydoedd, ei fod yn boethlyd o dymher, y credai y cynghorwyr ei fod yn amcanu at fod yn ben, ac mai da fyddai pe y llefarai lai am fyned i'r Eglwys. Atebai Harris ei fod am i'r gwaith fyned rhagddo yn yr yspryd y cawsai ei ddechreu, ei fod yn gobeithio y peidiai y gwrthwynebiad (ar ran yr esgob) yn fuan, ac y ceid esgobion efengylaidd. Achwynai fod y bobl yn gadael cymundeb yr Eglwys, ac yn cael cymundeb yn eu tai; a thrwy hyn, fod pellder yn cael ei greu. Gwedi hyn, Popkins yn darllen papyr, ac yn condemnio llun Crist oedd i'w ganfod yn rhai o'r eglwysydd; Harris yn teimlo yn enbyd, ac yn bygwth ymaflyd yn ei het, a myned allan; eithr Rowland a Williams yn llwyddo i'w dawelu. Condemniodd Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, Popkins yn enbyd. Dywedai y diweddaf am dano ei fod mor gyfnewidiol a'r gwynt; amser yn ol, mai Eliseus Cole oedd ei hoff awdwr; gwedi hyny, Erskine, ac ar ol hyny, Hervey; ond yn awr, mai Robert Sandeman oedd ei bob peth. Y Gymdeithasfa yn hapus drwyddi o hyny allan. Ar y maes, y mae Rowland yn pregethu ar Mair yn golchi traed ein Harglwydd, a Harris ar ei ol gyda dirfawr awdurdod. Harris yn dychwelyd yn hapus ei yspryd trwy Hwlffordd, St. Clears, Cross Inn, Llansawel, Llanfihangelfach, a Llangadog. Ni chafodd erioed liosocach cynulleidfaoedd, na mwy o awdurdod wrth draddodi.

Gorphenaf 20. Harris yn myned i Aberhonddu i gyrchu yr Iarlles Huntington i Drefecca. Yno, clywed Daniel Rowland yn pregethu ar yr heol, am bob rhodd ddaionus a pherffaith yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd; a Pheter Williams, ar ei ol, yn Saesneg; yr Arglwydd yn amlwg gyda y ddau. Yr Iarlles yn aros amryw ddyddiau yn Nhrefecca, yn mawr hoffi y lle a'r ddysgyblaeth, ac yn hysbysu Harris fod arni awydd sefydlu coleg i'r pregethwyr yno, fel yr elent allan yn yspryd Trefecca i gyhoeddi Crist; y gallent bregethu yn mysg y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr, a byw yn nhŷ Harris, a bod dan ei ofal. Wrth hebrwng yr Iarlles i Fryste, yn cael ei holi ganddi am Trefecca Isaf, fel y gellid adeiladu y coleg, yr hwn a alwai yn ysgol y prophwydi, yno, gyda Mr. Jordan, oedd ar y pryd yn cadw ysgol ramadegol yn y Fenni, yn brif athraw. Y syniad am gael ysgol y prophwydi i Drefecca yn mawr gymeradwyo ei hun i feddwl Harris.

Aros yn Bath, a Bryste, yn nghyd a'r amgylchoedd, hyd Awst 14. Ar yr 21ain, cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho. Yno, cael rhyw gymaint o deimlad gan y cynghorwyr, ac oblegyd y gwelai duedd i ymadael ag Eglwys Loegr. Williams, Pantycelyn, yn pregethu ar Grist fel cyflawniad o'r holl gysgodau; ar ei ol, Peter Williams yn pregethu; awelon cryfion yn chwythu ar y dorf, llawer yn canu ac yn gorfoleddu, yn arbenig pan y cyfeiriai at yr aberth ar y groes. Wedi ciniaw, Harris yn cyfarch y seiadau preifat, gan ddangos y fath fraint iddynt oedd eu bod allan o uffern, ac yn ngwlad efengyl, a darfod i Dduw mewn un gradd gyffwrdd a'u calonau. Pwysleisiai hefyd ar yr angenrheidrwydd iddynt ddyfod dan ddysgyblaeth. Cael llawer o ryddid wrth eu cyfarch. Popkins yn poenu rhyw gymaint ar Harris eto, trwy ddweyd nas gallai gydweddio â neb a wnelai bictiwr o Grist; eithr Harris yn gallu gweddïo drosto. Penderfynu cyfarfod yn Nghaerfyrddin yn mis Medi i arholi y cynghorwyr, a chynal y Gymdeithasfa nesaf yn Nghastellnewydd-yn-Emlyn. Harris yn dychwelyd trwy Abermeurig, Llanbedr, Llanymddyfri, ac Aberhonddu.

Medi 12, 1764. Harris yn cyfarfod â Williams, Pantycelyn, Daniel Rowland, Howell Davies, a John Sparks, yn nhref Caerfyrddin, i'r pwrpas o arholi y cynghorwyr, a gweled i ba le yr oedd pob un yn gymhwys. Dweyd wrthynt am fwriad yr Iarlles Huntington i gael coleg yn Nhrefecca; ac anog John Sparks i ymryddhau oddiwrth ei fasnach, fel y gallai lwyr ymroddi i'r efengyl. Harris mewn cyfyng gynghor dirfawr parthed a oedd Duw yn ei alw i fyned i blith y bobl, a bod yn dad i'r cynghorwyr; gweled ei anghymwysder oblegyd ei bechodau mewnol ac allanol; o'r diwedd, yr Iachawdwr yn rhoddi boddlonrwydd iddo. Gweled ei fod yn gwahaniaethu i raddau oddiwrth ei frodyr mewn ymlyniad wrth yr Eglwys, a chyda golwg ar gymuno ynddi; nid oedd ef am ffurfio nac eglwys na sect, eithr diwygio Eglwys Loegr. Gwelai hwy, hefyd, yn fwy poblogaidd nag ef, ac yn fwy llwyddianus; a medrai eu hanrhydeddu fel y cyfryw. Arholi y cynghorwyr am ddiwrnod cyfan; Harris yn tori allan i lefain: "O fy mhlant, fel yr wyf yn eich teimlo wedi eich gosod ar fy nghalon! Mor gyfoethog ydwyf, ac mor ddedwydd wrth eich cael yn eiddo i mi eto!" Ychwanega: "Pwy bynag oedd yn y bai yn yr ymraniad, y mae hyny drosodd. O, y fath ymysgaroedd o dosturi a deimlaf atynt. Teimlwn fy mod yn eiddo iddynt i'w gwasanaethu. Y mae ein Hiachawdwr wedi dwyn pethau o gwmpas tu hwnt i ddysgwyliadau neb. Cefais eu bod oll yn un â mi yn y goleuni." Harris yn teimlo fod hwn yn ddiwrnod mawr; dweyd wrth y cynghorwyr ei fod yn eu mysg er ys blwyddyn a haner, ond mai yn awr yr oedd yn dechreu gwneyd gwaith. Yn pregethu ar Castle Green i gynulleidfa liosog, a chael dirfawr ryddid; dychwelyd trwy Cross Inn, a Llanymddyfri, a phregethu i gynulleidfaoedd mawrion yn y ddau le.

Hydref 19. Harris yn cychwyn am Lundain. Yn dychwelyd i Drefecca, Tachwedd 16. Ail tranoeth, y mae yn cychwyn am y Gymdeithasfa yn Nghastellnewydd-yn-Emlyn. Cyfarfod yma â Danâ iel Rowland, Enoch, Benjamin Thomas, William John, Popkins, a Howell Davies. Cael ar ddeall fod rhyw gymaint o ragfarn yn meddyliau y brodyr at y sefydliad yn Nhrefecca; teimlo, hefyd, o herwydd fod Daniel Rowland wedi cael ei gyhoeddi i bregethu ar yr adeg yr oedd Harris i arholi y cynghorwyr; clywed sî fod y cynghorwyr yn edrych arno fel yn tueddu i dra-awdurdodi arnynt. Daniel Rowland, gwedi pregethu, yn brysio at Harris, act yntau yn cwyno nad oedd arnynt eisiau ei ddawn ef (Harris), a bod yn rhaid iddynt ei gymeryd fel yr ydoedd. Yn mhen ychydig, Thomas Davies, Hwlffordd, a John Harry yn dyfod yno, mewn yspryd hyfryd, ac yn gwahodd Harris i Sir Benfro. Myned i fysg y cynghorwyr, tua chant o honynt yn nghyd, a dweyd wrthynt am eu rhagfarn at Drefecca. Hwythau yn cynyg fod y mater yn cael ei gyflwyno i ystyriaeth H. Edwards, a John Evans, y Bala. Yntau yn gwrthod. Clywed ei hun yn cael ei alw yr Yswain Harris," a phryd arall, "Cadben Harris;" teimlo yn anfoddlawn i'r enw cyntaf, ond boddloni i gael ei gyhoeddi fel cadben, os byddai hyny o fantais i'r efengyl. Siarad yn breifat â John Evans, a Humphrey Edwards, o'r Bala, ac addaw myned i'w cynorthwyo. Pregethu am un-ar-ddeg i gynulleidfa fawr, gyda llawer o ryddid a nerth. Rowland yn yn dweyd wrtho ar derfyn yr odfa ei fod meddu yr un llais, a'r un ergyd, ag a feddai ddeng-mlynedd-ar-hugain yn flaenorol; yntau yn ateb na ddymunai gael dim amgenach gan Rowland na'r hyn a glywodd ganddo y tro cyntaf, pan y cyfarfyddasant yn eglwys Defynog. Harris yn myned. am daith i Sir Benfro, gan ymweled ag Eglwyswrw, Dinas, Woodstock, Castellyblaidd, Tyddewi, Tygwyn, Narberth, Hwlffordd, Lacharn, a Chaerfyrddin. A chwedi pregethu yn Llangadog, a Threcastell, cyrhaeddodd Drefecca y dydd cyntaf o Rhagfyr.

Rhagfyr 11, 1764. Harris yn cychwyn. am daith i Sir Drefaldwyn. Pregethu yn mlaenaf yn Llanfair-muallt gyda dylanwad mawr. Pregethu yn y Rhaiadr yn y farchnadfa, i dorf liosog, ar Dduw wedi ymddangos yn y cnawd, a chael llawer o nerth. Croesi y mynydd i Lanidloes, disgyn wrth y Red Lion, ond methu cael drws agored i bregethu; o'r diwedd, y tafarnwr yn caniatau ei dŷ, ond tyrfa mor fawr yn ymgasglu, a swyddogion yr excise yn dyfod yn mhlith y dorf, fel yr aeth yn annhrefn hollol yn y lle. Neuadd y dref yn cael ei gwrthod iddo. Ceisio llefaru mewn tŷ allan bychan, ond methu, am fod y lle yn rhy gyfyng. Cychwyn tua'r Tyddyn; yr un dorf, gyda yr un arweinydd, yn ei ganlyn; neb yn gosod ei law arno, nac ar y cerbyd, eithr ymfoddloni ar floeddio: "Pwy a glywodd son i'n Hiachawdwr erioed eistedd mewn chaise? Pregethu yn y Tyddyn oddiar y geiriau: "A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," a chael nerth dirfawr i egluro natur dyoddefiadau ein Harglwydd. Yn y Drefnewydd, "Gwir yw y gair" yw y testun. Ymweled â Pool, yr Amwythig, Wenlock, Madeley, Ludlow, Leominster, a Hay, gan ddychwelyd i Drefecca, Rhagfyr 22.

Ionawr 1, 1765. Cychwyn i Gymdeithasfa Llansawel. William Richard yn agor y Gymdeithasfa trwy weddi, a Harris yn traddodi anerchiad miniog i'r cynghorwyr, ac yn cyfeirio gyda chymeradwyaeth mawr at emynau Williams, Pantycelyn. Arholi deuddeg o gynghorwyr. Harris yn y Gymdeithasfa yn anog cael undeb a'r Wesleyaid a'r Morafiaid, ac yn dweyd fod John a Charles Wesley wedi cael cyfarfod i'r pwrpas â Mr. Nyberg, gweinidog y Morafiaid yn Hwlffordd. Daniel Rowland yn dangos rhyw gymaint o wrthwynebiad. Cael bendith wrth glywed Popkins yn pregethu ar: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn?" Dychwelyd i Drefecca, Ionawr 5.

Ionawr 20. Cychwyn i ranau o Forganwg nad oedd wedi bod ynddynt er ys pedair-blynedd-ar-ddeg. Pregethu yn Glascoed i gynulleidfa fechan, ar ddwfn drueni dyn. Yinweled â Maesaleg, ger Casnewydd, ac â Chaerdydd. Llonaid capel o gynulleidfa yn y lle diweddaf yn y boreu, a Harris yn cael nerth dirfawr wrth bregethu. Myned i giniaw gyda Mrs. Jones, Ffonmon; yna, ymweled â Llantrisant, lle y câ fawr ryddid i gyffroi a tharanu oddiar y geiriau: "Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg." Yna, pregethu yn Mhontfaen, Pil, Castellnedd, Abertawe, Gower, Llanelli, a Chaerfyrddin, gan ddychwelyd i Drefecca erbyn Chwefror 2.

Y mae y dydd-lyfr am y gweddill o 1765 ar goll. Erbyn dechreu y flwyddyn ganlynol, yr oedd Howell Harris wedi cael ei argyhoeddi yn drylwyr fod cymeryd ei le cyntefig, fel arolygydd cyffredinol y Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, yn anmhosibl iddo. Cydgyfarfyddai amryw achosion i effeithio hyn. Gadawer i ni daflu byr olwg ar rai o honynt. (1) Yr oedd neillduaeth, ac absenoldeb o fysg ei frodyr, am dair-blynedd-ar-ddeg, ar ran Harris, yn gyfryw nas gellid dileu ei effeithiau. Er fod Daniel Rowland yn barod, yn wir, yn awyddus i drosglwyddo y llywodraeth iddo; ac er y cyfranogai Williams, Pantycelyn, a Peter Williams, yn yr unrhyw deimlad, yr oedd dosparth o gynghorwyr wedi cyfodi yn ystod y cyfnod hwn, y rhai na adwaenent mo Harris, ac nad oeddynt yn barod i ymddarostwng iddo. Y mae genym sail i gredu fod cryn nifer o honynt, a Popkins oedd eu genau. I Daniel Rowland y tyngent, ac ni oddefent i neb gymeryd y deyrnwialen o'i law.

(2) Yr oedd llywodraeth Harris yn tueddu at fod yn drom. Cawn ef yn datgan drosodd a throsodd yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth yn mysg y cynghorwyr; wrth hyn y golygai ymholi yn fanwl i gymhwysder pob un, trefnu cylch cydweddol a'i allu a'i ddawn i bob cynghorwr i lafurio ynddo; a'i warafun i fyned y tu allan i'r cylch hwnw, pa beth bynag a fyddai y cymhelliad, dan berygl cerydd cyhoedd. Yr ydym yn cofio am John Richard, ac eraill, yn gwingo yn erbyn trefniant manwl, peirianyddol, fel hyn ar y cychwyn cyntaf, a chafwyd peth anhawsder i osod y gwrthwynebiad i lawr y pryd hwnw. Yn awr, pan y mae Harris wedi bod am rai blynyddoedd yn swyddog milwraidd, hawdd meddwl fod ei syniad am ddysgyblaeth ac isddarostyngiad yn gryfach. Dysgwyliai am ufudd-dod ar ran y cynghorwyr i'r arolygwr, cyffelyb i eiddo y milwyr i'w cadben, yr hwn ufudd-dod nid oeddynt hwythau yn barod i'w roddi. O'r ochr arall, y mae yn bur sicr fod llywodraeth Rowland wedi bod i raddau yn llac; caffai y cynghorwyr fyned i bregethu lle y mynent, o leiaf, lle bynag y caent rywfath o wahoddiad, heb fod neb yn ceisio gosod unrhyw rwystr ar eu ffordd. Y tebygolrwydd yw fod cryn annhrefn wedi dyfod i mewn gyda hyn, os nad oedd y rhyddid wedi cael ei arfer weithiau yn achlysur i'r cnawd. Cyfodai holl natur Howell Harris yn erbyn y penrhyddid hwn, ond ni fynai y cynghorwyr, ar ol cael eu ffordd mor hir, gymeryd eu dwyn drachefn dan yr hyn a ystyrient hwy yn iau caethiwed.

(3) Yn ystod amser ei neillduaeth yn Nhrefecca yr oedd Howell Harris wedi ymwasgu yn glosach fyth at Eglwys Loegr. Gwnaethai heddwch a'r hen Brice Davies, ficer Talgarth; llwyddasai i gael cymundeb misol yn yr eglwys yno, a chael yr oriel wedi ei neillduo i gantorion Trefecca; yr oedd Mr. Morgan, y cuwrad, yn gyfaill mynwesol iddo, ac yn ymweled ag ef yn aml. Pan y dechreuasai y clerigwyr a'r esgobion erlid y Methodistiaid, a nacau y cymundeb iddynt, dywedai Harris mai glynu wrth y bobl a wnelai efe, a dysgwyliai eu gweled yn cael eu bwrw allan, fel prawf y bwriadai yr Arglwydd iddynt fyned yn gyfundeb ar wahan. Yn awr, y mae yn benderfynol o lynu wrth yr Eglwys, hyd yn nod pe y gorfyddai iddo gefnu ar ei hen gyfeillion; pan y gwel yr eglwysydd yn cael eu cau yn erbyn Rowland, ei ofal mawr yw na fyddo neb yn dweyd gair chwerw am yr esgob; a pharha i freuddwydio am benodiad esgobion efengylaidd, y rhai osodent y clerigwyr Methodistaidd yn eu holau, ac a ordeinient y penaf o'r pregethwyr lleygol. Yr oedd y Methodistiaid, o'r tu arall, yn ystod cyfnod neillduaeth Harris, wedi ymddyeithrio yn ddirfawr oddiwrth yr Eglwys yn eu teimlad; yr oedd blynyddoedd lawer o erlid, a difrio, a bygwth, wedi gwneyd eu gwaith; ac yn awr yr oedd eu hyspryd yn chwerw ynddynt am fod Daniel Rowland, yr hwn a ystyrid yn dywysog Duw yn eu plith, wedi cael ei fwrw allan o'i eglwysydd. Mewn canlyniad, ni aent i gymuno i eglwys y plwyf; eithr cyfranogent o'r elfenau yn y gwahanol gapelau a benodasid i hyny. Dywed Harris y gweinyddent swper yr Arglwydd mewn tai anedd, yr hyn oedd yn groes iawn i'w deimlad. Yr unig linyn a gysylltai y Methodistiaid a'r Eglwys y pryd hwn oedd, mai gan glerigwyr yn unig y derbyniai y rhan fwyaf o honynt y cymun, ac nad oeddynt wedi ymsymud yn gyffredinol i ordeinio yn eu mysg eu hunain. Yr oedd rhyw arwyddion fod hyd yn nod hyn ar gymeryd lle. Ordeiniasid Morgan John Lewis yn weinidog y New Inn; David Williams yn weinidog yr Aberthyn; a Thomas William, a William Edward yn weinidogion y Groeswen, yn barod; a thybiai Howell Harris y cymerai symudiad mwy cyffredinol gyda golwg ar ordeinio le yn fuan. Ac â hyn ni fyddai iddo na rhan na chyfran.

(4) Nid oedd y Methodistiaid, o ran y cyffredinolrwydd o honynt, wedi cymeryd o gwbl at y sefydliad yn Nhrefecca. Tra yr addefent fod Harris yn bur yn ei fwriad, ac yn gweithredu tan ddylanwad cymhellion anhunangar, credent mai camgymeriad difrifol oedd yr adeilad a'r teulu.

Yr oedd hyd yn nod cyfaill mor drylwyr i Harris a Williams, Pantycelyn, yn ei feio am hyn, fel y dengys y difyniadau canlynol o'i farwnad iddo:

"Pa'm y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn?
Ac anghofiaist dy ddeadell,
Argyhoeddaist ti dy hun?
Y mae plant it' ar hyd Cymru,
Yn bymtheg-mlwydd-ar-hugain oed,
A ddymunasai genyt glywed
Y pregethau cynta' erioed.

Eisiau parch, neu eisiau elw?
Neu ryw fendith is y ne'?
Rhoist ffarwel i'r fyntai ddefaid,
Ac arosaist yn dy le?
Yr oedd canoedd gynnau'n gruddfan,
Ac yn gofyn beth yw hynt
Yr hen udgorn fu'n Nhrefecca,
Ac yn uchel seiniodd gynt?

Ai bugeilio cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas,
A chorlanau trefnus gwych,
Etyb seinio pur efengyl,
Bloeddio'r iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaerdydd?

Pa'm y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynodd Harri frenhin
Fwy na mil o'r rhai'n i lawr?
Diau buaset hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai 'nghân,
Pe treuliasit dy holl amser
Yn nghwmpeini'r defaid mân.

*****
Trist yw'r ffrwythau a ddigwyddodd
O it' beidio rowndio'r byd;
Mwy fuasai dy ogoniant
Hyn pe buasai'th waith o hyd."


Os mai fel hyn y teimlai cyfaill mor anwyl a Williams ar y mater, diau fod y cyffelyb yn deimlad cyffredinol. Ar yr un pryd, fel y bardd, y mae yn sicr eu bod yn maddeu iddo ei gamgymeriad:-

"Ond mae pawb yn maddeu heddyw;
Mae rhyw arfaeth faith uwchben,
Ag sy'n trefnu pob materion
A ddychmygo dyn is nen."


Ond ni chaniatäi yntau fod arno angen am faddeuant yn nglyn a'r mater hwn, ac yr oedd canfod ei frodyr a'i gyfeillion yn edrych ar y sefydliad yn Nhrefecca gyda llygad drwgdybus yn dra dolurus iddo.

(5) Yr oedd rhyw syniad am undeb cyffredinol rhwng pawb ag feddai ysprydolrwydd crefydd wedi ei feddianu. Breuddwydiai am grynhoi yn nghyd ganlynwyr Whitefield, y Wesleyaid, y Morafiaid, a Methodistiaid Cymru, mewn un undeb mawr. Bu unwaith yn meddwl am osod John Wesley, at yr hwn y meddai anwyldeb diderfyn, fel pen ar yr undeb, ac nid ydym yn sicr nad oedd hyny yn ei feddwl yn bresenol. Tra yr oedd y breuddwyd yma yn llefaru yn uchel am gatholigrwydd yspryd Howell Harris, breuddwyd ydoedd yr oedd yn gwbl anymarferol. Y cyntaf i ddatgan yn erbyn oedd Howell Davies; hwyrach ei fod ef yn teimlo yn ddolurus wrth waith y Morafiaid yn ymsefydlu yn Hwlffordd, fel y teimlai Harris ei hun ar y cyntaf. Nid oedd yr un o'r Methodistiaid yn edrych yn ffafriol ar y syniad; edrychent ar y. peth fel dwyn. estroniaid i mewn, i fedi ffrwyth eu llafur hwy. Awgryma yntau mewn canlyniad eu bod yn gul; mai Iesu Grist a biau yr eneidiau, ac nid hwy.

O herwydd y rhesymau a nodwyd, ac efallai rai eraill, yr oedd Harris yn gwbl argyhoeddedig ddechreu y flwyddyn 1766, nas gallai weithredu fel arolygwr cyffredinol yn mysg y Methodistiaid. Chwefror 19, 1766, cynhelid Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, ac yn hono datganodd ei benderfyniad i beidio ymgymeryd a'r arolygiaeth; eithr y deuai i fysg y Methodistiaid fel cyfaill a char, ac y pregethai yn eu capelau a'u Cymdeithasfaoedd pa bryd bynag y caffai gyfleustra a gwahoddiad, er nad allai ystyried ei hun yn hollol fel un o honynt. Y mae yn deilwng o sylw fod y teimlad goreu yn ffynu rhyngddo â phrif ddynion y Methodistiaid, ac yn arbenig â Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, yr adeg yma; ac i'r brawdgarwch cryfaf fodoli rhyngddynt hyd ddydd ei farwolaeth. Yn y Gymdeithasfa, pregethai John Harry ar eiriau Crist wrth y wraig o Samaria; ar ei ol yr oedd Mr. Gray, olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, ac Ábermeurig. Ei fater ef oedd, Crist yn esgyn i'r uchelder, yn caethiwo caethiwed, ac yn derbyn rhoddion i ddynion. Am dri, pregethai Daniel Rowland; ei destun ydoedd: "Fy anwylyd sydd eiddof fi; " a chafodd odfa i'w chofio byth. Meddai Harris: "Gwelwn y fath ogoniant digymhar arno rhagor i mi; galluogwyd fi i'w anrhydeddu, ac i lefain ar i'r Arglwydd estyn ei einioes, a'i ddefnyddioldeb. O, fel y dangosodd ddirgelwch yr undeb rhwng Crist a'i eglwys! Dangosodd fod y nefoedd yn. dechreu yma mewn cariad; nad yw angau yn gwneyd unrhyw gyfnewidiad ar y credadyn, oddigerth cynyddu ei rasau. Gwaeddai: Y mae gan bob math o greaduriaid eu cân; ac y mae gan yr eglwys ei chân; a dyma hi: Fy anwylyd sydd eiddof fi! Cenwch hi, gredinwyr! Yr wyf yn dweyd wrthych, cenwch yn mlaen!' Yr oedd yn ogoneddus, mewn gwirionedd." Dyma adroddiad Howell Harris am bregeth ei gyfaill, ac y mae yn amlwg fod yr effaith arno yn orchfygol. Nid oes un hanes genym iddo ef bregethu yn ystod y Gymdeithasfa, eithr bu yn anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr. Trefnodd, hefyd, daith o dair wythnos of amser trwy ranau o Benfro, a Chaerfyrddin. Yn unol a'r trefniant hwn cawn ef yn ymweled â Narberth, Penfro, Redford, Hwlffordd, Tenant, Llandegege, Abergwaun, Woodstock, Machendre, Capel Newydd, Felindre, Gwaunifor, Glanrhyd, Caerfyrddin, lle y gwrandawai amryw filoedd ar Castle Green, Llanddarog, Llandilo Fawr, a Llangadog; a chyrhaeddodd Drefecca ar y 12fed o Fawrth. Cofnoda mai pregethu yn unig a wnelai ar y daith hon, a chynghori y seiadau a'r pregethwyr ar faterion ysprydol; nad ymyrai bellach ag unrhyw drefniadau, am y teimlai nad oedd ganddo hawl i wneyd hyny.

Ar y trydydd o Ebrill, 1766, yr ydym yn ei gael mewn lle o'r enw Petty France, nid yn nepell o Fryste, mewn cyfarfod perthynol i'r Morafiaid. Wedi cael ei gymhell, llefarodd yn gryf yn erbyn Sandemaniaeth; mynegodd hefyd wrth y pregethwyr Morafaidd fod perygl yn eu mysg i'r Beibl beidio a chael ei wneyd yn rheol i brofi pob peth wrtho. Darllenodd yma hefyd bregeth John Wesley ar gyfiawnder cyfrifedig; hoffai hi yn ddirfawr, ac wrth ei darllen cryfhäi ei obaith gyda golwg ar undeb. Y Sul yr oedd yn Bath. Aeth i'r Eglwys yn y boreu, a chyfranog odd o'r sacrament. Yn y prydnhawn pregethodd yn nghapel y Wesleyaid, ac yn yr hwyr aeth i gapel yr Iarlles Huntington, lle y pregethai Howell Davies. Testun Mr. Davies oedd: "Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfryd lais," a chafodd odfa nerthol. Bu Harris yn ei gymdeithas hyd ddeg o'r gloch. Yn mhen rhyw dair wythnos wedi dychwelyd adref, Harris yn cychwyn am daith i Sir Forganwg a rhanau O Sir Gaerfyrddin. Pregetha gyntaf yn Llanbradach, ffermdy tua phum' milldir o Gaerphili. Tranoeth cawn ef yn Watford, ac yn pregethu yn y capel Ymneillduol; eithr y mae yn pasio y Groeswen heb alw. Cafodd odfa rymus yn Nghaerdydd, wrth lefaru am Dduw yn ymddangos yn y cnawd. Pregethai yn dra argyhoeddiadol hefyd yn St. Nicholas. Ymddengys na chymerodd destun, eithr ei faterion oeddynt, credu, caru, ac edifarhau. Yn Llantrisant taranai yn erbyn hunangyfiawnder. Ei destun yn Mhontfaen ydoedd: "O Israel, ti a'th ddinystriaist dy hun." Yn nesaf cawn ef yn Mhenybont-ar-Ogwr, a phregethodd yn y capel Methodistaidd, a chafodd ryddid dirfawr i ymdrin a'r athrawiaeth am berson ein Harglwydd. Yn Margam, wrth ddrws tafarndy y pregethai; rhifai ei gynulleidfa amryw ganoedd. Ei destun oedd: "Gwir yw y gair;" a thaer gymhellai bechaduriaid hunan-gondemniedig i ddyfod at y Ceidwad. Yn yr Hen Fynachlog, ger Castellnedd, rhifai ei wrandawyr amryw filoedd. Cafodd gynulleidfa dda hefyd yn Abertawe. Wedi tramwy trwy Gower, ac ymweled a Llanelli, Llanedi, Llanon, Golden Grove, a Llangadog, dychwelodd i Drefecca erbyn y 18fed o Fai.

Treuliodd ran fawr o fisoedd Gorphenaf ac Awst, 1766, yn Ngogledd Lloegr, yn mysg y Wesleyaid. Gwnelai ei gartref yn benaf yn Huddersfield, ac elai i'r wlad o gwmpas i bregethu. Bu yn bresenol yn. nghynadledd y Wesleyaid, yn Leeds, ganol Awst. Yn mis Medi cawn ef yn ymweled ag amryw leoedd yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd gynulleidfa anferth yn Llanymddyfri, yn rhifo amryw filoedd. Porthi praidd Duw oedd ei fater; llefarai yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan fod amryw fawrion yn bresenol, ac yr oedd cryn ddylanwad yn cydfyned a'r weinidog aeth. Cafodd odfa rymus hefyd yn Llangadog; eithr bu bron a digio wrth ŵr y tafarndy, lle y lletyai, am na chaffai dalu am ei le, a lle ei geffyl. Yr oedd gan y Methodistiaid gapel newydd yn Nhrecastell. Yno cyfarfyddodd Harris a thuag ugain o aelodau y seiat, a rhoddodd lawer o gynghorion buddiol iddynt. Dau ddiwrnod y bu gartref cyn cychwyn am Orllewin Lloegr. Yn mis Tachwedd, bu am daith faith yn Sir Forganwg. A diwedd y flwyddyn cawn ef yn Llundain. Yr ydym yn cyfeirio at y teithiau cyson hyn, er dangos anghywirdeb y dyb gyffredin ddarfod i Howell Harris gau ei hun i fynu yn Nhrefecca flynyddoedd olaf ei fywyd, gyda'r eithriad o ambell i ymweliad achlysurol a wnelai i fanau lle y caffai wahoddiad. Yn wrthwyneb i hyny, cawn fod ei deithiau yn fynych a meithion, a'i ymroddiad i gyhoeddi yr efengyl yn ddiderfyn.

Treuliodd Howell Harris y ddau fis cyntaf o'r flwyddyn 1767 yn Brighton, gan bregethu yn mysg y Morafiaid, a'r Wesleyaid, ac ymweled â Llundain yn awr ac yn y man. Y mae y dydd-lyfr oddiyno hyd ddiwedd y flwyddyn ar goll. Ond yr ydym yn cael ei fod yn bresenol yn nghynadledd y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Llundain, mis Awst. Y peth cyntaf a gawn am dano yn 1768 yw, ei fod yn myned i Gymdeithasfa y Methodistiaid, a gynhelid yn Nghayo, Chwefror 17. Ar y ffordd yno, teimlai fod yn rhaid wrth ryw gymaint o ffydd i fyned fel ymwelydd i gyfarfod lle yr arferai fod yn rheolwr. Cyfarfyddodd â Rowland, a gofynai iddo a oedd pawb yn foddlon i'w bresenoldeb. Wedi cael atebiad cadarnhaol, aeth i'r cyfarfod neillduol, ac ar gais Williams, Pantycelyn, traddododd anerchiad i'r cynghorwyr. Cafodd ryddid mawr gyda hyn. Gwahoddai y Gymdeithasfa ef yn unfrydol i ddyfod i'w mysg; atebai yntau ei fod yn foddlawn ymweled â hwy pa bryd bynag y byddai arnynt ei angen. Mynegodd am y coleg a y coleg a fwriadai Iarlles Huntington sefydlu yn Nhrefecca, ond cafodd fod cryn ragfarn yn ei erbyn. Yna, ymollyngodd i lefaru am ffydd, hunanymholiad, a darllen y Beibl. Wedi iddo orphen, cyfododd Williams ar ei draed i gefnogi ei sylwadau. Yn yr odfal gyhoeddus, pregethai Daniel Rowland ar y geiriau: "Glanha fi ag isop, a mi a lanheir; golch fi, a byddaf wynach na'r eira." Meddai Harris: "Wrth ei glywed yn pregethu mor effeithiol am waed Crist, a'r angenrheidrwydd am daenelliad o hono ar y gydwybod, ac yn gwrthwynebu golygiadau Sandeman, gan wahodd pawb yn daer at yr Iesu, a hyny mewn modd na chlywais ef yn gwneyd erioed o'r blaen, teimlwn gariad mawr ato ac at y bobl. Wedi gofyn genyf, llefarais inau, am edrych ar ein Hiachawdwr a'i ddyoddefiadau. Fel yr oedd Rowland wedi dangos am waed Crist, ei fod yn sancteiddio ac yn gogoneddu, cadarnheais inau ei ymadroddion. Cefais ryddid dirfawr i bregethu yr Iesu." Y mae yn amlwg iddo gael odfa dda, ac ymadawodd a'i hen frodyr a'i galon yn gynhes tuag atynt, ac felly yr oeddynt hwy ato yntau. Y noson hono pregethai yn Llanymddyfri; yr oedd Williams wedi dychwelyd gydag ef. Aflonyddwyd ar y cyfarfod gan glerigwr meddw, a bu Harris yn dra llym wrtho.

Er fod yr Iarlles Huntington wedi hir goleddu y syniad am gael coleg yn Nhrefecca, ni chyflawnwyd y bwriad hyd Awst 24, 1768, dydd pen blwydd yr Iarlles. Agorwyd y colegdy, yr hwn oedd ar dir Harris yn Nhrefecca Isaf, gyda phregeth gan Whitefield, oddiar Ex. xx. 24: Yn mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf." Y Sul canlynol, pregethodd yr un gŵr drachefn, yn yr awyr agored o flaen y colegdy, i gynulleidfa o amryw filoedd. Ymddengys mai yr hyn at barodd i'r Iarlles roddi ei bwriad mewn grym yn awr, oedd gwaith Prifysgol Rhydychain yn esgymuno allan o honi chwech o ddynion ieuainc, oblegyd eu tuedd at Fethodistiaeth. Bu hyn yn achlysur cyffro dirfawr, a rhoddodd friw i deimladau y rhai a garent grefydd efengylaidd. Y chwech hyn, gellid meddwl, a ffurfient flaenffrwyth efrydwyr Trefecca, ac ychwanegwyd atynt o bob rhan o Gymru a Lloegr, nes y chwyddodd y rhif i fod tua deg-ar-hugain. Wedi bod yn ddyfal wrth eu gwersi ar yr wythnos, cychwynai yr efrydwyr i wahanol gyfeiriadau ar y Sadwrn i bregethu yr efengyl; ac i'r rhai a elent i deithiau pell yr oedd yr Iarlles wedi parotoi ceffylau. Pregethent yn mysg pob enwad yn ddiwahaniaeth, ond yn benaf yn mhlith y Methodistiaid. Y mae yn deilwng o sylw mai coleg i bregethwyr ydoedd; ni chaffai neb fyned iddo oddigerth iddo roddi prawf boddhaol ei fod wedi cael ei argyhoeddi i fywyd, a datgan ei benderfyniad i lwyr ymgyflwyno i wasanaeth yr Iesu. Llywydd cyntaf y sefydliad oedd y Parch. John Fletcher, ficer Madeley, yn Sir Amwythig, gŵr a haedda fwy o sylw nag a allwn roddi iddo. Brodor o Switzerland ydoedd, ac ymddengys ei fod yn disgyn o un o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd. Braidd na ellir dweyd ei fod yn dduwiol o'r groth, a'i brif ddymuniad pan yn llanc oedd cael gwasanaethu Crist yn yr efengyl. Yn y flwyddyn 1752, pan yn bedair-blwydd-ar-hugain oed, daeth i Loegr er dysgu yr iaith Saesneg. Yma daeth i gyffyrddiad â John Wesley, ac ymrestrodd yn aelod o'r seiat Fethodistaidd yn Llundain. Yn y flwyddyn 1757, cafodd ei ordeinio yn ddiacon gan Esgob Henffordd; ac yn bur fuan cafodd, ar lythyrau cymeradwyol Esgob Bangor, ei ordeinio yn offeiriad gan Esgob Llundain. Ddiwrnod ei ordeiniad, cynorthwyodd John Wesley i weinyddu sacrament swper yr Arglwydd yn ei gapel yn Llundain. Yn y flwyddyn 1760, penodwyd ef i ficeriaeth Madeley. Ymddengys ei fod yn ysgolor gwych, ac yn dduwinydd da, a'r fath oedd ymddiried John Wesley ynddo, fel y bwriadai iddo fod yn olynydd iddo fel pen y cyfundeb Wesleyaidd. Hyn, modd bynag, a rwystrodd angau. Nid ymddengys y gwnelai Fletcher ragor, fel llywydd yr athrofa yn Nhrefecca, nag ymweled a'r sefydliad yn awr ac yn y man, fel y caffai hamdden.

Pwy oedd athraw cyntaf yr athrofa sydd fater a rhyw gymaint o dywyllwch o'i gwmpas. Gwnaethai un John Jones, pregethwr teithiol yn mysg y Wesleyaid, a gwr o haniad Cymreig, yn ddiau, gais am y swydd. Yr oedd John Jones yn ysgolhaig clasurol gwych, ac yn awdwr gramadeg Lladin o fri; dywedasai Charles Wesley am dano, mai efe oedd y cymhwysaf o bawb a adwaenai i addysgu dynion ieuainc. Ond oblegyd rhyw ffolinebau oedd yn nglyn ag ef, ac yn arbenig oblegyd iddo gymeryd ei urddo gan esgob perthynol i Eglwys Groeg, nid yw yn ymddangos iddo gael yr appwyntiad. Yn hanes bywyd yr Iarlles Huntington, dywedir mai un Joseph Easterbrook, mab i grïwr yn Mryste, ac un a gawsai ei ddwyn i fynu yn ysgol y Wesleyaid yn Kingswood, oedd athraw y coleg. Y mae Tyerman, modd bynag, yn tybio yn wahanol. Dywed mai yn ysgolfeistr plwyf Madeley y penodwyd Easterbrook; ac felly, er ei fod dan Fletcher, nad oedd un cysylltiad rhyngddo a Threfecca. Ar awdurdod pregeth angladdol o eiddo y Parch W. Agutter, maentymia mai unig athraw Trefecca am y flwyddyn gyntaf, oedd plentyn deuddeg mlwydd oed, o'r enw John Henderson. Fel hyn y dywed Mr. Agutter am Henderson: "Pan nad oedd ond bachgen, cawsai ei gyflogi i weini addysg yn yr ieithoedd clasurol. Pan nad oedd ond deuddeg oed, addysgai mewn Groeg a Lladin yn athrofa Trefecca. Llywydd y coleg ar y pryd oedd Mr. Fletcher, ficer Madeley." mae yn ddiau fod y llanc John Henderson yn mron yn wyrth am ei wybodaeth; a phrawf y difyniad uchod ei fod yn athraw yn Nhrefecca mewn oedran rhyfedd o ieuanc; ond ni phrawf mai efe oedd yr unig athraw. Yr ydym yn credu yn gryf fod Tyerman wedi syrthio i gamgymeriad. Heblaw y gwrthyni o osod plentyn yn unig athraw ar sefydliad a gynwysai ddynion mewn oed, yr ydym yn cael amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Howell Harris at Easterbrook yn Nhrefecca, er na ddywedir yn bendant ei fod yno yn y cymeriad o athraw. Pwy bynag oedd yr athraw, sicr yw fod cryn lawer o'r gofal yn disgyn ar ysgwyddau Harris. Modd bynag, dechreu y flwyddyn 1770, appwyntiwyd Joseph Benson, hen daid Archesgob presenol Caergaint, yn brif-athraw. Yn Nhrefecca Isaf y bu yr athrofa hyd y flwyddyn 1792. Y flwyddyn hono, gan fod Howell Harris wedi marw er ys amser, a bod prydles Trefecca Isaf wedi rhedeg allan, symudwyd yr athrofa i Cheshunt. Trwy ystod ei fywyd, y mae yn sicr fod cysylltiad agos rhwng Harris a'r athrofa; tan ei ddysgyblaeth ef yr ystyrid y myfyrwyr; byddai yn aml yn traddodi anerchiadau iddynt, ac yn pregethu yn nghapel y coleg. Rhaid fod ei ddylanwad arnynt yn fawr.

Ar yr ail-ar-hugain o Dachwedd, 1768, yr ydym yn ei gael yn cychwyn ar daith faith i Siroedd Caerfyrddin a Phenfro. Ymwelodd â Threcastell-yn-Llywel, Llanymddyfri, Llangadog, Llandilo Fawr, Caerfyrddin, Narberth, Hwlffordd, Woodstock, Eglwyswrw, a Chapel Newydd. Pregethodd drachefn wrth ddychwelyd yn Nghaerfyrddin, a Llanymddyfri, ac yr oedd yn ei ol yn Nhrefecca, Rhagfyr 4. Yr wythnos olaf o'r flwyddyn cawn ef mewn Cyfarfod Misol yn mysg y Methodistiaid yn Llanfrynach, Sir Frycheiniog. Cafodd dderbyniad o'r serchocaf. Llefarodd yntau yn helaeth am ddechreuad y gwaith, addawai ddyfod i'r Cyfarfodydd Misol pa bryd bynag y gelwid am dano, ac anogodd hwy i bwysleisio ar waed ac angau y Gwaredwr. Pregethodd gyda nerth oddiar y geiriau: "Ac ni ddwg neb hwynt allan o law fy Nhad i." Y mae ei eiriau nesaf yn haeddu eu cofnodi, am y cynwysant gryn wybodaeth am sefyllfa yr achos yn Nghymru. "Clywais gan Benjamin Thomas," meddai, "fod pedwarar-hugain o gynghorwyr yn Ngogledd Cymru yn cyfarfod yn fisol ac yn gwarterol i drefnu eu teithiau; fod saith-ugain o aelodau yn y Bala; a bod y gwaith yn llwyddo yn rhyfedd yn Sir Aberteifi. Yn Llangeitho, cyferfydd saith-ugain o blant (y diwygiad) bob wythnos, i weddïo, i ganu, ac i agor eu calonau i'w gilydd; a llawer o rai cnawdol sydd yn cael eu dwysbigo wrth eu gweled a'u clywed. Cyfarfyddant, hefyd, yn Llanddewi-brefi, a lleoedd eraill. Yn Llanddewi-aberarth, Yn Llanddewi-aberarth, lle yr oedd y bobl oll yn gnawdol, y maent wedi adeiladu capel iddynt eu hunain, ac yr oedd Benjamin Thomas yn pregethu ynddo bythefnos yn ol, a chwedi iddo ef orphen, buont yno yn canu ac yn gweddio hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Gwelaf yn amlwg fod yr Arglwydd yn eu mysg, ac yn eu hanrhydeddu. Llawenychwn yn ddirfawr o'r herwydd, a chefais nerth i lefain ar yr Arglwydd dros Rowland, ar iddo gael ei gadw rhag ymchwyddo gan ei lwyddiant, a'i boblogrwydd, ac ar i'r llwyddiant fod yn yr Yspryd." Dengys y difyniad fod diwygiadau nerthol yn ysgwyd Cymru yr adeg hon, a bod y gwaith yn myned rhagddo gyda nerth. Dengys, hefyd, fod yspryd Howell Harris mewn cydymdeimlad llwyr a'i frodyr, y Methodistiaid, a bod eu llwyddiant yn peri i'w galon ddychlamu o'i fewn.

Tua dechreu y flwyddyn 1769 yr ydym yn cael fod llesgedd wedi ei orddiwes, ac ychydig a deithiodd allan o Drefecca. Yn mis Mawrth, y flwyddyn hon, cyfarfyddodd a phrofedigaeth lem trwy farwolaeth ei anwyl wraig. Yr oedd yn ddynes. nodedig o dduwiol, a meddai yn ychwanegol lawer o nerth cymeriad; gallai sefyll hyd yn nod yn erbyn ei phriod, pan y tueddai i fyned i eithafion. Gwaelu yn raddol a wnaeth; deallai ei bod yn tynu at y diwedd, a dywedai wrth Harris am beidio wylo pan ddiangai yr yspryd o'r corph, gan y byddai hi gyda ei Gwaredwr. Eithr wedi y cyfan daeth y diwedd yn sydyn. Yn yr hwyr, pan yr oedd efe mewn cyfarfod crefyddol gyda'r teulu, ac un Mr. Cook yn eu hanerch, dyma floedd Miss Harris allan o ystafell ei mam yn adsain trwy y lle. Rhoddodd yntau i fynu ar unwaith, ac yr oedd yn brin mewn pryd i'w gweled yn anadlu yr anadl olaf. Cafodd ergyd a'i syfrdanodd am amser, oblegyd yr oedd ei serch ati yn angerddol. Meddai: "Cefais ergyd na chefais ei gyffelyb o'r blaen; daeth y llifeiriant dros fy enaid; yr oeddwn yn gyfangwbl o dan y dwfr; cyffyrddasant â gwraidd fy mywyd. Bum am amser dan draed, fel nas gallwn sylwi ar ddim, eithr yn unig galw ar yr Arglwydd; a'r meddwl cyntaf a gefais oedd, ai ergyd mewn cariad ydoedd ei waith yn ei chymeryd ymaith, a gwrthod gwrando ar fy ngweddi am gael ei chadw." Bu mewn pangfeydd enaid enbyd yr adeg hon; dywed mai o ymladdfa i ymladdfa yr yd oedd, a'i fod ef yn dyst o fodolaeth y diafol. Eithr yn y diwedd cafodd oruchafiaeth drwyadl ar y cnawd a'r diafol. Am Mawrth 13, ysgrifena: "Dyma ddydd i'w gofio byth genyf fi, pan y rhoddwyd corph fy anwylaf wraig, yr hon a roddasai yr Arglwydd i mi, i orwedd yn eglwys Talgarth.' Diwrnod ystormus a gwlyb oedd dydd claddedigaeth Mrs. Harris. Yn y tŷ, cyn cychwyn, pregethodd Mr. White, ac yna llefarodd Harris ei hun yn Gymraeg, gan adrodd hanes ei bywyd, a nerth ei chrefydd. Cariwyd y corph gan aelodau teulu Trefecca. Heblaw llawer eraill, yr oedd holl efrydwyr coleg yr Iarlles Huntington yn yr angladd, a chanasant wrth y tŷ, a braidd yr holl ffordd i Dalgarth, er cymaint y gwlaw. Yn yr eglwys, gwasanaethodd y Parch. John Morgan, y cuwrad, a dychwelodd Harris yn ei ol i'r tŷ gwag, er cynifer oedd ynddo, gan deimlo ei fod wedi gosod darn o hono ei hun yn y ddaear. Cofnoda ddarfod iddo roddi menyg duon i'r holl fyfyrwyr, a galarwisgoedd i'r holl wragedd a'r merched yn y teulu, y rhai a rifent un-ar-bymtheg-a-deugain.

Ar y dydd olafo Fawrth y mae yn myned i Lundain, a Brighton, yn benaf ar ymweliad â'r Iarlles Huntington, a'r dydd. cyn y Sulgwyn y dychwelodd i Drefecca. Ar yr wythfed o Orphenaf, cychwynodd am daith i Siroedd Morganwg a Mynwy. Y lle cyntaf a pha un yr ymwelodd oedd Llanbradach; cafodd gynulleidfa fawr, mil o leiaf, ac yr oedd nerth mawr yn cydfyned a'i eiriau pan y rhybuddiai y dorf i ddianc am eu bywyd. Erbyn myned i Gaerphili yr oedd y gynulleidfa yn fwy fyth. Pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg; a chwedi taranu am beth amser arweiniwyd ef i efengylu yn felus. Wedi pregethu yn Llysfaen daeth i Gaerdydd, ac achwyna ei fod yn wael, ac mewn poen dirfawr, a'i fod yn fynych yn colli ei lais wrth lefaru. Yn Baduchaf, yr oedd y gynulleidfa yn fawr, eithr y pregethwr yn gryg; modd bynag, nerthwyd ef o wendid. i lefaru am yr Iesu yn agoryd llygaid y deillion, ac yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Y dwfr a rydd ein Harglwydd yn tarddu i fywyd tragywyddol oedd ei fater yn Llantrisant, lle y daethai torf i wrando, ac y cafodd yntau, mewn cryn lesgedd, gymhorth i bregethu. Wedi llefaru yn Mhontfaen, ciniawodd yn Nghastell Ffonmon, a phregethodd y noswaith hono yn Aberddawen gyda mwy o ryddid nac arfer. Yn nesaf, cofnoda ei fod yn pregethu yn Llangana, "plwyf Mr. Jones," meddai; a phan gofir mai yr Hybarch Jones, Llangan, oedd y Mr. Jones hwn, y mae y crybwylliad o ddyddordeb. Nid yw yn ymddangos fod Mr. Jones yn gwrando. Wedi ymweled a Phenybont, aeth i'r Pîl; achwyna ar y gwres, a'i lesgedd yntau, eithr, fel arfer, pan aeth i lefaru nerthwyd ef yn rhyfedd. Yn eglwys Llanilltyd, ger Castellnedd, clywodd bregeth ardderchog, ar berson Crist, gan offeiriad o'r enw Mr. Jones. Tybed mai Jones, Llangan, ydoedd? Pregethodd yntau yn nghyntedd y Fynachlog i ddeng mil o bobl, o leiaf. Cafodd gynulleidfa lawn mor liosog yn Abertawe, lle y llefarai oddiar lidiart y turnpike. Ni phregethodd drachefn nes cyrhaedd Llandilo Fawr; nerthwyd ef yn ddirfawr yma i son am Dduw yn tynu ymaith y galon gareg. Yn y capel newydd, ger Pontargothi, ei destun ydoedd: "Du wyf fi, ond hawddgar." Llym enbyd ydoedd yn y bregeth hon. Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Nghaerfyrddin, yn ymyl y castell; Duw yn darostwng ucheldrem dynion yw ei fater. Wedi ymweled a Llansawel, daeth i Gilycwm; yn nghanol y pentref y pregethai, oblegyd mawredd y gynulleidfa; ei destun ydoedd: "Os dyoddefwn gyda Christ, ni a deyrnaswn gydag ef." Syna fel y mae yn cael ei gynorthwyo yn y gwaith, ac at y derbyniad a roddir iddo, a'r cariad a ddangosir ato gan bobl Rowland. Cyfeiria hefyd at y tan oedd yn eu mysg. Wedi pregethu yn Nhrecastell i dorf fawr, cyrhaeddodd Drefecca, Gorph. 22ain. Meddai: "Daethum yma neithiwr o gwmpas naw; clywais fawl yr Arglwydd yn cael ei ganu, a dywedais wrth fy mhobl y pethau mawrion a welais, fod yr holl wlad yn addfed i'r cynhauaf; na chefais erioed o'r blaen y fath gynulleidfaoedd, na'r fath ryddid i lefaru, na'r fath wrandawiad. Dywedais, yn mhellach, fy mod wedi dychwelyd i godi eu hysprydoedd, i'w gosod ar dân, ac i dystiolaethu am yr Iachawdwr wrthynt.' Hawdd gweled fod ei daith wedi bod o ddirfawr fendith iddo.

Awst 16eg, 1769, daeth Iarlles Huntington i Drefecca i gadw cylchwyl gyntaf ei choleg, gan ddwyn gyda hi Iarlles Buchan, yr Arglwyddes Anne Erskine, Miss Orton, yn nghyd â'r Parch. Walter Shirley, brawd Iarll Ferrers. I'w chyfarfod daeth Fletcher, llywydd y coleg, Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, Howell Davies, Peter Williams, a John Wesley, yn nghyd â llu o ser llai. Mewn canlyniad i'w dyfodiad cadwyd wythnos o gyfarfodydd pregethu. Boreu dydd Sadwrn, Awst 19, pregethodd Rowland yn nghapel y coleg i gynulleidfa fawr, ar y geiriau: "Ai ychydig yw y rhai cadwedig?" Y prydnhawn gweinyddwyd sacrament swper yr Arglwydd; Fletcher yn anerch y cymunwyr, Williams yn rhoddi allan yr emyn, a'r gynulleidfa yn canu nes yr oedd y lle ar dori gan fawl. Erbyn y nos yr oedd y gynulleidfa yn rhy liosog i'r capel, a phregethodd Howell Harris allan oddiar y geiriau: "Canys daeth yr amser i'r farn ddechreu o du Dduw." Y Sul, yn y cyntedd oddiallan, darllenodd Fletcher y gwasanaeth, a phregethodd Shirley. Am un, gweinyddwyd y cymundeb drachefn, Rowland, Fletcher, a Williams, yn cymeryd rhan. Yn y prydnhawn, pregethodd Fletcher i dorf anferth oddiar y geiriau: "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist;" a Rowland, yn Gymraeg, ar ei ol, oddiar: "Gosodwyd i ddynion farw unwaith." Ymddengys mai dydd Llun y daeth John Wesley, Howell Davies, a Peter Williams i'r lle; a'r dydd hwnw, a'r dyddiau canlynol, cymerasant hwythau ran yn y gwaith. Fel hyn yr ysgrifena John Wesley am ddydd Iau, diwrnod olaf yr wyl: Gweinyddais swper yr Arglwydd i'r teulu. Am ddeg, pregethodd Fletcher bregeth nodedig o fywiog yn y cyntedd o flaen y capel, am fod y capel yn llawer rhy fach. Ar ei ol pregethodd William Williams, yn Gymraeg, hyd nes yr oedd rhwng un a dau. Am ddau ciniawsom. Ar yr un pryd yr oedd torf oddiallan yn cael eu porthi â basgedeidiau o fara a chig. Am dri, cymerais i fy nhro, yna Mr. Fletcher, ac o gwmpas pump gollyngwyd y dyrfa ymaith. Rhwng saith ac wyth, dechreuodd y gariad-wledd, pan y cysurwyd llawer, yr wyf yn meddwl.' Ychwanega fod tŷ Howell Harris, yn nghyd â'r gerddi, a'r perllanau, a'r rhodfeydd o gwmpas, yn baradwys fechan. Sicr fod y cynulliad yn ardderchog; ac wrth ddarllen enwau y rhai oedd yn bresenol, y mae yn anhawdd peidio meddwl am eiriau yr Ysgrythyr: "Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd."

Yn fuan gwedi hyn cymerwyd Howell Harris yn bur glaf, ac nid aeth nemawr allan o Drefecca hyd fis Hydref, pan yr ydym yn ei gael yn cychwyn am daith it Sir Benfro. Yn nghapel Hwlffordd yr ydym yn ei gael yn pregethu gyntaf; yna aeth i Woodstock. Wedi hyny ymwelodd ag Abergwaun, Solfach, Tyddewi, a Gwaunifor. Wrth ddychwelyd pregethodd yn Nghaerfyrddin, Llandilo Fawr, a Llangadog. Cafodd flas mawr ar ei daith. "Yr wyf yn teimlo fel pe bai y wlad yn cael ei rhoddi i mi o'r newydd," meddai. Dyma y daith olaf iddo yn y flwyddyn 1769.

Ar y Sul cyntaf yn Chwefror, 1770, cawn ef yn Nghaerfyrddin, ar ei ffordd drachefn i Sir Benfro. Wedi pregethu yn Narberth, aeth i Hwlffordd, lle y cynhelid Cyfarfod Misol, y cyntaf wedi marwolaeth Howell Davies. Yr oedd yno gynulliad mawr o bregethwyr, cynghorwyr, a stiwardiaid. Wedi i John Harry geisio ganddo, anerchodd y cyfarfod am agos i dair awr. Dywedai iddo ddyfod mewn canlyniad it lythyr oddiwrth Mr. Thomas Davies; pwysleisiai ar yr angenrheidrwydd iddynt. oll adnabod Crist. "Nid oes genym ddim i'w ddweyd trosom ein hunain, ein bod yn myned o gwmpas i bregethu, heb ordeiniad," meddai, “onid ydym yn cael ein hanfon gan yr Yspryd Glân." Cafodd ymddiddan preifat a John Harry, yr hwn a ddywedai fod ganddo fab yn bwriadu myned i Athrofa Trefecca. Y mab hwn, yn ddiau, oedd y Parch. Evan Harris, yr hwn a gafodd ei ordeinio ar y neillduad cyntaf yn 1811, yn Llandilo Fawr. Yn y capel, pregethodd am agos i ddwy awr heb un testun. Pregethodd yn yr un lle nos dranoeth, gyda llawer o ryddid, ar dduwdod y Gwaredwr. Wedi ymweled â nifer o leoedd yn Mhenfro, yn benaf yn y rhan Saesneg, aeth i Woodstock, i gyfarfod Daniel Rowland, ac y mae ei deimlad ar y ffordd yno yn haeddu ei groniclo. "Yr wyf yn myned i Woodstock," meddai, "i gyfarfod Mr. Rowland, er gofyn iddo ef a'r Gymdeithasfa i ddyfod i Drefecca, ac yr wyf yn gadael y canlyniadau i'r Arglwydd. Yr wyf yn cael fod llwyddiant anarferol gydag ef; tros ddwy fil o bobl yn dyfod i'r sacrament yn Llangeitho bob dydd Sadwrn, a hyny dros ddeugain milltir o bellder. O, beth wyfi fi?" Eto dywed:

"Cefais gariad mawr heddyw at Rowland, wrth weled ei fod yn cael ei garu yn fwy nag y cefais i erioed, a'i fod wedi cael mwy o ras na mi i'w gadw yn ostyngedig, ac i fod yn ffyddlawn i'r Arglwydd. Y mae yn fwy ei ddawn a'i awdurdod, ac y mae ei lwyddiant wedi bod yn fwy. A'm holl galon dymunwn ar i'w lwyddiant barhau, ac iddo gael oes hir, a nefoedd yn y diwedd." Hyfryd meddwl fel yr oedd y ddau hen gyfaill, ar ol ymranu am yspaid, wedi dyfod i ddeall eu gilydd, ac fel yr oedd calon y naill wedi ymglymu drachefn am y llall. Testun Rowland ydoedd: "Edrychwch na byddo yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, yn ymado â Duw byw." Cafodd odfa hynod; a gweddïai Harris am iddo gael yr eneiniad yn helaeth yn barhaus. Wedi y bregeth yr oedd y sacrament. "Daeth yr Arglwydd ataf," meddai Harris, "gan ddwyn tystiolaeth i'w gorph a'i waed sanctaidd."

Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Abergwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris. yn bwriadu myned yno; ond ar gais unfrydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i osod William Davies, Castellnedd, yn arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn lle Howell Davies. Erfyniodd Harris arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymuniad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca. Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr hwn a ofynai am dani i'r dref hono. Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na fyddent yn dangos llawer o gariad drwy wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod


Tranoeth, sef Chwefror 14, 1770, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol yn Aber- gwaun. Nid yw yn ymddangos fod Harris yn bwriadu myned yno ; ond ar gais un- frydol cyfeillion Sir Benfro efe a aeth. Nid aeth ar ei union i'r cyfarfod neillduol, eithr dywedodd yr elai os gelwid am dano. Yn fuan daeth y gwahoddiad iddo. Y mater tan sylw pan aeth i mewn oedd cynygiad i osod William Davies, Castellnedd, yn arolygwr ar y seiadau yn Sir Benfro, yn lle Howell Davies. Erfyniodd Harris arnynt ymbwyllo, a'i glywed yn gyntaf, a mynu deall a oedd yr Yspryd Glân wedi ei gymhwyso i fod yn dad. Siarsodd hwy hefyd i gymuno hyd y gallent yn eglwys eu plwyf. Yna rhoddwyd gerbron ddymun- iad Harris, ar i'r Gymdeithasfa Chwarterol ganlynol gael ei chynal yn Nhrefecca. Gwrthwynebai John Evans, y Bala, yr hwn a ofynai am dani i'r dref hono. Atebai Harris, mai dyma y cais cyntaf a wnaethai atynt er ys ugain mlynedd, ac na fyddent yn dangos Ilawer o gariad drwy wrthod. Dywedai John Evans yn ol fod Harris yn gosod ffafr bersonol iddo ef o flaen daioni y Gogledd. Sut y penderfynwyd y mater ni ddywedir, ond ymddengys mai John Evans a enillodd. Am un-arddeg, gweddïodd Mr. Gray, a phregethodd Mr. Rowland oddiar y geiriau: "Gosod fi fel sêl ar dy galon." Byr iawn y bu, ac nid aeth yn dori allan o dano. Ar ei ol pregethodd Howell Harris. Ni ddywed beth oedd ei destun, ond cafodd nerth dirfawr.

Wedi trefnu ei daith yn Abergwaun, aeth Harris i Bontfaen; yna ymwelodd ag Eglwyswrw, lle yr ymadawodd â John Harry a Thomas Davies; Capel Newydd, Machendref, Caerfyrddin, Llanddarog, Llandilo Fawr, a Llanymddyfri, a chyrhaeddodd Drefecca, Chwefror 24. Yn mis Mai, yn yr un flwyddyn, yr ydym yn ei gael ar daith yn Sir Benfro, ac yn ymweled a'r un lleoedd. Yn Mehefin y mae yn ymweled ag amryw o seiadau Sir Faesyfed, megys Claerwy, Caebach, Dolswydd,. a Phenygorig. Yn Dolswydd bu yn hallt wrthynt, oblegyd eu bod yn taflu eu Cymraeg dros y bwrdd, a phriodolai hyny i falchder Lloegr. Yn Caebach, ger Llandrindod, daeth offeiriad ato ar derfyn y cyfarfod i ddiolch iddo am ei bregeth, gan ddymuno arno fyned trwy yr holl sir a'r athrawiaeth hono. Er na lwyddasai yn Abergwaun i gael y Gymdeithasfa i Drefecca, ac mai y Bala a enillodd, oblegyd mawr daerni John Evans, y mae Howell Harris, yn lle dal dig, yn cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho, Awst 20, gan deimlo mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd. Diau ei fod wedi cael ei wahodd gan Rowland. Ar y ffordd pregethodd yn Llanfair-muallt, Cribat, a Llanwrtyd, Île yr oedd capel erbyn hyn wedi ei adeiladu. Y nos cyn y Gymdeithasfa cyrhaeddodd Dregaron. Nid yw yn ymddangos iddo. gymeryd testun yma, ond llefarodd ar ymbriodi â Christ. Aeth i Langeitho erbyn Aeth i Langeitho erbyn deuddeg dranoeth. Yr oedd rhai canoedd o bregethwyr a stiwardiaid yn y capel newydd. Ni ddywed ddim am yr ymdriniaeth yn y cyfarfod neillduol, ond yn yr odfa gyhoeddus, y prydnhawn cyntaf, pregethodd rhyw frawd o gymydogaeth Wrexham, na roddir ei enw, ar y geiriau: "Canys ni appwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth, trwy ein Harglwydd Iesu Grist." Pregethodd am etholedigaeth, am farwolaeth ein Harglwydd yn boddloni cyfiawnder, ac am fod y pechadur yn cael myned yn rhydd, gan ddarfod i'n Hiachawdwr dalu yr oll a fedrai y ddeddf ofyn. Ymddengys ei bod yn odfa dda. Ar ei ol cyfododd Davies, Castellnedd, gan gymeryd yn destun: "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Ymddangosai i Harris fod dawn y pregethwr hwn yn fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Ysgrythyr yn fanylach na'r cyntaf, a bod mwy o arddeliad ar ei weinidogaeth. Torai mawl allan drachefn a thrachefn yn mysg y dyrfa, tra y bloeddiai cenad Duw fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod ein pechodau ni fyned yn eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder ef wedi dyfod yn feddiant i ni.

Yr oedd y dylanwad mor fawr fel braidd nad oedd Harris wedi ei syfrdanu. "Arosais mewn dystawrwydd," meddai, "wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel; gwelwn mai dyma lle y mae Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth, a gogoniant rhyfedd, a'i fod yn ymledu yn mhell ac yn agos." Cafodd Harris y lle mwyaf anrhydeddus, sef deg o'r gloch yr ail ddiwrnod. Ni ddywed beth oedd ei destun, ond yr oedd Duw gydag ef. Dychwelodd y noswaith hono i Dregaron, a phregethodd i dorf fawr. Tranoeth aeth ar ei union dros y mynyddoedd i Drefecca. Dyma y tro olaf iddo i ymweled â Llangeitho; yn wir, dyma ei daith ddiweddaf allan o Drefecca.

Gyda ei fod yn dychwelyd yr oedd ail gylchwyl sefydliad coleg Iarlles Huntington, yn Nhrefecca, yn dechreu. Y mae yr adroddiad a roddir yn Life and Times of Selina, Countess of Huntington, am y rhai oedd yn bresenol, a'r sawl a gymerodd ran yn y cyfarfodydd, yn mhell o fod yn gyson a'r adroddiad a geir yn y dydd-lyfr; a'r tebygolrwydd yw mai y dydd-lyfr sydd yn gywir. Dechreuwyd y cyfarfodydd gyda gweinyddiad o'r cymundeb yn nghapel y coleg, am wyth yn y boreu; cyfarfyddwyd a'r Arglwydd yn y cyfarfod hwn. Yn y prydnawn pregethai Mr. Fletcher, llywydd yr athrofa, ar ddirgelwch Crist. Ar ei ol cyfododd Peter Williams, gan lefaru yn Gymraeg ac yn Saesneg; ei bwnc oedd gwagedd y byd; a phan y dechreuodd son am ogoniant yr Iesu, a bod nefoedd yn ei gariad, aeth yn gyffro mawr yn mysg y bobl, ac yr oedd y lle yn llawn bywyd a gogoniant. Y noswaith hono cynaliwyd cariad-wledd. Tranoeth, pregethodd Harris, ar Daniel yn galaru am anwiredd y bobl; a chofnoda fod y Parch. J. Walters, yr offeiriad, awdwr y Geirlyfr Saesneg a Chymraeg, yn bresenol. Y noswaith hono pregethodd Mr. Walters bregeth bwysig. Yn ychwanegol, cawn fod Simon Llwyd, o'r Bala, yn bresenol, yn nghyd ag un Mr. Hammer, yr hwn hefyd a gymerodd ran yn y gwaith cyhoeddus. Daethai yno hefyd lu o ddyeithriaid, a dywed Harris fod ugain o welyau yn llawn yn ei dŷ ef.

Eithr yr oedd ystorm ar dori uwchben athrofa yr Iarlles yn Nhrefecca. Ddechreu mis Awst, tua phythefnos cyn cylchwyl y coleg yn Nhrefecca, cyfarfu cynhadledd y Wesleyaid yn Llundain. Yno, datganodd John Wesley eu bod fel corph o bobl wedi tueddu yn ormodol at Galfiniaeth, a rhoddodd fynegiant i syniadau llawer mwy Arminaidd. Yn mysg pethau eraill, dywedodd y dylai y Wesleyaid gael eu dysgu i ymdrechu am, ac i ddysgwyl sancteiddhad, nid yn raddol, trwy fywyd o ymdrech, ond yn uniongyrchol. Pan ddaeth cofnodau y gynhadledd i law yr Iarlles, ymofidiodd ei henaid ynddi; nis gallai ymatal rhag tywallt dagrau yn lli, a theimlai fod agendor nas gellid ei chroesi wedi cael ei hagor rhyngddi a chanlynwyr John Wesley. Yr oedd wedi llawn fwriadu. ei gymeryd gyda hi i Drefecca y flwyddyn hon eto; ond yn awr, nis gallai feddwl am hyny. Gan fod Benson, yr athraw clasurol yn yr athrofa, yn Wesleyad zêlog, rhoddwyd rhybudd iddo ymadael, yr hyn a wnaeth yntau ddiwedd y flwyddyn. Gan ddarfod i'r Iarlles ddatgan ar gyhoedd na chelai yr un Armin fod mewn cysylltiad a'r coleg, taflodd Fletcher ei swydd fel llywydd i fynu. Rhaid ddarfod i'r helynt gynyrchu cryn ferw yn y coleg; ac, fel yr oedd yn naturiol, rhedai cydymdeimlad y myfyrwyr yn gryf gyda'r Iarlles, bara yr hon y fwytaent. Aeth rhai o honynt hwy i'r eithafion cyferbyniol, gan bregethu Uchel Galfiniaeth, os nad rhywbeth yn ffinio ar Antinomiaeth. Modd bynag, er fod Harris yn Galfin cryf, credai fod yr Iarlles yn gweithredu yn rhy fyrbwyll, a theimlai yn ddirfawr dros Benson. Yr oedd i John Wesley le cynhes yn ei fynwes; a chan fod ei gyfaill yn glynu yn sefydlog wrth yr athrawiaeth efengylaidd am gyfiawnhad trwy ffydd, nid oedd Harris am ei gondemnio am ei olygiadau eraill. Ac oblegyd hyn, bu rhyw gymaint o oerfelgarwch rhwng Harris a'r larlles am dymhor. Ymddengys mai y Parch. Mr. Shirley a gymerodd le Benson am ryw gymaint o amser.

Treuliai yr Iarlles lawer o'i hamser y pryd hwn yn Nhrefecca, ac mewn canlyniad ymwelai llawer o bregethwyr Cymreig a'r lle. Ddechreu Medi, daeth Daniel Rowland yno, a phregethodd yn y coleg oddiar y geiriau: "Oblegyd rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef." Dywed Harris iddo gael llawer o oleuni, a bod y gynulleidfa yn anferth. "Tra y pregethai Rowland," meddai, "fy yspryd a'i carai; teimlwn ei fod yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd. o'm cnawd." Yr un wythnos, daeth un Mr. Owen, o Meidrim, yno, a phregethodd yn rhagorol iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, oddiar: "Rhosyn Saron, a lili y dyffrynoedd, ydwyf fi." Ar y dydd olaf, cawn Peter Williams, a Williams, Pantycelyn, yn Nhrefecca. Pregethodd y cyntaf yn nghapel y coleg, ar, "Myfi yw y ffordd;" ar ei ol, pregethodd Williams, ar, y tŷ ar y graig. Dranoeth, pregethai Peter Williams drachefn, ar, yr Arglwydd yn gwneyd cyfamod newydd â thŷ Israel; dangosai fod y cyfamod yn ddiamodol, fod y galon newydd yn rhan o hono, a safai yn gryf dros barhad mewn gras. Yr oedd y dylanwad yn fawr; y fath oedd ei allu a'i ddoniau, fel y teimlai Harris gywilydd. agor ei enau. Cofnodir yn y dydd-lyfr am Hydref 22: "Heddyw, o gwmpas pedwar, daeth Edmund Jones yma, yn y cerbyd a anfonaswn i'w gyrchu; am chwech, pregethodd i'r efrydwyr, ar, yr hwrdd a ddaliesid yn rhwym mewn dyrysni." Hoff gweled rhai, a fuasent unwaith yn methu deall eu gilydd, yn dyfod yn gyfeillion drachefn. Arosodd Edmund Jones yn Nhrefecca rai dyddiau, a phregethodd drachefn ar: "Nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig."

Ar y 10fed o Dachwedd, clywodd am farwolaeth Mr. Whitefield yn America, ac yr oedd ei alar ef, a'r Iarlles, ar ol y gwas enwog hwn i Grist, yn fawr. Er fod rhyw gymaint o bellder wedi myned rhwng Harris ac yntau, yr oedd y ddau yn gyfeillion calon yn y gwraidd, a theimlai Harris, pan y daeth y newydd am ei angau, ergyd cyffelyb i'r un a gafodd pan y collodd ei briod. Ar gais yr Iarlles, pregethodd ar ei farwolaeth y noswaith hono. "Dangosais," meddai, "fod colofn wedi cael ei symud; fy mod wedi bod yn gydnabyddus ag ef am ddeuddeg-mlyneddar-hugain; cyfeiriais at y lle mawr a lanwai, y gwagle dirfawr oedd ar ei ol yn y tair teyrnas, a'r fath nifer sydd yn galaru o herwydd ei golli, ac y byddai dros fil o eneidiau yn y dydd hwnw yn ei gydnabod fel eu tad. Dygais ar gof ei zêl, ei ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, a'i wroldeb yn cario y gwirionedd am rad ras yn mhell ac yn agos. Yr oeddwn yn daer am i'w fantell syrthio ar y rhai sydd yn ol, a dangosais fawredd gras Duw yn ei gynal yn nghanol y fath glod a phoblogrwydd." Y mae yn ddiau fod y pregethwr tan deimladau dwysion, ac anhawdd meddwl nad oedd y dagrau yn llifo dros ruddiau ei wrandawyr.

Y mae y dydd-lyfr am ran o'r flwyddyn 1771 ar goll; ond y mae yn mron yn sicr nad aeth Howell Harris o cartref i bregethu yn ei hystod, nac yn wir hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd llesgedd wedi ei orddiwes, a'i gyfansoddiad, er cadarned ydoedd, yn prysur dori i fynu. Y syndod ydyw, pan feddylir am fawredd ei lafur, iddo barhau cyhyd. Dywed iddo orphen yr adeilad yn Nhrefecca yr haf hwn; a thybiai fod hyny yn arwyddo ei fod ar orphen ei waith. Ar yr un pryd, pregethai yn ddyddiol, os nad yn amlach na hyny, i'r teulu yn Nhrefecca; ac yn fynychaf, anerchai yr efrydwyr yn y coleg. Gofalai, hefyd, am achosion tymhorol y tŷ yn Nhrefecca, er fod ganddo gynorthwywyr ffyddlon yn Evan Moses ac Evan Roberts. Yn mis Awst, cynhelid cyfarfod blynyddol yr athrofa fel arfer; ond nid oedd Daniel Rowland, na Williams, Pantycelyn, yn mysg yr ymwelwyr. Y rhai y cawn eu henwau ydynt, John Harry, a Benjamin Thomas, a phregethodd y cyntaf ar y geiriau: "Crea galon lan ynof, O Dduw.' Terfyna y dydd-lyfr yn Chwefror, 1772, ac am ei hanes o hyny allan, rhaid i ni ddibynu ar dystiolaeth aelodau y teulu a gasglodd o gwmpas.

Efallai mai dyma y lle mwyaf priodol i holi parthed maint y niwed a gafodd crefydd Cymru, ac yn arbenig Methodistiaeth Cymru, trwy yr ymraniad gofidus a gymerodd le rhwng Harris a'i frodyr. Sicr yw fod y niwed yn fawr iawn. Nid colli gwasanaeth y Diwygiwr ei hun, at throi yr yni a arferai redeg tros holl Gymru i gylch cyfyng sefydliad teuluaidd yn Nhrefecca, oedd y peth mwyaf. Yr ydym yn addef fod y golled hon yn fawr; ond dylid cofio fod Howell Harris yn barod, trwy ei lafur blaenorol, wedi gwanychu ei gyfansoddiad yn ddirfawr, ac nas gallasai barhau yn hir i deithio gyda yr un ymroddiad ag y gwnaethai. Y niwed pwysig a effeithiodd yr ymraniad oedd y dylanwad difaol a gafodd ar y seiadau, llawer o ba rai oeddynt newydd eu sefydlu, ac yn gyfansoddedig o grefyddwyr cymharol ieuainc. Pan feddylir fod pregethwyr Harris yn cyniwair trwy holl Gymru, gan gyhoeddi yn groch fod yr offeiriaid. wedi colli Duw; ac yna, fod y pregethwyr a ganlynent Rowland yn dilyn ar eu hol, gan alw Harris yn Sabeliad, yn Batripasiad, a llawer o enwau eraill, rhaid fod y seiadau yn cael eu syfrdanu, a bod y rhai a'u mynychent yn y benbleth fwyaf. Chwalwyd llawer o honynt mewn canlyniad, ac ni ail-sefydlwyd rhai byth. Yn arbenig, pan yr ymneillduodd Harris i Drefecca, ceisiodd rhai o'i ddilynwyr osod i fynu fân bleidiau, gyda hwy eu hunain. yn ben arnynt. Yn mysg y rhai hyn, gallwn gyfeirio yn neillduol at Thomas Meredith, a Thomas Seen, y cyntaf o gymydogaeth Llanfair-muallt, a'r ail o Sir Drefaldwyn, y rhai oeddynt i dau yn bresenol yn Nghymdeithasfaoedd cyntaf Harris, ond yn raddol a aethant i bregethu rhyw gymysgedd o Antinomiaeth a Sandemaniaeth, nas gwyddai neb beth ydoedd. Bu i'r naill a'r llall nifer o ganlynwyr am ychydig, eithr buan y darfuant.

Ni theimlodd Gwynedd lawn cymaint oddiwrth yr ystorm, am eu bod yn mhellach oddiwrth ganolbwynt yr ymdrech, er, hefyd, i'r corwynt difaol gyrhaedd yno. Yn y Dê, Sir Aberteifi a deimlodd leiaf; yma yr oedd dylanwad Rowland yn orchfygol; a seiat yr Hen Fynachlog, ger Pontrhydfendigaid, yw yr unig un y darllenwn am dani ei bod yn gwahodd plaid Harris. Nid cymaint, ychwaith, a fu y niwed yn Sir Gaerfyrddin, am fod Williams, Pantycelyn, yn y pen uchaf, a Rowland, trwy ei bregethu misol yn ngapel Abergorlech, yn y rhan isaf, yn medducryn ddylanwad ar y seiadau. Bu y rhwyg yn fwy yn Sir Benfro. Yr oedd Howell Davies yn cael edrych i fynu ato fel tad gan ganoedd; ond yr oedd John Sparks, a John Harris, St. Kennox, yn fawr eu dylanwad, ac yn pleidio Howell Harris yn gryf, a phan y darfu i'r Diwygiwr ymneillduo i Drefecca, aethant hwy drosodd at y Morafiaid. Rhaid iddynt hwy ddylanwadu ar gryn nifer. Diau i seiadau Sir Forganwg gael eu hysgwyd yn enbyd, ac i rai o honynt ddiflanu. Ar ol hyn, nid ydym yn darllen am seiadau Gelligaer, Llysfaen, y Cymmer, Dolygaer, ac eraill. Am Sir Fynwy, chwalwyd y nifer amlaf o'r seiadau a gynwysai; ac o'r oll a sefydlwyd gan Howell Harris, yr unig un sydd wedi glynu wrth Fethodistiaeth yw seiat y Goetre, ger Pontypŵl. Am yr eglwysi eraill a fedd y Cyfundeb yn Mynwy, ffrwyth llafur diweddarach ydynt. Gwir i'r New Inn, a Mynyddislwyn, barhau am rai degau o flynyddoedd i ystyried eu hunain yn Fethodistaidd; ond gan eu bod mor bell o ganolbwynt y diwygiad, ac na chododd yr un pregethwr o ddylanwad pwysig ynddynt, darfu iddynt yn raddol ymgyfathrachu a'r Annibynwyr, a chollwyd hwy i'r Cyfundeb. Ond yn Sir Faesyfed y bu y canlyniadau fwyaf alaethus. Collwyd yr holl seiadau perthynol iddi. Gellir rhoddi amryw resymau am hyn. Yn un peth, ni adeiladasid capelau yma; yr unig un y cawn hanes am dano yn y sir yw capel Maesgwyn; cyfarfyddai y seiadau mewn tai anedd, ac felly yr oeddynt yn fwy hawdd eu chwalu. Peth arall, o gwmpas adeg yr ymraniad, daeth yr iaith Saesneg fel diluw dros y sir; ac nid yw yn ymddangos fod gan y Methodistiaid bregethwyr Saesneg i ymweled a'r cynulleidfaoedd gyda chysondeb; felly, aeth llawer o'r dychweledigion i'r Eglwys Sefydledig, ac ymunodd eraill a'r Annibynwyr, a'r Bedyddwyr.

Ac yn ddiweddaf, aeth amryw o'r crefyddwyr mwyaf blaenllaw i Drefecca, gan ymuno a'r teulu yno; felly, yr oedd y rhai a weddillasid yn amddifad o arweinwyr, ac heb ddynion profiadol yn eu mysg i fod yn fywyd ac yn nerth. Rhwng y cwbl, collwyd Maesyfed yn gwbl i Fethodistiaeth. Ymddengys fod y seiadau wedi diflanu, gan mwyaf, yn ystod bywyd Howell Harris; yr unig rai y cawn ef yn ymweled â hwy wedi ei ymheddychiad a'r Methodistiaid yw Penybont, Claerwy, a Llandrindod. Os oedd rhagor yn haner dadfyw, ac os cawsant ryw gymaint o adnewyddiad trwy sefydliad coleg yr Iarlles Huntington yn Nhrefecca, am y caent yno rai â fedrent eu hanerch yn yr iaith Saesneg, diflanasant yn llwyr pan y symudwyd y coleg hwnw o Drefecca i Cheshunt. Ffrwyth ymdrechion cenhadol cymharol ddiweddar yw yr eglwysi Methodistaidd a geir yn Sir Faesyfed yn bresenol. Eithr ni ddylid tybio i'r dychweledig ion oll, nac yn wir y nifer amlaf o honynt, gael eu colli i grefydd. Ymunodd canoedd o honynt ag enwadau eraill. Diau fod rhai degau o eglwysi cymharol gryfion, perthynol i'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr, i'w cael yn Siroedd Morganwg, Mynwy, a Maesyfed, ag y gellir olrhain eu sefydliad i lafur Howell Harris, neu i eiddo rhai o'r Diwygwyr Methodistaidd eraill.

Trwy ystod y flwyddyn 1772, gwaelu a wnaeth iechyd Howell Harris, ac yr oedd ei babell yn prysur ymddatod. Hyd y medrodd, elai i goleg yr Iarlles i anerch y myfyrwyr. Ond yn fuan aeth hyn yn ormod o dasg iddo. "Y tro diweddaf y pregethodd yno," meddai yr Iarlles, "yr oedd yno dorf liosog, fel arfer, ac yr oedd ei weinidogaeth yntau mor gyrhaeddgar a chyffrous ag erioed. Llefarodd gyda theimlad dwfn am Dduw, a thragywyddoldeb, ac am anfarwoldeb a gwerthfawredd eneidiau ei wrandawyr; am eu llygredigaeth wrth natur, perygl y sefyllfa o fod yn ddiailenedig, yr angenrheidrwydd anorfod am ailenedigaeth trwy yr Yspryd Glân, ac am gredu yn Nghrist mewn trefn i dderbyn pardwn. Llefarai fel oracl Duw, yn eglurhad yr Yspryd ac mewn nerth, a phan ddaeth at y cymhwysiad, cyfeiriodd at y gwrandawyr gyda y fath dynerwch, a'r fath ddifrifwch, gan anog pawb o honom i ddyfod i gydnabyddiaeth a'r anwyl Waredwr, fel y toddodd y gynulleidfa i ddagrau." Sicr yw ei bod yn odfa o'r fath fwyaf effeithiol.

Er methu myned allan o'r tŷ, ymlusgai i'r llawr i anerch y teulu lliosog a gasglasai yn Nhrefecca, yn mron hyd y diwedd. Gadawodd ei anerchiadau yr adegau yma argraff annileadwy ar feddyliau y rhai a'u clywent, a darfu iddynt, yn angherddoldeb eu serch ato, groniclo llawer o'i ddywediadau. Ni fedrwn ddifynu ond ychydig o honynt. "Yr wyf yn caru pawb sydd yn dyfod at y Gwaredwr," meddai un tro, "ac yn ymborthi ar ei gnawd a'i waed ef; yr wyf yn teimlo mai efe, ac nid dim yma, yw fy ngorphwysfa a'm dedwyddwch. Yr wyf yn caru tragywyddoldeb am ei fod ef yno. Yr wyf yn llefaru wrtho, ac yn İlefain arno. O, dywyllwch y cnawd hwn sydd yn ei guddio oddiwrthyf! O, tydi, yr hwn a fuost yn gwaedu i farwolaeth, a'r hwn wyt yn awr yn fyw, tyred a dwg fi adref. Am y ffordd, mi a orchymynais. hono i ti, i ofalu am danaf. Dy eiddo di ydwyf, yma a byth; un o'th waredigion ydwyf, gwerth dy waed a'th chwys gwaedlyd; a'th ewyllys di yw fy nefoedd." Yn y diwedd aeth yn gaeth i'w wely, ac ni fedrai ysgrifenu, eithr medrai glodfori yr Arglwydd. "Bendigedig fyddo Duw," meddai, "y mae fy ngwaith wedi ei orphen, ac mi a wn fy mod yn myned at fy anwyl Dduw, a'm Tad, canys efe a gafodd fy nghalon, ïe, fy holl galon."

Ar yr 21ain o Orphenaf, 1773, pan yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, ehedodd ei enaid pur at ei Dad a'i Dduw. Gwnaethpwyd galar mawr am dano, nid yn unig gan deulu Trefecca, ond trwy holl Gymru. Ymgasglodd miloedd i'r angladd. Cyfrifa yr Iarlles Huntington fod ugain mil wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu mysg bymtheg o glerigwyr. Anerchwyd y dorf anferth oddiar dair o esgynloriau gwahanol, gan chwech clerigwr. Yr offeiriad a weinyddai wrth y bedd oedd y Parch. John Morgan, cuwrad Talgarth, a'r hwn yr oedd yr ymadawedig ar delerau o gyfeillgarwch agos er ys blynyddoedd. Camgymeriad yw y dybiaeth fod y Parch. Price Davies, y ficer, gwedi marw, a bod ei swydd wedi ei rhoddi i un o'r enw William Davies. Cafodd Price Davies oes hirfaith; bu fyw am beth amser gwedi marwolaeth y Diwygiwr o Drefecca, ond yr oedd yn rhy lesg i gymeryd rhan yn ngwasanaeth y claddu; ac yn wir nid yw yn ymddangos ei fod yn bresenol. Y mae traddodiad, cyffelyb i'r un am angladd Howell Davies, i John Morgan dori lawr wrth ddarllen ar lan y bedd, ac iddo estyn y llyfr i un arall, a darfod i hwnw, ac eraill i'w ganlyn, dagu gan ddagrau, ac mai yn nghanol ocheneidiau, a wylofain uchel, y rhoddwyd gweddillion marwol Howell Harris i orwedd yn y ddaear. Hawdd genym gredu hyn, oblegyd yr oedd yn cael ei anwylo y tuhwnt i neb ar y ddaear, gan ganoedd. Yn eglwys Talgarth, yn agos i fwrdd yr allor, y cafodd fedd.

Nid oedd casglu cyfoeth yn un amcan gan y Diwygiwr. Tra y bu yn trafaelu o gwmpas gwlad, ac yn ysgwyd Cymru a'i weinidogaeth, ychydig a dderbyniodd o ran rhoddi a derbyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun. Gydag anhawsder y gallai gadw ei ben uwchlaw'r dwfr mewn cysylltiad a'i amgylchiadau. Ond y rhan olaf o'i oes, trwy ei ddiwydrwydd, ac ymdrechion y bobl oedd wedi ymgasglu ato, a thrwy ei fawr fedr i drin amgylchiadau pan yr ymroddai at hyny, yr oedd y tŷ yn Nhrefecca, a rhyw gymaint o diroedd a thai o gwmpas, yn eiddo rhydd-ddaliadol iddo. Gadawodd y cwbl mewn ewyllys, nid i neb a berthynai iddo yn ol y cnawd, ond i'r Sefydliad, tan ofal ymddiriedolwyr. Un plentyn a feddai; i'r ferch hono disgynodd cyfoeth ei mam; a chyn ei farw ef yr ydoedd wedi priodi a meddyg yn Aberhonddu, ac uwchlaw angen; felly yr oedd at ei ryddid i wneyd a'i feddianau fel yr ewyllysiai. Wedi marw y Sylfaenydd, dyhoeni a wnaeth y teulu yn Nhrefecca; nid oedd neb wedi ei adael ar ol o gyffelyb feddwl i gario y gwaith yn mlaen; ac erbyn dechreu y ganrif hon yr oedd y Sefydliad wedi ymddirywio i fod yn siop fechan mewn gwlad. Tua'r flwyddyn 1840, cyflwynodd aelodau y teulu a weddillasid y cyfan i fynu i Gyfarfod Misol Brycheiniog, ar yr amod eu bod hwy i gael rhyw gymaint o flwydd-dal tra y byddent byw. Cyflwynodd y Cyfarfod Misol y cyfan i Gymdeithasfa y Deheudir; ac oddiar y flwyddyn 1842, y mae athrofa y Cyfundeb yn Neheudir Cymru yn cael ei chynal yno.

Cymeriad ardderchog oedd Howell Harris. Mewn ymroddiad i lafur, mewn beiddgarwch i wynebu rwystrau a pheryglon; ac mewn dibrisdod o gysuron corphorol, nid oes yr un o'r Tadau Methodistaidd a ddeil eu cymharu ag ef. Yr unig rai ag y gellir eu dwyn o'r tu fewn i gylch cymhariaeth yw Wesley a Whitefield yn Lloegr; ond pan feddylir am agwedd Cymru ar y pryd, pa mor anhygyrch oedd y ffyrdd, pa mor wael oedd yr ymborth a'r llety, a pha mor enbyd. oedd llid y clerigwyr a'r werinos, y mae y glorian yn troi, ac yn troi yn drwm, o blaid y Diwygiwr o Drefecca. Braidd nad yw yn anmhosibl cyflwyno i drigolion yr oes hon unrhyw syniad am ei yni, a'i ymroddiad. Teithiai dros fynyddoedd geirwon, heb braidd lun o ffordd; delid ef yn fynych gan ystormydd enbyd ar ei hynt; byddai raid iddo yn aml fyned trwy ganol y nentydd chwyrn oeddent wedi gorlifo dros eu ceulanau, ac nid anfynych y byddai ei anifail ac yntau mewn perygl o gael eu cario i ffwrdd gan ruthr y llifeiriant; ac yn aml pregethai i dyrfaoedd. mawrion yn wlyb hyd ei groen, a'i gylla yn wag. Nid oedd unrhyw rwystr a'i hataliai. Yr ydym yn darllen droiau am Rowland a'r lleill yn methu myned i Gymdeithasfa oblegyd afrywiogrwydd yr hin; ni chawn hyny am Howell Harris gymaint ag unwaith. Wedi teithio trwy afonydd, ac wedi bod yn y lluwchfeydd eira hyd ei ên, byddai yn pregethu fel cenad o dragywyddoldeb, a'i enaid yn fflamio o'i fewn. Efallai y treuliai y nos drachefn yn gorwedd ar gadeiriau o flaen y tân yn ei ddillad gwlybion, er mwyn cychwyn i'w daith dranoeth gyda glasiad y wawr. Nid rhyfedd ei fod weithiau, rhwng cellwair a difrif, yn cyhuddo ei frodyr o ddiogi, ac o ormod gofal am gysuron corphorol. Efe oedd yr arloesydd yn Nghymru; ganddo ef y torwyd y garw. Nid bychan a fu llafur Rowland, Williams, a Howell Davies, ac nid ychydig a ddyoddefasant; ond ni ddeil eu teithiau a'u blinderau eu cymharu â'r eiddo ef.

Efe hefyd oedd y mwyaf amlochrog ei athrylith. Yn y pwlpud y dysgleiriai Rowland; yno, nid oedd neb a allai ddal cystadleuaeth ag ef. Mewn cadw seiat, ac yn arbenig mewn prydyddu a chyfansoddi emynau, y rhagorai Williams; yn y cylch hwn y mae heb ei gyffelyb. Ond am Howell Harris, rhagorai yn mhob peth yr ymgymerai ag ef. O ran nerth gwefreiddiol ei areithyddiaeth, ychydig yn is ydoedd na Rowland ei hun; ac fel duwinydd, yn arbenig mewn dirnadaeth ddofn o'r gwirionedd am berson Crist, er y graddau o gymysgedd oedd yn ei syniadau, credwn ei fod yn fwy na'i frodyr oll. Ac ni allai yr un o honynt ddal canwyll iddo fel trefnydd. Meddai grebwyll i roddi bod i gynllun; ac er y dylanwad oedd gan y cyfriniol arno, yr oedd ei gynlluniau braidd oll yn rhai ymarferol. Yn y cyfuniad o'r cyfriniol a'r ymarferol dygai fawr debygolrwydd i Oliver Cromwell. Harris, yn ddiau, yw tad ffurf-lywodraeth eglwysig y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru; ei saerniaeth ef yn benaf yw y trefniadau presenol gyda golwg ar Gymdeithasfaoedd, a Chyfarfodydd Misol. A phe y cawsai aros dros ei oes mewn cysylltiad â'r Methodistiaid, fel arolygydd cyffredinol, y mae yn sicr y buasai y trefniant yn fwy pendant a manwl, gyda mwy o awdurdod yn y Gymdeithasfa fel canolbwynt. Ai mantais ynte anfantais i'r Cyfundeb a fuasai hyn yn y pen draw, ni chymerwn arnom benderfynu. Ond yr oedd ochrau eraill eto i athrylith y Diwygiwr. Rhaid fod yr hwn a fedrai nid yn unig lywodraethu teulu o chwech ugain o ddynion, o bob math o dymheredd, ac wedi eu casglu yn nghyd o bob rhan o'r wlad, ond hefyd at fedrai ddarpar tuag at eu cynhaliaeth, trwy gynllunio gwahanol fathau o ddiwydrwydd ar eu cyfer, yn meddu nerth meddyliol o'r radd flaenaf, hyd yn nod pe na byddai ganddo unrhyw orchwyl arall i'w gyflawni. Er rhoddi gwaith i'r rhai oedd dan ei gronglwyd, a chyfarfod a'u hanghenion, cawn Harris yn ymgymeryd a bron bob math ar waith. Amaethai dir, lluniai ffyrdd; yr oedd ganddo weithfaoedd gwlan a choed; mewn gair, prin yr oedd dim y tu allan i gylch ei athrylith. Ychwaneger at hyn oll mai efe, am flynyddoedd, a fu bywyd Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, a darfod iddo brofi ei hun yn swyddog milwraidd effeithiol; a bydd yn rhaid cydnabod ei fod yn un o'r dynion mwyaf amlochrog ei feddwl a welodd y byd.

Nid oedd heb ei ffaeleddau, ac y mae y rhai hyny, fel yn gyffredin mewn dynion o deimladau cryfion, ar y wyneb, ac yn hawdd eu canfod. A gellir dweyd am danynt oll eu bod yn gogwyddo i gyfeiriad rhinwedd. Os oedd yn boeth ei dymher, ac yn tueddu at dra-awdurdod, cyfodai hyn oddiar ddyfnder ei argyhoeddiadau, a'i fawr zêl dros yr hyn a ystyriai yn wirionedd. Yr oedd mor agored a'r dydd, ac yn gwbl rydd oddiwrth bob math o ystryw. Oblegyd hyn syrthiai weithiau i'r rhwyd a daenid iddo gan ddynion diegwyddor. Nis gwyddom ychwaith i ba raddau yr oedd gwendid corph, yn cyfodi oddiar or-lafur, yn gyfrifol am gyffröadau ei nwyd. Eithr yn nglyn â hyn meddai lonaid calon o serchawgrwydd; medrai garu yn angerddol; ac yr oedd ei afael yn ei gyfeillion yn ddiollwng fel y bedd. Os caffai ei dramgwyddo, byddai gair caredig oddiwrth yr hwn a roddasai y tramgwydd iddo yn ddigon i'w ddwyn i'w le ar unwaith. Rhaid ei ddal ef yn benaf yn gyfrifol am yr ymraniad. Aethai i ryw ystad meddwl ar y pryd fel na dderbyniai na chynghor na cherydd; edrychai ar ei wrthwynebu ef fel yr un peth a gwrthwynebu Duw. Y mae yn anhawdd cyfrif am yr ystad meddwl hwn, ond ar y tir fod rhyw fath o orphwylledd wedi dyfod drosto. Ar yr un pryd, credwn y dylasai ei frodyr ddangos mwy o dynerwch tuag ato, at chymeryd i ystyriaeth ei lafur a'i ymroddiad. Eithr pan y gwnaeth y Methodistiaid estyn llaw tuag at gymod, estynodd yntau ei law i'w cyfarfod ar unwaith. A llawenydd digymysg i ni oedd darganfod, trwy gyfrwng ei ddydd-lyfr, fod deng mlynedd olaf ei fywyd yn llawer dysgleiriach nag yr oedd neb wedi breuddwydio, a'i fod wedi eu treulio mewn undeb agos a'i frodyr gynt. Daethai ef a Daniel Rowland i ddeall eu gilydd yn drwyadl, ac wedi iddynt ymheddychu, ni chyfododd cwmwl cymaint a chledr llaw gwr rhyngddynt tra y buont fyw. Yn ystod y blynyddoedd hyn, ac hyd ei fedd, yr oedd Howell Harris yn un o'r Methodistiaid mewn pob peth ond enw. Teithiai yn eu mysg, pregethai yn eu capelau, ymwelai a'u Cyfarfodydd Misol ac a'u Cymdeithasfaoedd, a chaffai ganddynt y lle mwyaf anrhydeddus a fedrent roddi iddo. Teg cadw mewn cof mai taith i Gymdeithasfa Llangeitho oedd y diweddaf a gymerodd cyn cael ei gyfyngu gan lesgedd i Drefecca; a darfod i'r hyn a welodd ac a glywodd yno sirioli ei yspryd i'r fath raddau, fel y datganai ei argyhoeddiad fod Duw yn amlwg yn y lle, ac mai dyna Jerusalem Cymru. Aeth yn ei ol, tros y mynyddoedd, i Drefecca, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer; ac er na fedrodd deithio o gwmpas mwy, deuai Rowland, a Williams, a Peter Williams, i ymweled ag ef yn fynych.

Bu Howell Harris farw yn ddyn cymharol ieuanc; nid oedd yn llawn triugain oed pan y galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Ond yn ystod yr adeg fer hon gwnaeth waith anhygoel, gwaith y bydd cofio am dano gwedi i amser ddarfod. A bu fyw yn ddigon hir i weled chwildroad moesol a chymdeithasol wedi cymeryd lle yn Nghymru. Os ar ei darawiad allan yr edrychai y byd arno gyda chilwg, gan ei ystyried yn freuddwydiwr llawn penboethni, cyn ei farw amgylchynid ef ag anrhydedd, ac heddyw edrychir arno fel un o brif gedyrn Cymru. Nid oes seren ddysgleiriach nag efe yn llewyrchu yn ffurfafen hanesyddiaeth ein gwlad. Pa bryd bynag y cawn fel cenedl ein bendithio â hanes a fyddo i ryw raddau yn deilwng o honom, yn yr hanes hwnw rhaid i Howell Harris, y teithiwr diorphwys, yr arloesydd beiddgar, y pregethwr hyawdl, y seraph tanllyd, a'r gwladgarwr pur, gael lle amlwg. Yr ydym yn teimlo anhawsder i ffarwelio ag ef, gan fel y mae ei swyn yn enill arnom. Y mae Williams, Pantycelyn, yn y farwnad ardderchog a gyfansoddodd iddo, wedi arddangos ei gymeriad a'i nodweddion mor oleu, fel yr ydym yn rhwym. o ddifynu ychwaneg o'r penillion:

"Mae'n cryfhau y breichiau gweinion,
Ac yn dala'r llesg i'r lan;
Yn ei athrawiaeth y mae ymborth,
Bwyd i'r ofnus, bwyd i'r gwan;
Geiriau dwys, sylweddol, gloew,
Wedi eu tempru yn y tân,
Lamp i arwain pererinion
Trwy'r anialwch mawr ymlaen.

Y mae'r iachawdwriaeth rasol
Yn cael ei rhoddi i maes ar led,
Ag sy'n cymhell mil i'w charu,
Ac i roddi ynddi eu cred;
Haeddiant Iesu yw ei araeth,
Cysur enaid a'i iachad,
Ac euogrwydd dua pechod
Wedi ei ganu yn y gwaed.

Byth na chofier am ei bechod,
Na 'sgrifener dim o'i fai,
Blotiwyd llyfrau'r nef yn hollol,
Pa'm caiff rhagfarn dyn barhau?
Ni chaiff pen, nac inc, na thafod,
'Rwy'n eu gwa'rdd o hyn i maes,
Sôn am ddim ond y Diwygiad
Trwyddo lanwodd Gymru las.

'Nawr mae'n gorwedd yn y graian,
Mewn lle tywyll, dystaw iawn,
Harris, gynt, a'i waedd ddihunodd
Weinidogion lawer iawn;
Can's trwm gwsg oddiwrth yr Arglwydd
Oedd fel diluw'n llanw'n lân,
Yn y dydd cyhoeddodd Howell
I fod Nini'n myn'd ar dân.

Griffith Jones, pryd hyn, oedd ddeffro,
Yn cyhoeddi efengyl gras,
Hyd cyrhaeddai'r swn o'r pwlpud,
Neu, os rhaid, o'r fynwent las;
Ond am fod ei foreu'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fyn'd i'r meusydd,
Ac i'r lleoedd nad oedd llan.

Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cenad gan un esgob
Ag sy'n llawer llai na Duw,
Fe gyhoeddodd yr efengyl,
Anfeidroldeb dwyfol 'stor,
O derfynau'r Hafren dawel
Obry i'r gorllewin fôr.

Nid oes heddyw ond rhyw 'chydig,
Duw o'r nef estyno eu hoes,
A ddihunodd yn y plygain,
Pan yr oedd hi yn dywyll nos,
Ac a chwythodd a'u holl egni
Yn yr udgorn gloew, las,
Nes dihuno eirth a llewod,
A bwystfilod gwaetha'r maes.

*****
Os oedd eisiau ffrynd ffyddlonaf,
Harris unig oedd efe,
Gwell na'r ceraint goreu anwyd
Mewn un ardal is y ne';
Maddeu bai, a chadw cwnsel,
Yspryd cydymdeimlo yn un,
A gwneyd holl ofidiau ei gyfaill,
Megys ei ofidiau ei hun.

*****
Cwsg i lawr yn Eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae,
Ti gai godi i'r lan i fywyd
Sy'n dragywyddol yn parhau;
Gwell i ti gael gorphwys yna
Blith dra phlith a'r pryfed mân,
Na chael mil o demtasiynau
At y dengmil ge'st o'r blaen.

*****
Ffarwel, Harris, darfu heddyw
A chwenychu bod yn ben,
Ce'st ddyrchafiad mwy godidog,
Canu yn y nefoedd wen;
Ac 'rym ninau yn dy ganlyn
'Rhyd y grisiau yma lawr,
Ac nid oes ond rhyw fynydau
Rhwng y gloch a tharo ei hawr."


Nodiadau

golygu