Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Yr Ymraniad

Howell Harris (1749–50) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Howell Harris–Gwedi Yr Ymraniad

PENOD XVI.

YR YMRANIAD.

Syniadau athrawiaethol Howell Harris—"Ymddiddan rhwng Uniawngred a Chamsyniol”– Achosion i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn parthed athrawiaeth—Harris yn petruso cyn ymranu—Plaid Rowland yn cyfarfod yn Llantrisant, ac yn ymwrthod a Harris—Yntau yn cynal pwyllgor yn Llansamlet—Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yn St. Nicholas— Cymdeithasfa Llanfair-muallt—Llythyr Harris at Rowland—Harris yn Sir Benfro—Harris yn Ngogledd Cymru—Cymdeithasfa Llwynyberllan a Dyserth.

EFALLAI mai dyma y lle mwyaf priodol i wneyd ychydig sylwadau ar syniadau athrawiaethol Howell Harris. Nis gall neb sydd wedi ymgydnabyddu mewn un gradd a'i bregethau, ei lythyrau, a'i ddadleuon â gwahanol bersonau ar wahanol bynciau, amheu ei fod yn dduwinydd gwych. Meddai lygad eryr i adnabod y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt; ac mewn cysylltiad ag un gwirionedd pwysig, ymddengys ei fod wedi plymio yn ddyfnach na neb o'i gydoeswyr yn Nghymru, oddigerth, o bosibl, Williams, Pantycelyn. Y gwirionedd hwn oedd, agosrwydd undeb y ddwy natur yn mherson ein Harglwydd. Ymdeimlai a'r gwrthyni o wahanu y naturiaethau, ac o ddweyd fod y Gwaredwr yn gwneyd un peth fel Duw, a pheth arall fel dyn; a beiddiodd gyhoeddi fod yr oll o berson Crist yn mhob peth a wnelai, ac yn mhob peth a ddyoddefai. Tra nad cywir nac Ysgrythyrol dweyd ddarfod i Dduw farw, yr oedd Howell Harris yn ei le pan yn dadleu fod perthynas agosach rhwng duwdod y Gwaredwr a'r angau, na nerthu a dal y natur ddynol i fyned trwy y dyoddefaint; i Fab Duw farw; a bod y Person Anfeidrol yn yr iawn. Nid ydym yn meddwl ychwaith ei fod yn dal, pan yr eglurai ei syniadau, ddarfod i Dduw farw; oblegyd cawn ef yn dangos amryw weithiau, fod natur ddwyfol yr Arglwydd Iesu yn dal gafael ddiollwng yn ei gorph pan yn gorwedd yn farw ar waelod bedd, ac yn ei enaid, pan am ychydig amser y preswyliai ar wahan i'r corph yn mharadwys. Nid ydym yn hoffi yr ymadrodd, "gwaed Duw;' tuedda yn ormodol i fateroli y Duwdod; ond nid oedd y geiriau yn ngenau y Diwygiwr ond ffordd gref o osod allan y gwirionedd pwysig, oedd wedi llanw ei enaid a'i ogoniant, sef fod holl berson y Duw-ddyn yn ei angau, ac yn cyfansoddi ei aberth. Credai ef iddo ddarganfod y gwirionedd hwn trwy ddatguddiad o'r nef; a darfu i fawr ddysgleirdeb y datguddiad ddallu ei feddwl am beth. amser, fel nas gallai weled unrhyw wirionedd arall. Yn nglyn a'r athrawiaeth hon, yr oedd wedi gwthio yn fwy i'r dwfn na'r un o'i gydlafurwyr.

Ond nid oedd ganddo weledigaeth eglur, a rhaid addef fod cryn gymysgedd yn ei syniadau, neu ynte ei fod yn anffodus yn ei ddull o eirio. Ymddengys fel pe yn tybio ddarfod i natur ddynol ein Harglwydd, wrth ddyfod i undeb a'i berson dwyfol, gael ei thrawsnewid a'i gogoneddu rywsut, nes dyfod i gyfranogi o briodoleddau arbenig y ddwyfoliaeth. Pan y dywed fod y gwaed yn anfeidrol, a'i fod yn llanw tragywyddoldeb, gorfodir ni i gredu y golyga rywbeth heblaw anfeidroldeb haeddiant. Yr oedd gan bob peth cyfriniol ddylanwad mawr arno. Nid hawdd ychwaith deall ei syniadau am y Drindod. Weithiau, gellir meddwl ei fod yn hollol uniongred; dywed yn groew ei fod yn credu mewn tri pherson; mai y Mab, neu y Gair, a ddarfu ymgnawdoli, ac nid y Tad na'r Yspryd, a'i fod yn wrthwynebol i Sabeliaeth. Ond yn ymyl hyn, yr ydym yn dyfod ar draws cymysgedd. Dywed fod y Drindod Sanctaidd wedi ymgnawdoli yn yr lesu; nad oes yr un Duw y tu allan i'r Iesu; fod y Drindod ynddo ef; a bod y rhai a gredant fod y Tad mewn unrhyw ystyr uwchlaw yr Iesu yn gosod i fynu eilun ddychymygol, gerbron yr hwn y syrthient i lawr ac yr addolent. Gwadai felly ddarfod i'r Gwaredwr ddyhuddo digofaint y Tad; a gofynai yn wawdlyd, pwy a ddyhuddodd lid y Mab, a'r Yspryd Glân? Rhaid i bob dyn meddylgar gydymdeimlo ag ef pan y dywed fod y Drindod yn ddirgelwch iddo, a bod yr athrawiaeth yn ormod o ddirgelwch iddo allu ymborthi arni, ac efallai, yn y diwedd, fod y cymysgedd yn fwy yn ngosodiad y syniadau allan, nag yn y syniadau eu hunain.

Fel hyn yr ysgrifena Mr. Charles, o'r Bala, ar fater yr ymraniad: "Tebygol fod Mr. Harris yn ŵr o dymher go wresog, a pha beth bynag a gymerai le yn ei feddwl, yr oedd yn ei dderbyn, ac yn ei ddilyn gyda bywiogrwydd poethlyd. Tebygol fod y bobl heb eu haddysgu yn fanwl yn y pynciau mawrion hyn, gan fod yr athrawiaeth, gan mwyaf, yn cerdded llwybr cwbl wahanol. Dywedodd un o'r hen broffeswyr wrthyf, ei fod ef, ac amryw frodyr, gyda eu gilydd mewn cymdeithas neillduol dros bum' mlynedd, heb wybod dim am Grist, hyd yn nod yn hanesiol, a phan glywsant ryw bregethwr yn son yn neillduol am dano, nid oeddynt yn ei ddeall, nac yn gwybod am bwy yr oedd yn pregethu. Gofynais i'r hen ŵr duwiol, beth oedd yn cael ei bregethu iddynt ? Atebodd nad oeddynt yn clywed am ddim ond am ddrwg pechod, tân uffern, a damnedigaeth, nes y byddent yn crynu gan ofnau mawrion, a dychryn calon."

Y mae yn bur sicr fod yr hen ŵr yma yn camddarlunio pethau, neu ynte nad oedd wedi clywed neb yn ystod y pum' mlynedd y cyfeiriai atynt, ond y mwyaf anwybodus o'r cynghorwyr, oblegyd yr oedd pregethau Rowland a Harris yn llawn o Grist, a phan y byddent yn dangos drygedd pechod, aent i Galfaria er ei weled yn ei liwiau duaf. Ond i fyned yn mlaen gyda geiriau Mr. Charles: "Cafodd Harris ei wrthwynebu gan rai brodyr oedd yn cael eu blino gan ei ddull yn llefaru am berson a marwolaeth Crist, sef fod Duw wedi marw, &c., &c. Barnent fod y dywediad yn an-Ysgrythyrol, ac yn tueddu at Sabeliaeth. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth ei frodyr crefyddol yn beth hollol anadnabyddus i Mr. Harris; hyd yn hyn yr oeddent yn gwrando arno fel tad, a phen-athraw, fel yr oedd yn wirioneddol i'r rhan fwyaf o honynt. Yn lle arafu, a phwyllo, ac ystyried yn ddiduedd a oedd ei ymadroddion yn addas am y pynciau uchod, chwerwodd ei yspryd tuag atynt, a phellhasant yn raddol oddiwrth eu gilydd, hyd nes y diweddodd mewn ymraniad gofidus."

Er mwyn deall golygiadau Daniel Rowland, yr ydym yn cofnodi traethawd byr a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1749, pan yr oedd y ddadl rhyngddo ef a Harris yn ei phoethder mwyaf. Ei enw yw, "YMDDIDDAN RHWNG UNIAWNGRED A CHAMSYNIOL." Prin y rhaid dweyd mai Rowland ei hun yw "Uniawngred," ac mai Howell Harris yw "Camsyniol":

"Uniawngred. Henffych well, fy mrawd; y mae yn dda genyf eich gweled, a chael yr odfa hon i ymddiddan â chwi. Yr wyf yn clywed eich bod chwi, ac eraill, yn camachwyn arnom; yr ydych yn dweyd ein bod ni yn Ariaid.

"Camsyniol. Gwir iawn; mi a ddywedais felly, ac yr wyf eto

"Uniawn. Yr ydych! Pa fodd y beiddiwch chwi haeru y fath anwiredd? Yr ydym ni yn credu fod Iesu Grist yn wir Dduw, a'i fod ef yn gyd-dragywyddol, gogyfuwch, a chydsylweddol a'i Dad.

Cam. Yr wyf fi yn dweyd mai Ariaid ydych; ac yr ydym yn cyhoeddi hyn i'r byd.

"Uniawn. Dyma ffordd ofnadwy o ymddwyn. Ystyriwch, atolwg, pwy yw tad y celwydd. Yr ydych, nid yn unig wedi eich rhoddi i fyny i gredu anwiredd, ond yn ddigywilydd i'w gyhoeddi; ac nid hyn yw yr unig beth ag yr ydych yn camachwyn arnom. Maddeued yr Arglwydd i chwi am eich holl ddrwg enllib. Atolwg, dysgwch o hyn allan, i gadw o fewn terfynau gwirionedd. Yr ydys yn dywedyd wrthyf, eich bod chwi yn gwadu fod tri pherson yn y Duwdod.

"Cam. Tri pherson! Yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai gair cnawdol yw person; nid allaf ei arferyd.

"Uniawn. Pam? Y mae yn cael ei arferyd yn yr Ysgrythyr, Heb. i. 3; ac y mae yn cael ei arferyd er y dechreuad. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn air priodol, ddigon. Ond yr ydych chwi yn ddoethach na'ch hynafiaid. Bod tri pherson yn y Duwdod sydd eglur, oddiwrth amryw fanau yn yr Ysgrythyr. Y mae ein Harglwydd yn gorchymyn i'w ddysgyblion i fedyddio yr holl genhedloedd yn enw y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan. Ac y mae St. Ioan yn dweyd wrthym fod tri yn tystiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Yspryd Glan; a'r tri hyn, un ydynt. Y mae Athanasius, ac Eglwys Loegr, yn rhagorol yn gosod allan y gwirionedd mawr hwn; un person sydd i'r Tad, arall i'r Mab, ac arall i'r Yspryd Glan. Y gogoned, lan, fendigaid Drindod, tri pherson, ac un Duw, &c. Ond yr wyf fi yn clywed eich bod chwi yn maentymio heresi y Patripassiaid; yr ydych yn dweyd fod y Tad wedi cael ei wneuthur yn gnawd, yn gystal a'r Mab.

"Cam. Yr ydwyf; fe a'i datguddiwyd felly i mi.

"Uniawn. Datguddiwyd? Pa ddatguddiadau yw y rhai hyn genych? Y mae hyn yn wrthwyneb i ddatguddiedig Air Duw, yr hwn sydd yn dweyd wrthym mai y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr ydych, mae'n debygol, yn maentymio heresi y Patripassiaid, yn gystal a'r Sabeliaid.

"Cam. Chwi a ellwch alw enwau. Dyma'r peth yr wyf fi yn ei gredu, fod y Tad, yn gystal a'r Mab, wedi cael ei wneuthur yn gnawd, dyoddef, a marw. Ond, atolwg, a ydych chwi yn credu i Dduw farw?

"Uniawn. Yspryd yw Duw, heb gorph, rhanau, na dyoddefiadau; ac felly, ni all ddyoddef, na marw. Fe ei gelwir ef yn anfarwol Dduw, ac am hyny, ni ddichon farw.

"Cam. Yr wyf fi yn dweyd i Dduw ddyoddef, a marw.

"Uniawn. Yr wyf fi yn credu i'r ail berson yn y Drindod fendigaid, Duw y Mab, gymeryd arno natur ddynol, yr hwn a ddaeth i fod yn un person yn y Duwddyn; ond yr oedd y ddwy natur mor bell yn wahanol, y naill oddiwrth y llall, fel mai y natur ddynol a ddyoddefodd, ac a fu farw. Ond, fel ag yr oedd wedi ei huno â'r Duwdod, yr hyn a wnaeth, ac a ddyoddefodd, oedd o'r cyfryw werth, a haeddiant anfeidrol, ag a foddlonodd gyfiawnder Duw am bechod dyn. Yr Ysgrythyrau canlynol ydynt yn dangos yn oleu, mai yn ei natur ddynol yn unig y bu Crist farw. 1 Petr iii. 18: Wedi ei farwolaethu, neu a fu farw, yn y cnawd. 2 Cor. xiii. 4: Ei groeshoelio ef o ran gwendid, neu megys yr oedd ef yn ddyn. 1 Petr ii. 24 Yr hwn, ei hun, a ddug ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren.

"Cam. Yr wyf fi yn credu fod y fath undeb rhwng y ddwy natur, fel y darfu i Dduw, yn gystal a dyn, farw.

"Uniawn. Felly, chwi a chwanegasoch heresi yr Eutychiaid at y ddwy arall. Ond yr wyf fi yn credu y gwirionedd, yr hyn y mae Athanasius yn ei ddal, sef fod ein Harglwydd Iesu Grist yn berffaith Dduw, a pherffaith ddyn, ond un person, a hyny nid wrth gymysgu y sylwedd, ond trwy undeb person; Un, nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd, megys ag yr wyf fi yn deall eich bod chwi yn ei osod ef allan, ond gan gymeryd y dyndod at Dduw.

"Cam. Onid yw yr Ysgrythyr yn dywedyd fod y Gair wedi cael ei wneuthur yn gnawd?

"Uniawn. Mae yr esgob duwiol Beveridge, yr wyf yn meddwl, yn gosod y gwirionedd hyn mewn goleuni eglur: Pan gymerodd ein Harglwydd,' medd ef, 'ein natur ni arno, fe ddaeth yn ddyn, yn gystal ag yn Dduw. Y natur ddynol ynddo ef, nid oedd yn cael ei chymysgu, fel pe buasai y ddwy natur yn awr wedi eu gwneuthur yn un. Yr oeddynt eill dwy yn aros yn wahanol oddiwrth eu gilydd ynddynt eu hunain, er eu bod wedi eu huno yn y cyfryw fodd, ag yr oeddynt yn gwneuthur ond un person.' Yn fy marn i, dweyd fod Duw yn marw, a Duw yn dyoddef, sydd gabledd ofnadwy. Heresi y Sabeliaid sydd yn eich arwain i osod heibio arferyd yr Arglwydd Iesu fel cyfryngwr, a dadleuwr gyda ei Dad; a heresi yr Eutychiaid sydd yn eich arwain i haeru fod corph Crist, yn mhob man, yn gystal a'i dduwdod.

"Cam. Yr ydwyf fi yn dywedyd fod y fath undeb rhwng y ddwy natur, fel lle y byddo un, y bydd y llall hefyd.

"Uniawn. Mae fy Meibl i yn dywedyd wrthyf, fod corph yr Arglwydd Iesu wedi esgyn i'r nefoedd, a'i fod ef i aros yno, hyd amseroedd adferiad pob peth. Nid yw credo yr Apostolion a'ch credo chwi yn cytuno. Rhyfedd y fath gynwysiad o heresiau ydych wedi bentyru yn nghyd. Heblaw eich bod chwi yn Antinomiad, yr ydych yn Sabeliad,[1] Patripassiad,[2] Eutychiad,[3] ac Ubicwitariad.[4]

"Cam. Dyma fy marn i, beth bynag a wnaeth Crist yn un natur, fe a'i gwnaeth yn y ddwy; ni wnaeth efe ddim mewn un natur yn wahanol oddiwrth y llall.

"Uniawn. Os felly y mae, fe fu chwant bwyd ar y Duwdod; fe gysgodd, ac a fu ddarostyngedig i'r cyfryw wendidau, yr hyn yw cabledd erchyll, yn wir. Ac os yw'r peth yr ydych chwi yn ei haeru yn wir, sef, beth bynag a wnaeth Crist mewn un natur, fe a'i gwnaeth yn y ddwy; ni wyddai Crist, fel yr oedd ef yn Dduw, pa bryd y byddai dydd y farn; ac wrth hyny, nid oedd efe ddim yn wir Dduw, yn eich barn chwi, gan nad oedd efe ddim yn hollwybodol. Gwelwch yn awr pwy yw yr Ariad.

"Cam. Yr wyf fi yn dywedyd wrthych, fod y pethau yma, ag yr ydych chwi yn eu gwrthwynebu, wedi eu datguddio i ni. Pe buasech chwithau wedi eich gwir oleuo, ac heb gael eich arwain gan eich rheswm cnawdol, chwi a welech y dirgeledigaethau hyn fel ninau. Ond yn awr, gan eich bod chwi yn dywyll, nid ellwch amgyffred y pethau gogoneddus ag sydd wedi eu datguddio i ni.

"Uniawn. Gadewch fod y peth felly, ein bod ni yn dywyll ac yn anwybodus; ond, atolwg, peidiwch a barnu yr holl henafiaid, cyfansoddwyr gwasanaeth ein Heglwys ni, yr hen ŵr da hyny, Athanasius; ïe, yn wir, yn fyr, yr holl gorph o ddefinyddion uniawngred.

"Cam. Felly, yr ydych chwi yn crynhoi eich gwybodaeth wrth ddarllen llyfrau. Mi a ddymunwn pe bai yr holl lyfrau wedi eu llosgi. Ond, atolwg, a ydych chwi yn maentymio fod y Duwdod yn gadael ein Harglwydd yn ei groeshoeliad?

"Uniawn. Mi a glywais eich bod yn dweyd i mi ddywedyd felly, pan nad yw hyn ond un arall o'ch anwireddau. Yr wyf fi yn dywedyd, i Dduw guddio ei wyneb yn y cyfryw fodd, fel ag yr oedd y natur ddynol heb deimlo cysur y Duwdod, yr hyn a barodd i Grist waeddi allan: Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist? Dyma yr ymadawiad ag yr wyf fi yn ei feddwl. Ond yr wyf fi yn credu fod undeb personol y ddwy natur yn aros o hyd, fel ag yr oedd ein Harglwydd yn Dduw-ddyn yn y groth, yn Dduw-ddyn ar y groes, ac yn Dduw-ddyn yn y bedd. "DANIEL ROWLAND.

"Mi a ail-ddymunaf arnoch, unwaith yn ychwaneg, i gadw o fewn terfynau gwirionedd. Mi a gynghorwn i chwi, yn enwedig y goreu o lle llosgi llyfrau da, eu darllen hwy, yn enwedig y goreu o lyfrau, y Beibl. A chwanegwch lawer o weddi at hyn; a chwedi'n, yr wyf yn ymddiried, y bydd it chwi gael eich gwaredu oddiwrth eich hunan-dyb, a rhoddi heibio duo a diystyru. eraill, ac heb gael eich arwain gan yr yspryd gwyllt ag sydd yn awr yn eich meddianu; ac fe fydd i chwi gael eich adferyd i'r hen lwybrau gwirionedd; ac ni bydd eich barn yn hwy gael ei llygru gan yr heresiau yr ydych yn awr yn eu maentymio. A Duw a roddo i chwi ddeall da yn mhob peth. Amen."

Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o'r Ymddiddan yn y flwyddyn 1792, dros y Gymdeithasfa, a chafodd ei argraffu yn swyddfa John Daniel, Caerfyrddin. I'r argraffiad hwn, ceir y rhagymadrodd a ganlyn: "Ddarllenydd diduedd, nid oedd meddyliau cydsyniol yr Association, wrth roi anogaeth i ail-argraffu yr Ymddiddan rhwng yr Uniawngred a'r Camsyniol, yn tueddu i ddianrhydeddu, diystyru, nac enllibio un person penodol, nac un gangen eglwysig sydd yn proffesu ffydd yn enw tragywyddol Fab Duw, a brawdgarwch. Ond yn gymaint a bod aneirif o bobl newydd yn awr yn weithwyr yn y winllan; rhai yn dadau, yn athrawon, a chynorthwywyr; y dyben ydyw hysbysu yn eirwir beth oedd barn uniawngred tadau, cenadon, a chynorthwywyr, yn nechreuad yr Association, yn enwedig y Parchedig Mr. D. Rowland. I Ioan ii. 24: ''Arosed, gan hyny, ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab, ac yn y Tad." Wrth y rhagymadrodd yma cawn enwau J. E. a J. T. Dywed Mr. Morris Davies, Bangor, ar sail tystiolaeth a ystyria yn ddigonol, mai yr Hybarch John Evans, o'r Bala, oedd J. E.; a thybia mai yr hen bregethwr ffyddlawn, John Thomas, o Lancwnlle, ond a orphenodd ei yrfa yn Ninbych, oedd J. T. Y mae argraffiad 1792, hefyd, yn cynwys yr emyn ganlynol; ni wyddis a ydoedd yn yr argraffiadau blaenorol; felly, nid oes sicrwydd mai Daniel. Rowland yw eu hawdwr:

"Y Tri yn Un mewn undeb,
Yn nhragywyddoldeb draw,
Ymrwymodd mewn cyfamod,
Fel rhoddi llaw mewn llaw,
I godi f'enaid euog,
O ryw ddyfnderoedd mawr,
A'm cànu fel yr eira,
Ffieiddiaf lwch y llawr.

Pan oedd cyfiawnder difrif
Yn llosgi megys tân,
A swn taranau Sinai
Yn gyru'r gwres yn mlaen,
Gwaed Iesu croeshoeliedig
A wraeth foddlonrwydd llawn;
Myrdd o fyrddiynau heddy'
Sy'n canu am yr iawn.

Yr Yspryd Glân sancteiddiol,
Y ffynon o lanhad,
Sydd yn cymhwyso'n helaeth
Yr iachawdwriaeth rad,
Nes byddo f'enaid ofnus,
Crynedig, ar y llawr,
Yn dechreu hwylio'i danau,
Yn y cystuddiau mawr.

Fe'm dysg, fe'm cyfarwydda,
I gerdded ar fy nhaith;
Fel colofn dân fe'm harwain
Trwy'r dyrys anial maith;
Nes delwy' i Sion dawel,
Sy' heb ryfel byth, na phoen,
Ond cydsain Haleluwiah!
Hosana i Dduw a'r Oen.

Fe dderfydd peraidd bynciau
Yr hediaid mân y sydd
Yn chwareu 'u llaes adenydd,
Ar doriad gwawr y dydd;
Ond gwaredigion Sïon,
A ddaeth o'r cystudd mawr;
Par eu caniadau 'n newydd,
A newydd fydd eu gwawr."

Dengys yr Ymddiddan hwn fod syniadau Daniel Rowland ar y pynciau mewn dadl, yn gyffelyb i eiddo y rhai a ystyrir yn gyffredin yn dduwinyddion uniawngred, a'i fod yn dra chydnabyddus a hanesiaeth eglwysig. Dengys, hefyd, ysywaeth, ei fod wedi ymddigio trwyddo, ac i chwerwder ei yspryd ei arwain i ddefnyddio geiriau llymion, fel brath cleddyf. Nid ydym yn sicr, ychwaith, ei fod yn cyflwyno golygiadau Howell Harris gyda hollol degwch; prin, efallai, y gellid dysgwyl hyny wrtho mewn dadleuaeth mor gyffrous. Nid cywir dweyd fod Harris yn ymwrthod, o leiaf yn gyfangwbl, a'r gair person, pan yn cyfeirio at y Drindod; yr ydym wedi dod ar draws y term droiau, yn y difyniadau a rydd o'i bregethau. Nid ydym ychwaith wedi cael ei fod yn dal ddarfod i'r Tad ymgnawdoli, ond efallai yr ystyriai Rowland hyn yn gasgliad anocheladwy oddiwrth y dywediad fod y Drindod yn preswylio yn Iesu Grist. Nid annhebyg, hefyd, fod Harris, yn ngwres ei areithyddiaeth wrth bregethu, yn defnyddio ymadroddion mwy eithafol nag a gofnoda pan yn ysgrifenu yr hyn a ddywedodd, gwedi i'r gwres gilio. Eithr am y pethau eraill, sef ei fod yn condemnio gwybodaeth llyfrau, yn galw ei wrthwynebwyr yn Ariaid, ac yn Ddeistiaid, ei fod yn dal fod corph yr Arglwydd Iesu yn holl-bresenol, a'i fod, pan y gwesgid yn galed arno, yn syrthio yn ol ar y datguddiad y tybiai ei fod wedi ei dderbyn, y mae sail iddynt oll yn nydd-lyfr Harris ei hun. Hyd yn nod pe na byddai ei olygiadau ar y Drindod a dirgelwch person Crist yn annghywir, yr oedd yn pwysleisio yn ormodol ar hyn, ac yn rhoddi iddo fwy o le nag oedd briodol, yn ol cysondeb y ffydd. Yn mlynyddoedd olaf ei gysylltiad a'r Methodistiaid, prin y cai dim arall sylw yn ei weinidogaeth; beth bynag a fyddai ei destun, troai at y pwnc hwn fel y nodwydd. at begwn y gogledd; ac un o'r achwyniadau a ddygid yn ei erbyn ydoedd, fod cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn nhôn ei bregethu. Diau mai un rheswm am hyn oedd y gwrthwynebiad a gyfododd i'w athrawiaeth. Ymgyndynu, a myned yn fwy penderfynol, a wnelai, yn ddieithriad, pan y caffai ei wrthwynebu. A gosodai allan ei syniadau mewn ymadroddion a dull tra chyffrous. Meddai unwaith: "Nid wyf yn adnabod yr un Duw ond Iesu Grist; cymerwch chwi y lleill i gyd; yr wyf yn eu herio oll." Yr oedd ymadroddion o'r natur yma, yn nghyd a'r haeriad fod ei wrthwynebwyr yn addoli eilunod o greadigaeth eu dychymyg eu hunain, ac yn gwadu priodol dduwdod yr Arglwydd Iesu, yn annyoddefol i deimlad Daniel Rowland a'i gyfeillion, ac yn gwneyd aros mewn cydgymundeb ag ef yn anmhosibl.

Rhaid cofio, hefyd, fod achosion eraill i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn. parthed athrawiaeth. Honai Harris awdurdod unbenaethol dros y seiadau a'r cynghorwyr. Geilw ei hun drosodd a throsodd yn dad y Gymdeithasfa; cyffelyba ei swydd i eiddo Moses, yr hwn a osodasid yn farnwr ar Israel, ac ystyria ei fod wedi cael ei osod ynddi gan Dduw lawn mor uniongyrchol. Nid ymgynghorai â barn ei frodyr; ac ystyriai fod dywedyd yn ei erbyn yn wrthwynebu Duw. Diarddelai o'r seiat, a thorai y cynghorwyr allan, wrth ei ewyllys; nid ymostyngai i ymgynghori â na Chyfarfod Misol na Chymdeithasfa yn y mater hwn. Gwaith yr offeiriaid, fel y tybiai, oedd myned o gwmpas i bregethu a gweinyddu yr ordinhadau; a gwaith y cynghorwyr a'r stiwardiaid oedd cario allan y trefniadau a wnelai efe ar eu cyfer. A chan ei fod yn hawdd ei gyffroi, ac yn meddu tymherau cryfion, yn wir, bron aflywodraethus, gweithredai yn fynych oddiar deimlad y foment. Cyhudda Rowland ef yn ei wyneb o droi y cynghorwyr allan mewn nwyd. Nid gwiw ymresymu ag ef; barnai fod llywodraethu y seiadau yn perthyn i'w swyddogaeth ef, ac y dylai pawb arall fod yn ddystaw; a chredai ei fod yn gweithredu yn uniongyrchol dan arweiniad dwyfol. Nid rhyfedd, gan hyny, i wrthryfel dori allan. A hawdd gweled fod ei dra-awdurdod yn boenus i Daniel Rowland, a Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, y rhai oeddynt yn offeiriaid urddedig, tra nad oedd efe ond lleygwr. Naturiol iddynt hwy fuasai edrych ar eu safle, a gwrthod ei gydnabod fel cydradd, chwaithach fel un wedi ei osod mewn awdurdod drostynt. Ni theimlent felly; ond yr oeddynt yn anfoddlawn iddo gael yr holl awenau i'w ddwylaw.

Cynyddodd yr anfoddlonrwydd yn erbyn Howell Harris yn enbyd trwy ei waith yn cymeryd Madam Griffiths, y ddynes a hònai yspryd prophwydoliaeth, o gwmpas. Dygai hi i'r seiadau, ac i'r Cymdeithasfaoedd Misol; galwai hi yn "Llygad," a chredai ei bod yn rhodd Duw iddo i'w alluogi i adnabod y rhagrithwyr, ac i'w gynorthwyo mewn barn. Fel y darfu i ni sylwi, nid oes rhith o sail dros amheu ei burdeb. Nid ydym yn tybio fod unrhyw amheuaeth. gwirioneddol am hyny ar y pryd. Ond eto, cynyrchodd ei ymddygiad deimlad blin. Credai y nifer amlaf, hyd yn nod o'i ganlynwyr, mai dynes ragrithiol ydoedd, ac yr oeddynt yn hollol iawn. Wrth ei fod yn dychwelyd adref o Lundain, trwy Erwd, dywedai un o'i brif gyfeillion wrtho, fod pethau wedi dyfod i stád ryfedd, pan yr oedd dynes yn ben ar y Gymdeithasfa. Ysgrifenodd Thomas James, y cynghorwr o Cerigcadarn, ato gan ei feio. Ei ateb iddynt oll oedd, nad oedd ganddo ef un ewyllys yn y mater; ddarfod iddo ef ymladd yn erbyn y peth ar y dechreu, ond i'r Arglwydd ei drechu; ac erbyn hyn fod llawer o'r pregethwyr yn credu mor ddiysgog ei bod hi yn "Llygad," fel na safent i mewn yn y Cyfundeb, oddigerth ei bod hi yn cael ei lle. Yr oedd ei ymddygiad yn nodedig o blentynaidd, ac yn dangos hygoeledd na cheir yn fynych ei gyffelyb; ond eto, yr oedd yn hollol unol â chymeriad Howell Harris, yr hwn, er ei holl nerth a'i graffder, oedd mewn rhyw bethau yn dra choelgrefyddol. Yr ydym yn tybio ddarfod i hyn, yn gymaint a dim, gyflymu dyfodiad yr ymraniad.

Gwedi y Gymdeithasfa yn Llanidloes, teimlai y ddwy ochr nas gallent gydfyw; ac eto, wedi dyfod i ymyl y dibyn, yr oedd Harris yn petruso cymeryd naid i'r tywyllwch; ond cymerwyd y mater o'i ddwylaw gan y blaid arall.. Ar ddydd Sadwrn, Gorph. 4, 1750, cyfarfyddodd Daniel Rowland, Howell Davies, Williams, Pantycelyn, yn nghyd à rhyw offeiriad arall nas gwyddom ei enw, mewn Cymdeithasfa yn Llantrisant; yr oedd yno yn ychwanegol un-ar-ddeg o gynghorwyr cyhoedd, a phedwar o rai anghyoedd; ac yn y cyfarfod hwn penderfynwyd tori pob cysylltiad à Howell Harris. Yr oedd efe ar daith yn Nghapel Evan, Sir Gaerfyrddin, ar y pryd. Cyffrowyd ei yspryd pan y clywodd, ond dywedodd yn y seiat ei fod yn benderfynol o fyned yn ei flaen; ddarfod iddo yn flaenorol weled y diafol yn codi yn ei erbyn yn y werinos, yr offeiriaid, a'r boneddigion, ac i'r cwbl ddod i'r dim; y gwelai y gwrthwynebiad yma yn diflanu eto, a'i fod yn teimlo yspryd o'i fewn oedd yn anorchfygol. Dywedai, yn mhellach, fod yr ymraniad gwirioneddol wedi cymeryd lle bedair blynedd yn flaenorol. Yn awr, cawn yntau yn dechreu trefnu ei blaid. Y dydd Llun canlynol, Gorph. 6, casglodd wyth o bregethwyr yn nghyd i Lansamlet, i Wern Llestr, yn ol pob tebyg, lle y cedwid y seiadau, i wneyd yr hyn a eilw ef yn "osod i lawr sylfaen ty Dduw." Dywed iddynt gael cyfarfod bendigedig; eu bod yn bwyta yr un bara, ac yn cael eu bywiocau gan yr un yspryd. Galwyd Harris ganddynt i fod yn ben ar yr holl seiadau; llawenychai y brodyr yn y rhwyg; a dywedai Harris. fod Rowland a'i blaid yn codi yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn ei Yspryd, ac yn erbyn ei wirionedd. "Yn y dirgel," meddai, "gwelais y mynai Duw i ni ymwrthod a'r brodyr, ac a'u Cymdeithasfa, am (1) Eu bod o ran eu hyspryd wedi cefnu ar yr Arglwydd. (2) Am eu bod mewn gwirionedd yn elynion iddo. (3) Am eu bod yn cashau llywodraeth ei Yspryd. (4) Am eu bod yn dirmygu yr Urim a'r Thumim. (5) Am na feddant fywyd i ymborthi ar Grist. (6) Am eu (6) Am eu bod yn dirmygu athrawiaeth y cnawd a'r gwaed hwn; ac yr wyf finau yn caru y cnawd a'r gwaed anfeidrol ac anwyl hwn mewn gwirionedd." Pa beth a olyga wrth yr "Urim a'r Thumim," nis gwyddom, os nad y ffug-brophwydes. Ar y nawfed o Orphenaf, cawn ef yn cadw seiat yn Llwynyberllan, a chwyna yn enbyd fod y seiadau wedi myned yn ffurfiol, yn gnawdol, ac yn fagwrfa i falchder; ond dywed ei fod ef yn foddlon ymweled â hwy cyhyd ag y byddai ei ymweliadau yn dderbyniol, ac o fendith. Dranoeth, yn Cefnygweision, cofnoda iddo ddyfod allan yn fuddugoliaethus o'r rhyfel poethaf y buasai ynddo erioed. Ymddengys i Daniel Rowland ag yntau gyfarfod, efallai yn Llwynyberllan, ac iddi fyned yn ymrafael chwerw rhyngddynt. Cyhuddai Rowland ef o fod wedi syrthio oddiwrth ras, o gyfnewid yn barhaus, o dalu sylw yn unig i ranau o'r Ysgrythyr, ac o'r gwirionedd am berson Crist, ac nid i'r oll, o droi pobl allan o'r seiadau mewn nwyd, o ymranu oddiwrthynt, ac o ddweyd nad oes dros chwech yn Nghymru yn adnabod yr Arglwydd. Atebai Harris ei fod yn ofni nad oedd

LLANTRISANT, SIR FORGANWG.
Lle y cynhaliwyd Cymdeithasfa gyntaf plaid Rowland.]


Rowland a'i blaid yn adnabod yr Arglwydd, a'u bod yn elynol i'r gwaed; eu bod yn wrthwynebol i bob peth oedd o Dduw; ac nad oeddynt yn eu pregethau yn myned i ddyfnder yspryd y bobl, ond eu bod yn appelio yn benaf at y pen a'r teimlad, ac felly fod y gwrandawyr yn myned yn ysgafn ac yn gnawdol. Dywedai, yn mhellach, ddarfod iddynt trwy gydgyfarfod, ac ymwrthod ag ef, ei gau allan o'r tŷ (y capel) yn Nghilycwm. Dengys y nodiad hwn nad oedd y seiat yn Nghilycwm, fel y cyfryw, wedi ei wahodd yn flaenorol i gymeryd ei gofal, eithr rhyw bersonau ynddi. Poenus tu hwnt yw gweled y ddau hen gydlafurwr wedi myned mor chwerw yn erbyn eu gilydd, yn benaf trwy annealltwriaeth; ond dengys yr ymddiddan o ba bethau y cyhuddent eu gilydd.

Yn mhen wythnos gwedi, sef Gorph. 17, clywodd am farwolaeth James Beaumont. Ymddengys iddo farw yn sydyn, ond awgryma y cofnodiad iddo farw yn ei gartref, yn Sir Faesyfed; ac nid oes unrhyw awgrym yn cael ei roddi iddo gael ei osod i farwolaeth gan elynion yr efengyl. Ei eiriau diweddaf, medd y dydd-lyfr, cyn i'w yspryd ddianc at ei Waredwr, pan y cynygid ychydig win iddo gan ei briod, oedd: "Nid yfaf o ffrwyth hwn y winwydden hyd onid yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas fy Nhad." Teimlodd Harris yn enbyd ar ol ei gyfaill; yr oedd i Beaumont le cynhes yn ei galon, a dywed fod ei enaid yntau yn hiraethu am fyned adref. Yr ydym ninau yn meddwl fod gwreiddyn y mater yn y cynghorwr o Sir Faesyfed; llafuriodd yn galed, a dyoddefodd lawer gyda'r efengyl; ond yr oedd iddo lawer o ffaeleddau, a chyfeiliornasai yn bur bell oddiwrth y ffydd sydd yn Nghrist. Ac yr ydym yn teimlo yn sicr ddarfod iddo ddylanwadu er niwed ar yspryd Howell Harris.

Gwnelai Harris bob ymdrech posibl yr adeg hon i sicrhau cydymdeimlad y seiadau gydag ef, ac i gael y cynghorwyr o'i blaid. Teithiai yn ddiorphwys; ac anfonai lythyrau at y rhai y tybiai y medrai ddylanwadu arnynt. Yn bur fuan wedi cyfarfod yr offeiriaid yn Llantrisant, anfonodd lythyr yn llaw cenad at John Sparks, y cynghorwr o Hwlffordd, o ba un y difynwn a ganlyn: "Y mae yr offeiriaid, ac amryw o'r cynghorwyr, wedi datgan yn fy erbyn, oblegyd fy egwydd orion, fy ymarferiad, a'm hyspryd. Nid wyf yn ysgrifenu atoch i'ch sicrhau o'm plaid i yn y rhyfel hwn, oblegyd gwyr yr Arglwydd Iesu, yr unig ddoeth Dduw, yr hwn yw fy oll, nad oes genyf blaid, ond fy mod ar fy mhen fy hun, fel yr aethum allan ar y cyntaf, gyda'r eithriad fod ychydig o'r rhai a garant y cnawd, y clwyfau, a'r gwaed, yn crogi wrthyf. Ni fedrant adael y penaf pechadur (Harris). Tybiais yn ddyledswydd arnaf i ysgrifenu atoch yn fyr; cewch y manylion gan y dygiedydd. Os yw ein Hiachawdwr yn eich tueddu i ddymuno rhagor o wybodaeth, cyn penderfynu gyda pha blaid y gwnewch uno i lafurio, gwnaf gyfarfod â chwi yn Lacharn, dydd Iau pythefnos i'r nesaf. Os medrwch chwi, a'r brawd Gambold, a'r brawd John Harris ddyfod i'm cyfarfod i Lacharn, anfonwch air. Neu ynte, mi a ymdrechwn. ddyfod i St. Kennox, i'ch cyfarfod oll, neu rai o honoch, fel y byddo i chwi gael gwybod yr holl wirionedd. Y mae Mr. (Howell) Davies, a Benjamin Thomas, &c., wedi cyduno oll i'm gwrthod; a chan ei fod ef (Howell Davies), a'r bobl, o bosibl, yn edrych ar Sir Benfro fel ei faes neillduol ef, ni wnaf ddyfod, oni chaf fy ngalw gan y bobl, neu y pregethwyr, neu y ddau. Ydwyf, gyda'r serch cryfaf yn nghorph darniedig ein Duw a'n Hiachawdwr, yr eiddoch i bob tragywyddoldeb,-How. HARRIS." Y mae yn anmhosibl darllen y llythyr hwn, gyda'r teimlad dwfn o unigrwydd a red trwyddo, heb fod deigryn yn dyfod i'r llygad, pwy bynag a gondemniwn fel yn fwyaf cyfrifol am yr ymraniad.

Ar y 26ain o Orphenaf, 1750, cynhaliodd Harris a'i blaid eu Cymdeithasfa gyntaf yn St. Nicholas, pentref gwledig bychan yn Mro Morganwg, tua chwech milltir o Gaerdydd. Paham y dewiswyd y llecyn hwn, nis gwyddom; nid oedd mewn un modd yn ganolog i'r oll o Gymru; efallai fod y seiadau o gwmpas yn fwy lliosog, ac mewn mwy o gydymdeimlad ag ef. Yr oedd y rhai canlynol yn bresenol: Howell Harris, Thomas Williams (Groeswen), John Richard (Llansamlet), Henry Thomas, William Jones, Roger Williams, Thomas Bowen (yr hynaf), Thomas Bowen (yr ieuangaf), Richard Tibbot, Thomas Sheen, Thomas Meredith, Lewis Evan, Edward Davies, John Lewis, David William Thomas, Stephen Jones, Richard David, John Davies, a George Phillips. Gwelir eu bod yn namyn un ugain. Sut yr oedd cynghorwyr Sir Benfro yn absenol, nis gwyddom; yr oedd yno amryw mewn dwfn gydymdeimlad à Howell Harris; efallai eu bod heb lwyr benderfynu gyda pha blaid i uno. Aeth Harris tuag yno yn nghwmni offeiriad, o'r enw Henry Lloyd, eithr nid ydym yn cael yr offeiriad hwn yn bresenol yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa. Ymddengys fod rhai o bleidwyr Rowland wedi dyfod i'r lle o ran cywreinrwydd. "Pan welais elynion croes Crist yno," meddai Harris, anwyl Arglwydd a'm cyfarfyddodd, ac a'm dyrchafodd uwchlaw pawb, wrth ganu yn fuddugoliaethus, ac wrth weddïo a phregethu oddiar, Ni a welsom ei ogoniant ef.' Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd fy Nuw yma fel rhyfelwr, yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Ariaid, y Deistiaid, a'u Duw. Datgenais (wrth ganlynwyr Rowland) fy mod yn benderfynol o fyned yn mlaen, gan ganlyn yr un yspryd ag oedd genyf o'r dechreuad; ac os mai o'r diafol y mae yr yspryd, ei fod yn fy ngwneyd yn dra dedwydd, ac yn fy arwain at Grist. Dywedais: Yr ydym ni yn benderfynol o fyned yn mlaen; y mae amryw ugeiniau o honom wedi cyduno; a thra nad ydych chwi yn credu dim ond a ddeallwch, yr ydym ni yn derbyn Duw ar ei Air, ac yn ymwrthod a'n deall ein hunain.' Ychwanegodd ei fod yn foddlon mentro ei dragywyddoldeb ar yr yspryd oedd yn gweithio ynddo, a chyffelybai hwythau i Cora, Dathan, ac Abiram.

Dywed y cofnodau: "Dyma y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd wedi i'r pedwar offeiriad a'r un-pregethwr-ar-ddeg gyfarfod, i ddatgan yn erbyn athrawiaeth ac yspryd y brawd Harris. Cyfarfyddasom ninau i ddysgwyl wrth yr Arglwydd, i gael gweled beth a ellid wneyd, gan fod yr holl waith agos wedi sefyll. Teimlodd pawb rywbeth na chawsent mewn Cymdeithasfa erioed o'r blaen, a gwelsant fod ein Hiachawdwr wedi gosod i lawr sail gwaith pwysig. Yr oedd cymaint a hyn drachefn wedi uno, ond ni fedrent fod yn bresenol oblegyd amgylchiadau. Gellid meddwl fod gwedd newydd ar bethau. Yr ydym yn awr mewn gobaith o weled gogoniant yr Iachawdwr, dysgyblaeth ei Yspryd, a bywyd ffydd yn cael ei ddwyn i mewn i'r diwygiad, ac yspryd mwy catholig at bawb; ac o weled doethineb a balchder dyn yn cael eu halltudio unwaith eto, ac enw Crist yn cael ei ddyrchafu yn ein mysg. Wedi y bregeth ar, Ni a welsom ei ogoniant ef,' wrth ein bod yn canu mewn modd buddugoliaethus, daeth yr Arglwydd i lawr i ddatgan rhyfel yn erbyn y pregethwyr eraill oeddynt wedi ymgynghori yn erbyn Duw, ei angau, a'i Yspryd. Rhoddodd yr Arglwydd i ni un galon; ond pan y cawsom nad oedd yr Yspryd yn rhedeg mor rhydd yn mysg y brodyr ieuangaf, rhag iddynt gymeryd tramgwydd oddiwrth Madam Griffiths, archasom i bawb agor eu calonau gyda golwg arni." "Madam Griffiths" oedd y ffug-brophwydes, ac yr oedd wedi dyfod i St. Nicholas i'r Gymdeithasfa. Agorodd Harris ei holl hanes, y modd yr oedd wedi cael ei gwneyd yn fam yn Israel, nad oedd wedi cael cymaint ffydd yn neb arall, ddarfod iddi brophwydo am yr ymraniad hwn cyn ei ddyfod, a'i bod wedi bod o ddirfawr gymhorth iddo ef i wasanaethu mewn ffydd yn yr Arglwydd. Dywedai fod tri math o oleuni, sef goleuni natur, goleuni prophwydoliaeth, a goleuni ffydd, yn gweddnewid ac yn cymeryd meddiant o'r hyn a ganfyddwn. Mewn canlyniad i eglurhad Harris, dywedodd y naw brawd y ceir eu henwau yn mlaenaf ar y rhestr, ddarfod iddynt gael eu temtio; ond eu bod wedi cael eu hargyhoeddi yn yr Arglwydd ddarfod i Madam Griffiths gael ei chyfodi i fod yn Llygad iddynt, i'w bendithio yn yr hyn yr oeddynt yn ddiffygiol ynddo, ac hefyd i ddarganfod yr ysprydion, ac i gael meddwl Crist yn eu plith. Mewn canlyniad, cydunwyd i anfon am dani i'r Gymdeithasfa, i'w cynorthwyo yn eu hymdriniaeth â gwahanol achosion.

Yn nesaf, cafwyd helynt gyda rhyw frawd, a elwir yn "Old Adams." Dywed y cofnodau ei fod wedi cael ei dwyllo gan ddiafol, a darfod iddo ddyfod i'r Gymdeithasfa i'w dolurio a'u rhwystro. "Dywedais wrtho," meddai Harris, "os oedd John Wesley a George Whitefield yn cynyg eu seiadau, yr awn a'r mater at yr Arglwydd. Eithr pan orchymynwyd iddo fyned allan, dechreuodd ruo; fy yspryd inau a ddyrchafwyd, a gelwais ef yn dwyllwr, yn elyn Duw, ac yn aubrophwyd; ac yn enw yr holl frawdoliaeth mi a'i hesgymunais ef." Y mae y geiriau nesaf yn y cofnodau o'r dyddordeb mwyaf: Yna, daeth Mr. Peter Williams i'r cyfarfod; yr oedd am aros i mewn, ond ni wnai uno." Anhawdd dweyd beth oedd amcan ei ddyfodiad, ai ceisio cyfryngu rhwng y ddwy blaid cyn i bethau fyned yn rhy bell, ynte ceisio gwybodaeth ychwanegol am y materion mewn dadl. "Datganasom ein penderfyniad i beidio uno (a phlaid Rowland) hyd nes y byddai i'r brodyr ymranedig edifarhau, a chael eu dwyn at yr Arglwydd. Dangosais y tri pheth yn mha rai yr ydym yn gwahaniaethu. Y maent hwy yn pregethu Crist yn benaf i'r pen, ac y maent yn erbyn gogoniant ein Hiachawdwr, yr hwn a geisiwn ni ei osod gerbron y bobl. (2) Y maent hwy yn adeiladu ar hen syniadau, ac ar brofiad; yr ydym ninau yn cyffroi yr eneidiau i grediniaeth barhaus yn yr Arglwydd. (3) Yr ydym ni am ddysgyblaeth wirioneddol yr Yspryd, tra y maent hwy wedi cilio oddiwrth yr Arglwydd, a geill eneidiau wrando arnynt yn barhaus, heb gael eu deffro i ganfod pechadurusrwydd angrhediniaeth, hunangyfiawnder, deddfoldeb, a pheidio ymborthi ar yr Arglwydd. Mynegasom, yn mhellach, mai ein pwynt yw nid pwy a fydd fwyaf, ond pwy a fydd leiaf. Dywedodd y brawd Harris ei fod yn gweled ei hun y gwaelaf o'r brodyr, ond fod gwahaniaeth rhwng gweithwyr (yn yr eglwys) ag aelodau preifat; fod rhai yn fabanod, eraill yn ieuainc, ac eraill yn dadau; a bod gwahanol ddoniau, a graddau o ffydd, a gwahaniaeth yn yspryd y pregethwyr; a'n bod yn syrthio gerbron yr Arglwydd i weled lle pob un. Dywed odd, hefyd, ein bod yn cymeryd esiampl, yspryd, a gorchymyn ein Harglwydd fel ein rheol. Yn hyn ol yr oeddym yn cyduno fel un. Gwedi hyn, efe (Peter Williams) a aeth allan." Efallai iddo deimlo fod pob gobaith am gymod wedi darfod.

Yn canlyn ceir y penderfyniadau: "Cydunwyd fod y pregethwyr i gyfarfod mewn Cymdeithasfaoedd fel cynt; fod y Gymdeithasfa nesaf i fod yn Llanfair-muallt, Medi 26, ac yn y cyfamser ein bod i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o gynal Cymdeithasfa i holl Gymru unwaith yn y flwyddyn, a Chymdeithasfa bob chwech mis yn Neheudir ac yn Ngogledd Cymru ar wahan.

"Cymerwyd i ystyriaeth y priodoldeb o gynal seiadau preifat, a chytunasom oll i'w cynal, gwedi i'r brawd Harris egluro natur y seiadau allan o'r Hen Destament a'r Testament Newydd. Penderfynasom, hefyd fagu yr eneidiau sydd wedi eu deffro i weled eu hangen am Iachawdwr, mewn corlanau bychain iddo ef; ond na wnawn gymeryd neb i fod yn rhan o'r Corph hwn, nac i gael ei alw ar ein henw, ond y rhai sydd naill ai yn gweled gogoniant yr Achubwr, neu ynte eu hanwybodaeth o hono, ac yn byw mewn ffydd arno. Cydunwyd, hefyd, fod y rhai sydd yn canfod y gogoniant gyfarfod ar wahan i edrych ar Grist, ymborthi arno, siarad am dano, a gweddïo arno; a bod y lleill i gael eu cyfarfod gan berson priodol i gael eu meithrin, mor hir ag y byddant yn barod i gymeryd eu dysgu, ac y parhant yn ostyngedig, yn ddiwyd, ac yn parhau i ymarfer â moddion.

"Cydunasom fod ein holl aelodau i gyduno yn addoliad ac yn ordinhadau yr Eglwys Sefydledig; mai Gair y cymod yn unig a ymddiriedwyd i ni; a'n bod i fyned yn y blaen fel Diwygwyr yn yr Eglwys, fel y gwnaethom o'r dechreu, ac yn yr un goleuni a'r un yspryd.

"Cydunwyd, hefyd, fod y brawd W. Powell a'r brawd Thomas Williams i ddwyn adroddiad am ansawdd yr achos yn Mynwy a Morganwg i'r Gymdeithasfa nesaf; y brawd John Richard a'r brawd Rue Thomas i wneyd yr un peth am Orllewin Morganwg, Caerfyrddin, a Phenfro; Thomas Jones i wneyd hyny am ran o Frycheiniog a Henffordd; Charles Bowen am y gweddill o Frycheiniog at Maesyfed, a Richard Tibbot am Drefaldwyn. Yr oeddynt, yn mhellach, i weled pa le yr oedd drysau yn cael eu hagor, a pha le y gallai y brawd Harris sefydlu seiadau o'r newydd, neu yn mysg y rhai oedd wedi cael eu gwasgar.'

Dywedir ddarfod i un Stephen Jones gael ei droi allan gan blaid Rowland, am iddo ddatgan fod gwaed Crist mor fawr, fel nas gallai ei ddirnad na'i egluro; a chyhuddir Rowland a'i bleidwyr o haeru nad oeddynt yn credu dim ond a ddeallent. Wrth reswm, yr oedd i'r Stephen Jones yma dderbyniad croesawus yn Nghymdeithasfa St. Nicholas. Siaradwyd am ein Hiachawdwr, ei fod yn Llew yn gystal ac yn Oen; fod yspryd cerydd yn deilliaw oddiwrtho, yn ogystal ag yspryd addfwynder. Penderfynwyd, hefyd, anfon cenhadau i Ogledd Cymru, gan fod y brodyr oedd wedi ymwahanu yn rhwystro yr eneidiau i ddyfod at Grist; yr oedd y cenhadau yma, hefyd, i geisio perswadio pawb i beidio myned i wrando ar neb perthynol i blaid Rowland, hyd nes y dychwelai y blaid hono at yr Arglwydd. Y cyntaf a drefnwyd i fyned i'r Gogledd oedd Roger Williams; yr oedd ef i gychwyn ar unwaith; yr oedd Rue Thomas i fyned yn mhen pythefnos gwedi; Richard William Dafydd i fyned yn ganlynol; ac yr oedd Lewis Evan i gyfarfod â phob un, ac i fod yn gydymaith iddo hyd nes y dychwelai. Ac yn olaf, fis cyn y Gymdeithasfa nesaf, yr oedd Thomas Williams a David Thomas i fyned, i benderfynu ar gyfarfodydd, ac i alw y pregethwyr oeddynt am uno â Harris i ddyfod i'r Gymdeithasfa yn Llanfair. Dywedir, yn mhellach, ddarfod i'r Arglwydd agor genau Madam Griffiths, y Llygad, i lefaru i'r byw. Dywedai, pe y byddent yn ddigon ysprydol, y gallent weled ysprydoedd pobl mor glir ag yr oeddynt yn gweled eu gwynebau.

Felly y terfynodd Cymdeithasfa gyntaf plaid Harris. Yr ydym yn teimlo fod cryn lawer o gymysgedd i'w ganfod ynddi. Nid oes amheuaeth fod Harris a'i bleidwyr yn hollol gydwybodol; eu bod yn credu. mai gyda hwy yr oedd y gwirionedd, a bod yr offeiriaid wedi gadael Crist. Tybient fod parhad gwir grefydd yn Nghymru yn dibynu ar iddynt hwy gael goruchafiaeth. O'r ochr arall, anhawdd credu fod yr holl frwdaniaeth o'r nefoedd; tra y condemnient gnawdolrwydd, nid oeddynt hwy eu hunain yn rhydd oddiwrth y cnawd. Gyda danfoniad allan y cenhadau hyn, dechreuodd cyffro enbyd yn ngwersyll y Methodistiaid. Gwedi pregethu, byddai y cenhadau yn casglu y proffeswyr yn nghyd; rhybuddient hwy rhag yr offeiriaid, y rhai, meddent, oedd wedi colli Duw; ac yn yspryd y gorchymyn a gawsent wrth fyned allan, anogent hwy i beidio gwrando ar Rowland a'i blaid. Mewn canlyniad, Mewn canlyniad, aeth y seiadau yn rhanedig, ac hyd yn nod aelodau yr un teulu. Ni roddid derbyniad i Daniel Rowland mewn lliaws o fanau ag yr edrychid ar ei ddyfodiad yn flaenorol fel eiddo angel Duw. Nid anmhosibl fod cryn lawer o chwerwder ac yspryd erledigaeth, hefyd, o du yr offeiriaid a'u pleidwyr, ond nad yw eu gweithrediadau hwy wedi eu croniclo. O'r Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd gan blaid Rowland, anfonasid gorchymyn i Harris i anfon cyfrif, a hyny, o bellaf, cyn pen tair wythnos, am yr arian oedd wedi gasglu at y gyfraith yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne. Ateba yntau mai yr oll a dderbyniasai oddiwrth bleidwyr Rowland, oedd pum' punt oddiwrth Rowland ei hun, pum' punt oddiwrth Benjamin Thomas, a gini oddiwrth Williams, Pantycelyn. Am y gweddill o'r arian, nad oedd yn gyfrifol iddynt hwy. Yn ganlynol, dengys sut yr oedd yr arian wedi cael eu talu allan. Eithr fel prawf nad oedd serch Harris at Daniel Rowland wedi llwyr oeri, a bod

WERN-LLESTR.
[Lle y pregethodd H. Harris gyntaf yn Llansamlet, a lle y mae yn debygol y cynhaliodd ei bwyllgor cyntaf wedi yr ymraniad.]



yna ryw dybiaeth yn nyfnder ei yspryd eu bod yn un yn eu golygiadau am y gwirioneddau hanfodol, yr ydym am gofnodi llythyr a ysgrifenwyd ganddo: "Fy anwyl frawd Rowland. Pa le yr ydych yn awr? Pa yspryd sydd wedi eich meddianu? Pa frwydrau ydych yn ymladd, ac yn erbyn pwy? Deuwch yn awr, a dychwelwch. Os ydych yn edrych arnaf fi yn waeth na chwi eich hun, fel y mae genych hawl i wneyd, rhydd hyny hawl i mi i waeddi yn uwch, Gras! Gras! Beth bynag, y mae arnoch chwithau eisiau eich golchi fel finau; gadewch i ni ein dau, ynte, fyned i'r ffynon ar ein cyfer. Peidiwch tramgwyddo am y grisiau. A ydych yn tybio ei fod yn bosibl fy mod i yn caru pechod, ac wedi gadael anwyl gariad Duw? Yr wyf yn fwy pechadur na phawb; ond yr wyf yn gadael iddo ef ddangos yr ochr arall i'r ddalen i chwi, pa un a ydwyf yn goddef i mi fy hun ei ddolurio, ac ai wnawn farw er mwyn dangos ei ogoniant i chwi. Deuwch; peidiwch ymladd yn hwy; yn hytrach, ymdrechwch i fynu gafael. Daniel! Fy anwyl frawd, Daniel! ymaith a'r rhai sydd yn ei groeshoelio ef. Dyro heibio dy ragfarn, rhag i eraill fesur i chwi yr hyn. ydych chwi yn fesur i eraill." Ar gefn y llythyr hwn ceir y nodiad canlynol: "Ysgrifenwyd hwn at Rowland yn yr Hen Fynachlog, yn Sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1750, ond ni chafodd ei ddanfon." Trueni na fuasai y llythyr yn cael myned; os na fuasai yn foddion i ail-uno, gallasai fod yn foddion i rwystro llawer o chwerwder yspryd. Dengys ei ysgrifeniad, modd bynag, fod llawer o'r hen serchawgrwydd yn aros yn mynwes Harris, ond ei fod yn orchuddiedig am amser gan haen drwchus o chwerwder.

Medi 26 a 27, cynhaliodd plaid Harris eu hail Gymdeithasfa, fel y trefnasid yn flaenorol, yn Llanfair-muallt. Yr oedd hon yn lliosocach na'r un yn St. Nicholas. Cyn dechreu y cyfarfod rheolaidd, bu Howell Harris yn ymgynghori a'r Arglwydd, ac â John Richard, "am y priodoldeb o oddef i'r rhai a ddaethent i'r goleuni, ac a ddangosent yspryd ufudd mewn peidio myned i wrando y lleill, pan y ceisiem hyny ganddynt, ac hefyd a ddeuent i'r cyfarfodydd ar y Sabbath i gael eu cynghori, ac i gael siarad yn bersonol â hwy," i fyned i wrando pleidwyr Rowland. Y penderfyniad oedd gadael iddynt fyned, gan fod pleidwyr Rowland yn awr wedi gwneyd datganiad o'u huniongrededd parthed marwolaeth Crist. Pa bryd, ac yn mha ffurf, y gwnaethent y datganiad hwn, ni ddywedir.

CAPEL PRESENOL LLANSAMLET.



Eithr cyfiawnha Harris y gwaharddiad a wnaethid yn flaenorol, am fod lle i gredu pan y gwnaed ef fod y blaid hono, o herwydd eu tuedd i wadu y dirgeledigaethau, ac i ddal fod y ddwy natur wedi eu rhanu, yn tueddu at Ariaeth. Dengys hyn fod Howell Harris yn dechreu dyfod i weled nad oedd pellder mawr wedi'r cwbl, parthed athrawiaeth, rhyngddo ef à Daniel Rowland. "Ond," meddai y dydd-lyfr, "yr ydym yn argyhoeddedig nad oes yr un cyfnewidiad yn eu hyspryd; a geill y datganiad hwn am dduwdod ein Harglwydd fod yn unig yn argyhoeddiad y pen, neu ynte yn tarddu oddiar ystryw, ac nid yn gynnyrch unrhyw olwg newydd y maent wedi gael ar berson yr Iachawdwr." Ychwanega ei fod yn iawn yn awr i rybuddio yr eneidiau sydd ar hyn o bryd yn tyfu rhag myned i'w gwrando, oblegyd deddfoldeb eu hyspryd. Agorwyd y Gymdeithasfa trwy bregethu. I gychwyn, traddododd y brawd Relly "bregeth fawr a gogoneddus," oddiar Phil. ii. 8: "A'i gael mewn dull fel dyn," &c. "Y fath fendith yw cael yr efengyl," meddai Harris, wrth wrando. Ychwanega i'r gogoniant lanw y cyfarfod, ac y bu raid i'r pregethwr aros am gryn amser cyn myned yn mlaen. Ar ei ol pregethodd y brawd John Richard, oddiar y geiriau: "Y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear." Daeth y gogoniant yn amlwg yn ystod ei bregeth yntau. Yr oedd Harris wedi siarsio y rhai a ymgynullasent, cyn dechreu y cyfarfod, nad oeddynt i guddio nac i roddi atalfa ar eu teimladau. "Dangosais," meddai, "mai ni yw corph Crist, ein bod wedi cael ein galw y tufewn i'r llen allan o'r cnawd, ac oni wnawn lawenychu yn yr Arglwydd, a dangos ein harwydd oddiar benau tai, ein bod yn gnawdol, ac nad ydym yn farw gyda golwg ar ein henwau yn y byd." Tueddai hyn i roddi rhaff yn y cyfarfod i'r teimladau a enynid.

Gwaith cyntaf y cyfarfod neillduol oedd cwestiyno yr holl gynghorwyr oedd yn bresenol. (1) Holid hwy am eu gwybodaeth o'n Harglwydd. Cafwyd fod llawer yn anwybodus am dano, ond ymddangosent yn syml, ac o un yspryd; yr oedd eraill wedi cael cipolwg arno; tra yr oedd eraill yn dyfod i fynu i'r goleuni. (2) Holid hwy am yr ymraniad. Cydunai pawb ei fod o Dduw, a bod yspryd y rhai a'u gadawsent hwy wedi gadael yr Arglwydd, a'u bod yn adeiladu ar dywod hunan-ddoethineb, tra yr oedd pleidwyr Harris yn adeiladu ar y graig, trwy grediniaeth wastadol. (3) Holid hwy am Madam Griffiths, a oeddent yn ei gweled yn iawn ac yn Ysgrythyrol, ac yn teimlo yn rhydd yn eu calonau, iddi ddyfod i'r Cymdeithasfaoedd, a bod yn un o'r frawdoliaeth. Datganodd amryw ddarfod iddynt fod yn rhwym yn ngefynau rheswm, ond yn awr eu bod wedi cael eu cadarnhau yn yr Arglwydd, ac yn ei Air, a'i Yspryd; fod Madam Griffiths wedi bod o ddirfawr fendith iddynt, i brofi calonau ac ysprydoedd y rhai oeddynt yn aros, a thrwy yru ymaith y rhai cnawdol. Canlyniad yr arholiad oedd cael fod y cynghorwyr yn rhanedig i dri dosparth. Cynwysai y dosparth cyntaf ddeuddeg. Yr oedd y rhai hyn yn y goleuni, ac yn canfod gogoniant yr Iachawdwr. Rhenid y dosparth i ddwy adran. Cynwysai yr adran flaenaf y rhai oeddynt yn gymhwys i fod yn dadau, sef John Sparks, Relly, Thomas Williams, John Richards, a William Powell, yn nghyd ag un arall na roddir ei enw. Cynwysai yr ail adran chwech o ddynion. ieuainc oeddynt wedi dyfod at y gwaed, sef Roger Williams, Stephen Jones, Thomas Jones, Edward Jones, Edward Bowen, a Thomas Davies. Yr oedd yr ail ddosparth hefyd yn rhifo deuddeg; a gwnelid ef i fynu o rai cryfion, oedd yn gweled eu cwbl yn Nghrist, ac yn tynu at y goleuni a'u holl egni. Y rhai hyn oeddent Rue Thomas, Henry Thomas, Richard Edwards, Richard Tibbot, Richard Watkins, Rue Morgan, John Williams, Thomas Meredith, ac Evan Thomas. Ni roddir enwau y tri arall. Yr oedd y trydydd dosparth yn gynwysedig o bedwar-arhugain, y rhai oeddynt yn weiniaid, ond yn meddu yr un syniadau athrawiaethol, a'r un yspryd. Ychwanegir fod rhai o'r dosparth hwn mewn amheuaeth am Madam Griffiths.

Ceir y penderfyniadau a ganlyn yn mysg y cofnodau: “Gan ein bod yn gweled y fath amryfusedd cadarn yn gweithio yn y brodyr eraill (plaid Rowland), a'r fath yspryd drwg yn dangos ei hun ynddynt mewn amrywiol ffyrdd, a'r moddion a ddefnyddiant i hudo y gwan, cafwyd cryn ddadl ar y priodoldeb o fyned i wrando arnynt, ac ymddiddan â hwynt. Cydunodd yr holl frodyr i roddi rhyddid i'r rhai a ddewisent fyned, fel y gallent farnu drostynt eu hunain, hyd nes y byddent wedi gwneyd eu meddyliau i fynu i ymadael atynt hwy, neu ynte i ymuno â ni; ond gwedi hyny nad oeddynt i fyned i'w gwrando hyd nes y byddai i'r holl Gymdeithasfa gael ei boddloni ynddynt.

Cafwyd dad ar y rhai a wahoddent atynt y blaid arall a ninau. Cydunasom yn (1) Gyda golwg ar y rhai ydynt mewn amheuaeth gyda golwg ar dderbyn y ddwy blaid i'w tai i bregethu, ein bod yn pregethu yn eu mysg hyd y Gymdeithasfa nesaf, neu hyd nes y gwnelont eu meddyliau i fynu i uno â ni, neu â hwy. (2) Ein bod i bregethu yn mysg y rhai cnawdol sydd yn eu galw hwy a ninau, ar yr amod eu bod yn cadw y lle yn agored i ni, yn ddifwlch, pa bryd bynag y deuwn."

Trefnwyd hefyd fath o gyfeisteddfod gweithiol, cynwysedig o ugain o bersonau, gyda Howell Harris yn ben arno, i benderfynu pob peth amgylchiadol. Neillduwyd brodyr i gymeryd gofal y seiadau, ac i ymweled â gwahanol ranau y wlad. Eithr nid oedd y Gymdeithasfa i derfynu heb ryw gymaint o ddiflasdod. Daeth un Joseph Saunders ag achwyniadau yn erbyn Madam Griffiths. Trodd Harris ef allan ar unwaith. Trodd Thomas Seen allan yn ogystal, am nad oedd yn gweled gwaith yr Arglwydd yn Madam Griffiths, ac yn William Powell. Parodd hyn i'r priodoldeb o gael Madam Griffiths yn y Cymdeithasfaoedd a'r seiadau gael ei ddadleu drachefn. Amheuai Richard Tibbot hawl benywod i lefaru yn gyhoeddus. Dygodd hyn Howell Harris i fynu; dywedai y dylent nid yn unig ei goddef, ond teimlo yn fraint ei chael; ei bod yn golofn o oleuni, a bod y dystiolaeth wedi ei selio yn ei chalon. Boddlonodd Tibbot. Teimla Harris iddynt gael Cymdeithasfa fendigedig, mai yn awr yr oedd y gwaith yn dechreu mewn gwirionedd, fod y brodyr eraill yn yr anialwch, eu bod fel Saul, wedi colli y deyrnas, a'u bod yn defnyddio moddion cnawdol i dynu pobl atynt. Ychwanega ddarfod i James Relly, George Gambold, John Harry, a John Harris, y tri diweddaf o Sir Benfro, ymuno â phlaid Harris dair wythnos gwedi y Gymdeithasfa; a bod llawer yn Siroedd Fflint, Dinbych, Meirionydd, Môn, a Chaernarfon, wedi uno, ond nad oeddynt eto wedi eu gosod mewn trefn.

Ar y dydd cyntaf o Hydref, cychwynodd am Sir Benfro, gan alw ar ei daith yn Llwynyberllan, a Chaerfyrddin, a rhai lleoedd eraill, ac yr oedd John Sparks, a Madam Griffiths yn gymdeithion iddo. Ar y ffordd, eglurodd iddynt y cynllun o ffurf-lywodraeth oedd wedi dynu allan i'r seiadau a lynent wrtho. Yn mlaenaf, yr oedd Cymdeithasfa Gyffredinol i gael ei chynal, cynwysedig o efengylwyr, cynghorwyr, ac henuriaid, tua haner cant mewn rhif, o wahanol ranau y wlad. Ei gwaith fyddai rhoddi math o gymeradwyaeth gyffredinol i'r hyn oedd wedi ei benderfynu yn flaenorol mewn cylch mwy mewnol; ac yr oedd pob aelod o honi i gael cyfleustra i ddangos y goleuni oedd ynddo. Yn mhellach, ynddi yr oedd ceryddon cyhoeddus, a dysgyblaeth gyhoeddus i gael eu gweinyddu, a phob mater a ddaliai gysylltiad a'r holl Gorph i gael ei drafod. Yn nesaf, yr oedd Cymdeithasfa fwy mewnol i fod, cynwysedig o tua phump-ar-hugain o efengylwyr a henuriaid. I hon dysgwylid i bob aelod i ddyfod a holl gynyrch ei sylwadaeth, gyda golwg ar achosion tymhorol ac ysprydol, i'w lledu gerbron yr Arglwydd; ynddi yr oedd materion i gael eu penderfynu cyn eu dwyn i'r Gymdeithasfa Gyffredinol; ynddi hefyd yr oedd y pregethwyr i gael eu harholi a'u derbyn, gwahanol achosion i gael eu gwrandaw a'u penderfynu, a chyfarwyddiadau i gael eu rhoddi parthed priodas a dysgyblaeth. Yn drydydd, yr oedd corph mwy mewnol drachefn i fod, cynwysedig o'r efengylwyr oeddynt dadau, y rhai yr oedd meddwl Crist ganddynt, ac a oeddynt yn byw gydag ef, ac felly a feddent synwyrau ysprydol wedi cael eu hawchlymu, fel y gallent wahaniaethu rhwng gwirionedd a thwyll. I'r corph mwyaf mewnol hwn yr oedd achosion o anhawsder i gael eu dwyn, ynddo y profid yr ysprydion, yr amlygid y pethau mwyaf dirgel, ac y penodid i bob un y lle yn mha un y mynai yr Arglwydd ei osod. Meddai Harris: "Y corph hwn yw bywyd a chalon y Gymdeithasfa fewnol, ac hefyd y Gymdeithasfa Gyffredinol, yn nghyd â holl gyfanswm yr eneidiau sydd wedi cael eu gosod dan ein gofal." Gwelir fod y cynllun hwn o ffurf-lywodraeth eglwysig yn ei feddwl yn y Gymdeithasfa yn Llanfair-muallt, er mai yn awr y gwna ei datguddio, ac mai er mwyn ei roddi mewn gweithrediad y cynhaliwyd arholiad ar y cynghorwyr yno, ac y cawsent eu rhanu yn dri o wahanol ddosparthiadau. Bu yn Sir Benfro am bythefnos, gan wneyd ei oreu i ddwyn seiadau y sir i berthyn i'w blaid, yn yr hyn y cynorthwyid ef yn zêlog gan John Sparks. Gwnelai ei gar. tref yn Hwlffordd, ac oddiyno elai ar wibdeithiau i'r holl wlad o gwmpas. Mynega iddo gael ei siomi yn enbyd na ddaeth John Harry, y cynghorwr, ato yn St. Kennox; i'w absenoldeb ei wanu fel brath cleddyf. Gwelir felly nad cywir y nodiad yn nghofnodau Cymdeithasfa Llanfairmuallt am y cynghorwr hwn. Un noson, yn y seiat breifat yn Hwlffordd, daeth y diafol i mewn. Dangosodd ei bresenoldeb trwy beri i rywun holi parthed y priodoldeb o fyned i wrando Howell Davies yn pregethu. Nid oedd Harris yn barod i ateb, felly ceryddodd y dyn am ofyn y fath gwestiwn. Dywedai ei bod yn rhy hwyr i ymdrin a'r mater y noson hono; nad oedd neb i lefaru ond efe, ac mai efe, am y pryd, oedd genau Duw. Dywedodd, yn mhellach, fod y mwyafrif o'r cynghorwyr a'r aelodau perthynol i dŷ cwrdd Hwlffordd yn cydweled ag ef; ond yn hytrach. nag ymladd, os byddai y blaid arall yn ei hawlio, yr ai efe a'i ganlynwyr allan i'r heol. Yr un seiat cyfododd anghydwelediad rhyngddo à John Sparks, a Madam Griffiths, am fod y ddau yn sibrwd wrth eu gilydd pan fyddai ef yn siarad yn y Gymdeithasfa. Mor ddolurus oedd ei deimlad fel y gadawodd y cyfarfod a'r dref yn ddisymwth, gan fyned tua St. Kennox. Yno, holai ei hun ai nid oedd gwaith Madam Griffiths ar ben, neu ynte, ai nid ewyllys yr Arglwydd oedd tori y Cyfundeb Methodistaidd i fynu yn hollol? Ynraddol, modd bynag, llonyddodd ei deimlad, ac aeth yn ei ol i Hwlffordd, at y brodyr a'r chwiorydd, gan gyfaddef ei edifeirwch.

O Sir Benfro teithiodd trwy ranau isaf Sir Aberteifi, a'r rhanau agosaf iddi o Sir Gaerfyrddin, ond cafodd fod y rhan fwyaf o'r seiadau yn cydymdeimlo à Rowland. Bu yntau yn dra llym wrthynt o'r herwydd, gan ddweyd nad oedd am ymweled â hwy drachefn, oddigerth iddynt roddi iddo y lle a gawsai gan Dduw. Wedi cyrhaedd Llwynyberllan yn ei ol, croesodd dros y mynyddoedd i'r Hen Fynachlog, lle o fewn rhyw filltir i Bontrhydfendigaid, ac heb fod dros ddeg milltir o Langeitho. Ymddengys fod y ddeadell yma yn wrthwynebol i Rowland, a'u bod wedi anfon gwahoddiad i Harris ymweled â hwy. Wrth ei fod yn pasio trwy Dregaron, llanwyd ei yspryd â chariad dirfawr at Rowland. "Yr wyf yn gweled mai fy mrawd ydyw," meddai; "yr wyf yn llawen am mai efe sydd yn ben (ar y brodyr oedd wedi ymwrthod â Harris); ac y mae yn flin genyf weled cynifer o wiberod o'i gwmpas, yn ei frathu ac yn ei wenwyno." Gwelir fod Harris, yn nyfnder ei yspryd, yn gorfod anwylo Rowland, a'i fod yn beio rhywrai oedd o'i gwmpas yn fwy nag efe. Cafodd gynulleidfa

EGLWYS ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.


fawr yn yr Hen Fynachlog, a chwedi pregethu, cadwodd seiat breifat. Dywedodd yno drachefn am ei anwyldeb at Rowland, ond fod yn rhaid iddo yn awr ymladd yn ei erbyn. Ymddengys, modd bynag, iddo ddeall mai nid oddiar ddybenion crefyddol yr oeddynt wedi anfon am dano, a dywedodd na ddeuai yno drachefn, hyd nes y byddent wedi ymffurfio yn rheolaidd, ac wedi anfon am dano, nid oddiar ragfarn at y brawd Rowland, ond oddiar ofn Duw, ac yspryd cariad. Tranoeth, croesodd y Mynydd Mawr, ac wedi ymweled ag amryw leoedd yn Sir Faesyfed a Brycheiniog, dychwelodd i Drefecca. Ar y dydd olaf yn Hydref, cyfarfyddodd corph mewnol y Gymdeithasfa yn Nhrefecca. Llefarodd Harris yn helaeth am ddyfod i feddu yr un goleuni, onide na fyddai yr undeb rhwng yr aelodau yn ysprydol o gwbl, eithr yn undeb cnawdol, fel eiddo y blaid oedd wedi ymranu. Trowyd dau gynghorwr, sef William James, a Rue Thomas, allan o'r cyfarfod, i weddïo, am nad oeddynt yn tyfu, ac nad oedd pwys y gwaith yn gorphwys ar eu hysprydoedd, ac hefyd am nad oeddynt yn gallu ymwthio yn mlaen oddifewn i'r llen. Ychydig o wahaniaeth a welai Harris rhwng eu hysprydoedd ag eiddo y blaid arall. Amlwg fod ei safon o'r hyn a ystyriai yn ysprydolrwydd yn ymddyrchafu yn gyflym, a'i bod ar gyrhaedd pwynt uwchlaw yr hyn sydd yn bosibl i'r cyffredin o dduwiolion.

Cawn ef ar y 4edd o Dachwedd yn cychwyn ar daith i'r Gogledd. Gwedi ymweled ar ei ffordd ag amryw leoedd yn Sir Faesyfed, y mae, dydd Gwener, Tachwedd 9, yn cyrhaedd Llwydcoed, yn Sir Drefaldwyn. Nid oedd pall ar ei wroldeb wrth wrthwynebu yr anhawsderau a welai o'i flaen. "Y mae fy yspryd," meddai, "uwchlaw holl ddiaflaid y Gogledd; yr wyf yn edrych arnynt fel gwybed." Yn Llanrhaiadr Mochnant, un awr yr arhosodd, i gael ymborth iddo ei hun a'i anifail, ac yna, trafaelodd trwy y nos, gan gyrhaedd Mwnglawdd, lle heb fod yn nepell o Wrexham, boreu y Sadwrn. Pregethodd yma gyda dylanwad mawr ar y Drindod, bwyta cnawd ac yfed gwaed Mab y Dyn, a dangosai am farwolaeth Duw, ei fod uwchlaw dirnadaeth y cnawd. Yn Mwnglawdd yr arosodd dros y Sul, a

CAPEL TREHIL, ST. NICHOLAS, SIR FORGANWG.


phregethodd yno drachefn ar y geiriau: "A ydych chwi yn awr yn credu?" Ymddengys iddo gael odfa nerthol iawn. Dangosai dri nod yr etholedigion, sef eu bod yn cael eu dysgu gan Dduw; eu bod yn adnabod llais Crist, ac yn gwrando arno; a'u bod yn edrych ar yr hwn a wanasant. Taranai yn ofnadwy yn erbyn yr yspryd hunanol a balch oedd wedi dyfod i fewn i fysg y rhai a fuasent unwaith yn syml, ac yn barod i gymeryd eu dysgu. Rhybuddiais y bobl," meddai, "rhag gwrando ar reswm, ac anogais hwynt i wrando ar yr Arglwydd yn unig; am iddynt ein gadael ni i'r Arglwydd. Dywedwn fy mod wedi dyfod i droi eu calonau at yr Arglwydd; nad oedd genyf un gwaith arall, ac oni chlywch lais Crist ynom ni,' meddwn, yn cyrhaedd. eich calonau, gadewch ni. Nid yw o un pwys beth a fuoch, beth ydych yn awr yw y pwnc. Bu Saul yn mysg y prophwydi, a'r morwynion ffol yn mysg y morwynion. call, ond nid ydynt gyda hwy yn awr. Gwrthddadl Felly, yr ydych yn dal syrthiad oddiwrth ras? Nac ydym; nis geill y rhai sydd ar y graig syrthio, ond pwy ydynt? Yr ydym yn galw llawer yn frodyr na wna Duw arddel. Rhaid i mi siarad yn blaen wrthych; nid yw o un pwys genyf beth a ddywedir am danaf, oblegyd nid trosof fy hun yr ydwyf wedi dod, eithr dros yr Arglwydd.' Dywedais, yn mhellach, mai Diwygwyr yn yr Eglwys ydym, ac nad oeddym yn eglwys nac yn sect ar wahan."

Diau fod y bregeth hon yn esiampl bur deg o'i genadwri yr adeg yma at seiadau Gogledd Cymru. Prydnhawn y Sul, aeth i dref Wrexham, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." "Odfa gyda llawer o ryddid mewn modd syml," y geilw hon. Aeth yn ei ol i Mwnglawdd nos Sul, lle y pregethodd drachefn. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat, a siaradodd yn hir ar enedigaeth, dyoddefiadau, a gwaed Duw. "Llefais," meddai, "ychydig, yn ol pob tebyg, a gaiff Duw yma yn foddlon i gymeryd eu dysgu ganddo, tra y bydd eraill, ar ol iddynt ei brofi am lawer blwyddyn, a'i gael ef yn ffyddlon, yn ei adael, gan ymddiried yn eu doethineb eu hunain, ac yn eu cof, ac mewn llyfrau. Yr oedd y gogoniant yma, a daeth yr Arglwydd i lawr mewn gwirionedd, i gadarnhau yr eneidiau. Gwedi hyn, bum gyda'r pregethwyr hyd ddau o'r gloch y boreu, agorwyd fy ngenau yn wir i roddi gofal yr eneidiau yn y lle yma iddynt, yn yr un geiriau ag y gwnaeth Paul i henuriaid Ephesus. Eto, nid myfi a lefarai, eithr yr Arglwydd ynof fi." Dydd Llun, cawn ef yn Llansanan, a phregethodd, gyda chryn ryddid, i ychydig o eneidiau syml oeddynt yn barod i wrando yr efengyl. Nos Lun, y Nos Lun, y mae yn yr Hen Blas, ac yn pregethu oddiar y geiriau: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad." Ei destun yn y Plasbach, boreu dydd Mawrth, oedd: "Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo.' Dywed fod awdurdod rhyfedd yn cydfyned a'i eiriau. "Dangosais i bwrpas," meddai, "fel y mae yr Ysgrythyr yn dwyn tystiolaeth i ogoniant y Dyn hwn; nad digon credu fod Duw ynddo, neu gydag ef, ond mai efe yw y Perffaith, a bod ei waed yn waed Duw." Ychwanega: "Y fath us sydd i'w gael yn awr yn mhob man! Y mae llawer yn cael eu taflu o gwmpas, ac yn cael eu profi, gan yr ymraniad hwn.

Ychydig yn y rhanau hyn o'r wlad sydd. wedi cael eu deffro, er fod yma lawer o bregethu." Ai ychydig wedi eu deffro fel ag i ymuno â chrefydd a olyga, ynte wedi eu deffro i ganfod pethau yn yr un goleuni ag ef, sydd ansicr.

Dydd Iau, y mae yn Waunfawr, ger Caernarfon, ac yma y cenfydd, am y tro cyntaf, bamphledyn Daniel Rowland. "Neithiwr," meddai, "gwelais gyhuddiad yr anwyl frawd Rowland yn fy erbyn, sef fy mod yn dal pedair o heresiau; gwadu y term Person,' dal i'r Tad ddyoddef ac i Dduw farw, fod corph Crist yn hollbresenol, a'm bod wedi ymchwyddo. Pwysais y cyhuddiadau hyn gerbron yr Arglwydd, a chefais fy mod yn ddieuog." Nid ydym yn sicr beth a olyga wrth "ddieuog." Prin y gallai wadu ei fod yn dal rhai o'r athrawiaethau a dadogir arno gan Daniel Rowland; defnyddiai yr ymadrodd am farwolaeth Duw yn fynych wrth bregethu yn ystod y daith hon; efallai mai ei feddwl yw nad oedd y golygiadau y dywedir ei fod yn eu coleddu yn heresiau. Ond y mae yn amlwg fod ei deimlad at Rowland yn dyfod yn llai dolurus. "Yr oeddwn yn ofidus," meddai, "ddarfod i'r brawd Rowland ysgrifenu fel hyn; byddai yn dda genyf pe bai yn cymeryd y papyr, ac yn ei olchi yn y gwaed, a'i gyflwyno i'r Arglwydd." Dydd Gwener, aeth i Leyn, i Brynengan, yn ol pob tebyg, a phregethodd oddiar Zecharias xii. 10. Yn y seiat breifat, dangosai fod yr Arglwydd wedi dyfod i'w mysg a'i wyntyll, ac aeth fanwl ac yn yn helaeth dros ei hanes ei hun o'r cychwyn, yn nghyd ag achos yr ymraniad rhyngddo a phlaid Rowland. Dydd Sadwrn, mae mewn lle yn Sir Fôn, o'r enw Ysgubor Fawr; ei destun yw: "Yn y byd gorthrymder a gewch." Yma, cafodd ei daro yn glaf, fel y methodd fyned yn ei flaen i Lanfihangel, fel yr arfaethasai; dywed, hefyd, ei fod yn isel ei yspryd. Medrodd fyned yno y Sul, modd bynag, a phregethodd am anfeidroldeb dyoddefiadau Crist. Dydd Mawrth, cawn ef eto yn Waunfawr, yn troi ei wyneb tuag yn ol. "Yn awr," meddai, "yr wyf yn troi fy wyneb o'r Gogledd am gartref, gwedi cyflawni gwaith fy Arglwydd, yr wyf yn gobeithio, ac wedi gosod yn nghyd ychydig feini, gan wahanu rhwng y credinwyr a'r annghredinwyr, a'i gwneyd yn hawdd i'r rhai sydd yn y ffordd i dyfu." Y mae y frawddeg nesaf yn cyfeirio at rywbeth a'i cyfarfyddodd, nas gwyddom ei natur na pha le y digwyddodd: "Fy mywyd yn brin a achubwyd o safn y llew; atebodd y pwrpas o drywanu fy nghnawd, a dinystrio y sothach oedd ynof, gystal a phe buaswn wedi cael fy nwyn i brawf. Y maent hwy yn erlid, nid gyda cherig a phastynau, ond â geiriau gwenwynig."

Nos tranoeth, cyrhaeddodd y Bala. Ei destun ydoedd: "Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegyd dodi o hono ef ei einioes drosom ni.' "Cadwyd fi rhag suddo," meddai, "cefais awdurdod, a rhyddid, a nerth, y fath na chefais erioed o'r blaen yma. Dangosais yr angenrheidrwydd am yr Yspryd, ac eiddilwch pob moddion hebddo; yr oeddwn yn llym at annghrediniaeth, ac at anwybodaeth am Grist. Dywedais y rhaid i mi fod yn ffyddlon, a lefaru y gwirionedd i'r amcan hwn; fy mod yn gadael pob peth er myned oddiamgylch. Yna, llefarais yn llym wrth y credinwyr am iddynt aros ynddo, trwy barhau i gredu; mai hyn yw ein dyledswydd, ac nad yw pob gras ydym wedi dderbyn o un gwerth i ni yn ymyl hyn." Beth a fu ei ddylanwad yn y Bala, nis gwyddom; nid yw yn dweyd pa un a lwyddodd i droi y seiat o'i blaid. Y dydd Sul canlynol, yr ydym yn ei gael yn Llanfair-Careinion, lle y pregetha oddiar yr un testun ag yn y Bala. Pregethodd yno nos Sul, yn ogystal; ei destun ydoedd "Gwir yw y gair;" eithr dywed na chafodd fawr ryddid hyd nes y dechreuodd lefaru am ddirgelwch Crist. "Dyma y genadwri a roddir i mi yn mhob man," meddai. Y dydd Mawrth canlynol, yr oedd yn y Fedw, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid." Dywed: "Wrth weddio, a chanu, a phregethu, dyrchafwyd fi uwchlaw y diafol yn mhawb, a chefais ryddid dirfawr i ddangos gogoniant y Dyn hwn. Dangosais mai efe yw y Duw tragywyddol; y bydd i bob cnawd addef ei Dduwdod yn y man; ei fod yn Dduw yn mhob man, ond na fu Duw farw. Eglurais i'r Anfarwol farw, ei fod yn byw pan yn angau, ac yn ogoneddus a mawr. Ni addefent hwy (plaid Rowland) ei fod yn Dduw, eithr fod Duw gydag ef, ac ynddo, a'i fod yn berffaith." Yn sicr, nid yw hyn yn ddarnodiad cywir o syniadau Rowland, credai efe yn nuwdod y Gwaredwr lawn mor ddiysgog a Harris ei hun. Ychwanega: "Gelwais seiat breifat ar ol, ond yr oedd cymaint o'r diafol yn eu mysg, fel yr aethum allan, ac y gadewais hwynt." Yna, aeth i gyfeiriad Sir Aberteifi, ac ymwelodd a'r Hen Fynachlog eto. Hawdd gweled ei fod yn awyddus am gael gafael yn rhai o seiadau Sir Aberteifi, yr hon a ystyrid fel yn perthyn yn arbenig i Daniel Rowland. Dywed iddo glywed am ryw wraig yn Northampton, oedd wedi prophwydo y byddai un yspryd, un athrawiaeth, ac un eglwys trwy yr holl deyrnas. Credai efe mewn prophwydoliaeth, a chafodd y dywediad le mawr yn ei feddwl. "Oni wrthid y genedl yr efengyl," meddai, bydd heddwch a gogoniant mawr; ond os fel arall, nid oedd y ddaeargryn ond arwydd o farn." Oddiyma, aeth adref trwy Lwynyberllan.

Yr oedd ei weithgarwch yr adeg yma yn ddiderfyn: ac y mae yn sicr fod cyffro enbyd yn y seiadau trwy yr holl wlad. Yn wir, ymledai y cyffro i'r Eglwys Sefydledig, ac i fysg yr enwadau Ymneillduol; a chymerai yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr blaid Rowland. Ar y ddeunawfed o Rhagfyr, 1750, cawn ef yn St. Andrew's, ger Caerdydd, ac fel hyn yr ysgrifena: "Dyma ddyddiau ardderchog mewn gwirionedd. Y mae pawb yn cael eu profi, eu hysgwyd, a'u gwyntyllu. Yr holl weinidogion Ymneillduol, a'r holl offeiriaid, ein brodyr ein hunain, ydynt mewn arfau yn fy erbyn. Yma, yr wyf yn cael Mr. Lewis Jones wedi aros, yn fy ngwrthwynebu, a dynoethodd fi neithiwr wrth bregethu. Aeth un o'r brodyr gau at yr offeiriad yma i'm dynoethi, ac yr oedd yntau am anfon am y cwnstabli ar unwaith i'm cymeryd. Pan glywais y pethau hyn, llawenychodd fy yspryd ynof. Teimlwn y groes yn dra melus, ac yr oedd y syniad am gael fy nghymeryd yn foddhaol iawn genyf." Nid oes amheuaeth nad oedd yspryd erledigaeth yn rhedeg yn uchel o'r ddau tu, fod plaid Harris a phlaid Rowland yn camddarlunio geiriau a gweithredoedd eu gilydd, a bod llawer o fustl chwerwder o'r ddwy ochr. Ar y 22ain Rhagfyr, pregethai yn Mhontypridd, a thra yr oedd wedi hoelio sylw'r gynulleidfa, darfu i ryw Ymneillduwr, llawn o'r diafol, ei wrthwynebu yn gyhoeddus. Trodd Harris arno; aeth yntau allan o'r cyfarfod, a rhywun arall, llawn o'r diafol, fel ei hun, gydag ef, ac yna daeth yr Arglwydd i lawr.

Ar y dydd olaf o'r flwyddyn 1750, a'r dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, cynhelid math o gyfarfod rhagbarotoawl i'r Gymdeithasfa gan Howell Harris a'i blaid yn Llwynyberllan. Ymddengys mai cyfarfod y Corph mewnol" ydoedd; ac yr oedd tua phump-ar-hugain yn bresenol, yn mysg pa rai, heblaw Harris ei hun a Madam Griffiths, y cawn Richard Tibbot, John Sparks, John Richard, ac eraill o ryw gymaint o enwogrwydd. Yr oedd yr hunanymwadiad a ofynai Harris gan y cynghorwyr, a'r ddysgyblaeth a gadwai arnynt, yn dechreu dyfod yn annyoddefol o lym; ac un o brif orchwylion y gwahanol Gymdeithasfaoedd oedd gwyntyllu y pregethwyr, er cael gweled pwy a ddeuai i fynu a'r safon. Rhoddwyd hwy dan arholiad caled yn Llwynyberllan. Gofynid tri chwestiwn iddynt (1) A oedd eu gwybodaeth o Grist yn yr yspryd, ynte yn y pen yn unig? (2) A oeddynt yn meddu Ilawn sicrwydd eu bod wedi cael eu galw ganddo i bregethu? Ac os felly, a oeddynt yn feirw i bob math o amcanion personol, ac yn barod i ddyoddef pob math o galedi, oerfel, newyn, noethni, a phob cyffelyb groesau? (3) A oeddynt yn ymlynu wrth waith hwn y diwygiad, fel y mae yn cael ei gario yn mlaen oddifewn i'r Eglwys Sefydledig? Braidd nad yw yn gofyn ganddynt ganddynt i hunanymwadu a'u hewyllys ac a'u barn, a bod yn gwbl ddibris o'u hamgylchiadau, gan fod yn fath o beirianau yn ei law ef, i fyned o gwmpas, ac i weithredu fel eu gorchymynid. Er caleted y prawf, atebodd y cynghorwyr y gofyniadau yn foddlonol, rhai gyda mwy a rhai gyda llai o ffydd. Eithr yr oedd un cwestiwn llosgawl yn aflonyddu meddyliau y cynghorwyr, sef presenoldeb a swyddogaeth Madam Griffiths, "y Llygad," yn y Gymdeithasfa. Mewn gwirionedd, hi a lywodraethai i raddau mawr, gan y credai Harris fod meddwl Duw ganddi; a phan y gweithredai mewn rhyw amgylchiad heb ymgynghori â hi, nid esgeulusai hithau ei geryddu yn llym. Yr oedd ei llywodraeth yn pwyso fel hunllef ar y pregethwyr, a dyma y mater yn dyfod i'r bwrdd. "Gwedi hyn," meddai Harris, "pan nad oedd Madam Griffiths yn cael rhyddid i siarad, mi a aethum allan, a thorwyd y cwbl i fynu mewn annhrefn." Ai y cynghorwyr a'i rhwystrent i lefaru, gan wrthod gwrando; ynte hi a deimlai nas gallai siarad fel arfer, am nad oedd y cyfarfod mewn cydymdeimlad à hi, nis gwyddom. Yr olaf sydd fwyaf tebyg. Parhaodd yr annhrefn a'r dyryswch am bum' awr; Madam Griffiths yn bygwth ymadael, a Harris a rhai o'r cynghorwyr yn crefu arni beidio; " a'r Arglwydd a'i cadwodd rhag myned," meddai y dydd-lyfr. gwmpas deuddeg, cyfarfyddwyd drachefn, buwyd wrthi yn dadleu hyd dri o'r gloch y boreu, ac yna trodd y fuddugoliaeth of blaid Harris. "Gwedi brwydr enbyd a maith â Satan," meddai, "o gwmpas tri o'r gloch y boreu, daeth yr Arglwydd i lawr, ac unodd hi a minau â hwy." Diau genym mai parch, yn ymylu ar fod yn addoliad, i Howell Harris a barodd i'r brodyr roddi ffordd. Cyfodasai Harris yn y canol, gan ofyn pwy oedd yn teimlo ar ei galon i roddi ei hun, enaid a chorph, i'r Arglwydd, ac i'w gilydd dros byth? cyntaf i ateb yr alwad oedd Thomas Jones; y nesaf oedd Thomas Williams, yn dra difrifol; gwedi hyny, amryw eraill, ac yn eu mysg Richard Tibbot. "Yna," medd y cofnodau, "mor fuan ag yr oedd pob un yn ildio, yr oedd gogoniant gweledig yn gorphwys arno, a theimlai pawb berthynas a'u gilydd na wyddent am ei chyffelyb o'r blaen, a theimlent bob peth yn gyffredin." Yn awr y gwelai Harris sylfaen teml Dduw yn Nghymru yn cael ei gosod i lawr. Hawdd gweled eu bod wedi colli pwyll a barn, gan ymgladdu yn y cyfriniol a'r dychymygol. Ond yr oedd amryw o'r brodyr yn petruso, wedi y cwbl, a gwrthodasant ateb ar y pryd.

Ar yr ail o Ionawr, yr oedd y Gymdeithasfa yn Dyserth. Yn Llanfairmuallt, ar y ffordd tuag yno, pregethodd Thomas Williams a John Relly. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth rymus gan John Sparks. Yna, dechreuodd Harris lefaru, am yr angenrheidrwydd anorfod i bawb roddi eu hunain i fynu i'r Arglwydd, i'w waith, ac i'w gilydd; fod yr amser wedi dyfod yn awr i osod i lawr y sylfaen, ac i ymuno yn nghyd. Yna, gofynai, megys y gwnaethai yn Llwynyberllan: "Pwy sydd yn awr yn barod i adael pob peth er mwyn Duw a'r gwaith hwn? Pwy a fedr roddi ei enaid, ei gorph, a'i yspryd, yn nghyd a'r oll ag ydyw, a'r oll sydd ynddo, i'r Arglwydd, ac i ni, ei frodyr a'i weision?" Crybwyllodd fod deg o honynt wedi cydymrwymo i wneyd hyny yn Llwynyberllan. Cododd nifer mawr i ddangos eu parodrwydd, ac wrth eu gweled ar eu traed, sibrydai y cynghorwr William Powell wrth Harris: "Y mae yr Arglwydd yn gwneyd gwaith mawr."

Eithr aeth nifer allan heb ateb, ac yn eu mysg rai oeddynt wedi rhoddi i mewn yn Llwynyberllan, sef John Richard, Llansamlet, Thomas Bowen, Llanfair-muallt, Stephen Jones, William Jones, a Rue Thomas. &c. Nifer y rhai ddarfu ymrwymo oedd saith-ar-hugain, ac ymgyfamodent eu bod hwy, a'r hyn oll a feddent, i gael eu llywodraethu a'u trefnu gan y corph cyffredin; y gwnaent bregethu neu beidio pregethu, rhoddi eu holl amser i fyned o gwmpas, yn union fel y trefnid iddynt; y rhoddent eu gwasanaeth oll iddo ef ac i'w gilydd, gan gymeryd y naill y llall, er gwell ac er gwaeth. "Dangosais iddynt fawredd y gwaith," meddai Harris, "ei fod tu hwnt i'r hyn yr oeddym yn ymwneyd ag ef yn flaenorol; fod hwnw yn gofyn am i ni fod yn farw i'n hewyllys a'n doethineb ein hunain; eithr fod hwn yn gofyn doethineb arbenig, i weled pwy sydd wedi cael ei anfon gan yr Yspryd Glân." Gwelir fod y cynghorwyr a ganlynent Harris yn ymffurfio yn fath o urdd, ac yn cymeryd arnynt fath o adduned, nid annhebyg o ran llymder dysgyblaeth, a llwyrder ufudd-dod, i'r urddau arbenig yn yr Eglwys Babaidd. Cofnodir nad oedd Richard Tibbot yn Dyserth, am y cawsai ei anfon ar daith i'r Gogledd, a Lewis Evan gydag ef.

Y dydd Llun canlynol, yn Gore, clywodd fod ei fam wedi marw. Brysiodd tuag adref, ac wrth edrych ar y corph, yr oedd natur yn derfysglyd ynddo, ond pan y clywodd mai ei geiriau diweddaf oeddynt: "Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd," ymdawelodd, ond hiraethai yntau am fyned adref. Pregethodd yn ei hangladd oddiar y geiriau: "O angau, pa le mae dy golyn?" Erbyn hyn, y mae yn cael sail i ofni fod y llanw yn dechreu troi yn ei erbyn yn ngwahanol ranau y wlad. Yn Erwd, cafodd lythyr o Dyserth, lle y cadwai ei Gymdeithasfa yr wythnos cyn hyny, fod y seiat wedi ymwrthod ag ef, ac wedi rhoddi ei hun dan ofal Thomas Bowen. Yn Cwmcynon, ar ei ffordd i Sir Benfro, cofnoda fod pawb a wrandawsent arno yno, naill ai wedi cael eu hargyhoeddi, neu eu dystewi; na wnaeth neb ei wrthwynebu, ond iddynt fyned allan. Mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, dywed iddo adael y seiat heb gymeryd ei gofal, am y teimlai yno bresenoldeb y diafol. Trafaelodd Benfro yn bur fanwl; dywed iddo gael odfaeon da, "ond," meddai, "yr wyf yn cael fy nuo gymaint oblegyd fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a Madam Griffiths, fel y mae yn gofyn cryn lawer o ffydd i'm derbyn i dŷ." Yn nesaf, cawn ef ar daith yn Sir Forganwg, a thra cymysglyd y mae yn cael pethau. Ar y ddegfed o Chwefror, ysgrifena fel y canlyn yn y Dyffryn, ger Taibach: "Neithiwr, daethum yma, ar ol pregethu yn yr Hafod, ac wedi gwrthod aros yno, am nad oedd yr Arglwydd yn eu mysg. Pan y pregethwn iddynt, yr oedd y cyfan yn eu condemnio, am iddynt adael yr Arglwydd." Prydnhawn yr un dydd, pregethai yn Castellnedd, ac aeth yr hwyr hono i dŷ John Richard, Llansamlet, i letya. Eithr yno cafodd fod John Richard wedi sefyll ar ol, ac wedi methu dyfod i'r goleuni, gan gymeryd ei berswadio gan ei wraig, a chan ei reswm cnawdol, a'i ddiffyg ffydd. Yr oedd, hefyd, wedi troi yn erbyn Madam Griffiths. Ymadawodd Harris ar unwaith, gan deithio trwy y nos, nes cyrhaedd Llandilo Fach. Ar y ffordd, amheuai ai ni wnai yr Arglwydd godi rhyw gorph arall o bobl i gario yn mlaen ei waith? Ac ai ni fyddai iddo ef a Madam Griffiths gael eu gadael wrthynt eu hunain yn y diwedd, a'r bobl wedi myned i wrando y blaid arall? Yn Gelly-dorch-leithe, dranoeth, cyfeiria at dŷ y cynghorwr George Phillips, fel tŷ ychwanegol y darfu iddo wrthod aros o'i fewn, am nad oedd yr Arglwydd yn ben yno.

Ar y 14eg o Chwefror, 1751, cynhelid cyfarfod yn Nhrefecca i drefnu teithiau y cynghorwyr i wahanol leoedd. Penderfynwyd fod pump i fod ar daith yn gyson yn y Dê, a phedwar yn y Gogledd; trwy y trefniant yma, tybid y byddai pob seiat yn cael ymweliad unwaith yr wythnos. Cydunwyd, yn mhellach, fod y cynghorwyr i ymweled ag aelodau preifat, y rhai y tybid eu bod yn gymhwys i uno, gan roddi gwybod am danynt i Harris a Madam Griffiths, fel y gallent hwy eu sefydlu yn eu lle. Nid oedd neb i gael eu hystyried yn aelodau ond a feddent y ffydd, ac a roddasent eu hunain i'r Arglwydd, ond yr oedd y rhai a ddifrifol geisient, ac a ymdrechent ddyfod i fynu, i gael ymweled â hwy. Cafwyd yma, hefyd, fod amryw frodyr yn weiniaid, a rhai yn tueddu i droi yn ol. Yr ydym yn cael cyfarfod cyffelyb yn Nghastellnedd, Ebrill 10 a 11, yn mha un, heblaw Howell Harris a Madam Griffiths, yr oedd yn bresenol John Sparks, Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill. Y nesaf at Harris ei hun, John Sparks oedd prif ddyn y Gymdeithasfa yn awr, ac efe, fel rheol, a agorai y gwahanol gyfarfodydd gyda phregeth. Traethodd Harris yn helaeth ar y nodweddion gofynol yny "tadau," y "gwŷrieuainc," a'r "plant." Gan y "tadau," gofynid am galon ac yspryd tadol, eu bod wedi tyfu mewn ffydd a phrofiad, nes meddu sefydlogrwydd ysprydol; eu bod yn barod i flaenori y lleill mewn wynebu pob math o berygl at gwrthwynebiad. Dysgwylid iddynt feddu, yn mhellach, fywiogrwydd o ran eu holl synwyrau ysprydol, fel y gallent adnabod yr ysprydion, a deall holl ddirgel ddyfeisiau. Satan; yn eu mysg, hefyd, rhaid cael dirgelwch yr Arglwydd, cariad pur, a marweidd-dra i hunan. Yr oeddynt i fod yn llygaid, yn enau, ac yn glustiau i'r praidd, ac i wylio dros y pregethwyr eraill. Nid rhyfedd, gwedi arholiad manwl, iddynt fethu cael neb yn dyfod i fynu yn hollol a'r safon uchod; ond gobeithid fod yr Arglwydd yn parotoi rhai. Cawn ddarfod i John Richard, Llansamlet, ofyn caniatad i ddyfod i mewn i'r Gymdeithasfa; y caniatad a roddwyd iddo; ond ni thaflodd ei goelbren i'w mysg, am ei fod yn gaeth gan ei reswm.

Rhaid i ni basio amryw o fân gyfarfodydd, a dyfod at Gymdeithasfa bwysig a gynhaliwyd gan Harris a'i blaid yn Llwynbongam, Gorphenaf 2, 3, 1751. Yr oedd safon Harris, fel y mae yn amlwg, yn myned yn uwch yn barhaus, a'i ddysg yblaeth yn fwy llym, ac felly, yr oedd y cynghorwyr, y naill ar ol y llall, yn cwympo i ffwrdd oddiwrtho. Hefyd, cofnodir ddarfod i Whitefield, yr haf hwn, ddyfod i lawr i Gymru, gan bregethu yn gefnogol i Rowland a'i blaid, ac yn erbyn gwaith Harris yn cymeryd Madam Griffiths o gwmpas, a sicr yw ddarfod i'w ymweliad ef ddylanwadu ar lawer. Methodd John Sparks ddyfod i'r Gymdeithasfa, oblegyd afiechyd; anfonodd eraill air nas gallent ddyfod, ac yr oedd eraill, drachefn, wedi tramgwyddo. Ond daethai Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill. Cynygiodd Harris ar y dechreu fod pawb yn agor ei calonau, fel y gwelent pwy oedd yn meddu ffydd i fyned a chymeryd y wlad, ac i sefyll o blaid yr Arglwydd wrtho ei hun, heb neb gydag ef? Mewn canlyniad, trowyd amryw allan, am na feddent y ffydd ofynol. Yr oedd Richard Tibbot erbyn hyn yn dechreu petruso, ac yn teimlo annhueddrwydd i fyned o gwmpas, a dymunai gael myned i ymddiddan a'r brodyr eraill (plaid Rowland). Yn ngwyneb hyn, cododd Harris ar ei draed, gan ymhelaethu ar yr angenrheidrwydd bob un i fod yn sefydlog yn yr Arglwydd, ac yn y gwaith, na ddylai neb gloffi o herwydd y rhai oedd wedi ymadael, oblegyd fod y cyfryw oll wedi tramgwyddo wrth y gwirionedd, a bod pob moddion wedi cael eu defnyddio tuag at eu hadfer. Dangosai, yn mhellach, am y gwahaniaeth rhwng pregethwyr; fod rhai wedi cael eu galw i fod yn dadau, eraill yn wŷr ieuainc, yn blant, yn efengylwyr, ac yn brophwydi; a bod rhai yn meddu yspryd Moses a Phaul i drefnu ac i orchymyn. Yna, cyfeiriodd at blaid Rowland, nas gellid, o gydwybod, eu derbyn yn ol, hyd nes y cydnabyddent bechadurusrwydd eu hyspryd, ac annghrediniaeth eu calonau. Am Madam Griffiths, dywedodd ei bod yn parhau i fod yn fendith iddo, trwy fod yn Llygad, ac yn brofydd yr ysprydion. Ar ddiwedd y cyfarfod, y nos gyntaf, rhoddodd amryw eu henwau, fel yn barod i ddyfod tan y ddysgyblaeth fanwl y cyfeiriasid ati; ac yn eu mysg cawn Thomas Williams, a Lewis Evan. Y penderfyniad cyntaf a geir boreu dranoeth yw a ganlyn: "Trowyd Richard Tibbot i ffwrdd am wrthod cymeryd taith, ac am fyned i ymweled a'r brodyr eraill, gan fod pob moddion wedi cael eu harfer atynt, ac nad oes genym ffydd mai yr Arglwydd sydd yn ei anfon atynt." Terfynwyd y Gymdeithasfa, wedi gwneyd amryw drefniadau, trwy i Lewis Evan bregethu ar ddyoddefiadau Crist, a Thomas Williams ar adeiladiad y deml.

Hydref 2, 1751, cynhelid Cymdeithasfal yn Nhrefecca. Nid oedd yn un liosog, eithr yr oedd Lewis Evan yn bresenol, a Thomas Williams, ac amryw eraill, heblaw Howell Harris a Madam Griffiths. Eithr yr oedd John Sparks yn absenol, a Richard Tibbot. Dywedir am yr olaf ei fod wedi suddo oddiwrth yr Arglwydd, eithr ei fod wedi ysgrifenu llythyr i'r Gymdeithasfa. Cafodd un Thomas Roberts, o Sir Fôn, ei arholi, a'i dderbyn fel pregethwr, a chafodd bregethu yn y Gymdeithasfa. Ymddengys fod llawer o'r tai anedd, yn mha rai yr arferai Harris bregethu, yn awr wedi eu cau iddo, ac yn enwedig i'w gynghorwyr; ac felly, y mae yn gorchymyn i'r pregethwyr lefaru yn yr awyr agored. Rhydd y rhesymau canlynol dros ei ymddygiad: (1) Dyma y comisiwn cyffredin, "Ewch, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." (2) Hyd nes y byddent yn cymeryd y prif-ffyrdd a'r caeau, na fyddent yn cymeryd mantais ar y rhyddid ardderchog oedd yn eu dwylaw trwy ganiatad caredig y llywodraeth. (3) Am fod llawer o bobl gnawdol a ddeuent i wrando i'r maes agored, neu i'r heol, ond na ddeuent i dŷ. (4) Am mai trwy bregethu allan y dechreuodd y gwaith, a'i fod yn ymddangos yn rhesymol iddo gael ei ddwyn yn mlaen yn yspryd ei gych wyniad. (5) Hyd oni fyddent wedi cymeryd y prif-ffyrdd a'r caeau, nas gallent deimlo yn hyderus eu bod wedi gwneyd yr oll o fewn eu gallu dros iachawdwriaeth y wlad. Y Gymdeithasfa hon yw y diweddaf y ceir ei hanes yn nghofnodau Harris.

Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1752, cawn Gymdeithasfa Gyffredinol yn Lanllugan, Sir Drefaldwyn. Tua phump-ar-hugain oedd yn bresenol. Nid ydym yn meddwl fod Lewis Evan yn eu mysg, oblegyd yn fuan ar ol hyn yr ydym yn cael Harris yn gweinyddu cerydd llym arno fel un oedd wedi methu dyfod i fynu i'r goleuni, act wedi dangos gelyniaeth at yr Arglwydd. Gwaith cyntaf y Gymdeithasfa oedd ym. wrthod a'r enw 66 Methodistiaid," gan fod yr enw wedi cael ei halogi yn enbyd trwy au athrawiaeth, hunanoldeb, a gelyniaeth at y gwaed. O hyn allan yr oedd pobl Howell Harris i gael eu hadnabod wrth yr enw Cynghorwyr," yr hwn enw nid oedd neb yn ei ddefnyddio, ac yr oedd eu prif gyfarfodydd i gael eu galw yn Gynghorau, ac nid yn Gymdeithas faoedd. Tebygol fod y rhai a elent o gwmpas i rybuddio pechaduriaid yn dechreu cael eu hadnabod fel llefarwyr, neu bregethwyr, a bod cynghorwr, fel enw swyddol, yn myned allan o arferiad. Yr oedd Harris yn y "Cynghor" hwn yn enbyd o lym; dywedai wrth y brodyr, nad oeddynt yn tyfu, na feddent yspryd y diwygiad, nad oedd cariad Duw yn llosgi yn eu heneidiau, ac mai dyna y rheswm paham yr oedd mor lleied yn dyfod i'w gwrando. Dywedai, yn mhellach, nad oedd ar y diafol ddim o'u hofn, eithr yn hytrach fod arnynt hwy ofn y diafol. Achwyna, hefyd, fod pawb fel pe byddent yn ei erbyn ef a'r rhai a lynent wrtho, a bod rhai o'r brodyr mewn perygl o gael eu lladd yn Siroedd Môn a Dinbych. Un o benderfyniadau y Cynghor oedd peidio adeiladu rhagor o gapelau, a pheidio defnyddio capel o gwbl, ond pregethu yn yr awyr agored, mewn ffeiriau, a marchnadoedd, ac yn y pentrefydd. Ar y ffordd adref o Gynghor Llanllugan, y mae yn galw yn y Fedw, ac yma cawn y syniad "deulu yn Nhrefecca yn cymeryd ffurf. Ymddiddenais," meddai, "â dwy chwaer, Sarah a Hannah Bowen, y rhai ydynt yn teimlo eu hunain dan rwymau i gyflwyno eu hunain i'r Arglwydd, ac i mi. Cymhellais hwynt i ddyfod i fyw i Drefecca, gan ei fod yn debygol fod yr Arglwydd yn myned i osod i lawr sail ty yno, ac efallai mai hwy fyddai y meini cyntaf. Yr wyf fi yn awr i fod yn fwy cartrefol, er ysgrifenu, &c." Merched Mr. Bowen, o'r Tyddyn, oedd y ddwy hyn, ac aethant i Drefecca, fel y cymhellai hwynt. Miss Sarah Bowen a ddaeth gwedi hyn yn wraig i Simon Lloyd, o'r Bala.

Cynhaliwyd y Cynghor nesaf yn Nhrefecca, Chwefror II, 1752. Erbyn hyn, yr oedd amryw o'r prif gynghorwyr, a safasent o blaid Howell Harris yn ddewr ar y cyntaf, wedi ei adael. Yn mysg y cyfryw yr oedd John Sparks, John Harris, St. Kennox, a Thomas Williams, o'r Groeswen. Yr oedd yntau yn llym iawn wrth y pregethwyr oedd ar ol. Dywedai wrthynt nad oeddynt i gadw seiadau o gwbl; nad oedd neb o honynt wedi dyfod yn ddigon o dad i hyny, ond myned allan i Lregethu yn unig. Ac y mae yn sicr fod y pregethwyr a lynent wrtho yn fwy anwybodus, yn fwy anniwylledig eu moes, ac yn llawnach o ryw fath o zêl benboeth, na'r rhai oeddynt wedi cefnu. Yn uniongyrchol wedi y Cynghor, aeth am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Penfro, rhan o Sir Aberteifi, a Sir Forganwg. Cafodd gynulleidfaoedd anferth yn mhob man, yn arbenig yn ngodreu Sir Aberteifi, ac yn Sir Benfro. Yn yr awyr agored y pregethai yn mhob lle; dywed fod y cynulleidfaoedd yn rhy fawr i unrhyw dy; ond y mae lle i gasglu fod llawer o'r tai, yn mha rai yr arferid ei dderbyn fel angel Duw, wedi cael eu cau iddo yn awr. Yn Cilgeran, sylwa fod ei gynulleidfa yn cael ei gwneyd i fynu yn gyfangwbl yn mron o ddynion digrefydd, y ddynion digrefydd, y rhai na arferent fyned i wrando i un man; ond fod y proffeswyr yn absenol, ac mai felly yr oedd yn y nifer amlaf o'i gyfarfodydd. Yn Hwlffordd, pregethai ar yr ystryd, a dywed fod Howell Davies, John Sparks, a John Harris, St. Kennox, yn mysg ei wrandawyr. Pregethu yn enbyd o lym at wnelai; ac nid yw yn ymddangos iddo gael unrhyw gymdeithas a'i hen gyd lafurwyr. Rhaid fod mesur o brudd-der yn mynwes y naill blaid a'r llall. O Sir Gaerfyrddin, croesodd dros y mynyddoedd i Landdewi-brefi, a dywed i gynulleidfa o amryw filoedd ddyfod yn nghyd. Beth a'i cymhellai i fyned gymaint allan o'i ffordd er pregethu yno, y mae yn anhawdd dweyd, os nad oedd am daflu i lawr fath o her i Daniel Rowland, yr hwn a wasanaethai yn yr eglwys yno fel cuwrad. Eithr llawn rhagfarn y cafodd bobl Llanddewi-brefi; nid oedd neb fel pe am ymddyrchafu at y goleuni. Oddiyma, wedi ymweled â nifer o leoedd yn Siroedd Caerfyrddin a Maesyfed, dychwelodd i Drefecca. Dyma y daith ddiweddaf, o unrhyw bwys, am faith flynyddoedd it Howell Harris gydag achos yr efengyl yn Nghymru. Teimlai fod ei achos yn gwanhau dros y wlad. Yr oedd y safon a osodosai i fynu yn rhy uchel, ei ddysgyblaeth yn rhy lem, a'i ymddygiad yn rhy dra-awdurdodol, i'r cynghorwyr a'r seiadau allu glynu wrtho. Ac y mae yn amlwg fod plaid Rowland yn enill tir. Gyda hwy yr oedd cydymdeimlad yr enwadau eraill, yn Eglwyswyr, ac yn Ymneillduwyr. Cawn ddarfod i Whitefield, yr haf hwn drachefn, ddyfod i lawr i Gymru, a phregethu tros ddeugain o weithiau gyda phobl Rowland, a bu yn bresenol mewn un Gymdeithasfa. Er y teimlai Harris fod y llif yn myned yn ei erbyn, ni lwfrhaodd ei galon mewn un modd, ond y mae yn dechreu ar ffurf newydd o weithredu, sef casglu teulu i Drefecca, a dysgyblu pregethwyr ac eraill yno, fel y gallai y lle ddyfod yn ganolbwynt gweithrediadau crefyddol, a ymledent dros holl Gymru, a rhanau o Loegr.

Nodiadau

golygu
  1. Y Sabeliaid oeddent hereticiaid, canlynwyr un Sabelius (esgob neu henadur yn Affrica, yn y drydedd ganrif), yr hwn a ddysgodd nad oedd dim gwahaniaeth rhwng y tri Pherson yn y Drindod, ond eu bod hwy i gyd yn un; ac o herwydd hyny fe ddarfu i'r Tad a'r Yspryd Glân ddyoddef marwolaeth yn gystal a'r Mab.
  2. "Y Patripassiaid oeddent hereticiaid (tua diwedd yr ail ganrif), y rhai a ddywedent i'r Tad ddyoddef yn gystal a'r Mab. (O'r Lladin, pater a passio―tadoddefiad).
  3. "Yr Eutychiaid oeddent hereticiaid, y rhai oeddent yn maentymio bod y ddwy natur felly wedi eu cydgymysgu yn Nghrist, fel y darfu i'r Duwdod ddyoddef a marw. (Oddiwrth Eutychus, abad o Gaercystenyn, o.c. 448.) "
  4. Yr Ubicwitariaid sydd yn dywedyd bod corph ein Hiachawdwr yn mhob man yn gystal a'i Dduwdod. (O'r Lladin, ubique-yn mhob lle. Plaid yn mysg y Lutheriaid oeddent, a gododd tua'r flwyddyn 1560.)"


Nodiadau

golygu