Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-18)

Howell Harris (1743—44) (tud-17) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-19)

mewn Cymdeithasfa Saesnig, yn Wiltshire. Whitefield a lywyddai; ymddengys mai efe oedd cadeirydd sefydlog y Cymdeithasfaoedd Saesnig yn ogystal a'r rhai Cymreig. Ar y cyntaf teimlai Howell Harris ei hun yn galed ac yn gnawdol; ond pan ddechreuodd y cadeirydd weddïo dros y brenhin, a'r wlad, ac yn erbyn y Pabyddion, toddodd ei galon o'i fewn, a gollyngwyd ei yspryd yn rhydd. Eisteddwyd hyd o gwmpas pump yn trefnu rheolau cyffredinol, ac yn gosod pawb yn eu lle, offeiriaid, pregethwyr, cynghorwyr, a goruchwylwyr. Tra y gwneyd hyn, teimlai Harris awydd myned allan i'r rhyfel, i gael marw ar faes y gwaed. Dywed hefyd iddo gael ei wneyd yn offeryn i gymeryd cam yn mlaen tuag at ymwahanu oddiwrth y brawd J. W.; John Wesley, yn ddiau.

Ebrill 13, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nantmel, yn Sir Faesyfed; yr oedd Howell Harris yn bresenol, ond Williams, Pantycelyn, a lywyddai. Meddai Harris, yn ei ddydd-lyfr: "Yn wir fy ngenau a agorwyd i anerch y brodyr yn gyffredinol, gan ofyn a oeddynt yn teimlo y gwaith wedi ei osod yn ddwfn yn eu calonau; a oedd cariad at eneidiau wedi ei gynyrchu ynddynt; ac a oedd golwg ar fawredd a natur y gwaith, a gwerth eneidiau wedi peri iddynt ofyn am nerth a doethineb? Hefyd, a oedd yr Yspryd wedi dangos iddynt (1) Ogoniant Crist? (2) Drygedd y galon, nad yw y naill yn ddigon heb y llall? A ydyw Duw wedi rhoddi dwy ffydd iddynt, un er mwyn eu heneidiau, a'r llall er mwyn y gwaith? A ydyw teimlad o fawredd y gwaith yn eich gwasgu i'r llawr, a theimlad o'r anrhydedd a berthyn iddo yn eich gwneyd yn ostyngedig, ac yn eich cyffroi ? Yna y brodyr a atebasant yn hyfryd. Dangosodd y brawd Beaumont fel yr oedd Duw wedi ei waredu ef rhag hunan-gariad, trwy weled ei hun a'r gwaith yn Nuw am amser, ac i dragywyddoldeb. Yna, gwedi arholi y brodyr (gwelwn fod yr Arglwydd yn fy nghymhwyso ar gyfer y lle, ac yn fy mendithio ynddo), galluogwyd fi i'w cyffroi i ddiwydrwydd, ac i ddangos iddynt pa fodd i ymddwyn mewn teuluoedd. Ymddiddanais yn faith gyda y brawd gyda golwg ar ei briodas, a'i ragolygon mewn bywyd, gan ddangos na ddylai gweinidog ymrwystro gyda phethau'r byd ond mor lleied byth ag sydd yn bosibl. Cefais lawer o ffydd, a gwresawgrwydd, a zêl, a rhyddid i gynghori, ac yn neillduol i weddio, ac yna ymadewais yn hyfryd mewn cariad." Gwelir ddarfod i Howell Harris mor foreu a hyn weled mai dyledswydd gweinidogion y Gair oedd llwyr ymroddi i'r weinidogaeth, mor bell ag yr oedd hyny o fewn eu cyrhaedd.

A ganlyn yw penderfyniadau Cymdeithasfa Nantmel, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca:

"Penderfynwyd fod y brawd Richard i gael ei neillduo yn hollol ac yn gyfangwbl i'r gwaith o ymweled a'r cymdeithasau, yr oll o honynt bob wythnos.

"Fod y brawd Edward Bowen i oedi ei briodas yn bresenol, am nad ydym yn glir ei bod o Dduw.

"Fod y cynghorwyr i ofalu, pan yn ymweled a theuluoedd, i gynghori ac addysgu y plant, y gweision a'r morwynion, &c. Cawsom lawer o wyneb yr Arglwydd, yn ein haddysgu, ac yn tanio ein calonau, gan roddi i ni lawer o oleuni ysprydol gyda golwg ar ein gwaith a'n lleoedd, a chan ddangos i ni fawredd y gwaith, ac ymweled â ni yn nglyn ag ef."

Ymadawodd Howell Harris yn nghwmni Williams, Pantycelyn, o gwmpas pump o'r gloch; melus odiaeth oedd y gyfeillach. rhwng y ddau gyfaill wrth groesi mynyddoedd Maesyfed a Brycheiniog; Williams yn cyfeirio ei gamrau tua chartref, heibio Llanwrtyd, lle y buasai yn guwrad gynt, a Harris yn myned i Ddolyfelin, lle yr oedd ei gyhoeddiad i bregethu. Meddai y dyddlyfr: "Cefais hyfrydwch dirfawr gyda y brawd Williams; ffafriwyd fi â golwg ar Dduw, oll yn oll, yn debyg i'r hyn a gefais yn y boreu." Treuliodd y Sul yn Llanwrtyd, ac aeth i'r eglwys yn y boreu; ond nid Williams a wasanaethai yno yn awr, ond rhywun hollol wahanol parthed dirnadaeth o wirioneddau yr efengyl, a dawn i'w traethu. Meddai Harris: "Cefais dosturi dirfawr at yr offeiriaid tlodion a dall, gan lefain drostynt fel dros ddeillion ar ochr y ffordd." Wedi i'r gwasanaeth ddarfod, pregethodd yntau, oddiar Salm xxiii.; cafodd ryddid mawr wrth lefaru ac wrth weddïo. Yn yr hwyr pregethodd i dyrfa fawr, yn rhifo llawer o ganoedd, mewn lle o'r enw Penylan, tua thair milltir allan o'r pentref. Dydd Llun y mae yn Llwynyberllan; aeth yn ei flaen oddiyno i Gilycwm, a phregethodd yn ymyl y dderwen fawr sydd yn nghanol y pentref oddiar Salm xxiii., i dorf o amryw ganoedd. Yr oedd yn odfa nerthol. Cyfarfyddodd yno a chlerigwr o'r enw Llewelyn Llewelyn,



Nodiadau golygu