Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-19)

Howell Harris (1743—44) (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-20)

dyn galluog, llawn bywyd, ond yn llithro yn aml mewn modd ffiaidd. Teithiodd rhagddo i Gayo, wedi pregethu ar y ffordd cydrhwng, ac aeth y noson hono i seiat breifat. Dydd Mawrth y mae yn Nghwmygwlaw. Aeth oddiyno i gapel Abergorlech, lle y pregethai Daniel Rowland. Llefarai oddiar Jer. viii. 7, a chafodd nerth rhyfedd i egluro'r gwirionedd. Dydd Mawrth, Ebrill 17, ymgynullent mewn Cymdeithasfa Fisol, yn Glanyrafonddu; heblaw Rowland a Harris, yr oedd Williams, Pantycelyn, yno, yn nghyd a'r Parch. Benjamin Thomas, a nifer mawr o arolygwyr a chynghorwyr. Yr oedd yn chwech o'r gloch yn yr hwyr ar y cyfarfod yn dechreu; buont yn cydeistedd yn trefnu materion, ac yn cydweddïo hyd o gwmpas un-ar-ddeg. Yr oedd Harris mewn yspryd rhagorol; hawdd deall wrth ei sylwadau fod y Gymdeithasfa flaenorol yn yr un lle, pan y llywodraethwyd ei yspryd gan y gelyn, yn pwyso yn drwm ar ei feddwl. "Yr oeddwn," meddai, "mewn yspryd gweddïgar, ac yn hyfryd at y brodyr; tueddai pob peth i'm darostwng; yr oeddwn yn isel, ac yn addfwyn, ac mɔr ddedwydd. Wrth weddio gwelais fod angau, uffern, rhyfel, a phob peth dychrynllyd i natur, o fewn awdurdod Crist; canfyddwn ef goruwch iddynt oll. Wrth gynghori gwnaed fi yn rhydd ac yn hyf; dangosais eu dyledswydd at yr wyn, ddarfod i'r Iesu eu llwyr brynu, fel y byddai iddynt ddefnyddio enaid, corph, amser, anadl, talent, ac arian yn ei wasanaeth, &c., ac nid i wasanaethu hunan. Cefais ryddid i lefain Arglwydd, y mae pob peth yn eiddot ti; eiddot ti yw fy enaid, a'm corph; felly nis gellir eu colli.' Gyda y goleuni hwn drylliwyd fy yspryd, fel y gallwn oddef cael fy ngwrthwynebu, ac ymostwng i bob peth." Yn sicr, prawf y difyniadau hyn ei fod mewn tymher nodedig o hyfryd. Yn canlyn wele y penderfyniadau a basiwyd:

"Penderfynwyd fod Dafydd William Rees i fyned a chyfaddef iddo lefaru ar fai wrth ymddiddan a Mr. Griffith Jones, ger bron Mr. Davies; a phan eu cymodir, ei fod i gael ei adfer i'w swydd fel cynghorwr, ond ei fod i ymatal hyd hyny.

"Fod Thomas Dafydd, gan ddarfod i'r Ymneillduwyr ei droi allan am gymdeithasu â ni, i gael ei uno yn llwyr â ni yn Erwd, ac i gynghori ar brawf, tan arolygiaeth James Williams, ond nid yw i adael ei orchwyl yn y cyfamser.

"Fod y cynghorwyr i lefaru yn y ffurf o anerchiad, ac nid yn y ffurf o bregeth.

"Fod y brawd Thomas Griffith i gael ei dderbyn fel cynghorwr preifat, tan arolygiaeth y Meistri Rowland a Williams.

"Fod Benjamin Rees i gael cynghori, fel brawd perthynol i'r Ymneillduwyr, hyd y Gymdeithasfa nesaf.

Fod John Dafydd i gynghori yn ei gymydogaeth ei hun, ar brawf, tan arolygiaeth y brawd James Williams, hyd nes ceir adroddiad gyda golwg ar ei ddoniau, a'i gymhwysderau, mewn trefn i arholiad.

"Fod y brawd Evan John i gael ateb i'w lythyr trwy Mr. Williams, sef nad ydym yn cael ein perswadio gyda golwg ar ei alwad i gynghori, fel y gallwn roddi iddo ddeheulaw cymdeithas, ac felly ein bod yn ei gyflwyno i'r Arglwydd."

Gwelwn fod y dull o brofi pregethwyr y dyddiau hyny yn gyffelyb iawn i'r dull presenol, gyda'r eithriad fod y rhai nad oedd gweledigaeth eglur gyda golwg ar eu cymhwysderau, nid yn cael eu hatal, ond yn cael eu cyflwyno i'r Arglwydd. Pa beth yw ystyr hyny, nid ydym yn hollol sicr. Efallai mai eu gadael tan fath o brawf hyd nes y ceid goleuni ar y mater oddiwrth Ben yr Eglwys.

Yn mhen dau ddiwrnod drachefn, sef Ebrill 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llandremore. Dylid cofio fod y Cyfarfodydd Misol hyn, sydd yn cael eu cynal ar sodlau eu gilydd, yn perthyn i wahanol randiroedd, ond y dysgwylid i Howell Harris, hyd ag y byddai hyny yn bosibl iddo, i bresenoli eu hunan ynddynt oll. Yma Howell Davies a lywyddai. Yr oedd y ddau Howell y pryd hwn ar bwynt priodi, a bu iddynt ymgynghoriad a chyfeillach felus yn nglyn a'r mater. Cymdeithasfa fechan ydoedd; ychydig a ddaethai yn nghyd, a chymharol ddibwys oedd y gweithrediadau. Ond ymddengys iddynt gael profion amlwg o foddlonrwydd Duw. I gychwyn, pregethodd Harris oddiar Matt. xxviii. 18, a chafodd nerth neillduol i lefaru wrth saint a phechaduriaid. Wrth agor y seiat breifat trwy weddi, daeth yr Arglwydd i lawr, gan eu gwneyd oll yn ostyngedig, a'u goleuo, a'u tanio. Wedi sefydlu y brawd William Cristopher yn gateceisiwr, siaradodd Harris yn bur blaen a rhyw frawd, gyda golwg ar iddo ymuno â'r Ymneillduwyr, neu a'r Methodistiaid. "Yna," meddai, "wedi trefnu pob un yn ei le, ymadawsom fel mewn fflam." Dau benderfyniad o'r Gymdeithasfa hon sydd



Nodiadau golygu