Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-20)

Howell Harris (1743—44) (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-21)

ar y cofnodau; sef "Fod William Cristopher i fod yn gateceisiwr, i gateceisio yn unig, a'n bod i geisio sefydlu cateceisio yn mhob lle; a chan fod galwad daer ar y brawd Richard William Dafydd i Gorseinon, a bod dirfawr angen yno, ac yn Pembre, ein bod yn cydsynio iddo ef, a'i frawd, i fyned i ymweled a hwy hyd y Gymdeithasfa nesaf yn Abergorlech."

Wedi tramwy trwy ranau helaeth o Siroedd Caerfyrddin a Morganwg yr ydym yn cael Howell Harris mewn Cymdeithasfa Fisol yn Watford, a chan nad oedd yno yr un offeiriad urddedig, efe a lywyddai. Pregethodd yn y tŷ newydd, sef naill ai capel y Watford neu y Groeswen, y noson cynt, gydag arddeliad anghyffredin. Dangosodd, gyda nerth na chafodd ei gyffelyb erioed o'r blaen, y fath frenin yw Crist; pa mor ardderchog yw ei deyrnas; fod nefoedd, daear, ac uffern yn perthyn iddi; y modd y mae yn llywodraethu dros bob pethgras a phechod, goleuni a thywyllwch, bywyd ac angau, y byd ysprydol a'r byd naturiol. Yna eglurodd ddyogelwch deiliaid y deyrnas, fod gair Duw; llw Duw; ffyddlondeb, gallu, doethineb, trugaredd, a natur Duw, fel cadwynau cryfion yn eu cadw rhag syrthio; ac nad oedd dynion drwg, a phechod, a Satan, ond gweision Duw, wedi eu bwriadu i ddwyn y saint yn mlaen, trwy gyfarth fel cŵn wrth eu sodlau. "Yna," meddai, "mi a gadarnheais y rhai a ofnent gael eu pressio i fyned allan i'r rhyfel, gan ddangos y gwna pelen magnel y tro cystal a rhywbeth arall i'w hanfon adref. Bloeddiais! pe y gwelech mor gyfoethog ydych, mor ddyogel, ac mor ddedwydd; y fath Frenin sydd arnoch, byddai arnoch gywilydd o honoch eich hunain am eich ofnau a'ch diffrwythder; llefwch am i chwi, a'ch holl dalentau gael eu defnyddio ganddo, gan deimlo y fath anrhydedd ydyw; ewch lle y mynoch, ac i fysg unrhyw greaduriaid y mynoch, eich bod o hyd o fewn tiriogaethau Crist. O Frenin gogoneddus! Ychwaneged eich ffydd i weled gogoniant ei deyrnas!" Ymddengys ei bod yn odfa nerthol, tu hwnt; dywed efe na chafodd ei chyffelyb erioed o'r blaen, ac na chadd syniadau mor ardderchog erioed. Efallai hyny; ond y cof diweddaf yw y cof goreu. Cynyddodd yr hwyl wrth ganu a gweddio ar y diwedd. "Canfyddais ogoniant teyrnas yr Iesu," meddai, "yn y fath oleuni prydferth, fel y fflamiwyd ac y cadarnhawyd fy enaid, ac y parwyd i mi ymuno a'r côr fry i ganu, "Teilwng yw'r Oen a laddwyd! Teilwng yw yn wir!'"

O gwmpas deuddeg, dydd Mercher, agorwyd y Gymdeithasfa. Wrth weddïo ar y dechreu disgynodd ar yspryd Harris i ofyn a oedd yr Arglwydd yn myned i roddi y Methodistiaid i fynu? Cafodd ei berswadio i'r gwrthwyneb, a theimlai fod y cyfryw argyhoeddiad yn dyfod oddiwrth Dduw ei hun. Buont yn eistedd, gydag ychydig seibianf, hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Cawsant drafferth fawr gydag un cynghorwr, o'r enw William Rees, yn ceisio ei argyhoeddi o'i gyfeiliornadau. Maentymiai ef ei fod yn berffaith; ni addawai ychwaith fod yn ddystaw gyda golwg ar ei berffeithrwydd tybiedig yn y cymdeithasau; "felly," meddai Harris, "er mwyn gogoniant Duw, daioni yr ŵyn, a lles ei enaid ef ei hun, ni a'i troisom ef allan o'r seiat, gan yr ymddangosai wedi ymchwyddo yn fawr. Wrth ymgynghori â Duw gyda golwg ar hyn, cefais hyder gan mai yr Arglwydd oedd wedi fy anfon, y byddai iddo ofalu fy nghynysgaeddu â phob gwybodaeth a goleuni angenrheidiol." Eisteddasant i lawr hyd o gwmpas pedwar yn y boreu, yn rhydd ymddiddan am amryw bethau; am gymundeb Eglwys Loegr, ac yspryd erledigaethus ei hoffeiriaid, am briodas agoshaol Howell Harris, a phethau eraill. Barnai y brodyr hefyd, mai John Belsher oedd y cymhwysaf, mewn gwybodaeth o'r Ysgrythyr, doniau, a gras, i fod yn gynorthwywr i Mr. Harris yn ei waith mawr.

Y mae y penderfyniadau a basiwyd, fel eu ceir yn nghofnodau Trefecca, y modd a ganlyn:

"Cydunwyd fod i'r brawd Price ofalu am seiadau Sir Fynwy, ar y morfa, fel cynt, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Thomas Williams, mor bell ag y gall.

"Wedi cryn ymgynghoriad cydunwyd i drefnu y cynghorwyr anghyhoedd, na byddo iddynt gynghori yn gyhoedd, ond yn y seiadau preifat yn unig; gyda yr eithriad o William Edward, am yr hwn yr oedd galwad daer i Lantrisant a'r Groeswen. Joseph Simons i fod fel o'r blaen; Evan Thomas i fyned i Machen a Mynyddislwyn fel o'r blaen ar brawf; a'n bod yn chwilio am bersonau priodol i gateceisio y rhai oddifewn ac oddiallan, er mwyn sefydlu yr ŵyn a'r gwrandawyr mewn gwybodaeth iachus o egwyddorion crefydd, trwy gatecism Mr. Griffith Jones.

"Er mwyn gwell trefn yn nglyn â'r



Nodiadau golygu