Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-21)

Howell Harris (1743—44) (tud-20) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-22)

cateceisio, pan ei sefydlir, fod yr arolygwyr i fod yn bresenol, i gynorthwyo yn y gwaith.

"Fod Edward Lloyd yn cael ei gynyg i fod yn gateceisiwr yn y Groeswen, Samuel Jeremiah yn Llanedern, William Thomas yn Aberthyn a Llanharry, Edward Edwards in Dinas Powys a St. Nicholas, Cristopher Basset yn Aberddawen, Howell Griffith neu Morgan Howell yn Llantrisant, William Hughes yn Nottage, a Jenkin Lewis yn yr Hafod.

"Cydunwyd, gan fod cylchoedd yr arolygwyr yn rhy fawr, y gallant ymweled a'r seiadau unwaith y pythefnos yn unig; a chan fod y brawd Herbert Jenkins, a gawsai ei osod i gynorthwyo y brawd Harris fel arolygydd cyffredinol, yn treulio haner ei amser yn Lloegr, y rhaid dewis un i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, i fyned o gwmpas fel cynorthwywr i'r brawd Harris, ac i helpio yr arolygwyr. Wedi ymgynghori gyda golwg ar ei gymhwysderau mewnol ac allanol, ein bod yn cynyg y brawd John Belsher fel y mwyaf cymhwys i lanw y lle hwn, yn y rhanau of Siroedd Mynwy, Morganwg, a Chaerfyrddin, ar làn y môr, a orweddant yn nghylchoedd y brodyr John Richard, Thomas William, Thomas Price, a rhan o gylch Morgan John; a bod yr arolygydd i gyfarfod ei gynorthwywyr, er mwyn sefydlu yr wyn, unwaith y pythefnos, ar nos Wener.

"Cydunwyd nad ydym yn cael ein perswadio am alwad y brawd William Rees i gynghori, a'n bod yn anfon ato i ddymuno arno roddi i fynu, hyd nes y caffom ragor o foddlonrwydd ynddo; ond fod y brawd William Powell i barhau i fyned yn mlaen, gan ddysgwyl i ba le y bydd yr Arglwydd yn ei alw ac yn ei sefydlu.

"Gan fod y brawd Richard Jones i'w feio, ar amryw gyfrifon, am ymlynu yn ormodol wrth y byd, a bod yn anffyddlawn i'r ymddiriedaeth a roddasid iddo, heb ymdeimlo a'i ddyledswydd tuag atom ni, ei frodyr, a'i fod wedi parhau yn y rhai hyn, yn nghyd a beiau eraill, ar ol aml gynghor a cherydd; ein bod yn cyduno i'w hysbysu oni wna edifarhau am ei golliadau, ac addaw diwygio, ein bod yn dymuno arno am beidio llefaru mwyach fel un o honom ni, a'n bod yn anfon at y seiadau i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn. Ond os ymddengys yn edifeiriol, ein bod yn caniatau iddo fyned yn mlaen ar brawf hyd y Gymdeithasfa Gyffredinol nesaf.

"Cydunwyd y byddai i ni, trwy nerth. Duw, ddechreu llefaru, &c., yn fanwl o fewn i awr neu lai o'r amser a benodwyd.

"Fod y brawd Richard Thomas i ddyfod i'n Cymdeithasfa yn Llanfihangel i gael ei sefydlu.

"Traethasom ar amrywiol bynciau duwinyddol, a chydunwyd nad ydym yn Eglwys na Sect, ac nad ydym i alw ein hunain felly, ond seiadau oddifewn i'r Eglwys Sefydledig, hyd nes y'n troir allan; ac nad yw y llefarwyr i alw eu hunain yn weinidogion, ond cynghorwyr.

"Yr ydym yn gweled hefyd nad yw yr hyn sydd er gogoniant i Dduw, ac yn llesiol, mewn un man, yn ateb y pwrpas mewn man arall.

"Gan nad yw dawn y cynghorwyr anghyoedd ond byr, ei fod yn cael ei adael i ddoethineb yr arolygwyr i'w cyfnewid, fel y gwelant yn oreu yn eu cyfarfodydd pythefnosol, ac nad yw y cynghorwyr i drefnu eu lleoedd eu hunain heb ganiatad.

"Gwedi ymddiddan yn hir a William. Rees parthed rhai cyfeiliornadau Antinomaidd, yr oedd wedi syrthio iddynt, a chwedi cynyg iddo aros yn ein mysg, er hyny, os addewai beidio ein terfysgu, at therfysgu yr ŵyn, trwy ei gyfeiliornadau, a phan nad addewai (er ei fod yn addef y crwydrai yn aml ar weddi), ond y taerai nad oedd wedi pechu er ys dyddiau, ac nad oedd unrhyw bechod yn ei ddeall, ei ewyllys, na'i gydwybod, ni a benderfynasom ei droi allan o'r seiadau, ac o'r Gymdeithasfa, gan rybuddio yr holl seiadau rhag ei heresi, ac i beidio cael unrhyw gymundeb agos âg ef. Felly, darfu i ni yn ddifrifol, ar ol dwys ystyriaeth a gweddi, ei droi allan, ac yr oedd ein calonau yn doddedig o gariad ato, gofal am ogoniant Duw, a chydag ofn sanctaidd, a gofal am yr wyn."

Felly y terfyna cofnodau y Gymdeithasfa Fisol hon yn Watford, ac yr oedd yn un o'r rhai pwysicaf a gynhaliwyd. Cawn un, am y tro cyntaf yn hanes y Methodistiaid, yn cael ei esgymuno am gyfeiliornad mewn athrawiaeth, ac yr oedd calonau y brodyr yn mron myned yn ddrylliau wrth orfod ei ddisgyblu. Antinomiaeth oedd yr heresi a flinai y Methodistiaid cyntaf; efallai mai un rheswm am hyn oedd tuedd i fyned i'r eithafion cyferbyniol i'r Ymneillduwyr, y rhai a anrheithid gan Arminiaeth. Y mae yn sicr nad yr un William Rees a drowyd allan, a'r brawd o'r un enw a ataliwyd.



Nodiadau golygu