Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-30)

Howell Harris (1743—44) (tud-29) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-31)

Gair yn cael ei rwystro, a'u bywydau hwythau yn cael eu gosod mewn perygl, fod iddynt ddefnyddio y gyfraith mewn ffydd, a bod y brawd Beaumont i fyned i'w cynorthwyo gwedi i'w wraig gael ei dwyn i'w gwelyfod.'

Yn ychwanegol, gwelwn oddiwrth ddydd-lyfr Harris ddarfod i'r cyfarfod benderfynu fod Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, i fyned ar daith i Ogledd Cymru; neu i Williams hysbysu fod hyn yn eu bwriad. Meddai: "Teimlais fod holl alluoedd uffern wedi ymgynghreirio yn ein herbyn. Yna cefais gariad mawr at, a chydymdeimlad dwfn â y brodyr Rowland a Williams yn eu gwaith, gan eu bod yn myned yn fuan i Ogledd Cymru, i ganol peryglon; yn ganlynol cefais gydymdeimlad â'r holl Fethodistiaid a'r offeiriaid yn Nghymru, yna yn Lloegr, ac yna dros y byd, am fy mod yn gweled eu bod wedi ymuno mewn un yspryd yn erbyn uffern. O y gwahaniaeth rhwng deall a'r yspryd a dim ond dirnadaeth o wirionedd yn y llythyren!"

Yn mhen deng niwrnod, sef Awst 12, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llangeitho. Teithiodd Howell Harris tuag yno trwy Lanidloes a Llanbrynmair, gan bregethu mewn amryw fanau yn Sir Drefaldwyn. Cafodd Richard Tibbot yn gydymaith am beth amser, ac wrth ymddiddan a'r cynghorwr duwiolfrydig hwnw, gwelai mor fychan oedd ei ddirnadaeth ei hun o ogoniant a a dirgelwch pethau dwyfol. Daeth i Langeitho yn hwyr nos Sadwrn. Ar y ffordd, teimlai y fath gariad brawdol at Daniel Rowland fel nas gallai ymatal rhag llefain: "O Arglwydd, anfon genadwri o gariad a nerth drwof fi, greadur gwan, iddo ef, fy mrawd hynaf; ac O, gwared fi oddiwrth fy hen natur, er mwyn dy enw." Boreu y Sul, aeth i'r eglwys erbyn naw. Williams, Pantycelyn, oedd yn pregethu; a'i destun oedd Zechariah xiii. 9: "A dygaf y drydydd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur.” Difyna Harris yn helaeth o'r sylwadau, ac yr ydym yn cofnodi rhai o honynt fel esiampl o arddull gweinidogaeth Williams.

Dangosodd," meddai, "pa fath yw y tân yn mha un y mae yn puro ei bobl. Yn gyntaf, ei fod yn anfon yspryd caethiwed arnynt; nid caethiwed deddfol, yn codi o ofn slafaidd; ond cuddiad ei wyneb. Ei fod yn gadael ffydd iddynt, ond eto yn cuddio ei wyneb, yr hyn sydd yn waeth nag uffern i'r cyfryw ag sydd yn ei garu. Yn ail, ei fod yn puro trwy dân croesau rhagluniaethol, gan nodi Dafydd a Job fel esiamplau. Yn drydydd, trwy ollwng pechod a llygredigaeth yn rhydd ynom, yr hyn yw y tan dirgelaidd, a'r baich trymaf o bob peth i'r Cristion. Yr oedd ei sylwadau yma yn agos. Dangosodd, yn mhellach, effeithiau y tân, ei fod yn rhoddi goleuni, a'i fod yn llosgi pob pechod." Felly y pregethai Williams yn eglwys blwyfol Llangeitho. Meddai Harris: "Yr oedd yn bregeth hyfryd. O'r fath fendith yw gweinidogaeth y Gair!" Ond teimlai hefyd nad oedd yn ddigon clir ar rai pwyntiau. "Er mor rhagorol oedd yr ymadroddion," meddai; "traddodwyd rhai pethau yn y cyfryw fodd, pethau yn y cyfryw fodd, fel pe buaswn yn y cnawd, ac heb gael fy rhyddhau gan Un arall, y cawswn fy nwyn i gaethiwed, o eisiau gwahaniaethu yn fwy clir." Daethant allan o'r eglwys ychydig cyn deuddeg. Yn y prydnawn aethant i Eglwys Llancwnlle; pwy a weinyddai yno ni ddywedir. Yn yr hwyr pregethodd Howell Harris i gynulleidfa fawr oddiar y geiriau: "Fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn;" ac ymddengys fod yr odfa yn un dra grymus.

Yn ol y dydd-lyfr, nos Sabbath, wedi gwaith cyhoeddus y dydd, y cynhaliwyd y Gymdeithasfa Fisol. Meddai: "Daethom adref yn ddedwydd, ac yr oedd undeb hyfryd rhyngom. Eisteddasom i fynu hyd ddeuddeg mewn Cymdeithasfa, ymddiddanasom am lawer o bethau, ac yr oeddym yn hapus yn nghyd." Ychydig o arolygwyr a chynghorwyr oedd yn bresenol, a'r drafodaeth dilynol, yn ol y cofnodau, oedd yr unig fater y bu ymdriniaeth arno: “Wedi ymchwiliad manwl i helynt y brawd Morgan Hughes, ac heb fedru cyduno yn ein goleuni, ni a'i rhoddasom i bleidlais, a fyddai iddo gael llefaru yn breifat neu na fyddai, ac yr oeddem yn gyfartal ranedig. Árosasom am beth amser, a pharhäi pob un yn ei olygiad, un haner am iddo lefaru, a'r haner arall yn erbyn. Felly gadawyd y peth heb ei benderfynu, a'r seiadau i gael eu harolygu gan David Williams a Thomas Griffiths." Prawf sylwadau dydd-lyfr Harris, er fod y brodyr yn y Gymdeithasfa yn rhanedig, na fu dim drwgdeimlad rhyngddynt, ond y cydunent. gyda phob heddwch i wahaniaethu. Ymddengys hefyd i bethau eraill fod yn destunau ymddiddan. Meddai Harris: "Yr wyf yn hyderu fod yr Arglwydd yn myned. i gyflwyno i mi y fraint fawr o ddarllen ac



Nodiadau golygu