Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-31)

Howell Harris (1743—44) (tud-30) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-32)

ysgrifenu. Hyn nis gallaf ei wneyd hyd nes y caf ryddid." Ai ysgrifenu llyfrau at wasanaeth y dychweledigion a olyga, nis gwyddom. Eto; Yn awr, gan fod y brodyr Rowland a Williams yn myned i'r Gogledd, gwnaed i mi ddwyn cyfran fechan o'u beichiau, ac i ddadleu ar eu rhan, ar i'r Arglwydd gadw eu calonau mewn buddugoliaeth a rhyddid; gan fy ngweled fy hun yn rhy egwan i'r fath dreialon dirfawr, ac eto yn foddlawn myned, pe y cawn fy anfon. Llefwn: 'O Arglwydd, na âd i'th elynion fuddugoliaethu.'" Cafwyd pregeth yn Eglwys Llangeitho boreu. dydd Llun drachefn, a hyny gan Rowland, yn ol pob tebyg. Yn y prydnhawn, aeth Harris i Llanbedr Pontstephan, lle y pregethodd oddiar gareg yn yr heol i gynulleidfa fawr, oddiar y geiriau yn Job: "Mi a glywais a'm clustiau son am danat.” Dychwelodd drwy Gilycwm a Dolyfelin, gan gyrhaedd Trefecca prydnhawn dydd Gwener.

Yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yn Nhrefecca yn mhen llai nag wythnos, sef Awst 18. Cymdeithasfa fechan ydoedd; heb yr un offeiriad yn bresenol, a Howell Harris yn llywyddu. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Wedi darllen yr hyn y cytunasem arno yn flaenorol, ac ymgynghori yn nghyd, cydunwyd fod y brawd Thomas Jones i ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, ac i fod yn gynorthwywr i'r brodyr Thomas Jones, Richard Tibbot, James Beaumont, a Morgan John, a'i fod i ymweled a Siroedd Brycheiniog, Trefaldwyn, y rhan Gymreig o Faesyfed, yn nghyd a seiat Longtown, dan arolygiaeth y brawd Howell Harris.

"Yn gymaint a bod y brawd Evans mewn cyfyngder am ryw arian, eu bod i gael eu benthyca yn uniongyrchol, a bod y mater yn cael ei gyflwyno i'r cymdeithasau, er mwyn ysgafnhau ei faich.

"Fod y brawd Joseph Saunders, mor fuan ag y byddo ei amgylchiadau wedi dod i drefn, i roddi prydnhawn dydd Sadwrn, yn nghyd â'r Sabbath, i ymweled ar yn ail a'r seiadau cymydogaethol.

"Fod y brodyr i wneyd yr oll a allant i gael dau le i bregethu ynddynt bob Sul, a'u bod i drefnu eu cyfarfodydd yn y cyfryw fodd na byddont yn rhwystr ar ffordd neb i fyned i leoedd eraill o addoliad.

"Fod y brawd Thomas Bowen i aros yn Llanfair-muallt am haner blwyddyn heb symud, i aros clywed llais Duw yn fwy clir."

Ychydig sydd yn galw am sylw yn y cofnodau hyn. Dengys y penderfyniad am drefnu y cyfarfodydd fel na rwystrent neb i fyned i leoedd eraill o addoliad, mor benderfynol oedd y Methodistiaid i beidio ymffurfio yn blaid ar wahan. Prawf y trefniant gyda golwg ar gynorthwyo y brawd Evans, sef William Evans, y cynghorwr tanllyd ei yspryd o Nantmel, yn ddiau, mor llawn oedd eu mynwesau o gydymdeimlad, ac fel yr oedd baich un yn dod yn faich pawb.

Yr ydym wedi dangos yn flaenorol ddarfod i erledigaeth ar ran y werinos ddarfod agos yn hollol cyn hyn, yn y rhan fwyaf o'r Deheudir, ac yn neillduol yn Mrycheiniog; yr oedd y teimlad cyffredin wedi troi o du y Methodistiaid. Ond yr oedd yspryd erlid yn cyffroi y boneddigion yn fwy nag erioed. Yn y Sessiwn a gynhaliwyd yn Aberhonddu, Awst 28, 1744, cyflwynwyd y penderfyniad canlynol gan Uchel Reithwyr Brycheiniog i'r Barnwr a eisteddai ar y fainc: "Yn gymaint a'n bod ni, Uchel Reithwyr Sir Frycheiniog, wedi derbyn fel siars oddiwrth Anrhydeddus Farnwr y gylchdaith hon, yn mysg amryw bethau eraill dysgedig a chanmoladwy, y dylem alw sylw at bob. rhwystr ar ffordd ein crefydd sanctaidd, y darn mwyaf gwerthfawr o'n cyfansoddiad gwladol; ac yn gymaint a'i fod yn rhy wybyddus fod amryw (fel yr ydym yn cael ein hysbysu) o gyfarfodydd anghyfreithlon yn cael eu cynal ar y maes, a lleoedd eraill, gan bersonau sydd yn galw eu hunain yn Fethodistiaid, y rhai y mae eu pregethwyr yn honi eu bod yn esbonio yr Ysgrythyrau Sanctaidd tan ddylanwad ysprydoliaeth, trwy yr hyn y maent yn casglu yn nghyd dyrfaoedd. mawrion o bersonau afreolus, er mawr berygl i heddwch teyrnas ein harglwydd Frenhin, a'r hyn, oddigerth iddo gael ei osod i lawr yn fuan, a all beryglu heddwch yr holl ymherodraeth yn gyffredinol; ac yn gymaint a bod y pregethwyr, neu y dysgawdwyr ffugiol hyn, yn eu cyfarfodydd afreolaidd, trwy ei hathrawiaethau penboeth, yn dyrysu meddyliau llawer o ddeiliaid ei Fawrhydi, yr hyn, mewn amser, a eill brofi yn dra pheryglus, hyd yn nod er dinystr ein crefydd sefydledig, ac yn ganlynol dymchwel ein llywodraeth dda, yn eglwysig ac yn wladol; yr ydym, er mwyn bod mor fanwl ag y gallwn wrth ddynoethi y cynllun mileinig hwn, yn cyflwyno i sylw y tai canlynol, sef: Ponty



Nodiadau golygu