Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-32)

Howell Harris (1743—44) (tud-31) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-33)

wal, plwyf Bronllys, tŷ John Watkins, a thŷ Howell Harris yn Nhrefecca, plwyf Talgarth, y ddau yn y sir hon, fel lleoedd sydd yn cynal ac yn cefnogi y cyfryw gynulliadau afreolaidd; ac yr ydym yn dymuno ar ein Anrhydeddus Farnwr, os nad yw awdurdod y llys yn ddigonol i ddarostwng yr afreoleidd-derau hyn, ar iddo appelio, er cyrhaedd hyny, at ryw awdurdod oruwch, fel y byddo i'n crefydd, heddwch y genedl yn gyffredinol, ac eiddo y sir hon yn neillduol, gael ei dyogelu ar sail ein Sefydliad henafol a chanmoladwy."

Byddai yn anhawdd dychymygu am gofeb mwy gyflawn o anwiredd, a thebycach o gyffroi yr awdurdodau gwladol yn erbyn y Methodistiaid. Nid oedd cofion y rhyfel cartrefol wedi myned ar ddifancoll eto, ac yr oedd y rhyfel rhwng y deyrnas a Ffrainc yn peri fod y llywodraeth yn gwylio gyda llygad eiddigus bob cynulliad, y tybid fod teimlad anniddig yn cael ei feithrin ynddo. Felly, yr oedd Uchel Reithwyr Brycheiniog yn llunio pluen i gyfateb i liw'r dwfr. Anhawdd meddwl na wyddent fod y Methodistiaid yn deyrngarol i'r carn; yr amcanent, hyd ag oedd ynddynt, i gadw yr heddwch cyffredin; na fyddent yn cyna! unrhyw gyfarfod heb weddïo dros y brenhin, a thros bawb oedd mewn awdurdod; ond yr oedd gelyniaeth y boneddigion atynt yn gyfryw, yr hyn yn ddiau a gyffroid gan falais yr offeiriaid erlidgar ac eiddigus, fel nad gormod ganddynt gyflwyno i'r barnwr gwladol, yn mhrif Sessiwn y sir, ddarluniad, y gwyddent ei fod yn gelwyddog, o bobl a geisient addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Pa beth a ddywedodd y barnwr ar yr achlysur, sydd anhysbys; ond sicr yw na ddaeth dim o'r peth.

Yr ydym yn cael Cymdeithasfa yn Abergorlech, Medi 4. Tebygol, oblegyd bychandra rhif y rhai a ddaethant yn nghyd, mai Cymdeithasfa Fisol ydoedd, er na ddywedir hyny yn y cofnodau. Y cymedrolwr oedd Daniel Rowland; ac yr oedd Williams, Pantycelyn, a Howell Harris, yn nghyd â nifer o'r arolygwyr yn bresenol. Pregethai Rowland yn nghapel Abergorlech ar Heb. ii. 11: "Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll." Dangosai y modd y daethai Crist i sancteiddio ei bobl; mor fawr yw gwaith sancteiddhad; fel yr oedd Crist wedi ymddiosg o'i ogoniant er ei ddwyn yn mlaen; a'r modd yr ydym yn cael ein gwneyd yn gyffelyb i Dduw, er nad yn anfeidrol mewn graddau fel efe. "Cafodd lewyrch anghyffredin," meddai Harris; "ac yn awr, pan yr ydym yn cael ein troi allan o'r capelau, gwnaed i fy enaid lawenychu o'i herwydd, gan fy mod yn gweled yr Arglwydd uwchlaw iddynt oll." Cyfeiria yr ymadrodd "troi allan o'r capelau" at helynt capel Eglwysig Abergorlech, yr hon a ddaw dan ein sylw yn y cofnodau. Yr oll a ddywed Harris am y Gymdeithasfa yn ei ddydd-lyfr yw iddynt gael cyfarfod melus yn nghyd. Y mae ei chofnodau fel y canlyn:

"Cydunwyd fod deiseb at yr Esgob yn cael ei thynu i fynu, gyda golwg ar gapel Abergorlech, yn datgan, gyda phob gostyngeiddrwydd, ein bwriad i barhau Mr. Williams fel bugail; ac, os bydd raid, i ddyoddef o'r herwydd.

Fod y brawd John Morgan i fod yn ddystaw, a pheidio llefaru, hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Fod rhyw gyfran o amser, yn yr wythnos ddyfodol, yn cael ei neillduo gan bob un o honom, er ymostyngiad ac ymbil.

"Fod tỷ i gael ei adeiladu yn Llansawel at ddybenion crefyddol, megys pregethu, a chadw ysgol."

Capel Eglwysig oedd Abergorlech; tebygol na chynelid gwasanaeth crefyddol ynddo yr adeg hon gan yr Eglwys, ac felly i'r Methodistiaid gymeryd meddiant o hono er pregethu, ac efallai gyfranu yr ordinhad, gan fod y lle wedi ei gysegru. Diau mai Williams, Pantycelyn, oedd "y bugail" a ofalai am y lle. Ymddengys fod yr Esgob am eu rhwystro, ac am gau y capel, dyna y rheswm am y ddeiseb, a'r penderfyniad i barhau i bregethu ynddo, hyd yn nod pe eu cospid am hyny. "Yna," ysgrifenai Harris, "daethom i Glanyrafonddu. Pan y clywais am lwyddiant anarferol y brawd Rowland, yn Ngogledd Cymru, llanwyd fy enaid a diolchgarwch." Aeth yn ei flaen, efe a'i wraig, i Langathen; clywodd ryw glerigwr ieuanc yn eglwys y plwyf yn pregethu ystwff rhyfedd yn lle efengyl; a rhwng gwendid corph a chlywed y fath ffwlbri, teimlai y fath wasgfa nas gall iaith ei ddesgrifio. Wedi i'r gwasanaeth orphen pregethodd yntau y tu allan; y testun oedd, y mab afradlon, ac yr oedd y clerigwr yn mysg y gwrandawyr. Cafodd nerth anghyffredin; eithr pan aeth i ddangos fel yr oedd plentyn Duw yn hiraethu am gartref, ac nad oedd yn ofni dydd y farn, marchogodd y clerigwr ieuanc i ffwrdd. Dydd Sadwrn



Nodiadau golygu