Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-1)

Howell Harris (1743—44) (tud-38) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-2)

PENOD XII.

HOWELL HARRIS

(1745)

Pregeth Williams, Pantycelyn, yn Nghymdeithasfa Watford—Ymdrin a phynciau athrawiaethol dyfnion—Harris, yn Erwd, yn galw gwaed Crist yn "waed Duw"—Cymdeithasfa Abergorlech—Howell Harris mewn dyfroedd dyfnion yn Sir Benfro—Daniel Rowland yn rhybuddio Harris i fod yn fwy gofalus parthed yr athrawiaethau a bregethai—Sefyllfa gyffrous Methodistiaid Lloegr—Cymdeithasfa Bryste—Cymdeithasfa Cayo—Llythyr cynghorwyr y Groeswen—Price Davies yn caniatau y sacrament i'r Methodistiaid yn Nhalgarth —Datganiad Howell Harris yn Nghymdeithasfa Watford—Howell Harris yn Llundain eto—Pressio i'r fyddyn H. Harris ar daith yn Sir Forganwg—H. Harris yn arolygwr y Methodistiaid Saesneg—Dadl a Griffith Jones, Llanddowror—Ymweled a Llundain eto.

CYCHWYNODD y Methodistiaid ar y flwyddyn 1745 trwy gynal Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford, ar yr ail ddydd o Ionawr, at ba un, yn syn iawn, nid oes unrhyw gyfeiriad yn nghofnodau Trefecca. Cyrhaeddodd Howell Harris y lle y noson cynt. Cymysglyd oedd ei brofiad. Ar y cychwyn llenwid ei feddwl a llawenydd ac a rhyddid wrth weled yn Nghrist ei holl hawl a'i deitl i fywyd tragywyddol. Eithr yn Watford clywodd, fel yr ymddengys, am ryw gyfeiliornadau oedd ar led, a dadleuon, a chyffrodd hyny ei yspryd yn ddirfawr. "Gwelais," meddai, "ddarfod i'r gelyn gael ei ollwng yn rhydd yn ein mysg, ac megys y trigai yn ein llygredigaethau yn flaenorol, ei fod yn awr ynom yn yspryd cyfeiliornad a thwyll. Yna, wrth edrych ar ein dadleuon, cefais ryddid i lefain: O Arglwydd, os wyt yn bwriadu ein huno oll yn un, a'n dwyn yma oll, a pheidio caniatau i ni gael ein gwasgar na'n rhanu yma, yna dyro i mi gael y fath olwg arnynt (y brodyr cynulledig), ac ar y gwaith, ag a bâr i mi fuddugoliaethu mewn llawenydd, ac hefyd i alaru.' Wedi dysgwyl am beth amser, cefais y fath olwg ar fawredd a mawrhydi Duw, y cartref gogoneddus sydd fry, ei waith, pa mor ogoneddus yw yr eglwys, yn nghyd â'r gwaith sydd genym mewn llaw, fel y cefais yspryd i alaru trosof fy hun a'r lleill."

Y mae yn amlwg ei fod yn gythryblus ei feddwl rhag i'r Gymdeithasfa fod yn faes rhyfel, ac iddi derfynu mewn ymraniad. Yna aeth i wrando Williams, Pantycelyn, yn pregethu, yr hyn a wnaeth gyda nerth mawr, oddiar Can. iii. 8. "Agorodd yr holl lyfr hyd y fan hon," meddai Harris, yna dangosodd natur y nos y cyfeirir ati yma, fel (1) nos yspryd deddfol; (2) nos erledigaeth; ac yn (3) nos profedigaethau a thrallodion. Olrheiniai hyn yn hanes yr eglwys yn yr Aipht, yn Nghanaan, yn Jerusalem, ac hyd yn awr, gan gyfeirio yn neillduol at Job, a Joseph, &c. Dangosodd er mor lliosog oedd gelynion yr eglwys, fod Duw yn ei hamddiffyn. Yr oedd yn anghyffredin o bwerus wrth ddangos fod erledigaeth, efallai, wrth y drws. Yr oedd yn cyrhaedd i'r byw wrth gyffroi pawb i fod yn ddiwyd, yn awr tra y mae ein rhyddid genym."

Y mae yn amlwg i Williams gael odfa anghyffredin. Yna eisteddodd y Gymdeithasfa hyd o gwmpas wyth yn yr hwyr, ac yn groes i ofnau llawer, ffynai undeb a chydgordiad hyfryd yn y cyfarfod. Eithr trowyd un brawd o gynghorwr o'i swydd oblegyd ei esgeulusdra. "Yna," meddai Harris, "ymdriniasom â rhai dadleuon a gymerasai le yn mysg y brodyr. Gwelais werth yr Ysgrythyrau, a'r drugaredd fawr eu bod genym, a bod yn rhaid i ni gredu y gwirioneddau a gynwysant heb ymresymu



Nodiadau golygu