Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-2)

Howell Harris (1745) (tud-1) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-3)

yn eu cylch. Dywedais fod chwech of ddirgeledigaethau i'w credu, nas gellir eu hamgyffred. Yn (1) y Drindod; (2) yr ymgnawdoliad; (3) cyfrifiad o bechodau Adda i ni, a'n cyfranogiad o honynt wrth natur; (4) cyfrifiad o Grist trwy ras i ni, a'n cyfranogiad o hono; (5) fod Duw wedi caru ei bobl a chariad tragywyddol, ac eto, hyd nes eu hargyhoeddir, eu bod yn blant digofaint, a than y felldith; (6) fod gan Dduw etholedigaeth, ond dim gwrthodedigaeth." Y mae yn amlwg nid yn unig fod Harris yn iach yn y ffydd, ac yn dduwinydd rhagorol, ond hefyd y meddai syniad cywir am derfynau y rheswm dynol, gan ddeall fod rhai dirgeledigaethau yn perthyn i'n crefydd nad gwiw ceisio llygadrythu yn ymchwilgar iddynt, ond yn hytrach ymostwng yn addolgar gerbron y mawr ragorol ogoniant a gynwysant. "Yna," meddai, "ymdriniasom a Supralapsariaeth, a Sublapsariaeth, ddarfod i Dduw ein caru yn rhad, ac mai Crist yw y ffordd ar hyd pa un y rhed ei gariad atom; y modd y mae yn ewyllysio pechod, sef trwy ei oddef; ac wrth ymdrin â'r pethau mawrion hyn gwelais ein hanwybodaeth." Nid rhyfedd; yr oedd y brodyr yn gwthio eu cychod i ddyfroedd dyfnion. Ond y mae yn ddyddorol sylwi nad dynion bychain, yn cael eu dylanwadu gan zêl benboeth, oedd y Tadau Methodistaidd, ond fod dirgeledigaethau yr efengyl, y rhai nad yw yn debyg y medr y rheswm dynol byth eu cwmpasu, yn meddu attyniad mawr iddynt. Fel na byddo i'r darllenydd gael ei ddychrynu gan y termau mawrion a dyeithr, Supralapsariaeth a Sublapsariaeth, gallwn ei hysbysu fod a fynont a threfn y bwriadau yn y cynghor dwyfol; y cyntaf yn dal fod y bwriad i achub dyn yn Nghrist yn blaenori y bwriad i oddef iddo gwympo; tra y mae yr olaf yn dal y gwrthwyneb.

Eithr rhaid i ni fyned yn mlaen gyda desgrifiad Howell Harris o'r Gymdeithasfa. "Cefais ryddid wrth ganu i ofyn i'r Arglwydd a oedd yr hyn a wnaethom yn foddlawn iddo. Pan yn gweddïo, tynwyd fi allan mewn dwfn ostyngeiddrwydd, cariad, a drylliog galon. Wrth glywed newyddion da am y modd yr oedd yr Arglwydd yn arddel y brodyr, llawenychais yn fawr, gan weled fy hun y gwaelaf o honynt oll. Yna, gwedi bwyta, eisteddasom i lawr hyd o gwmpas deuddeg." Dranoeth, eisteddodd y Gymdeithasfa drachefn hyd o gwmpas un—ar—ddeg, a chlowyd y cwbl i fynu gyda phregeth gan Daniel Rowland, oddiar y geiriau yn Nehemiah: "O fy Nuw, cofia hwynt." Ymddengys fod yr odfa yn un arbenig, hyd yn nod i Rowland. Meddai Harris: "Wrth weddio teimlwn fy yspryd yn cael ei dynu allan yn y deisyfiadau gydag ef; yn neillduol pan y gweddïai dros y brenhin a'r genedl; a chefais brawf yr ai y gwaith yn ei flaen, ac nad ai yr erledigaeth yn mlaen. Yn sicr, yr oedd yn llawn o Dduw. Cefais nerth i gydymdrechu ag ef yn ei bregeth. Y fath ddylanwad, yr wyf yn meddwl, ni welais erioed, fel yr oeddwn dan orfodaeth i anrhydeddu yr anwyl frawd Rowland. Yn sicr, yr oedd y nerthoedd yn rhyfeddol y tro hwn. Cafodd ddoethineb rhyfedd, yn fewnol ac yn allanol, i ddangos fel y mae pob aelod yn meddu ei le a'i ddefnydd yn y corph, felly hefyd yn yr eglwys. Os wyt wrthgiliwr,' meddai, darllen yr Hebreaid; os wyt ddefosiynol, darllen y Salmau; os wyt o dueddfryd ryfelgar, darllen Joshua a'r Barnwyr; ond os wyt am gyflawni pethau mawr, darllen Nehemiah; aeth efe tuhwnt i bawb yn mawredd ei ymgymeriadau, a hyny heb offerynau cymhwys.' Nis gallwn fyned yn mlaen gyda difynu pregeth Rowland, er cymaint y brofedigaeth. Meddai Harris: "Y mae nerth rhyfedd wedi ei roddi iddo i dynu eneidiau at Dduw, ac i dynu Duw atynt hwy. Yr oedd fel pe nas gallai roddi i fynu ymdrechu. Bendigedig a fyddo yr Arglwydd, ei fod eto yn ein mysg yn y fath fodd. Gwelaf fod graddau helaethach o allu wedi ei roddi iddo na neb o fewn fy adnabyddiaeth. Am danaf fy hun, ychydig o allu feddaf, ac ychydig ddylanwad." Nid rhyfedd i'r brodyr, gwedi y fath amlygiad o bresenoldeb y Goruchaf yn eu mysg, ymadael yn llawen.

Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, Ionawr 16. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Gwedi treulio amryw oriau yn nghyd, yn gweddïo ac yn canu, mewn cariadwledd, trwy yr hyn y taniwyd ein calonau mewn modd anarferol, pob un yn teimlo presenoldeb yr Arglwydd mewn modd tra anghyffredin, wrth fod pob un o'r brodyr yn darllen ei adroddiad am y seiadau oedd dan ei ofal, penderfynwyd :——

"Ein bod yn trefnu rhyw foddion i ysgafnhau y brawd James yn ei amgylchiadau allanol, fel y byddo yn fwy rhydd i fyned o gwmpas.

"Ymroddi i weddi gyda golwg ar fwriad y brawd Thomas Jones parthed priodas,



Nodiadau golygu