Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-3)

Howell Harris (1745) (tud-2) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-4)

gan gyduno ei fod i adael ei ysgol yn gyfangwbl.

"Fod y brawd Thomas Jones i chwilio i mewn i amgylchiadau y brawd Edward Bowen, ac i geisio deall a ydyw yr Arglwydd am iddo symud o'r lle y mae.

"Fod y brawd Lewis Evan i fyned mor bell ag y gall i'r Gogledd, i Sir Feirionydd, mewn ufudd—dod i alwadau allanol.

Anerchwyd y cyfarfod gan y brawd Harris gyda golwg ar ostyngeiddrwydd, ffydd, a zèl, ac am chwilio yr Ysgrythyrau, ynghyd a gofal na byddo ein zel a'n cynhesrwydd yn myned y tu hwnt i'n gwybodaeth, a'n golwg ar Dduw trwy ffydd.

"Fod y brawd Harris i siarad â brawd yn Merthyr sydd yn myned i briodi gwraig heb ganiatad ei thad, er ceisio cael ganddo oedi.

"Fod y brawd Harris i benderfynu rhyw anghyd—ddealltwriaeth yn seiat Llanafan, yn codi oddiar fod yr Ymneillduwyr yn dyfod (i bregethu) i'r tŷ lle y cyfarfyddent, yn amser eu cyfarfodydd, hwythau yn cwyno nad ydynt yn cael un budd wrth eu gwrando.

"Wedi bod yn fwy dedwydd, hyfryd, a llawnach o'r cariad dwyfol nag arfer, a chwedi penderfynu pob peth, pob un yn dwyn tystiolaeth i bresenoldeb amlwg yr Arglwydd yn ein mysg, ymadawsom o gwmpas deuddeg, wedi bod yn nghyd yn y pregethu, y gariad—wledd, a'r Gymdeithasfa, am o gwmpas deuddeg awr. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw!

Y mae yn sicr iddynt gael Cymdeithasfa lewyrchus anarferol. Meddai Harris: "Wrth ganu a gweddio llanwyd ein calonau a'n heneidiau fel â gwin newydd. Cefais ddoethineb wedi ei roddi i mi i drefnu ein hamgylchiadau, wedi chwilio i stâd yr holl gymdeithasau a'r cynghorwyr. Anogais i ostyngeiddrwydd, doethineb, chwilio yr Ysgrythyrau, gan eu rhybuddio gyda golwg ar dân a zêl. Ond wedi cael mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn, y cnawd a'i derbyniodd, a minau a syrthiais. Ond O, dynerwch yr Arglwydd tuag atom. Cefais ychydig olwg i weled fod Duw o'n plaid." Nid hawdd deall beth a feddylia wrth ddarfod iddo gael mwy o dân nag y gallai ffydd ei ddwyn. Ai nid yw yn awgrymu tuedd, yn ymylu ar fod yn afiach, i ddadansoddi yn ormodol ystâd ei galon, a natur ei deimladau? Modd bynag, tebygol yr ystyriai nad oedd ei zêl yn y cyfarfod yn gyfangwbl yn ol gwybodaeth, a bod yr hwyl i raddau yn fwy na'r argyhoeddiad. Dengys y nodiad dynerwch cydwybod na cheir yn gyffredin ei gyffelyb.

Tranoeth, y mae yn parotoi i gychwyn i daith fawr, o dros fis o amser, trwy ranau helaeth o Ddê a Gogledd Cymru. Dengys y nodiad canlynol ei deimlad ar yr achlysur : "Heddyw, ysgrifenais lythyr Cymraeg i Sir Feirionydd, wedi cael fy llanw o gariad neillduol atynt, a deall fod ewyllys yr Arglwydd i mi ymweled â hwynt, ac efallai i farw yn eu mysg." Ai y gorlafur yn debyg o brofi yn ormod i'w gyfansoddiad eiddil, a olyga, ynte y posiblrwydd iddo gael ei osod i farwolaeth gan yr erlidwyr, nis gwyddom. Dydd Gwener, aeth mor bell ag Erwd, lle y pregethodd gyda nerth anarferol. Dywedais wrthynt," meddai, "am edrych at waed Duw. Ni chefais gymaint erioed o'r blaen o'r goleuni hwn, i ganfod y gwaed, ac i weled yr angenrheidrwydd am iddo fod yn waed Duw. Felly, ni chefais erioed o'r blaen gymaint o nerth ac awdurdod wrth bregethu." Y mae y bregeth hon yn Erwd yn drobwynt yn ei hanes, fel y pryd y defnyddiodd gyntaf yr ymadrodd gwaed Duw," yr hwn ddywediad a brofodd yn dramgwydd mawr i'r brodyr, ac a fu yn un o brif achosion yr ymraniad. Ond dilynwn y daith trwy gyfrwng y dydd—lyfr : "Aethum yn fy mlaen yn hyfryd tua Llanfairmuallt, ac ar y ffordd yr oedd gwaed Crist fel gwaed Duw wedi ei osod yn rhyfedd gerbron fy ngolwg. A'r goleuni hwn a'm cadwai yn ddedwydd. Ni welais yn flaenorol ddirgelwch y gwaed hwn fel gwaed Duw. Daethum i Lanfair. Wrth weled y plant yn chwareu, drylliwyd fy nghalon gan alar duwiol; prin y gallwn ei oddef." Pregethodd yno gyda chryn. arddeliad. Aeth i Dolyfelin, lle y cyfarfyddodd â Mr. Gwynn, presenoldeb yr hwn yn wastad a daniai ei enaid. Pregethodd oddiar Gal. iv. 1. Lletyai yn nhŷ Mr. Gwynn y noswaith hono, lle y darllenodd lyfr o waith Mr. Griffith Jones ar dragywyddol gariad Duw. "Wrth ddarllen," meddai, "rhwygodd Duw y gorchudd; cefais y fath oleuni na chefais ei gyffelyb o'r blaen, i weied ddarfod iddo fy ngharu â chariad tragywyddol, ac y bwriadai yn nhragywyddoldeb fy nwyn i ogoniant. Yn y goleuni hwn gwelwn bob peth yn diflanu i ffwrdd, a fy hun yn wrthddrych cariad tragywyddol y Drindod,



Nodiadau golygu