Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-4)

Howell Harris (1745) (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-5)

fel y ffieiddiwn fy hun oblegyd pechod, ac y deallwn natur pechod, wreiddyn a changen, yn fwy nag erioed." Aeth i Langamarch, lle y pregethodd oddiar eiriau yn Hosea, ac y cafodd odfa nerthol. Pasiodd

trwy Merthyr Cynog, lle y pregethodd oddiar Phil. iv. 4; oddiyno i Landdewi, lle y derbyniodd y sacrament; ac yn ei flaen i'r Glyn, lle y pregethodd oddiar Esaiah lxxx. 1. "Cefais yma fwy o nerth. i bregethu y gwaed nag erioed," meddai; "dangosais nad hwn sydd yn cael ei bregethu, ond rhesymau, ac mai dyna paham yr ydym wedi colli y nerth o'n mysg; a bod rhai yn ei ddirmygu. Cyfeiriais at allu yr Arglwydd; mai gwaed Duw ydyw, ac am adnabod Crist yn unig." Gwelir fod yr un syniad yn oruchaf yn ei feddwl trwy y daith. Aeth yn mlaen trwy Blaenllywel, gan ddyfod i Landdeusant y diwrnod o flaen y Gymdeithasfa Fisol yn Abergorlech. Y mae ei brofiad yma yn haeddu ei groniclo. Meddai: "Heddyw a ddoe toddwyd fi yn llwyr, a darostyngwyd fi wrth draed yr Arglwydd, wrth gael goleuni gan yr Yspryd Glân i ganfod y trugareddau allanol sydd yn fy nghylchynu. Ac felly, tan ddylanwadau dwyfol, mi a syrthiais ar y llawr, ac a addolais, gan gyfaddef fel y canlyn: O Arglwydd, tydi ydwyt oll yn gariad; y mae yn llifo yn rhydd i mi. Minau ydwyf oll yn bechod, a hunan, ac anwybodaeth, a gelyniaeth ; ac yn arbenig yn annghrediniol ac anniolchgar. Ond eto, yr wyt ti yn maddeu y cwbl. O gariad digyffelyb!' Yna tynwyd fi allan mewn dymuniad ar iddo egluro ei ogoniant yn Nghrist. Yno cefais ryddid i ddymuno ar iddo fod yn ein mysg, a dylanwadu ar y brawd Rowland i fyned yn fwy o gwmpas yr wyn, i'w porthi

a'u tanio."

Gwelwn fod Harris dan yr argyhoeddiad eto nad oedd Daniel Rowland mor ymdrechgar gyda theithio ag y dylasai. Nis gallwn benderfynu a oedd gradd o wirionedd yn hyn; ai ynte nad oedd Harris yn cymeryd yn ddigonol i ystyriaeth amgylchiadau ei gyfaill, yr hwn oedd yn guwrad tair o eglwysydd pwysig. Ion. 22 y cynhelid y Gymdeithasfa Fisol yn Abergorlech; yr oedd Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn bresenol, a'r cyntaf oedd yn y gadair. Agorwyd y gweithrediadau gyda phregeth gan Rowland oddiar Jeremiah vi. 5. Meddai Harris: "Wrth ymuno yn y weddi fwyaf nerthol, feddyliaf, a wrandewais erioed, teimlwn fy

hun yn cael fy narostwng; gwelwn fy hun y creadur gwaethaf a greodd Duw; fod mwy o bechod yn dylifo allan o honof na neb o fewn y byd. Fy enaid a ddarostyngwyd ynof; canfyddwn fy hun y diweddaf yn ngwinllan Duw; gwelwn y brawd Rowland fel fy mrawd hynaf, ac eto fod Duw wedi fy anfon inau." Wedi y bregeth gweinyddid y sacrament. gwmpas pump ymgynullwyd i drin gwahanol faterion, a buwyd wrth hyny hyd o gwmpas deg. Nid yw Harris yn son dim am y penderfyniadau; yn unig crybwylla ei fod ef a Rowland yn cydletya. Y mae cofnodau y Gymdeithasfa fel hyn:

"Wedi gwrando am ystad y seiadau, a chael fod clauarineb yn ffynu yn Sir Forganwg, a lleoedd eraill, penderfynwyd cadw dydd o ymostyngiad rhwng hyn a Chwef

ror 21ain.

"Cydunwyd fod y brawd John Morgan i fyned o gwmpas ar unwaith, i gasglu yr arian am y llyfrau, i dalu Mr. Farley, cyhoeddwr y Weekly History.

"Fod y brawd David Williams i fyned i ymddiddan à Mr. Griffith Jones, dydd Sadwrn nesaf, ac i gynorthwyo y brawd John Richard pan y gall, gyda gofalu am yr ysgol."

Dyna yr holl o'r cofnodau, a gwelwn mai cymharol ddibwys ydynt. Gwelwn fod y Parch. D. Williams, Llysyfronydd, wedi symud i Forganwg erbyn 1745. Aeth Harris a Rowland yn nghyd tua Chilycwm, lle y pregethodd y diweddaf. Teithiodd Harris trwy Glanyrafonddu, lle y pregethodd ac y bu yn anerch y seiat, a Llanarthney, Llanon, a St. Clears, gan gyrhaedd y Parke, cartref Howell Davies, erbyn y Sul. Bu mewn dyfroedd dyfnion y Sul hwn, a chaiff ef ei hun adrodd yr hanes: "Gwelwn fy hun," meddai, “heb ddim gofal am ogoniant Duw, heb ddim cariad at y brodyr, heb dosturi, nac ystyriaeth o'r canlyniadau. Canfyddwn fy mod yn pechu yn erbyn cariad a gras; yn erbyn trugaredd, moddion, perthynasau, a bendithion. Gwelaf fy mod yn suddo yn ddyfnach, ddyfnach. O ddyfnder drwg pechod ! Yr oeddwn yn y fath drueni a dyryswch, fel nas gallaswn ddyfod allan o hono. Ond er fy mod wedi fy ngwanhau a'm dryllio, teimlwn gariad pur at y brodyr, a gwelwn fy hun yn annheilwng i fod yn eu mysg, gan eu bod oll yn cael eu ffafrio yn fwy na mi mewn gras a sancteiddrwydd. O gwmpas tri aethum i lawr, ond ni theimlwn yn rhydd i fyned at y brodyr;



Nodiadau golygu