Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-16)

Howell Harris (1745) (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-17)

a'u cyfrwysdra; mi a allaf blymio eu gwaelodion.' Yna, dangosais y modd yr oedd y diweddaf, a'i fod yn cyhoeddi: Mi a fyddaf y diweddaf gwedi pechod, a dynion, a diaflaid; mi a arosaf ar y maes hyd nes y byddont oll wedi eu concro; mi a arosaf yn dy enaid i'w lanhau hyd nes y byddo yn berffaith. Yr wyf yn dy enaid, i dy olchi hyd nes y byddot yn lan ac yn bur, heb na brycheuyn na chrychni. Yr wyf ynot i ymladd dy frwydrau, hyd nes y byddo yr holl elynion sydd yn dy amgylchu wedi eu concro. Nac ofna, yn y dydd olaf, pan y bydd y cyfan yn cael ei losgi gan dân; mi a fyddaf y diweddaf. Myfi, yr hwn sydd wedi dy garu, a'r hwn wyt tithau yn garu; myfi, yr hwn wyt yn ddymuno uwchlaw y cwbl, a'r hwn yr wyt wedi gadael pob peth er ei fwyn; myfi a fyddaf yno, y diweddaf. Yr wyf wedi bod yn farw, mae yn wir; mi a orphenais dy iachawdwriaeth ar y groes; disgynais i'r dyfnder i orchfygu angau a Satan; ond er i mi farw, yr wyf yn fyw.'" Erbyn hyn, yr oedd yn lle ofnadwy yn y cyfarfod, a'r bobl wedi cyfodi fel gallt o goed ar eu traed. Ond y mae y pregethwr yn myned yn mlaen i gymhwyso'r athrawiaeth. "Dyma ddigon," gwaeddai: "Y mae'r Iesu yn fyw! Dowch yn awr, dyrchafwch eich llygaid at y gwaed! Edrychwch, a chwi a welwch gastell marwolaeth wedi ei ddymchwelyd, y llew wedi ei gadwyno a'i goncro, uffern wedi ei gorchfygu; chwi a gewch weled goleuni yr ochr hwnt i angau." Yr oedd y pregethwr yn awr yn feistr y gynulleidfa; yr oedd yn llawn of ffydd ac o'r Yspryd Glân, a phob gair a lefarai yn cyrhaedd hyd adref. Yna, aeth yn mlaen i daranu yn erbyn gelynion Crist, y Sosiniaid, yr Ariaid, y Deistiaid, y Pab, ac uffern, a gorphenodd y bregeth trwy eu hanog oll i ymostwng i'r Gwaredwr. "Cefais nerth rhyfedd," meddai; "yr oedd fy enaid yn rhydd, ac yn llawn o ffydd, o oleuni, ac o Yspryd yr Íesu. O mor ogoneddus yw y goleu hwn!" Nid annhebyg fod a fynai y nerthoedd a deimlid yn yr odfa yn dwyn gwell yspryd i mewn i fysg y cynghorwyr, lawn cymaint ag ymresymiadau Howell Harris yn y Gymdeithasfa.

O Watford, aeth Harris tua'r Aberthyn, yn dra dedwydd ei feddwl, gan adael y cynghorwyr, a gawsent eu ceryddu ganddo, yn iselfrydig o yspryd. Ei destun yma oedd Es. xx. 2, 3, a chafodd gryn nerth i ddangos beth a wnaethai yr Arglwydd erddynt, ac fel yr oeddynt hwythau yn myned yn mlaen i buteinio oddiwrthi. Yn y seiat a ddilynai, bu y pwnc o ymadael a'r Eglwys dan sylw, ac yr oeddynt oll yn unfryd i beidio ymwahanu. Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas. Clywodd yma fod y press gang allan, a llawenychai ei enaid o'i fewn wrth feddwl am y peryglon ar ba rai yr oedd ei wyneb. Yn eglwys Wenfo, yr oedd clerigwr tra efengylaidd, ac yn ol ei arfer, pan fyddai yn y gymydogaeth, aeth Harris yno y Sul i wrando y Gair, ac i gyfranogi o'r sacrament. Yna, cyfeiriodd ei wyneb tua chartref, gan basio trwy Watford, a phregethu, gydag arddeliad, yn Mynyddislwyn, Gelligaer, a Pontsticyll, a chyrhaeddodd adref erbyn y cyntaf o Fai, yr hwn oedd yn ddydd o ymostyngiad ac ympryd, yn ol trefniad y Gymdeithasfa. Yn mhen ychydig ddyddiau derbyniodd lythyr o Lundain, yn ei alw i fynu, gan fod llawer o faterion pwysig yn galw am eu trefnu, a Whitefield o hyd yn America. Lledodd yntau y llythyr gerbron yr Arglwydd ; teimlai ei fod yn gyfangwbl at ei wasanaeth ef, fel clai yn llaw y lluniwr ; a theimlai yn anrhydedd i fyned, os oedd Duw yn ei alw. Cyn cychwyn tua'r brifddinas, modd bynag, cymerodd daith faith trwy Orllewin Morganwg, gan ymweled â Llansamlet, a gwlad Browyr; trwy ranau o Sir Gaerfyrddin, ac aeth mor bell a'r Parke, yn Sir Benfro. Yr hyn a'i dygodd yma oedd cydymdeimlad a'i anwyl gyfaill, Howell Davies, yr hwn oedd mewn dyfroedd dyfnion oblegyd colli ei briod. Wedi treulio Sabbath yn Llanddowror, gyda yr Hybarch Griffith Jones, dychwelodd Harris i Abergorlech, lle y cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Yno pregethai Daniel Rowland. Cafodd afael ryfedd ar weddi ar y dechreu. Meddai y dydd-lyfr : "Yr anwyl frawd Rowland a weddïodd yn rhyfeddol. Pan aeth i ddeisyf ar ran y genedl, ac i alw Duw yn ol i breswylio yn ein mysg, llanwyd y lle gan bresenoldeb yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo yn sicr i'r weddi hon fyned ar ei hunion i'r nef." Testun Rowland oedd, 2 Cor. vii. 1; a'i fater ydoedd, fod athrawiaeth rhad ras yn ddinystriol i bechod. Yr oedd yr Arglwydd yn y lle mewn modd anarferol iawn. Nid oes unrhyw gofnod o'r Gymdeithasfa ar gael, ond yr hyn a gronicla Howell Harris 66 Meddai : yn ei ddydd-lyfr. Eisteddais gyda'r brodyr yn hwyr, am fod gwarant i bressio allan. Holasom ein gilydd gyda



Nodiadau golygu