Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-17)

Howell Harris (1745) (tud-16) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-18)

golwg ar ein parodrwydd i fyned i'r rhyfel; yr oedd pob un yn foddlawn, os cai ei alw; ond penderfynasom fod yn synwyrol a chall. Cydunasom i fod yn fwy trefnus. yn ein teithiau, fel y caffai yr wyn well porthiant. Cawsom lawer o gariad, a chymundeb yspryd.". Dychwelodd adref trwy Glanyrafonddu, a Llanddeusant. Ymddengys nad oedd meddwl Harris ei hun ddim yn hollol esmwyth gyda golwg ar y penderfyniad i aros yn yr Eglwys Sefydledig; cyfeiria ato amryw droiau yn ystod y daith; ac wedi dychwelyd i Drefecca, y mae nodiad pur hynod yn y dydd-lyfr "Gweddïais yn daer ar i'r Arglwydd ddychwelyd i'n mysg ; ond pan y cefais atebiad ffafriol gyda golwg ar y gwaith, ni chefais ddim yn ffafr y Sefydliad, yr esgobion, a'r clerigwyr, er fy mod yn dadleu llawer o'u plaid." Yn sicr, y mae y geiriau yn arwyddo cryn anesmwythder yspryd.

Tua chanol Mai, cawn ef a Mrs. Harris yn cychwyn am Lundain. Nid oedd yn ddibryder gyda golwg ar yr achos yn Nghymru yn ystod ei absenoldeb; "ond," meddai, cefais ffydd i gyflwyno yr holl lafurwyr i'w ofal ef, gan fy mod i yn myned i'w gadael am ychydig, a llefais ar i'r Arglwydd fod yn ddoethineb, ac yn nerth iddynt, a'u galluogi i sathru Satan dan eu traed." Erbyn cyrhaedd y brifddinas, cafodd fod y cymdeithasau yno mewn stâd dra annhrefnus; ymraniadau a dadleuon wedi dod i mewn i'w mysg, a chwestiynau wedi codi parthed purdeb buchedd rhai o'r aelodau. "Yr wyf yn clywed y fath bethau yma, ac yn gweled y fath ymraniadau, fel nas gwn beth i'w wneyd nac i'w ddweyd," meddai. "Y mae yn dda i mi mai Crist yw fy holl ddoethineb a'm nerth; yr wyf yn gweled fy mywyd a'm hiechyd yn ei law. O, pa fodd yr ymddygaf yn y dydd hwn o brawf." Un Mr. Cudworth oedd wrth wraidd y drwg, sef yr un ag a fuasai yn cynhyrfu yn flaenorol yn Mryste. Nid yn unig yr oedd wedi dwyn dadleuon i mewn am natur cyfranogiad yr enaid o gyfiawnder Crist, ond yr oedd rhyw helynt flin wedi codi gyda golwg ar ei gymeriad personol, a chyhuddid ef o ryw anfoesoldeb na enwir. Credai Harris am dano na chawsai erioed ei aileni, a'r diwedd a fu tori pob cysyllt iad ag ef. Tua phythefnos y bu Mr. a Mrs. Harris yn Llundain, ac ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn mysg y brodyr Saesnig i wastadhau eu hymrafaelion, a'u dwyn at eu gilydd. Nis gallwn ddifynu y dydd-lyfr am yr yspaid hwn, er y cynwysa hanes manwl a dyddorol, ond y mae ynddo un nodiad tra arwyddocaol. "Neithiwr," meddai, "datgenais mai un gofal yn unig a arferai fod arnaf pan yn esgyn i'r pwlpud, sef ar i bawb yn y cyfarfod gael lles trwy fy ngeiriau, ac ar i Grist gael ei ddatguddio i bawb; ond yn awr fod arnaf bryder gyda golwg ar beth arall, sef ofn rhag i mi dramgwyddo rhyw rai. Ac os gwelaf amryw o blant Duw yn dyfod i wrando gyda chlustiau gochelgar, yn unig er mwyn gweled a ffaelaf, y mae yn brawf dolurus fy mod yn methu credu eu bod yn ceisio fy nghynorthwyo, a dal fy mreichiau i fyny â'u gweddïau. O mor boenus yw dadleuaeth! Mor falch ar bob cyfrif a fyddwn i gael myned i neillduaeth, oni bai mai yr Arglwydd ddarfu fy ngalw yma." Awgryma y nodiad fod rhai o'r frawdoliaeth, yn Llundain, yn dechreu amheu a oedd Harris yn iach yn y ffydd, ac yn myned i'w wrando gyda y bwriad o'i ddal yn tripio. Bu ef a'i briod am gryn amser tua Bath a Bryste ar eu ffordd adref, ac yr oedd yn Fehefin 26, pan y cyrhaeddasant Drefecca.

Llonwyd calon Howell Harris yn fawr wrth ddeall fod y gwaith da wedi myned rhagddo yn Nghymru yn ystod ei absenoldeb. Clywai yn arbenig am y nerth oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Howell Davies, ac enynodd ei enaid yn fflam ynddo o'r herwydd. "Llonwyd fy yspryd," meddai, "â diolchgarwch, ac hefyd â chariad ato, ac at bob tyst sydd gan Ďduw yn y byd. O ddaioni fy Arglwydd, yn fy mendithio fel pe na byddwn un amser yn pechu yn ei erbyn! Tynwyd fy enaid allan mewn llawenydd oblegyd y doniau, y grasau, y llwyddiant, y doethineb, a'r nerth y mae yn roddi i eraill." Yn sicr, ceir yma ryddfrydigrwydd yspryd na welir yn aml ei gyffelyb. Yn fuan clywodd fod dyn yn dyfod y dydd hwnw o Aberhonddu, er ei gymeryd, a gwneyd milwr o hono. Teimlai nerth ei natur lygredig fel y gwelwodd wrth glywed y newydd. Ond aeth i'r dirgel; yno cafodd olwg ar ogoniant yr Arglwydd Iesu Grist, fel un a phob awdurdod yn ei law. Gwelai fod y diaflaid, a phob math o ddrwgddynion, ac yn eu mysg y dyn â'r warant, o Aberhonddu, mewn cadwyn ganddo ef. Llanwodd hyn ei yspryd a thangnefedd. Gwelai werth yr addewidion, yn neillduol yr addewid, "Pan elych trwy y dyfroedd myfi a fyddaf



Nodiadau golygu