Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-18)

Howell Harris (1745) (tud-17) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-19)

gyda thi," fel y galluogwyd ef, nid yn unig i fod yn dawel o ran ei feddwl, ond hefyd i gysuro ei deulu. Eithr ystori gelwyddog oedd y chwedl yn y diwedd; neu, os oedd y cyfryw ddrwgfwriad yn mryd y gwrthwynebwyr, ni roddwyd mo hono mewn grym.

Ar y 3ydd dydd o Orphenaf cynelid Cymdeithasfa Chwarterol, yn Blaenyglyn. Nid oedd Daniel Rowland yno, eithr daethai Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, i'r cyfarfod, yn nghyd â'r Parch. John Powell, yr offeiriad, o Fynwy. Fely gellid disgwyl, yr oedd Howell Harris hefyd yn bresenol. A ganlyn yw y cofnodau:—

"Wedi derbyn llythyr oddiwrth y brawd George Gambold, gyda golwg ar ei alwad, pa un ai (cynghorwr) cyhoedd neu breifat fyddai, a chwedi deall fod ei ddoniau yn hytrach at adeiladu y saint nag at argyhoeddi, a'i fod wedi cael ei fendithio mewn amryw leoedd yn gyhoeddus, ni a ledasom. y mater gerbron yr Arglwydd, ac yna ni a'i cyflwynasom i'r brawd Howell Davies, gan adael iddo benderfynu yn mha leoedd y caffai lefaru yn gyhoeddus, ac yn mha leoedd yn breifat, a hyny ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Gwedi derbyn dau lythyr, un oddiwrth y brawd John Richards, a'r llall oddiwrth. y brawd Richard Tibbot, y rhai oeddynt mewn cryn betrusder pa fodd i ymddwyn ar hyn o bryd, gan y byddent yn sicr o gael eu pressio pe yr aent i rai lleoedd yr arferent fyned iddynt, ac yn gofyn am gyfarwyddyd, ai nid gwell iddynt roi eu hunain y tuhwnt i gyrhaedd gelynion, trwy gymeryd trwydded, cydunasom oll y byddai cymeryd trwydded, yn bresenol, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd, yr un fath ag y byddai gadael y gwaith. Meddyliem, felly, mai gwell i'r rhai sydd allan o afael y gelyn fyned i'r lleoedd mwyaf peryglus, a'r lleill fyned yn fwy preifat, gan arfer pob doethineb diniwed, am mai prawf am amser ydyw hwn, ac na ddylai gael edrych arno fel erledigaeth. Ond am y brawd William Richard, yr oedd efe a'i feddwl mor llawn o amgylchiad Daniel fel y teimlai ei hun dan rwymau i fyned fel cynt. Cydunasom hefyd, os deuai yr erledigaeth yn gyffredinol, a'r efengyl yn cael ei rhwystro yn hollol, i apelio at y llywodraeth. Os gwrthodir ni yno, i ddeisebu yr esgobion; yna, os cymerir ein rhyddid ymaith yn gyfangwbl, bydd y ffordd yn rhydd i ymwahanu.

Darllenwyd adroddiadau y brodyr, y rhai a ddygent newyddion da am lwyddiant yr efengyl yn y rhan fwyaf o leoedd; y brodyr Thomas James a Thomas. Williams, heb ysgrifenu adroddiad.

"Cydunwyd fod i'r brodyr dderbyn tanysgrifiadau er argraffu llyfr Elizeus Cole, ar Benarglwyddiaeth Duw,' yn Gymraeg, hyd y Gymdeithasfa nesaf."

Rhaid fod gwrthwynebiad y brodyr i ymneillduo, ac i ymffurfio yn blaid, yn gryf, pan y dewisent gymeryd eu llusgo o fynwes eu teuluoedd, a'u rhwygo oddiwrth y cymdeithasau oedd mor anwyl ganddynt a'u llygaid, yn hytrach na gosod eu hunain allan o gyrhaedd y perygl, trwy gymeryd trwydded i bregethu, a thrwy hyny gyf addef eu hunain yn Anghydffurfwyr. Gweddus cadw mewn cof hefyd fod y rhai a basient y penderfyniad uchod yn agored i'r ddryc-hin eu hunain. Disgwyliai hyd yn nod Howell Harris bob dydd i'r awdurdodau anfon gwarant i'w gymeryd. Yn ychwanegol, yr oedd amryw o'r cynghorwyr a gawsent eu pressio yn barod yn bresenol yn y cyfarfod, wedi cael caniatad i ymweled â'u brodyr; ac am beth amser buont hwy a'r lleill yn cydgymysgu eu dagrau, ac yn cyd-ddyrchafu eu hocheneidiau at Dduw. Y rhai y cyfeirir atynt, fel allan o berygl, oedd y rhai a gawsant eu hordeinio, naill ai yn yr Eglwys Sefydledig, neu yn ol trefn yr Ymneillduwyr. Tybiai Howell Harris mai y dull goreu i ddwyn y cyfarfod i deimlad o . ymddiriedaeth tawel oedd cyfeirio at wirioneddau tragywyddol yr iachawdwriaeth. "Cyfeiriais," meddai, "gyda grym at berygl ein synwyr ein hunain, ac at ddirgelwch y Duwdod, nad yw yn bosibl ei ddirnad ond trwy ffydd yn ngoleuni yr Yspryd. Dangosais fel y mae fy llygaid yn dechreu cael eu hagor i ganfod mawr ddirgelion y Duwdod. Yn (1) Y Gair yn cael ei wneuthur yn gnawd. (2) Y Trindod mewn undod. (3) Gwirioneddolrwydd yr undeb rhyngom a Christ. Credaf i hyn brofi yn foddion i gyffroi y brodyr allan o'u doethineb eu hunain, i dremio ar y dirgeledigaethau dwyfol; ac yn arbenig cynhyrfwyd hwy wrth edrych ar y gwaed. Yno yr ydym yn gweled y Tad, y Mab, a'r Yspryd. Yno yr ydym yn canfod cariad tragywyddol Duw. A daeth yr Arglwydd i lawr, ac yr oeddym yn ddedwydd yn nghyd." Byddai yn anhawdd cael gwell engrhaifft nag a geir yma o saint yn ymddiried yn yr Arglwydd, ac yn



Nodiadau golygu