Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-19)

Howell Harris (1745) (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-20)

nghadernid ei allu ef, nes yr oedd ofn perygl yn cael ei lyncu o'r golwg gan fawredd y tra-ragorol ogoniant sydd yn Nuw.

Ar y 16eg o Orphenaf, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Erwd, ac a ganlyn yw ei chofnod: "Yn y Gymdeithasfa hon, ni phenderfynwyd dim neillduol, ond treuliwyd yr amser mewn canu, a gweddïo, ac agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar ansawdd y gwaith, ac ystâd yr Eglwys a'r genedl. Buom yno am rai oriau, a daeth Duw i'n mysg, gan ein dal i fynu."

Tua diwedd y mis, aeth Harris am daith i Sir Forganwg, hanes pa un a ddifynwn allan o'i ddydd-lyfr:—

"TREFECCA, Sul, 28 Gorphenaf, 1745. Gan mai heddyw yr wyf yn dechreu fy nhaith trwy Sir Forganwg, syrthiais gerbron yr Arglwydd, a chefais agoshad nodedig ato wrth ofyn ar ran fy anwyl wraig, a'm teulu. Atebodd fi y cawn ei gweled drachefn, a'i derbyn o law marwolaeth, fel y gwnaethwn y boreu hwn wrth ddihuno. Čefais ryddid i ddeisyf gyda golwg ar fy nhaith, am i mi gael fy mendithio, a chael fy ngwneyd yn fendith i bawb, pa le bynag yr af. Wedi gweddïo gyda'r teulu, cychwynais. Pan gyrhaeddais Cantref, yr oedd y brodyr yn dyfod allan o'r eglwys. Siriolwyd fi yn fawr wrth eu cyfarfod; a fflamiwyd fy enaid ynof wrth glywed pa mor dda yw efe i'r brodyr sydd wedi cael ei pressio. Ar y ffordd tua Watford, cefais gryn agosrwydd at Dduw. wrth ganu, ac wrth folianu ei enw am y trugareddau a roddasai i eraill. Daethum yno o gwmpas saith, gwedi trafaelu oddeutu deugain milltir mewn wyth awr. Yno, mi a lewygais gerbron y bobl ar derfyn y weddi; gwedi dyfod ataf fy hun, lleferais oddiar yr ymadrodd: 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.' Cefais ryddid mawr wrth gyfeirio at undeb y naturiaethau, ac at waed y Duwdod. Daeth y nerth i lawr yn benaf wrth fy mod yn cymhwyso yr athrawiaeth, gan ddangos fel y mae y ddynoliaeth yn Nghrist wedi ei huno â Duw, felly yr ydym ninau ynddo wedi ein huno â Duw. Cefais gymorth i Cefais gymorth i egluro yr undeb hwn, fel y mae yr enaid a'r corph yn un â Christ, ein henaid ni yn un a'i eiddo ef, a'n corph ni a'i gorph ef. Yna, cyfeiriais ataf fy hun, er i dân losgi fy nghorph, ac i bryfed ei fwyta, eto y cawn ef drachefn yn ogoneddus. Cefais ryddid mawr i'w cyffroi i fyw yn ngolwg Crist, ac i gadw yn agos ato."

Bwriedid cynal Cymdeithasfa yn Watford, am yr hyn y ceir y nodiad canlynol yn Nghofnodau Trefecca: "Bwriadem gynal Cymdeithasfa, ond yr oedd y brawd Price wedi myned i Sir Gaerfyrddin, ac nis gallem gael cyfarfod a'r brawd Richard Jones, yr hwn yr oedd pob moddion wedi eu defnyddio tuag ato, er ei ddiwygio oddiwrth ei ddiofalwch, a'i esgeulusdra gyda'r gwaith. Dymunwyd arno drachefn i beidio llefaru yn gyhoeddus hyd nes y caffai ei adnewyddu drachefn trwy edifeirwch, a phenderfynodd y brodyr i beidio anfon am dano hyd nes y byddo achos Duw yn pwyso mwy ar ei galon."

Ond i ddychwelyd at y dydd-lyfr : "WATFORD, dydd Llun. Heddyw, gwelais ddirgelwch y gwaed yn fwy nag erioed; yr oedd gerbron fy llygaid trwy y dydd. Gwelwn fy holl iachawdwriaeth, a'm nerth, a'm ffynon i ymolchi, fel môr yn llifo allan oddiwrth Dduw, yn rhinwedd yr undeb dirgeledig; ac felly fod ei gwraidd yn Nuw. Llefwn am i ogoniant y gwaed a'r cyfiawnder yma gael ei amlygu trwy yr holl fyd, gan fod pob gwirionedd yn cyfarfod ac yn canolbwyntio yn y gwirionedd hwn---y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid i ddangos i'r brawd Thomas William mai Duw yw y pen saer celfydd; mai efe sydd yn gwybod i ba le yn yr adeiladaeth y mae pob un yn gymhwys; ac hyd nes y byddo pawb yn y lle a fwriada efe iddynt, mai gwanhau, ac nid cryfhau, yr adeilad a wnant." Tebygol fod cyfeiriad y sylwadau hyn at awydd cynghorwyr y Groeswen am ordeiniad, fel y byddai ganddynt hawl i weini yr ordinhadau, ac felly sefyll ar yr un tir a gweinidogion Ymneillduol. Datgenais fy syniad fy mod yn gweled rhyw gymaint o Dduw yn mhob ffurf ar addoliad - Esgobyddiaeth, Presbyteriaeth, ac Annibyniaeth-a rhyw gymaint o'r dyn hefyd, efallai. Geill pob un o honynt fod yn iawn ar ambell adeg, mewn rhai lleoedd, a than ryw amgylchiadau; ond nis gall un o honynt fod mor gyffredinol iawn, fel ag i beidio goddef y lleill. Y mae gwahaniaeth mawr hefyd rhwng pan fyddo y brenin a'r llywodraethwyr yn Gristionogion, a phan fyddant yn elynion Crist.

"Daethum yn fy mlaen i Dinas Powis. Cefais lawer o ryddid wrth weddïo, ac wrth lefaru ar Matt. i. 21. Yr oeddwn wedi cael awdurdod i drywanu, i ddeffroi, ac i argyhoeddi. Dangoswn fel yr oedd Duw yn cashau pechod, ei fod wedi dyfod i'w



Nodiadau golygu