Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-20)

Howell Harris (1745) (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-21)

ddinystrio, wreiddyn a changen; a pha le bynag y byddo Yspryd yr Arglwydd, yno y bydd rhyfel, hyd nes y byddo pechod wedi ei orchfygu. Dangosais sut y mae yn ei ddinystrio, trwy ddatguddio y gwaed. Yma yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw. Llefarais mewn modd argyhoeddiadol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ddatgan mai fy ngwobr i am fy llafur oedd eu gweled hwy yn rhodio gyda Duw. Er fy mod yn wan, yn sâl, mewn poen, ac yn mron llewygu, siaradais yn breifat hyd adref am rodio yn sanctaidd, am gadw dysgyblaeth, am dori allan pwy bynag sydd yn rhodio yn anweddaidd, a rhwystro pawb i gynghori oni fydd arwyddion fod y gwaith ar eu calonau. Cefais ryddid mawr gyda y rhan hon hefyd. Deallais fod y gelyn. yn ceisio fy nuo, a gwanhau fy mreichiau, trwy daenu ar led fy mod wedi syrthio i gyfeiliornadau. Yn hyn hefyd cefais fy nghadw yn dawel a diolchgar, er yn nghanol poen.

"DINAS POWIS (dydd Mawrth). Neithiwr cadwyd fi yn agos at yr Arglwydd, yn mhell uwchlaw'r cnawd, yn fy mhoenau i gyd. Yr wyf yn cael fod y brawd Wesley, yn nghyd â'r brodyr, yn fy narlunio fel wedi syrthio i gyfeiliornadau. Yn hyn yr wyf yn llawenychu, eu bod yn fy ngwneyd i yn ddim, gan fy yspeilio o fy enwogrwydd, ac o'r eneidiau (a argyhoeddwyd drwof), fel y byddo i'r Person rhyfeddol sydd fry gael ei ddyrchafu. Llefais: 'O Arglwydd, na chofier fi, ond i'r graddau y byddot yn defnyddio y cof am danaf, er ledu dy foliant di. Dysg bawb i dy adnabod; galluoga ni oll i feddwl ac i lefaru yn iawn am danat ti.' Aethum tua St. Nicholas, rhyw bum' milltir o bellder, mewn poen mawr o herwydd y ddanodd. Gelwais gyda Mr. Hodge, a chefais ef yn llawn cariad. ddaeth yr amser i lefaru, rhoddodd yr Arglwydd nerth ynof i wynebu ar y gwaith, a chefais lawer o awdurdod a goleuni. Yr oeddwn yn llym yn erbyn y rhai a esgusodent bechod, neu a geisient dadogi y bai ar bai ar Dduw; dangosais fod gwraidd pob drwg ynom ni, ac yn y diafol. Yr oeddwn yn cyrhaedd i'r byw wrth ddynodi y gwirionedd yn cynyddu yn y pen, ac nid yn y galon. Yn breifat, drachefn, yr oeddwn yn agos iawn parthed chwynu y seiat, a pheidio goddef drygioni ynom ein hunain, nac yn neb arall, onide y byddai i'r Arglwydd ein gadael. Datgenais na wnawn arbed neb, ond y trown allan bawb a rodiai yn anweddaidd, pwy bynag fyddent. Gwrthddadl : Yna, ni a awn yn ychydig. Ateb: Pe na baem ond dau, bydded i ni fod yn nghyd yn yr Arglwydd. Gwrthddadl: Fe â y seiadau i lawr. Ateb: Gadawer iddynt fyned; oni chawn seiadau yn yr Arglwydd, bydded iddynt oll fyned yn ddarnau mân. Yna, gosodais o'u blaen achos Richard Jones; ei fod wedi cael ei ddystewi oblegyd ei ddifaterwch, ac eto, fod rhai yn ei alw i lefaru. Datgenais ei fod wedi tristhau yr Arglwydd, a'i fod yn dangos nad yw achos Duw yn agos at ei galon; ac hyd nes y rhoddir edifeirwch iddo, nas gallaf gydlafurio ag ef, ac na ddeuaf ychwaith i'r seiadau sydd yn ei alw. Yr wyf yn gwneyd hyn o gydwybod tuag at Dduw. Pan ddatgenais felly, llewyrchodd yr Arglwydd yn fy enaid; toddodd fy nghalon ynof yn felus, gan ddwyn tystiolaeth ddarfod i mi ryngu ei fodd ef. Aethum ymaith yn llawn cariad.

Cyfeiriais fy nhraed tuag Aberddawen erbyn chwech. Yr oedd poen y ddanodd yn mron bod yn annyoddefol, ond gwnaed i fy enaid fendigo a moli Duw o'r herwydd; gwelwn mai gwialen ydoedd, oblegyd fy mod yn crwydro oddiwrth yr Arglwydd, ac yr oeddwn yn caru Duw am dani. Gelwais yn Ffonmon, ond gan mor fawr oedd y boen, nis gallwn aros yma ond ychydig fynydau. Pan ddaethum i Aberddawen, cefais lonydd gan y boen i lefaru i dorf fawr ar, i dorf fawr ar, Byddwch lawen yn wastadol;' ond trowyd fy ymadrodd i fod yn finiog a llym. Daethum i Pentrythyn, rhyw chwech milltir o ffordd; yr oedd y boen yn dyfod yn mlaen drachefn; teimlwn fy mod wedi cael fy ngwaredu oddiwrth angau, ond O, mor wan a fyddwn mewn poenau oni bai fod genyf Dduw! Cefais ddyoddefgarwch wrth dynu y dant allan; pan yr oedd y boen yn aros drachefn, gofynais feddwl yr Arglwydd gyda golwg ar dynu dant arall; gwedi tynu hwnw allan darfyddodd y poenau.

"PENTRYTHYN (dydd Mercher). Neithiwr, yn Aberddawen, yr oedd llawer o bobl Mr. Wesley yn gwrando, a dywedais ein bod ni a hwythau yn cyduno gyda golwg ar hyn, y rhaid i ni gael ein gwaredu oddiwrth bechod yn y pen draw, a bod y Cristion yn llawenychu yn yr olwg ar hyn; ei fod yn llawenychu hyd yn nod yn nghanol ei alar oblegyd llygredigaethau ei natur, gan fod Duw yn ei garu, yn maddeu iddo, ac yn edrych arno fel yn berffaith yn Nghrist. Y boreu hwn, yn y dirgel, cefais



Nodiadau golygu