Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-22)

Howell Harris (1745) (tud-21) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-23)

a Llywel, gan gyrhaedd Trefecca, gwedi absenoldeb o bythefnos. Trwy yr holl daith yr oedd ei gorph yn wan; llewygai weithiau gan lymder y poen a ddyoddefai; ond nerthai yr Arglwydd ef yn rhyfedd pan godai i lefaru, a chafodd odfaeon mor nerthol ag a gafodd yn ei fywyd. Yr oedd cyflwr yr eglwysi yn Lloegr hefyd yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl; dywed iddo gael llythyrau o Lundain, yn dangos fod yr annhrefn yn y seiadau yno yn parhau; ei gysur yn ngwyneb yr oll ydoedd mai yr Arglwydd sydd Dduw.

Awst 8, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, yn yr hon y llywyddai Howell Harris. Y mae ei chofnodau fel y canlyn:—

"Agorodd y brawd Harris, trwy ddangos ansawdd gwaith yr Arglwydd yn Lloegr, Scotland, Cymru, America, a Ffrainc; ac yna agorodd pob un ei galon gyda golwg ar ystâd y gwaith yn ein mysg ni, a chyflwr y genedl. Dymunai y brawd Morgan John Lewis i ddeiseb at yr esgobion gael ei thynu i fynu, ac i un neu ddau o bersonau priodol gael eu hanfon o bob seiat at yr offeiriaid plwyfol, i geisio mewn modd tyner dyfod i gydddealltwriaeth â hwy, er gweled pa effaith a gaffai hyn, dan fendith Duw, i hyrwyddo y diwygiad. Tybiai eraill na ddaethai yr amser eto, a bod y gwaith yn sicr o fyned yn ei flaen.

"Cymerwyd i ystyriaeth anwiredd y wlad, cyflwr y proffeswyr, ein pechodau a'n gwaeleddau ein hunain; a chawsom adnewyddiad dirfawr wrth glywed am y moddion a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn Ngogledd Cymru, lle yr oedd y drws wedi ei gau yn erbyn y Gair, i ddwyn yr efengyl i'r trefi; sef trwy ddyn ieuanc a gawsai ei bressio i'r fyddin, yr hwn a galonogwyd, ac yn wir a gymhellwyd, i bregethu gan y cadben, yr hwn a safai wrth ei ochr, gyda ei gleddyf noeth yn ei law, i'w amddiffyn tra y pregethai.

"Rhai o'n rhesymau paham na wnai Duw roddi i fynu y genedl hon ydynt y canlynol: (1) Anchwiliadwy olud ei ras. (2) Fod ganddo eglwys yma, oddiar adeg y Diwygiad Protestanaidd. (3) Y diwygiad diweddar, yr hwn a ddechreuwyd ganddo mewn modd mor nodedig, trwy foddion anarferol. (4) Ei waith yn dwyn y diwygiad yn mlaen er gwaethaf pob gwrthwynebiadau, y rhai ydynt eto yn parhau. (5) Ei fod yn cadw meddyliau y llafurwyr mor rhydd, a chatholig, heb duedd at ymwahanu. (6) Ei waith yn dyogelu ein rhyddid i ni, fel nad oes cyfreithiau erlidgar wedi cael eu pasio. Cynghorodd y brawd Harris yn wresog; a chwedi canu a gweddio, a thywallt ein calonau y naill i'r llall, yr oeddym yn dra hapus a gwynfydedig. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn ein mysg, a rhoddodd i ni lawer o fendithion."

Awgryma y cofnodion amryw gwestiynau, ond rhaid i ni basio. Ymddengys fod cynygiad Morgan John Lewis, parthed deisebu yr esgobion, a nesu at offeiriaid y gwahanol blwyfydd, wrth fodd calon Howell Harris, a dywed yn ei ddydd-lyfr y canfyddai M. J. Lewis a James Ingram fel colofnau o nerth i'r achos. Dywed yn mhellach, iddo egluro i'r cyfarfod yr anghydfod a gyfodasai rhyngddo ef a John Cennick. Am tranoeth, ysgrifena ei fod yn ddydd o brawf iddo. Daeth i'w law bapyryn o waith Archesgob Caergaint, wedi ei gyfeirio at y Methodistiaid. Wedi darllen hwnw, yn ol pob tebygolrwydd dynol, nad oedd dim gobaith i'r gwaith fyned yn y blaen (yn yr Eglwys); a gwnaed iddo edrych at Dduw yn unig, gan adael y mater i orphwys gydag efe.

Ar y 22ain o Awst, yr oedd Cymdeithasfa yn y Tyddyn. Llywyddai Daniel Rowland, ac yr oedd Williams, Pantycelyn, hefyd yn bresenol. Cyn cychwyn tuag yno clywodd Harris fod dau o'r brodyr Saesnig wedi troi eu cefnau, ac aeth y newydd i'w galon fel dagr. Pregethai Williams, Pantycelyn, ar yr adnodau blaenaf yn Ioan xv. Marwaidd oedd yr odfa; ond pan aeth Rowland i weddïo daeth awel dyner dros y cyfarfod. Gymdeithasfa hon yw yr olaf y croniclir ei gweithrediadau yn nghofnodau Trefecca; o hyn allan rhaid i ni ddifynu am yr hanes ar y dydd-lyfr, ac ar y llythyrau. A ganlyn yw ei chofnodau:—

"Cydunwyd fod y brawd Evan David i fyned yn mlaen fel cynt; felly hefyd Andrew Whitaker.

"Wedi ymddiddan maith a'r brawd Benjamin Cadman, gan nad yw yn benderfynol yn ei feddwl pa un a'i uno â ni, neu ynte â'r Ymneillduwyr, a wna, cydunwyd ei fod i ymatal oddiwrth gynghori hyd y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf; a bod ei benderfyniad ef, a barn y seiadau, gyda golwg arno, i gael eu dwyn yno gan y brawd Richard Tibbot."

Yn y dydd-lyfr, dywed Howell Harris



Nodiadau golygu