Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-23)

Howell Harris (1745) (tud-22) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-24)

ddarfod i ymgeisydd oddiwrth yr Ymneillduwyr ddyfod i'w mysg; bu y frawdoliaeth yn ymresymu ag ef, gan ddangos fod cryn wahaniaeth rhwng yr Ymneillduwyr a hwythau, ac nas gallai gyduno a'r ddau, a'u bod yn gweled y rhai a ymunent a'r Ymneillduwyr yn dilyn rheswm cnawdol, ac yn myned yn glauar; eu bod yn dymuno llwyddiant a nerth iddo; ond os byddai yn ffyddlon fel hwy mewn cysylltiad ag Eglwys Loegr, ac ar yr un pryd ddatgan yn erbyn ei llygredigaethau, y byddai yn sicr o gael ei nerthu. Cydunodd pawb ar hyn. Yn yr hwyr, wedi y Gymdeithasfa, aethant tua thỷ Thomas James, tua deng milltir-ar-hugain o bellder, ac ar y ffordd, testun y siarad oedd, ysprydion a bwganod. Clywodd Harris y fath hanesion am danynt, ac am y pethau a wnaent, nes y treiddiai iasau trwy ei gnawd.

Tua chanol Medi, yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol y brodyr Saesnig yn cael ei chynal yn Caerloyw, ac oblegyd yr anghydfod a fodolai yn eu mysg, teimlai Howell Harris ei hun dan rwymau i fyned yno. Mor fuan ag y cyrhaeddodd, daeth John Cennick ato, gan agor ei galon, a dangos fel yr oedd achos Duw yn pwyso ar ei feddwl, ac fel yr oedd ymddygiadau rhai o'r brodyr wedi blino ei enaid, a pheri iddo wylo ffrydiau o ddagrau wrth draed y Gwaredwr. Mynegai, yn mhellach, ddarfod iddo ymgynghori ag amryw y teimlai ymddiried yn eu barn, a'u bod yn cyduno y rhaid iddynt hwy eu dau, Cennick a Harris, ymgymeryd a holl ofal yr achos, a rhoddi y brodyr ieuangaf tan ddysgyblaeth. "Pan y dywedodd," meddai Harris, "fod arno eisiau rhywun a ai gydag ef at yr ystanc, teimlais agosrwydd mawr ato; ond yr oedd fy mhechadurusrwydd a fy ngwendid yn rhythu arnaf." Ei benderfyniad oedd cyflwyno yr holl fater i'r Arglwydd, a dyma ei eiriau gerbron yr orsedd: (1) "Nis gallaf ymwrthod â'r anrhydedd hon, a sefyll yn erbyn yr alwad am fil o fydoedd. (2) Nid oes genyf unrhyw ateb i'w roddi, ond lledu ger dy fron di fy holl bechodau, a'm hannheilyngdod, a'm hammurdeb, a'm balchder, a'm tymher, a'm hanghymhwysder. (3) Os wyt ti yn fy ngalw, yna gwn y derbyniaf o'th drysor ras i lanw fy lle, ac argyhoeddiad llawnach gyda golwg ar beth yw dy ewyllys. (4) Dyro i mi olwg newydd ar dy eglwys, ac ar dy achos; gâd i mi ei deimlo wedi ei osod yn fy nghalon; (ac felly y cefais. Rhoddwyd i mi ddatguddiad helaethach o ogoniant a dirgelwch yr eglwys, fel priod i Dduw, ac wedi ei dyrchafu allan o bechod ac uffern i ogoniant. Yn y goleu hwn, er nad oedd ond gwan, gwelwn bob rhwystr fel dim o flaen yr eglwys ogoneddus.) (5) Yna dyro i mi lygad eryr, er doethineb a dealltwriaeth; nerth ych, er amynedd, diwydrwydd, a sefydlogrwydd; a chalon llew, er dewrder, beiddgarwch, a phenderfyniad, fel y gallwyf dy ogoneddu a llanw y lle hwn. (6) Cwyd fi uwchlaw y bywyd hwn, gan nad yw yr holl a berthyn iddo ond tarth a gwagedd."

Nid oedd unrhyw swm o waith yn ormod i'r Diwygiwr o Drefecça ymgymeryd ag ef. Ar ei ysgwydd ef yn benaf, er fod ganddo gydweithwyr galluog, y gorweddai pwys y trefniadau yn nglyn â gwaith y diwygiad yn Nghymru. Braidd nad oedd y llafur a'r cyfrifoldeb perthynol i hyn yn mron llethu ei natur; ac yn awr dyma ef eto, mewn undeb a John Čennick, yn ymgymeryd a holl gyfrifoldeb yr achos yn mysg y brodyr Saesnig. Ymdeimlad â phresenoldeb Duw yn unig a allasai ei gynysgaethu a'r fath wroldeb. Aed i'r Gymdeithasfa gwedi ciniaw, ac eisteddwyd i lawr trwy y nos hyd chwech o'r gloch dranoeth, gyda'r trefniadau. "Yn sicr, yr oedd yr Arglwydd yn ein mysg, ac yn ein goruwch-lywodraethu," meddai Harris. Gwnaeth Cennick araeth hyawdl, yn dangos sut y dylent fod a'u holl enaid yn ngwaith yr Arglwydd hyd oni ddelo. Wedi gorphen gyda'r allanolion aed i siarad am wahanol athrawiaethau, ac yn eu mysg am iachawdwriaeth gyffredinol. Dywedai Cennick ei fod yn credu yr athrawiaeth, ond nad oedd yn athrawiaeth i'w phregethu, oddigerth gan angel, tua mil o flynyddoedd gwedi yr adgyfodiad. Ymddiddanwyd am y Duwdod, ac yr oedd pawb yn gweled lygad yn llygad. Wrth ganu yr emyn, cafodd Harris olwg ar ddirgelwch y Duwdod yn y dyn, a darostyngwyd ei enaid ynddo. Wrth gadarnhau penderfyniad Cymdeithasfa Llundain, gyda golwg ar ddiarddel Mr. Cudworth, yr hwn oedd yn myned bellach, bellach, teimlai Howell Harris agosrwydd mawr at y brodyr, a dywedodd ei feddwl wrthynt yn bur groyw.

Cyn diwedd mis Medi cynelid Cymdeithasfa Chwarterol y Cymry, yn Erwd, Daeth pump o gynghorwyr, ac un offeiriad i letya i dŷ Mr. Harris y noson cynt;



Nodiadau golygu