Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-24)

Howell Harris (1745) (tud-23) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-25)

diolchai yntau am y fraint o'u cael. Pregethodd William Richards, y cynghorwr o Aberteifi, ar ras, ei natur a'i ragoriaeth, a chafodd odfa felus. Dranoeth, yn Erwd, pregethodd Daniel Rowland i gychwyn, oddiar y geiriau: "O na bai i mi adenydd fel colomen," a chafodd, fel arfer, odfa nerthol. Ar ei ol, pregethai John Sparks, yn Saesneg, oddiar y genadwri at eglwys Laodicea. Teimlai Harris yn ddirfawr drosto, am ei fod yn ieuanc, a gweddïai am i'r Arglwydd ei arddel; yr hon weddi a atebwyd yn helaeth. Yn y cyfarfod preifat, rhoddodd Rowland anerchiad llym, yn cyrhaedd i'r byw, gyda golwg ar drefn, yn nghyd a gwagedd rhai o'r cynghorwyr. Eithr yn raddol teimlai Harris fod yspryd rhy ysgafn wedi dod i'r cyfarfod, o ba un yr oedd efe ei hun wedi cyfranogi. "Ceryddais y brawd Price," meddai, "gan ddatgan mai efe oedd yn fy llygru i. Digiodd yntau, ac aeth allan. Yn ganlynol, drylliwyd fy nghalon ynof; yna llewyrchodd yr Arglwydd arnaf, a gwelais y deuai y cwbl yn iawn, am mai efe sydd Dduw. Ac felly y bu." Y mae darllen am yr amgylchiad hwn, a'r cyffelyb, yn dra dydd orol, pe na bai ond er dangos nad oedd y Methodistiaid cyntaf ond dynion, a'u bod yn agored, weithiau, i fyned yn blentynaidd, ac i ddigio wrth eu gilydd am y nesaf peth i ddim. Dengys hefyd dynerwch cydwybod dirfawr; fod y gradd lleiaf o ysgafnder yn annyoddefol yn eu mysg. Boreu dranoeth, codwyd yn foreu, er gorphen gwaith y Gymdeithasfa. Gwedi agor eu calonau y naill i'r llall, cafwyd eu bod oll yn deyrngar i'r brenin, a datganai Harris mai y brenin George oedd yr unig deyrn cyfreithlawn. Yna, aeth y brodyr William Richards, Rice, Llanwrtyd; James Ingram, a Morgan John Lewis, i weddi yn olynol, gan ymostwng o herwydd eu pechodau eu hunain, a phechodau y genedl. Daeth yr Arglwydd i'w mysg yn amlwg. Datganent i'w gilydd, yn gystal ag ar eu gliniau, nad oedd eu cyrph yn eiddo eu hunain. Anogent y naill y llall i ganlyn Crist yn fwy agos, ac i bregethu ychwaneg ar ffrwyth yr Yspryd. Taer gymhellai Harris hefyd yr offeiriaid urddedig i ymweled â Morganwg a Mynwy, fod mawr angen am danynt, a bod eu doniau yn tra rhagori ar yr eiddo ef. Ymadawyd yn felus, wedi cael Cymdeithasfa ddedwydd.

Ar ddydd Mercher, yn nechreu mis Hydref, cawn Howell Harris yn cychwyn am daith faith i Sir Benfro. Aeth yn nghyntaf i'r Glyn; oddiyno yn ei flaen i Crai, lle nad oedd y bobl wedi ymgasglu, am, yn ol pob tebyg, na chlywsent am ei ddyfodiad. Pregethodd y noswaith hono yn gyfagos i Trecastell, a chafodd odfa nerthol. Dranoeth y mae yn Llanddeusant, a Glanyrafonddu; dydd Sadwrn yn Glancothi; ac wedi pregethu y Gair mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, cyrhaeddodd Landdowror prydnhawn dydd Sul, mewn pryd i wrando yr Hybarch Griffith Jones. Pwnc pregeth Mr. Jones oedd y sarff bres. Diolchai Harris Dduw am fod y fath oleuni yn mysg y Cymry. Aeth i dŷ Mr. Jones i letya, a deallodd yn fuan fod y gŵr da wedi clywed llawer o chwedlau parthed annhrefn y Methodistiaid. "Dywedai Mr. Jones,' meddai, "fod gormod o honom yn agored i gael ein cyhuddo o falchder, a barn ehud, yn nghyd â chwerwder yspryd; a'n bod yn ddiffygiol mewn gostyngeiddrwydd a chariad, ac yn galw eraill yn erlidwyr. Yr oedd wedi clywed am ein troion anghall yn Lloegr a Chymru; am ein hymraniad yn Lloegr; ac yr oedd yn dramgwyddedig oblegyd y bloeddio a'r gwaeddi allan dan y Gair. Cyfeiriai at ein gwaith yn cateceisio, yr arweiniai mewn amser i annhrefn, ac y deuai yn y diwedd i'r dim. Atebais, nas gallai hyny ddigwydd; pa beth bynag a ddeuai o honom ni fel Corph, fy mod yn credu fod canoedd wedi cael eu hargyhoeddi a'u hachub. Dywedais fy mod yn credu yr oll a ddywedasai oddiar wybodaeth bersonol; ond ei fod yn faich arnaf ddarfod iddo wrando ar ein cyhuddwyr, a'u credu, heb ein dwyn ni wyneb yn wyneb â hwy; a phe y gwnaethai hyny y cawsai fod y gwaith hwn o Dduw. Meddyliwn y dylasem gael rhagor o le yn ei serchiadau. Lleferais wrth Madam Bevan ac yntau, gan gael rhyddid oddiwrth Dduw i ddweyd yr oll a wyddwn; y modd yr oeddynt oll (yr Eglwyswyr) wedi gwanhau ein dwylaw, a'n diarddel, a chreu rhagfarn yn meddyliau rhai yn Bath yn ein herbyn. Pan y cyfeiriodd at ei lyfr ar yr Articlau, gan fy nghyhuddo i o rwystro ei werthiant, dywedais nad oeddwn cyduno a'r llyfr, a pha beth bynag a ddywedais neu a ysgrifenais, ei fod yn codi o gydwybod. Gofynai ai nid oeddwn yn teimlo dymuniad am i bawb gael eu hachub? Atebais fy mod yn cael fy nhemtio yn gryf weithiau i weddïo dros y cythraul; ond nad oeddwn yn gweled un



Nodiadau golygu