Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1745) (tud-25)

Howell Harris (1745) (tud-24) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1745)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1745)
Howell Harris (1745) (tud-26)

lle canol rhwng achubiaeth yr etholedigion. yn unig, ac achubiaeth pawb. Pan y gwasgai arnaf am fy marn, dywedais fy mod yn meddwl mai yr etholedigion yn unig a gedwir; am y lleill, fod yna anmhosiblrwydd ar y ffordd, a hwnw yn tarddu nid o Dduw, ond o honynt eu hunain, a'm bod yn credu ei fod yn gyfeiliornus wrth bleidio y posiblrwydd i bawb gael eu hachub. Cyfeiriodd at waith. Tillotson, Holl Ddyledswydd Dyn, gan ganmawl Tillotson fel y dyn goreu a eisteddodd erioed yn y gadair archesgobol, a dadleu fod ei lyfr yn un o'r rhai galluocaf ar y pwnc; a bod y llyfr mor llawn o garedigrwydd Cristionogol, fel mai prin yr oedd yn gadael neb yn golledig yn y pen draw. Atebais yn ol y gallai gael y fath syniadau yn ngweithiau athronwyr, ond nad dyna athrawiaeth Paul na Christ. Yna, mynegais iddo am ei draethodau Saesnig (Welsh Piety, Griffith Jones), yn y rhai y fflangellai ni fel Corph, fy mod yn tybio am yr ymosodiad cyntaf, er yr aroglai yn ormodol o ddoethineb y byd hwn, fod ei lygad yn syml wrth ei wneyd, gan mai cael rhagor o ryddid gan yr esgobion a fwriadai; ond pan y gwelais ef yn ailadrodd yr unrhyw, gan grybwyll am ein gwendidau, heb gyfeirio at ddim arall, nas gallai y fath ymddygiad fod yn garedig, ac y gwnai gryfhau y rhagfarn yn ein herbyn, yn arbenig gan ei fod mewn argraff, ac hefyd yn dyfod oddiwrtho ef, gwaith yr hwn a ddarllenid, efallai, yn mhen mil o flynyddoedd. Addefai ei fod yn rhagfarnllyd yn erbyn ein Corph ni, gan ei alw yn wrthYsgrythyrol, ac yn ordeiniad. Ésboniais iddo ein hamcan, sef cael gwybodaeth of stâd ysprydol y dychweledigion, ac nid sefydlu ordeiniad. Mewn cysylltiad â chateceisio, tybiwn ei fod yn ei ddyrchafu yn rhy uchel, mai ei wir ddefnydd oedd nid cymeryd lle pregethu, ond bod yn is-ddarostyngedig i hyny; ar yr un pryd, yr hoffwn ei weled yn cael ei osod i fynu mewn teuluoedd lle y byddai personau cymhwys at hyny, a'm bod i wedi gwneyd fy ngoreu i'w osod i fynu. Yr oedd yn ymosod yn drwm ar y cynghorwyr anghyoedd, gan ddweyd eu bod yn anwybodus, ac yn anghymwys i'r gwaith, a bod ganddynt gopi o'n seiadau, a'r lleoedd eu cedwid. Gwedais inau ein bod yn anfon y cyfryw allan ond i wylio dros eneidiau eu gilydd, a phan y caem fod neb yn ymddwyn yn anweddaidd, ein bod yn peri iddo beidio. Gofynai ai nid oeddym yn tueddu i ymffurfio yn sect? Atebais ein bod yn dysgwyl, naill ai cael ein himpio i mewn yn gyfangwbl i'r Eglwys Sefydledig, neu gael ein troi allan; ac yna, naill ai i ymuno a rhyw blaid arall, neu ymffurfio yn blaid ar wahan. Mynegais yn mhellach fy mod wedi clywed y brawd Rowland yn ceryddu y rhai a floeddient yn y cyfarfodydd, ond fy mod yn credu am lawer o honynt nas gallent ymatal, a bod yn well genyf eu gweled yn gwaeddi nac yn dylyfu gên. Addefai yntau ei fod yn hoffi gweled pobl yn wylo yn yr odfaeon, ac hyd yn nod yn gruddfan. Siaredais ag ef yn breifat am wneyd rhywbeth i fynu rhyngddo a Mr. Rowland, fel na chaffo y gelyn ddyfod rhwng y rhai sydd yn caru yr Arglwydd; a dymunais arno, gan fy mod yn gwybod ei fod yn myned a'n hachos yn feunyddiol at yr orsedd, ar iddo beidio. myned yn rhagfarnllyd yn ein herbyn, oblegyd ein camsyniadau a'n hafreolaeth ymddangosiadol; mai gyda phob gostyngeiddrwydd y dymunwn ei ddweyd, ond fod Duw yn wir yn ein mysg. Ymadawsom yn ddrylliog, ac yn gariadlawn; ac wrth ymadael, dywedais fy mod yn ei anrhydeddu yn fawr; felly hefyd y gwna pawb o'r brodyr, hyd y gwyddwn i. Dymunais arno ddyfod i'n mysg; dywedais fy mod yn credu y buasai yn nes atom oni bai am eraill, a'm bod inau i'm beio am na fyddwn yn ymweled ag ef yn fwy mynych. Ymddangosent (Griffith Jones a

Madam

Bevan) yn fwy cyfeillgar atom nag o'r blaen, ond yr oeddynt wedi clustymwrando ar adroddiadau annyoddefol. Dywedai ein bod yn cael ein cyhuddo o gofleidio Cwaceriaeth, a phob math o gyfeiliornadau, ac o adael y Beibl, gan ddilyn y teimlad tufewnol. Atebais nad oedd hyn yn wir; eithr nad oedd y Beibl ond llythyren farw i ni hyd nes y profom waith yr Yspryd ar ein calonau; mai nid y naill na'r llall ar wahan, ond y ddau yn nghyd raid i ni gael."

Felly y terfyna yr ymddiddan rhwng Howell Harris ar y naill law, a Griffith Jones a Madam Bevan ar y llaw arall. Hawdd gweled fod y ddadleuaeth yn fynych yn frwd; yr arferai y ddwy ochr lawer iawn o blaendra; ond y mae yn hyfryd sylwi iddynt gael eu llywodraethu gan yspryd cariad trwy y cyfan, a phan y llefarent y caswir eu bod yn nes at golli dagrau nag at golli eu tymherau. Nid yn unig y mae y ddadleuaeth yn ddyddorol, ond yn ogystal yn taflu ffrwd o oleuni ar



Nodiadau golygu