Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-02)

Howell Harris (1746) (tud-01) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-03)

fater mawr ei weinidogaeth yn bresenol. Prin yr ydym yn tybio fod ei syniadau, ar y cyfan, yn gyfeiliornus, ond y mae ei ddull o eirio yn anhapus; a theimlwn fod gormod o duedd ynddo i fanylu, ac i gario ei gasgliadau yn rhy bell. Hawdd gweled hefyd fod gwrthwynebiad yn dechreu codi i'w olygiadau yn y cymdeithasau, ond fod ei bresenoldeb ef, yn nghyd â grym ei hyawdledd, a'i frwdfrydedd, yn darostwng pob gwrthwynebiad a ddeuai iddynt. Ond i fyned yn mlaen â'r dyddlyfr: "ABERTHYN, dydd Iau. Neithiwr, cawsom seiat hyd gwedi deg. Cefais ryddid i ddatgan fy ofnau am y seiadau, eu bod yn gorphwys ar rywbeth, heb ddyfod at waed Crist i weled eu cwbl oll. Dyma y rheswm am eu cwerylon a'u dadleuon, ac ni chawn byth ein huno heb ddyfod at y gwaed hwn. Dangosais, yn gyhoeddus ac yn breifat, fel yr oeddwn yn gweled yn yr lesu dosturiaethau, tynerwch, a chydymdeimlad dyn, ac anfeidroldeb y Duwdod wedi ei uno â hyn. Pa fodd, nas gallwn ddweyd, as nas gallai yr angelion. Dangosais y modd y mae rheswm cnawdol yn gwahanu y Duw a'r dyn, am na fedr ddirnad y dirgelwch. Yn y dirgel, drachefn, clywais fel y mae yr Arglwydd yn dwyn y brawd Thomas Williams yn ei ol, ac yn eu rhwystro i gael eu rhanu a'u gwasgar yn Llantrisant. Porthwyd fi wrth weled mai yr Arglwydd sydd Dduw. Cafodd un brawd a fuasai mewn profedigaeth gref, parthed duwdod Crist, ei ollwng yn rhydd henɔ. Dangosais iddynt y modd yr oedd yr Arglwydd wedi eu galw i ddangos ei ogoniant ynddynt. Peidiwch gorphwys ynte mewn ffurfiau, a gwybod aeth, a threfniadau ac allanolion.

"Yna aethum i St. Nicholas, lle y cefais ryddid a nerth mawr i lefaru oddiar eiriau yn llyfr Datguddiad. Gwedi hyn aethum tua Llantrisant. Ar y ffordd, clywais fod rhai yno yn wrthwynebol i mi, yr hyn a brofodd yn fendith i mi, i'm darostwng i'r llwch, a'm gwneyd yn dlawd yn yr yspryd. Plygais i weddio yn ngwydd cynulleidfa fawr, yn y llwch, gan deimlo fy anghymhwysder, eithr yr Arglwydd a'm dyrchafodd, gan roddi i mi yspryd llew, fel yr oeddwn yn cario pob peth o'm blaen. Yr oeddwn yn flaenorol wedi profi dwyfoldeb Crist allan o'r Ysgrythyr, gan ddangos fod y dyn hwn yn Dduw. Ni chefais erioed o'r blaen y fath awdurdod. Cyhoeddais i bawb a allai glywed mai y Duw-ddyn yw fy mywyd, a'm pob peth, i dragywyddoldeb.

Os nad yw ef yn Dduw, nad yw ei waed yn meddu unrhyw rinwedd; ein bod oll yn golledig yn oes oesoedd. Pregethwn am y doethion yn dyfod i addoli y sanctaidd faban, sef Íesu. Rhyfedd fel y mae rheswm cnawdol a natur yn gwingo yn erbyn y gwirionedd hwn; yr wyf yn ei deimlo fy hun. Ond galluogwyd fi i frawychu, i bledio, ac i agor yr Ysgrythyr, fel y cafodd rheswm ei ddystewi, gan ddangos ei dywyllwch, ei anwybodaeth, a'i elyniaeth at Dduw. elyniaeth at Dduw. Dangosais fel yr oedd marwolaeth a chlauarineb wedi ymdaenu tros Eglwys Loegr, a thros yr Ymneillduwyr yn ogystal, er pan beidiwyd pregethu y gwaed hwn. Yn flaenorol, fod yr athrawiaeth yma yn adsain trwy yr holl eglwysydd, a bod nerth a bywyd ynddynt y pryd hwnw. Atebais resymau a ddefnyddir yn ein herbyn (fel Methodistiaid), sef fod ein pregethu yn annysgedig. Profais fod hyn yn ddadl o'n plaid. Oblegyd o ba le y gallwn gael y doniau hyn, os nad oddiwrth Dduw ? Y mae eraill lawn mor ddoniol, ac yn fwy dysgedig, eithr na fedrant bregethu, pe y caent y byd am hyny. Yr wyf fi yn cyhoeddi, nid trwy fy ngwybodaeth, oblegyd ychydig wybodaeth a feddaf, na thrwy fy nysgeidiaeth, eithr yr wyf yn llefaru yr hyn a gaf gan yr Arglwydd; pan fyddwyf yn myned gerbron y bobl nas gwn beth a ddywedaf, ond fy mod yn rhoi fy hun i Dduw. Cefais lawer o awdurdod i gymhwyso y gwirionedd, ac i ddangos, os nad oedd y baban hwn, y dyn hwn, yn Dduw, sut nad oedd y doethion yn pechu wrth ei addoli, at Stephan ddim yn pechu wrth weddïo arno, a Thomas, wrth ei alw, Fy Arglwydd a'm Duw;' a Phetr wrth ei alw yn Arglwydd, ac yn Fab Duw?

Yn y seiat breifat agorodd y brawd Thomas Williams ei holl galon, gan ddangos y modd y daeth y demtasiwn i ymneillduo gyntaf arno, o gwmpas pedair blynedd yn ol; i gychwyn, trwy ddymuniad am gael ordeinio; yna, trwy fwyhau mân bethau, nes eu gweled yn fawr; a phan na ildiem i'w betrusder, iddo fyned i edrych arnom fel rhai rhagfarnllyd, ac i'w galon fyned oddiwrthym. Yn ganlynol, aeth i'n dirmygu, gan ganfod ein gwaeleddau, ac edrych arnom fel rhai ieuainc, dibrofiad, a hunangeisiol. A'i fod o hyd yn tybio mai canlyn ei gydwybod yr ydoedd hyd bron yn awr; pan gwedi iddo ymneillduo yr agorodd yr Arglwydd ei lygaid i weled, mor glir ag sydd bosibl, mai



Nodiadau golygu