Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-03)

Howell Harris (1746) (tud-02) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-04)

gwaith y diafol oedd y cwbl, a magl, a'i fod yn meddwl hyny am bawb oedd wedi ein gadael. Dywedai yn mhellach ei fod yn rhydd yn awr i gymuno yn yr Eglwys, yr hyn na fedrai o'r blaen. Llewyrchasai yr un goleuni hefyd ar feddwl y brawd a ymneillduasai y Sul o'r blaen, ac y mae yntau yn dyfod yn ei ol. O Arglwydd, dy waith di yw hyn! Darostwng fi! Yr wyt yn ein harddel, am dy fod yn ewyllysio, ac am mai Duw ydwyt. Eglurais inau holl hanes y Diwygiad Protestanaidd, fel yr oedd Duw wedi anrhydeddu Eglwys Loegr, am mai ynddi y tywynasai y goleuni gyntaf trwy Wycliffe; cyfeiriais at Huss, Jerome, o Prague; oddiwrthynt hwy aethum at Luther, Calvin, sefydliad yr Eglwys Brotestanaidd; yna at Harry, Edward, Mary, ac Elizabeth, yn y wlad yma; fel yr oedd yr Eglwys yn wrthglawdd yn erbyn Pabyddiaeth tu hwnt i bawb arall; y modd na chaem y fath oddefiad gan unrhyw eglwys arall o fewn y byd. Dangosais y modd y maent yn rhoddi i lawr bregethu lleygol yn Ysgotland, ac yn awr yn yr America; eu bod yn carcharu y cenhadon Morafaidd yn unig am bregethu gwaed Crist, fel y gwnawn ni. Agorais yr holl gwestiwn gyda golwg ar yr Ymneillduwyr, a'r Parch. Edmund Jones; eu hystad pan yr adnabyddais hwy gyntaf, a'u hystâd yn awr; y modd yr wyf yn gweled y sawl sydd yn ymuno â hwy yn suddo yn raddol i'r un ffurfioldeb a hwythau, ac fel y maent yn ceisio tynu pawb a fedrant oddiwrthym ni; a'r fath wahaniaeth sydd rhyngddynt, parthed yspryd, athrawiaeth, a chynllun, a'r eiddom ni, fel y mae unrhyw gysylltiad agos rhyngom yn anmhosibl."

Y mae amryw bethau yn ein taro wrth ddarllen y difyniadau hyn: (1) Mai prif destun, a braidd unig destun, gweinidogaeth Howell Harris yn awr oedd dirgelwch undeb y ddwy natur yn Mherson yr Arglwydd Iesu; teimlai ei fod wedi cael datguddiad ar y mater o'r nefoedd; ymddangosai holl rinwedd y dyoddefaint a'r gwaed iddo yn dibynu ar fod yr undeb mor agos, fel, mewn ystyr, fod y natur ddynol yn cael ei dwyfoli, ac yn dyfod yn wrthddrych addoliad. Gallwn ni yn bresenol weled fod cryn gymysgedd yn ei syniadau, er, hefyd, fod ganddo gymal pwysig o'r gwirionedd; a'i fod yn gwahanu mewn athrawiaeth yr hyn na fuasai erioed ar wahan mewn ffaith, sef natur ddynol y Gwaredwr oddiwrth ei berson dwyfol.

Wrth ymresymu y pwnc yma, defnyddia ymadroddion an-Ysgrythyrol, ymadroddion nas gallent lai na rhoddi tramgwydd, erbyn eu hystyried yn bwyllog, er fod ei wresawgrwydd ef yn cuddio eu hanmhrydferthwch ar y pryd. Ac yr oedd yn gwthio ei syniadau i eithafion, gan anghofio y gwirioneddau cyferbyniol. (2) Y mae yn dra sicr mai Thomas Williams, y Groeswen, a gawsai ei ordeinio yn. weinidog yno yn ol duli yr Ymneillduwyr, oedd y brawd a gyfaddefai ei edifeirwch oblegyd gadael y Methodistiaid. Efallai na ddylem wasgu ei gyffes yn rhy bell, a thybio ei fod am beidio gweini yr ordinhadau mwy. Ond amlwg yw ei fod wedi cael ei siomi yn yr Ymneillduwyr, ac am wasgu yn glosach at y Methodistiaid; gan gyfaddef fod mwy o'r dylanwadau dwyfol yn cael eu teimlo yn eu mysg; ac mai fel Methodist y dymunai gael edrych arno mwy. (3) Canfyddwn resymau Howell Harris dros lynu wrth Eglwys Loegr, nad oedd yn cael ei lywodraethu gan ragfarn ddall yn y mater. Tybiai, fel y gwnai John Elias ar ol hyny, mai hi oedd yr unig wrthglawdd effeithiol yn erbyn Pabyddiaeth; nad oedd yn gweled y cai pregethu lleygol, yr hyn a gawsai ei fendithio mor amlwg i Gymru, ei oddef mewn unrhyw gyfundeb crefyddol arall; ac yr oedd ffurfioldeb, clauarineb, a chyfeiliornadau athrawiaethol nifer mawr o'r Ymneillduwyr yn dramgwydd iddo.

O Lantrisant, aeth i dŷ William Powell; yna i'r Graigwen, yn mhlwyf Eglwys Ilan, yn egwan o gorph, ond yn gadarn mewn ffydd. Cafodd odfa nerthol yma, er fod llawer o wrthwynebwyr undeb y ddwy natur yn bresenol. Ni chymerodd destun, eithr dangosodd allan o'r Ysgrythyr fawredd y dirgelwch; llawer a doddwyd wrth wrando, ond darfu i rai aros yn sych. Gwedi y bregeth, yn y seiat a ddilynai, agorodd yr holl helynt gyda golwg ar Thomas Williams; dywedodd Thomas Williams ei hun yr un peth ag a gyfaddefasai yn Llantrisant; gofynodd Harris i bawb o honynt, a oeddynt yn argyhoeddedig eu bod yn awr yn ffordd Duw, ac a oeddynt heb unrhyw awyddfryd am ymuno a'r Ymneillduwyr? Dywedasant oll yn un llais eu bod. Ymhelaethodd yntau ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr; fod yr Ymneillduwyr yn gorphwys mewn ffurf a chynllun; tra yr ymwthiai y Methodistiaid yn mlaen yn Ilawn yspryd a goleuni; nad yw yr Ym



Nodiadau golygu