Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-04)

Howell Harris (1746) (tud-03) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-05)

neillduwyr ychwaith yn canfod drygedd lliaws o bechodau, fel yr ymddangosant i'r Methodistiaid. Gwedi hyny, dywedodd rhywun nas gallai gyduno a'r hyn oedd Harris wedi draethu; datganodd cynghorwr perthynol i'r seiat hefyd, os rhaid iddo draethu ei farn, fod y farn hono yn groes i'r hyn oedd wedi cael ei bregethu y noson hono. Y mae yn amlwg mai syniad Howell Harris parthed person Crist oedd yn cael ei wrthwynebu. Cafodd yntau awdurdod i ateb nad oedd ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a draethasai allan o'r pwlpud; os oedd y cynghorwr yn gwrthwynebu hyny, mai heretic ydoedd, ac nas gallasai efe, Harris, ddal unrhyw gymundeb ag ef. Yna gofynodd i aelodau y seiat, a oeddynt yn credu yr athrawiaeth a bregethai efe? Atebasant hwythau eu bod. "Troes inau at y cynghorwr," meddai Harris, yn ei ddydd-lyfr, "a dywedais nas gallwn gymdeithasu ag ef (y cynghorwr) hyd nes y byddai iddo ymddarostwng am dywyllu gogoniant Crist, tramgwyddo ei wyn, a gwrthwynebu yr hyn na ddeallai. Dywedais, yn mhellach, mai dyma y genadwri oeddwn wedi dderbyn oddiwrth Dduw; nas gallwn ildio un iota o honi, mai hi oedd fy mywyd; a thrwy ras, fy mod yn foddlawn marw drosti. Os nad yw Crist yn wir Dduw ac yn wir ddyn, ac fel y cyfryw wedi byw a dyoddef; yna, yr wyf fi wedi fy ngholli yn oes oesoedd. Dangosais nad digon dweyd fod Duw yn y dyn hwn; fod Duw yn y credinwyr; mai cyfeiliornad oedd galw y Gwaredwr yn Dduw ac yn ddyn; fod undeb tragywyddol rhyngom ni sydd yn credu â Duw; ond ddarfod i'r Gair gael ei wneuthur yn gnawd. Pa fodd, nis gwn. Os oedd ef, y cynghorwr, yn gwadu ddarfod i Dduw ddyoddef, a bod Crist yn gweddïo ar y Tad, na ddylwn ymresymu ag ef, am mai dirgelwch ydoedd, ac nas gellid ei dderbyn ond trwy. yr Yspryd Glân. Cyfeiriais at Grist yn galw ei hun yn Dduw weithiau, a phryd arall yn ddyn weithiau yn honi fod ganddo awdurdod i roddi ei einioes i lawr, ac i'w chymeryd hi drachefn, a phryd arall yn gweddio ar y Tad, ac yn cyfaddef nas gallai wneyd dim hebddo, mai yr un person a wnelai y ddau beth. Dyma y gwirionedd, ond nis gallwn ei amgyffred. Yn ganlynol, pan y dymunai wrthwynebu, gorchymynais iddo fod yn ddystaw, am ei fod wedi tori ei hun i ffwrdd o fod yn perthyn i ni. Yr oedd yntau yn gyndyn, a gwadai fy awdurdod i'w droi ef allan; mai yn y seiat yr oedd yr awdurdod hono, ac nid ynof fi. Atebais nad oeddwn yn ei ddiarddel ond mewn undeb a'm cydweithwyr; nad oeddwn i na hwythau yn gwneyd hyny onid yw y seiat hon yn ein dewis yn ewyllysgar i'w rheoli ac i wylio drosti; ac os oedd yn gwneyd hyny fy mod yn barnu fod genyf awdurdod i dderbyn i mewn ac i droi allan. Yna mi a genais Salm. Yr oeddwn yn flaenorol, wrth siarad, wedi cael fy nhoddi, ond wrth ganu llanwodd yr Yspryd fi â dymuniad ar i Dduw gymeryd ymaith fy holl ddoniau, a'i wisgo ef, y cynghorwr, à hwy. Llefais, yn dufewnol, ar i mi gael y fraint o'i weled yn llewyrchu yn ddysgleiriach na mi mewn gogoniant. Wrth gydweddïo, daeth yr Arglwydd i lawr mewn modd anghyffredin, gan ddryllio ein calonau. Yr oedd yma wylo mawr, a'r fath gariad, a gostyngeiddrwydd, ac ysprydoedd drylliedig, na welais y cyffelyb o'r blaen. Gofynais i'r Arglwydd, pa hyd y cawn gnoi a thraflyncu ein gilydd, ac ymranu? Ar y terfyn, dysgwyliwn y deuai efe, y cynghorwr, ataf, gan gyfaddef mai temtasiwn oedd wedi ei orddiwes; ond gan na ddaeth, aethum i ato ef, gan ei alw yn frawd, a syrthio ar ei wddf. Yr oll a ddywedodd ef ydoedd, nad oedd yn cael undeb â ni. Atebais fy mod yn gwneyd y cyfan er mwyn yr Arglwydd, a'i wirionedd, ac o gydwybod; ac er fod ei ddiarddel fel rhwygo fy nghroen oddiam fy esgyrn, fy mod yn rhwym o'i wneyd. Gwrthodais ddadleu yn hwy, gan ei bod yn un-ar-ddeg o'r gloch; felly, cusenais ef, a gweddïais gydag ef a'r brodyr, ac felly aethum i ffwrdd, yn drymach fy nghalon nag erioed."

Y mae yn amlwg fod Howell Harris wedi cael syniadau dyrchafedig am berson. yr Arglwydd Iesu, ac am agosrwydd undeb y ddwy natur ynddo, a hyny y tuhwnt it neb o'i frodyr. Yr oedd gwirionedd gogoneddus wedi gwawrio ar ei feddwl; gwirionedd nad oedd y Diwygwyr eraill, efallai, yn talu sylw digonol iddo. Er hyny, cawn yn brithio ei ddydd-lyfr ymadroddion an-Ysgrythyrol, y rhai a brofant fod ei syniadau i raddau yn gymysglyd, a'i ddull o eirio yn fynych yn anhapus. dyma ef yn awr, am y tro cyntaf, yn diarddel, allan o'r seiat, gynghorwr nad oedd yn gallu syrthio i mewn a'i olygiadau neillduol ef. Hawdd gweled fod defnyddiau ystorm yn dechreu cael eu cynyrchu. Aeth Howell Harris yn ei flaen tua Wat



Nodiadau golygu