Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-05)

Howell Harris (1746) (tud-04) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-06)

ford, yn glaf, ac yn barod i lewygu o ran ei gorph. Wrth feddwl am y genadwri neillduol a roddasid iddo, a'r gwrthwynebiad a welai yn dechreu codi, llefai: "O Arglwydd, ti a wyddost, fy unig amcan yw dwyn pawb atat ti, i'th weled di, fel yr wyt wedi datguddio dy hun yn dy Air." "Yna," meddai, "cefais yspryd i alaru am bob gair a ddywedaswn allan o le, ac i ddymuno am iddo ddangos ei ogoniant. Dychrynwn rhag myned i'r Gymdeithasfa, rhag ofn iddynt wrthwynebu y genadwri. Eto, ymddiriedwn yn yr Arglwydd, gan lefain: O Arglwydd, nis gallaf wadu dy wirionedd di, ac nis gallaf anghytuno a'm brodyr.' Yna, aethum tua Gelligaer, lle y cefais dystiolaeth fod Duw wedi fy anfon, ac wedi maddeu fy holl bechodau hyd yn awr. Cefais ryddid i lefaru oddiar: Fy ngeiriau i, yspryd ydynt a bywyd ydynt.' Tybia i'r gynulleidfa gael bendith; yna, aeth i Mynyddislwyn; yr oedd yn glaf, ac yn wan, yn mron llewygu, ond yr hwn a'i danfonasai yno a'i nerthodd, gorph a meddwl. Ei destun oedd: "Mab a roddwyd i ni." Teimlai ei fod wedi cael ei alw yma i lefaru am y dirgelwch, yr hyn na chawsai yn Gelligaer. Galluogwyd fi," meddai, "i lefaru am ardderchawgrwydd gwybodaeth y Mab hwn; y modd y rhaid i bawb ddod i'w adnabod; truenusrwydd y rhai nad ydynt yn ei adnabod; y modd y mae yr Ysgrythyrau yn dwyn tystiolaeth iddo; mai hwy yw y meusydd, ac efe yw y perl sydd wedi ei guddio ynddynt. Dangosais am y datguddiad o Grist sydd yn cael ei roddi yn unig gan yr Yspryd. Cefais ryddid i ddangos am ddirgelwch Crist; fod y dyn hwn yn Dduw; yr oedd yr Yspryd yn cydfyned a'r Gair, yr oedd llawer yn teimlo, a llawer yn wylo."

Cyrhaeddodd le o'r enw Pen-heol-y-badd nos Sadwrn. Aeth filltir yn mhellach, i Tonsawndwr, boreu y Sul, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "A hyn yw y bywyd tragywyddol." Yr oedd yr Arglwydd yn bresenol, ac wylai Ilawer. Dangosai fod dydd gogoneddus ar wawrio, gan fod y ceiliogod, sef gwenidogion Duw, yn canu trwy yr holl wlad. Cyfeiriodd yma hefyd at y dirgelwch. Oddiyno aeth yn ei flaen i'r New Inn. "Mab a roddwyd i ni" oedd y testun yma eto, a dirgelwch Crist oedd y mater. Yr oedd gras mawr ar y bobl, a gobeithiai fod gogoniant y Gwaredwr ar lewyrchu ar yr eglwys. Cyhoeddasid Howell Davies i bregethu yn Tonsawndwr dydd Llun; methodd gyrhaedd yno oblegyd afiechyd, a dychwelodd Howell Harris i gymeryd ei le. Cafodd odfa anghyffredin wrth lefaru am gorph pechod. Eithr cafodd lwybr rywsut i fyned at y pwnc oedd yn awr wedi llyncu ei fryd, sef dirgelwch y ddwy natur yn Nghrist. "Yn sicr," meddai, "bendithiodd yr Arglwydd y bobl a mi, ac ymddangosodd ynof, yn gystal a throsof, tra yr oeddwn yn ei bregethu ef a'i ddirgelwch. Dangosodd y cawn yn fuan, trwy ei wirionedd a'i waed, gyfarfod y bobl eto mewn gogoniant, allan o gyrhaedd pechod." Cychwyna am Lanheiddel yn nesaf. Cafodd odfa ryfedd iawn yma, gan deimlo fod yr addewidion iddo yn fwyd, ac yn ddiod, ac yn nerth. Ni chefais y fath wyliau erioed o'r blaen," meddai; "cadwodd y gwin goreu yn olaf. Dywedais, hyd yn nod pe bawn yn Ymneillduwr (dangoswn nad oeddwn yn eu herbyn, ond o'u plaid, gan fy mod yn eu caru), y deuwn at y Methodistiaid, oblegyd gyda hwy y mae yr Arglwydd." Eithr y mae y chwerw yma yn gymysg a'r melus yn barhaus, a chafodd Harris brofi hyny yn Llanheiddel. Fel hyn yr ysgrifena:—

Boreu dydd Mawrth. Cefais ergyd wrth glywed fod y brodyr yn Watford wedi suddo yn ddyfnach i'w cyfeiliornad o wrthod addoli dynoliaeth Crist, a'u bod wedi tynu atynt Mr. Davies, a'r dyn ieuanc oedd gydag ef; a bod rhyw un o honynt wedi galw corph marw ein Harglwydd yn gelain farw. Gyda y baich hwn cefais ffydd i lefain ar i'r Arglwydd ei sancteiddio i mi, i'm darostwng. Cefais ryddid mawr hefyd i weddio dros y brodyr, y rhai ydynt yn llefaru am yr hyn na wyddant eto; yna, daliwyd gogoniant Crist ger fy mron, ei ogoniant o'r cryd i'r bedd, ac yr oedd Duw yn agos ataf."

Pwy oedd y Mr. Davies a gawsai ei hudo gan y brodyr yn Watford, nis gwyddom. Y mae yn amlwg fod pregethu Howell Harris am ddirgelwch person Crist yn dechreu berwi y seiadau; fod yr ymadroddion eithafol ac anwyliadwrus, efallai, a ddefnyddiai ef, yn cynyrchu yr eithafion cyferbyniol; a bod yn rhai yn tueddu i ddefnyddio ymadroddion carlamus. Ychwanega Harris yn ei ddydd-lyfr: "Y mae genyf i fyned i'r Gymdeithasfa; ac mi a awn dan ofn y brodyr, rhag i'r cyfeiliornad hwn gael ei goledd yn eu mysg, oni bai am ffydd. Yr wyf yn meddu goleuni, tynerwch, gwroldeb, ac awdurdod mewn



Nodiadau golygu