Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-07)

Howell Harris (1746) (tud-06) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-08)

llyncu bryd Harris i'r fath raddau fel mai prin y cyfeiriai at un pwnc arall wrth bregethu; yr oedd mor argyhoeddiadol o'i wirionedd, ac o'i bwysigrwydd fel gwirionedd, fel yr oedd yn barod i farw yn hytrach nag ildio modfedd ar y mater. Y mae yn amlwg mai yn mhlith y cynghorwyr y cododd gwrthwynebiad gyntaf i'r athrawiaeth. Diau yr ofnai Harris y buasai Rowland, a Williams, yn y Gymdeithasfa, yn cymeryd eu plaid, ac yn cyduno â hwy i ymosod arno; yn hyny cafodd ei siomi yr ochr oreu; yr hyn a wnaethant hwy oedd darbwyllo y rhai a wrthwynebent i gyfaddef eu bod wedi camddeall ei eiriau, a'u bod wedi cyfodi cwestiynau cnawdol yn nglyn â pherson ein Harglwydd; ac mewn canlyniad i ymostwng wrth ei draed. Os oedd Rowland yn canfod gwrthyni rhai o ymadroddion Harris y pryd hwnw, ni awgrymodd hyny mewn un modd; gosodai hyny i lawr i ddull o eirio, gan gredu eu bod ill dau yr un yn y gwraidd. Nid rhyfedd fod Harris mewn tymher fuddugoliaethus, a'i draed ar yr uchelfanau.

Pa mor orfoleddus y teimlai a ddangosir yn y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd ganddo o Drefecca, dranoeth i'r Gymdeithasfa, at Mr. Thomas Adams, un o gynghorwyr Whitefield, yn y Tabernacl:—

Fy anwyl gyd-weithiwr, a'm hanwylaf frawd,—Yr wyf wedi bod am bythefnos o daith; neithiwr y daethum adref o'r Gymdeithasfa; ac ni fu genyf erioed y fath adroddiad i'w anfon i chwi. Ni ddarfu i'n Harglwydd erioed, yr wyf yn meddwl, ddyrysu cynllwynion y gelyn, a bendithio ei ddrudfawr ŵyn a brynwyd ganddo, ac agor ei gariadlawn fynwes, i'r fath raddau ag yn awr. Er pan ddychwelais, gwnaed fi yn dyst o'i ogoniant a'i fawrhydi. Nis geill tafod fynegu y fath weithredoedd nerthol sydd yn cael eu cyflawni ganddo trwy ddwylaw ei weinidogion yma. mae yr offeiriaid fel seraphiaid fflamllyd; a llawer o'r brodyr lleyg ydynt yn nodedig o lwyddianus. Y mae tair sir-Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi-yn ymddangos fel preswylfeydd arbenig yr Arglwydd, ac yn ganolbwynt y gwaith, fel pe bae. Mewn amryw fanau yn Siroedd Morganwg, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, y maent yn tyfu yn ardderchog, ac er fod y gelyn yn barhaus yn hau ei efrau, eto y mae cariad brawdol a symlrwydd yn ffynu. Y fath yw yr arddangosiad o ogoniant Duw yn ngras Iesu Grist fel, mewn amryw leoedd, y mae yn llwyr orchfygu natur. Y mae amryw yn cael eu bedyddio ag addawedig dân y Glân Yspryd i'r fath raddau, fel y maent yn methu bod yn ddystaw; eu huchel amenau, a'u haleliwia o fawl i'r hwn a'u prynodd, yn fynych sydd yn boddi llais y pregethwr. Treulir llawer o oriau, ïe, nosweithiau cyfain, mewn canu a gweddïo. O ddyddiau gogoneddus! Y mae y ceiliogod yn canu, ac y mae gwawr boreu clir yn tori. Yn sicr, y mae y Cadben ar y maes; yr Arglwydd a ymwelodd a'i deml. Y deillion (ysprydol) ydynt yn cael eu golwg yn ddyddiol; clustiau y byddariaid sydd yn cael eu hagor; y cloffion sydd yn rhodio, a'r meirw yn cael eu cyfodi. Y mae teyrnas ein Duw a'n Crist wedi dyfod i'n mysg; gwae y rhai a wrthwynebant, yn gyhoedd neu yn ddirgel. Yn ein Cymdeithasfa yr oeddym yn fwy hapus nag erioed. Cawsom adroddiadau ardderchog gan y gwahanol arolygwyr am yr eneidiau oeddynt dan eu gofal. Satan sydd mewn dyryswch. Anwyl frawd, ewch yn mlaen yn hyf, sethrir ef yn gyfangwbl heb fod yn hir. Ein Duw a'n bendithia ac a'n llwydda; bydded i ninau bob amser olchi ei draed. Y fory, yr wyf yn pregethu gartref; dydd Llun, yr wyf yn cychwyn ar daith arall. Yn union gwedi fy nychweliad bwriadaf, os Duw a'i myn, fyned i Lundain. Y mae eich ceffyl yn gryf. Ar y daith hon bwriadaf fenthyca ceffyl i'm hanfon o le i le. Una fy ngwraig mewn cofion serchog atoch chwi a'ch priod. Yr eiddoch, yn ein hanwyl Waredwr, How. HARRIS."

Fel yr arfaethasai, cawn ef yn cychwyn i'w daith dydd Llun, Ionawr 13. Ceir ei brofiad wrth fyned yn ei ddydd-lyfr: "Heddyw, cyn cychwyn i daith i Siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, dyrchafwyd fy enaid uwchlaw pechod, ofn, a Satan, a gwnaed fi yn orchfygwr trwy ffydd. Aethum tua Chwmcamlais, pellder o ddeg neu bymtheg milltir; ar y ffordd, fy enaid a adfywiwyd ynof, wrth weled nad oedd genyf yr un Duw ond y dyn Crist Iesu, a'i fod yn Dduw maddeugar, a chariadlawn, yn fy nghyfiawnhau, yn fy mendithio, ac yn fy arwain. Gwelais fod rhyw gyfoeth dihysbydd yn y dirgelwch—Duw wedi ei wneuthur yn gnawd. Cefais ryddid mawr wrth weddio a phregethu oddiar 1 Ioan v. 7; cyfeiriwyd fi yn fwyaf neillduol at y clauar a'r cnawdol, y cyfryw oeddynt wedi ein gadael, ac ymuno a'r Ymneillduwyr;



Nodiadau golygu