Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-08)

Howell Harris (1746) (tud-07) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-09)

dangosais eu bod wedi myned allan o ffordd Duw; pa nifer sydd yn feddw beunyddiol ar win newydd Duw, a bod y gwaith yn ddwyfol, fel y profa yr arwyddion." Nid hawdd deall y cyfeiriad at y rhai oeddynt yn feddw ar win newydd Duw; geill olygu yn y cysylltiad, naill ai mai ychydig o'r Ymneillduwyr, neu ynte fod llawer o'r Methodistiaid felly. Pregethodd yma hefyd am y dirgelwch. Aeth yn ei flaen i Landdeusant, lle y pregethodd oddiar Ioan xvii. 3. Cafodd lawer o nerth; llefarai weithiau yn erbyn proffeswyr erbyn proffeswyr cnawdol, bryd arall yn erbyn y rhai oeddynt yn gyhoeddus annuwiol. Gwelai ei fod yn cael ei arwain mewn gwahanol ffyrdd; weithiau i daranu; bryd arall yn fwy i gysuro ac iachau. Yma eto, cyn gorphen, cyhoeddai y dirgelwch sydd yn Nghrist. "Agorais y cyfan gydag awdurdod," meddai, "gan ddangos fod y dyn hwn yn Dduw, ac mai efe oedd yr unig Dduw." Dydd Mercher, aeth tua Thygwyn. Ei destun yma oedd: "A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen." Yr oedd yn agos at yr Arglwydd wrth lefaru, ac yn ddedwydd; ymddangosai y bobl hefyd yn gariadlawn. Ond ni ddaeth y nerth mawr hyd nes y dechreuodd son am fuddugoliaeth y dyn duwiol trwy Grist ar bechod. Dydd Iau, cawn ef yn Gell-y-dorch-leithe, ac fel hyn yr ysgrifena: "Neithiwr, llamai a neidiai yr wyn, ar ol cael eu porthi ar ddirgelwch Crist; yn awr y mae y goleuni yn dechreu tywynu arnynt." Yn Llangadog, llefarodd gyda chryn nerth a goleuni oddiar 1 Ioan v. 7, ac wrth ei fod yn dangos y gwahaniaeth rhwng canlynwyr Crist a phechaduriaid, llewyrchodd goleuni o dragywyddoldeb ar ei enaid, dysgleiriach na dim a welsai o'r blaen; gwelai y byd hwn fel cysgod gwanaidd o'r un i ddod. Efengylu a wnelai yno, a gwahodd pawb at Grist yn felus; ond ni ddaeth y nerth hyd nes y dechreuodd ymdrin â dirgelwch Crist. "Dangoswn," meddai, "fod ofn yn cilio pan fyddo gogoniant Grist yn ymddangos. Agorais y cwbl, fel arfer, am Grist, yn arbenig am dano yn sefyll yn fud gerbon Pilat, a'i waith yn cymeryd ein pechod a'n heuogrwydd ni arno ei hun, trwy yr hyn y mae Duw yn gallu ymddwyn at y rhai sydd yn credu, fel pe byddent heb bechu. Dangosais, os bu Crist farw dros bawb, yna y rhaid i bawb gael eu rhyddhau, nas gellir eu cospi hwy drachefn. Yr oeddwn yn nerthol wrth ymdrin à genedigaeth, bywyd, dyoddefiadau, a marwolaeth yr Iesu, ac wrth egluro cyffes Petr, Paul, a Thomas. Yma hefyd yr ŵyn a borthwyd.”

Cawn ef yn nesaf yn Llansamlet. Tebygol mai rhyw blwyf yn Sir Forganwg oedd y Llangadog blaenorol. Teimlai yn egwan, ac yn barod i lewygu, ar y ffordd; ond pan y dechreuodd bregethu, daeth nerth corphorol iddo yn ddisymwth. Gwybodaeth benarglwyddiaethol Duw yn Nghrist oedd y mater y llefarai arno, a chafodd ei arwain i roddi arbenigrwydd ar ddirgelwch y gwaed, gan ddangos mai dyma sylfaen yr oll oeddynt yn fwynhau, a llefain ei fod yn barod i fentro tragywyddoldeb ar bwys y gwaed hwn. Yr oedd yn odfa nerthol iawn. Ar y diwedd, cadwyd seiat breifat, ac meddai: "Arosasom yn nghyd hyd ddeg; yr oedd y nerth a'r bywyd yn peri ein bod fel fflam; daeth adref ataf mor agored ydym i ddichellion Satan; eithr cefais lonyddwch wrth gyflwyno y cwbl i law Duw." Amlwg yw fod rhyw arwyddion annymunol yn y cynulliad yn nghanol y gwresawgrwydd, y rhai oeddynt yn eglur i lygad y Diwygiwr. Cawn ef yn nesaf yn Mherllan-Robert. Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saesneg; odfa doddedig ydoedd; ond nid oedd ynddi gymaint o dân, a nerth, a gwaeddi allan, ag a geid dan weinidogaeth yr offeiriaid. "Cefais dynerwch mawr," medd, "wrth gyflwyno fy nghenadwri arferol am ddirgelwch Crist; ymddangosai llawer fel be byddent yn teimlo; ac yr oedd nerth yn cydfyned a'r Gair wrth fy mod yn pregethu am ddirgelwch y Gwaredwr, a dirgelwch y Drindod, ac yn dynoethi rheswm cnawdol." Nos Wener, aeth yn ei flaen i Casilwchwr, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd." Yma clywodd am y boneddwr a gymerasai ei geffyl oddiarno yn agos i Gastellnedd, pan ar ei daith trwy y rhanbarth hwn yn flaenorol, ei fod wedi colli dau o'i geffylau; a'i fod yntau wedi cael ei gymeryd yn sal mewn clefyd, o ba un yr oedd eto heb gael ei adfer. "Llawer ac amrywiol yw y gwersi a ddysgir i mi, gan bob math o bobl wyf yn gyfarfod," meddai Harris; "ond nid wyf yn gweled neb cynddrwg a mi fy hun, na neb yn cael y fath ffafr." Cyfarfyddodd yma hefyd y boneddwr ieuanc, Mr. Dawkins, wrth ei enw, yr hwn a ymddangosai dan gryn deimlad, a chafodd lawer o bleser wrth ymddiddan



Nodiadau golygu