Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-09)

Howell Harris (1746) (tud-08) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-10)

ag ef am bethau ysprydol. "Y mae gwaith mawr yn cael ei gario yn mlaen," meddai; "ordeiniwyd offeiriad ieuanc yma yn ddiweddar, yr hwn sydd yn Gristion. O Arglwydd, ymwel â dy eglwys!" Rhaid fod cyflwr offeiriaid Eglwys Loegr yn ddifrifol yr adeg hon, pan y mae ordeiniad offeiriad oedd yn Gristion yn ffaith i alw sylw arbenig ati, ac i ddiolch am dani.

Dydd Sadwrn, aeth i Pembre erbyn dau; yr oedd y bobl wedi bod yn dysgwyl am dano am bedair awr; syna yntau fel y mae yn colli ei amser yn barhaus, ond dywed nas gallai help. Cafodd ryddid i lefaru yma, ond nid oedd y dylanwad yn fawr. Bwriadai gyrhaedd Llanddowror nos Sadwrn, ond methodd groesi y culfor yn Llanstephan, nes yr oedd yn rhy hwyr i fyned yn mhellach. Modd bynag, ni threuliodd ei amser yn ofer; clywodd y bobl ei fod yn y lle; daeth torf yn nghyd, a chafodd yntau gyfle i lefaru. Yr oedd ei bregeth ar ffurf ei bregethau cyntaf, sef dynoethi cnawdolrwydd a dallineb offeiriaid yr Eglwys, drygioni y boneddigion, ac arferion isel y bobl gyffredin. Ymddengys ei bod yn odfa iw chofio byth. Yr oedd y dylanwad ar deimlad Harris ei hun yn mron yn llethol. Wrth weled fel yr oedd yr Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen, gwaeddai: "Haleliwia! Amen! O felus dragywyddoldeb! Gwelaf yn awr paham y darfu i'r Arglwydd fy nghadw mor hir mewn caethiwed gan ofn angau, sef er mwyn i mi ymgydnabyddu â chelloedd tywyll marwolaeth, ac felly allu cysuro eraill pan fyddont yn croesi." Cyrhaedd odd Landdowror o gwmpas un y Sul; yr oedd yn mhell oddiwrth yr Arglwydd ar y ffordd. Testun y Parch. Griffith Jones ydoedd: "A hon yw y ddamnedigaeth.' Cafodd Howell Harris fendith wrth wrando, ac yn neillduol yn y cymundeb at ddilynai. Eithr pan y soniai yr hen offeiriad am "amodau iachawdwriaeth," teimlai Harris mai Crist oedd ei amod ef, a'i deitl i holl fendithion y cyfamod. Aeth i Merthyr, yn Sir Gaerfyrddin, erbyn y nos, lle y cafodd odfa felus.

Dydd Llun, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Glancothi, a a chyrhaeddodd Howell Harris yno o gwmpas dau. Yr oedd Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn bresenol, yn nghyd a Benjamin. Thomas, y gweinidog Ymneillduol; ond nid yw Harris yn croniclo unrhyw ymdriniaeth ar faterion, na dim a ddywedwyd gan neb ond efe ei hun. Fel hyn yr ysgrifena: "Cefais agosrwydd mawr at yr Arglwydd yn y weddi; gostyngwyd fy nghalon, a daeth yr Arglwydd i lawr pan y dangoswn fel yr oedd llygaid pawb arnom, ac yr anogwn i wyliadwriaeth, a pheidio rhoddi tramgwydd i neb mewn dim. Eglurais fod ymddwyn yn wahanol yn profi diffyg cariad at eneidiau. Yr oeddwn yn rymus wrth ddangos yr angenrheidrwydd am ostyngeiddrwydd, a thra y caem ein cadw yn y llwch y byddai i'r Arglwydd ein hanrydeddu. Disgynodd Duw i'n plith; toddwyd llawer, ac wylent yn hidl. Eisteddasom am o bedair i bum' awr; yr oedd yr Arglwydd yn ein mysg mewn modd neillduol, gan roddi i ni gariad a doethineb i ddyoddef ein gilydd, tra yr ymdriniem a materion o'r pwysigrwydd mwyaf, ac am y rhwyg a geisiai Satan ei wneyd yn ein plith. Yr oeddem oll yma. yn ostyngedig, ac mewn undeb." Yna, cronicla anerchiad a draddodwyd ganddo; dywed iddo gyfeirio at ddirgelwch Crist; fel yr oedd angau Crist wedi dinystrio marwolaeth; fel yr oedd corph ac enaid ein Hiachawdwr mewn undeb a'i dduwdod tra ar wahan oddiwrth eu gilydd; fel y cawsai y dirgelwch hwn ei ddatguddio iddo ef gyntaf, ac fel na bu yntau yn anufudd i'r weledigaeth nefol. Dangosai hefyd fel yr oedd Satan yn ceisio peri i rai gyfeiliorni, trwy wrthwynebu yr ymadrodd, cymhwysiad o'r gwaed," gan ddewis yn hytrach y term, "derbyniad o Grist," a thrwy hyny ddynesu at athrawiaeth yr Antinomiad, sef cyfiawnhad er tragywyddoldeb mewn sylwedd, a chyfiawnhad gweithredol pan fu Crist farw. Cydunai y brodyr a phob gwirionedd a draethai. Yr oedd yn nerthol ac yn agos wrth ddangos fod Duw wedi caru yr etholedigion er tragywyddoldeb, a Christ, fel eu pen, wedi marw dros eu pechodau oll, ac yn eu lle; ac eto eu bod yn farw, ac yn wrthrychau digofaint Duw, hyd nes y caffont eu geni drachefn, ac y credont, ac y caffo Crist ei gymhwyso atynt. Yr oedd pawb yn gweled lygad yn llygad, ac ymadawyd yn hyfryd o gwmpas naw.

Er hwyred ydoedd, aeth Rowland, Williams, Pantycelyn, a Harris, i Glanyrafonddu i letya, ac yr oedd yn ddeuddeg o'r gloch arnynt yn cyrhaedd. Wrth ochr Williams y marchogai Harris, a chafodd fendith hyfryd yn y gymdeithas. Dydd Mawrth, pregethai Rowland yn nghapel Abergorlech. Meddai Harris: " Clywais



Nodiadau golygu