Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-10)

Howell Harris (1746) (tud-09) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-11)

y bregeth fwyaf ardderchog, gan ŵr mawr Duw, oddiar Salm cv. 14, 15." Ymddengys fod yr Arglwydd yn agos hefyd yn y sacrament. Gwelai Howell Harris dri dirgelwch mawr, Duw, Crist, a'r eglwys; am y diweddaf, canfyddai ei bod yn ogoneddus yn wir. Wrth ei fod yn siarad am y dirgeledigaethau hyn, tramgwyddodd rhai; ceryddodd yntau hwy am yr hyn a welai allan o le ynddynt; ond yr oedd undeb anwyl rhyngddo a'r brawd Rowland. Wedi dychwelyd i Glanyrafonddu, pregethodd Rowland drachefn, oddiar Joel iii. 13; odfa anghyffredin oedd hon eto; yr oedd enaid Harris yn fflam o'i fewn; gwelai yn Rowland yr un yspryd ag oedd ynddo ef ei hun. Ymddengys fod gorfoleddu mawr yn y cyfarfod hwn. Cynghorodd Harris mewn modd brawdol y rhai oeddynt ar dân gan gariad, a theimlad o fuddugoliaeth, ac yr oeddynt hwythau yn ddigon gostyngedig i dderbyn y cynghor. Aeth y cyfeillion yn nghyd dydd Mercher i Lwynyberllan; pregethodd Rowland yma eto ar Jer. xxxiii. 6; cafwyd yma arwyddion amlwg o bresenoldeb yr Arglwydd. Llefarodd Harris yma hefyd, a dywed fod ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Yna, wedi bod yn ddedwydd tu hwnt yn nghymdeithas y brawd Rowland, cyfeiriodd Howell Harris ei wyneb tuag adref. Yr oedd yn Bronydd dydd Iau, yn Nolyfelin dydd Gwener, a chyrhaeddodd Drefecca y noson hono, wedi taith o yn agos i bythefnos. Dengys y cofnodau fod dirgelwch person Crist yn parhau i fod yn brif wrthddrych myfyrdod Harris; mai dyna a bregethai braidd yn mhob lle; ac ar y cyfan, nad oedd fawr gwrthwynebiad i'r athrawiaeth a gyhoeddai yn cael ei ddangos. Yn arbenig, yr oedd Daniel Rowland ag yntau mewn undeb perffaith.

Y peth cyntaf a wnaeth wedi myned adref oedd sefydlu math o gyfarfod chwechwythnosol, agored i bawb oedd yn llefaru. Trefn y cyfarfod oedd pregethu am ddeg; yna, seiat breifat a chariad-wledd i'r holl aelodau allent ddyfod, o bob cyfeiriad; a chwedi hyny, Cymdeithasfa i'r cynghorwyr, nid yn gymaint er trefnu materion, ag er gweled gwynebau eu gilydd yn yr Arglwydd. Y tro hwn pregethodd Harris; ei destun oedd: "Mawr yw dirgelwch duwioldeb;" a llanwodd Duw y lle a'i bresenoldeb. Yn y seiat, drachefn, deuai y dylanwadau nefol i lawr yn ddidor. Amddiffynai Harris y gorfoleddu yn yr odfaeon, gan gyfeirio at Dafydd yn dawnsio o flaen yr arch, a Christ yn marchog mewn buddugoliaeth i Jerusalem, fel profion. Wedi ciniawa, cyfarfyddasant yn y Gymdeithasfa; yr oedd yr Arglwydd yn eu mysg fel fflam dân; nis gallant ddweyd yr un gair am amser, ond llefain, “Gogoniant! Gogoniant! Haleliwia !" Wedi cael seibiant, siaradodd Harris am falchder, diogi, a difaterwch, a'u bod trwy y peth hyn yn gofidio y rhai oedd yn agos at Dduw. "Agorasom ein holl galonau i'n gilydd," meddai; "rhai o faglau Satan a ddrylliwyd, a'r Arglwydd a ymddangosodd drachefn i rwystro y rhwyg oedd Satan wedi arfaethu. Siaradais a'r brawd Beaumont gyda golwg ar rai ymadroddion tywyll a arferai. Daeth yr Arglwydd arnom eto fel fflamau tân; yr oeddem yn llawn cariad, a llawenydd, a chanem fuddugoliaeth. Gwedi swpera, a siarad yn breifat, ymadawsom, yn feddw gan win newydd Duw." Y mae yn sicr fod y cyfarfodydd yn llawn bywyd a hwyl, ac fod y dylanwadau yn dra nerthol.

Ddechreu Chwefror, aeth Howell Harris i Lundain, i gyflawni dyledswyddau ei swydd fel arolygwr cyffredinol yr eglwysi Saesneg. Er fod y cyfrifoldeb yn fawr, nid oedd heb ymdeimlo a'r anrhydedd a rodded arno; pan yn synu at ddaioni Duw tuag ato, cyfeiria drosodd a throsodd at y ffaith ei fod wedi cael ei osod yn ben yr achos yn Lloegr. Nid oedd yn amddifad o uchelgais; ac yr oedd ei safle uchel a phwysig yn foddhad i'r cyfryw deimlad. Bu yn Llundain am dros fis, ac yr oedd llywodraethu y brodyr bron yn ormod o dasg iddo. Nis gallwn fanylu ar yr hanes, er ei fod wedi ei ysgrifenu yn llawn, am nad yw yn perthyn yn hanfodol i Fethodistiaeth Cymru. Ar ei ffordd adref, daeth Harris i Gymdeithasfa Bryste, a gynhelid Mawrth 7fed a'r 8fed. Heblaw helyntion mewnol, yr oedd perthynas y seiadau a'r Morafiaid yn peri trafferth, at phenderfynodd y Gymdeithasfa anfon llythyr at y cyfundeb llythyr at y cyfundeb Morafaidd, fod galwad arni i sefydlu achosion yn Swydd Wilts. Dywed y cofnodau fod cryn lawer o annhrefn a chyffro yn y Gymdeithasfa, oblegyd yr annhueddrwydd a ddangosai Herbert Jenkins i gydweithredu a'i frodyr. Dychwelodd Harris adref, gan bregethu mewn amryw leoedd yn Sir Fynwy ar y ffordd, megys Llanfaches, Goetre, a'r New Inn. Yn y lle diweddaf, cynhaliwyd math o Gymdeithasfa, a chafodd gysur dirfawr o herwydd agwedd ymostyngar, a



Nodiadau golygu