Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-15)

Howell Harris (1746) (tud-14) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-16)

ar waed Crist, a'm bod yn addoli y Dyn (Crist), ac yn defnyddio y term 'Oen,' dywedais ddarfod i mi gael cipolwg ar ogoniant person Crist cyn i mi wybod fod y fath bobl a Morafiaid; ac mor bell ag y maent yn pregethu y dirgelwch, fy mod yn cyduno â hwynt; ond nad oeddwn wedi derbyn dim oddiwrthynt, ond oddiwrth yr Arglwydd. Pan y defnyddiwn y gair 'Oen,' ei fod yn felus i mi, ond fod genyf ryddid i arfer holl enwau yr Iesu; fod un enw yn cael ei wneyd yn felus i mi yn awr, ac un arall bryd arall, ond nad oeddwn i yn digio oblegyd eu bod hwy yn defnyddio unrhyw un o'r teitlau, ac na ddylem ymyraeth â rhyddid ein gilydd yn hyn. Dywedais, yn mhellach, nad oeddwn yn adwaen un Duw allan o Grist; fy mod yn gweled yr oll o'r Duwdod yn y Dyn hwn, gan fod y Tad a'r Mab yn un; a phan yr edrychaf ar Dduw yn fy rheswm, fy mod yn ei weled yn Dduw mawr, ond yn Nghrist fy mod yn gweled ei anfeidroldeb. Grwgnachai (Rowland) am fy mod yn defnyddio y term dirgelwch, ond atebais fod Paul yn cyfeirio at ddirgelwch Crist yn fynych. Yr oedd yn dra anystwyth pan y datganwn mai am heddwch, a chariad, a thynerwch yr oeddwn i, a'u bod hwy (y Morafiaid) yn blant megys ninau, a'n bod ni yn ffaeledig fel hwythau; a'n bod o'r ddwy ochr yn cael ein hanrheithio gan yr unrhyw falchder, yr hyn yw ein pechod. Dywedodd ddarfod iddo fy nghlywed yn pregethu Antinomiaeth; atebais nas gwyddwn pa ymadroddion anwyliadwrus a allwn fod wedi ddefnyddio, ond os nad oeddwn yn camddeall beth a feddylir wrth Antinomiaeth, nad oeddwn yn dal cymaint a brigyn o'r fath athrawiaeth. Ar yr un pryd, fy mod yn gweled rhyddid gogoneddus yn yr efengyl, a'm bod wedi cael fy arwain i wahaniaethu rhwng goruchwyliaeth y ddeddf a goruchwyliaeth yr efengyl, am fod y cyntaf yn pwyso ar y llythyren, tra yr oedd y diweddaf yn gynyrch Yspryd yr Arglwydd. Hysbysais ef fy mod wedi ei glywed ef yn pregethu y cyfryw athrawiaeth yn llawer mwy nag yn awr, sef am gyfiawnhad, a chyfiawnder Crist, yr hwn sydd wedi ei orphen; a chan mor ychydig a glywn ganddo am y gwirioneddau gogoneddus hyn yn awr, fy mod yn cael. fy nhueddu i feddwl eu bod ganddo yn ei ddeall, ond nid yn ei galon. Dymunais arno gyfeirio at yr ymadroddion an-Ysgrythyrol a ddefnyddiaswn, fel y gallem fyned yn y blaen megys brodyr, heb eiddigeddu wrth ein gilydd; eithr atebodd nad oedd yn eu cofio. Hysbysais ef, yn mhellach, yr awn yn mlaen heb ofni unrhyw frawd, gan mai oddiwrth yr Arglwydd y derbyniaswn fy nghenadwri a'm gweinidogaeth; fy mod yn cychwyn wrthyf fy hun, ac yr awn yn mlaen wrthyf fy hun. Ond mai dolurus fyddai myned yn mlaen fel yn awr, ac yr ymneillduwn i Loegr hyd nes y byddai yr ystorm drosodd. Gofynais iddo, a oedd yn tybio ei fod yn gweled mor ddwfn i ddirgelwch Crist yn awr ag y gwnai yn mhen deng mlynedd eto? Ond gyda golwg ar y dull o gyflwyno y gwirioneddau ysprydol hyn y dylem fod yn dyner, a chyd-ddwyn a'n gilydd, fel na byddom yn peri i'r naill y llall ddweyd yr hyn a ewyllysiwn ni. Ond yr oedd yn dra ystyfnig; er fy mod yn gobeithio y bendithia yr Arglwydd rywbeth iddo. Nid oes ond Duw a all rwystro ymraniad yn awr. Cyfeiriais at falchder y bobl oedd gyda hwy (yr offeiriaid); hefyd at eu hyspryd beirniadol, nad ffrwyth yr Yspryd oedd hwnw. Yna, wedi ymddiddan ag ef, mi a gludais fy maich, ac a'i teflais gerbron yr Arglwydd; yna, ysgrifenais fy nydd-lyfr hyd ddeuddeg o'r gloch."

Y mae cofnodi yr anghydfod hwn rhwng y ddau, ag y gellir edrych arnynt yn allanol fel dwy golofn y diwygiad, yn orchwyl blin. Rhaid cofio mai un tu i'r ddalen yn unig a gawn yma, a phe y byddai yn bosibl cael adroddiad Daniel Rowland o'r helynt, y mae yn sicr y caem hanes tra gwahanol. Gwelwn, hefyd, ddarfod i Howell Harris ysgrifenu yr adroddiad yn nghanol teimladau cyffrous, pan yr oedd digllonedd chwerw yn berwi ei yspryd; ac y buasai ef ei hun yn mhen amser gwedi, ar ol i'r ystorm basio, yn debyg o gymedroli llawer o'i eiriau. Ond i fyned yn mlaen a'r dyddlyfr: "Aethum i lawr i wrando Williams, Pantycelyn, yn pregethu; cawsom bregeth ragorol iawn, ar undeb y credinwyr; a saethodd i fy meddwl mai yr Arglwydd a roddasai y mater iddo. Gwelwn y fath wrthwynebiad i'r undeb hwn, fel nas gallai neb ond yr Arglwydd eu symud. Gwedi hyny pregethodd y brawd Howell Davies yn Saesneg, oddiar Joshua i. 9. Yr oedd yr ymadroddion yn gymhwys i mi; yr oeddwn yn eu credu mewn ffydd; ond yr hyn y teimlwn ei eisiau oedd cymhwysiad uniongyrchol o honynt ataf. . . . Gwedi hyn aethum i'r Gymdeithasfa, yr hon a



Nodiadau golygu