Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-16)

Howell Harris (1746) (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-17)

ofnwn mor fawr, oblegyd y rhagfarnau oeddynt wedi cripio i feddyliau y brodyr yn erbyn eu gilydd. Yr oeddwn yn Ilwythog; a dangosodd yr Arglwydd ragfarn y brawd Rowland yn erbyn y brodyr. Addefai nad oedd yn teimlo yn rhydd at lawer; ei fod yn dirmygu anwybodaeth y brodyr. Pan ofynwyd syniad y frawdoliaeth am danaf fi, dywedodd rhai eu bod yn ofnus am danaf, fy mod yn gwyro at Antinomiaeth a Morafiaeth. Atebais nad oeddwn wedi cyfnewid mewn unrhyw bwnc o ffydd er pan y cawswn fy ngwreiddio yn athrawiaeth etholedigaeth; yn unig ddarfod i mi arfer rhai ymadroddion tywyll gyda golwg ar berffeithrwydd, ryw chwech mlynedd yn ol, ond hyd yn nod y pryd hwnw na olygwn berffeithrwydd dibechod, a phan y deallais fod y brawd Wesley yn golygu hyny, i mi ddatgan yn ei erbyn. Ymdrechodd y brawd Rowland brofi fy mod yn gyfnewidiol, yn gwrthddweyd fy hun, yn dra anwireddus, ac yn Antinomiad. Dywedais fel y synwyd fi pan yr hysbysodd fi gyntaf fod llawer yn edrych arnaf fel un cyfnewidiol, hyd nes y cofiais fy mod wedi gweddïo yn daer am i'r Arglwydd fy narostwng yn marn y brodyr, rhag iddynt feddwl yn rhy uchel am danaf, ac y saethodd i fy meddwl mai dyma y ffordd oedd Duw yn gymeryd i ateb fy ngweddi. Am fy ngweinidogaeth, dywedais fy mod wedi ei derbyn gan yr Arglwydd a'm bod yn sefyll neu yn syrthio i fy Meistr fy hun. Gyda golwg ar y brodyr, fy mod yn eu caru ac yn eu hanrhydeddu yn yr Arglwydd, nas gallwn oddef iddo (Rowland) eu dirmygu; ond am eu ffaeleddau, fy mod yn gobeithio y byddai i'r Arglwydd a'u hanfonodd eu symud, a'u cymhwyso hwythau i'w gwaith fwy fwy. Dywedais wrtho fy mod yn caru ac yn gwerthfawrogi ei weinidogaeth, a'm bod yn ei anrhydeddu yntau yn y pwlpud; ond am dano allan o'r pwlpud, fod yn ddrwg genyf drosto; ac os oedd yr hyn a glywswn am dano yn wir, fod yn anhawdd genyf feddwl fod y fath swm o hunan a balchder yn perthyn iddo. Oni bai fy mod yn credu ddarfod iddo gael ei anfon gan Dduw, nas gallwn aros gydag ef; ond yn awr y caffai wneyd yr hyn a fynai, a dweyd yr hyn a fynai. Gan ei fod yn credu yn y Gair fel rheol, y buasai yn dda genyf pe bai y cyfryw yn cael ei ddwyn adref at ei gydwybod; ac nad oedd yr ymadroddion llymion, ffraeth, a chnawdol a ddefnyddiai yn dyfod oddiwrth yr Ysryd. Cawsom ymddiddan am sancteiddhad, a phan y cyfeiriasant at gyfaddasder i ddyfod at Grist, sef argyhoeddiad, sefais i fynu i wrthdystio, a dywedais fy mod yn dyst yn erbyn; fy mod i, a llawer eraill, wedi cael ein tynu gan gariad; ac nad oes dim yn angenrheidiol er iachawdwriaeth, ond cymhwysiad o gyfiawnder Crist. Darfu iddo ef (Rowland) a llawer o rai eraill ddatgan yn erbyn fy ngwaith yn pregethu y gwaed, am (1) nas gallent dderbyn yr athrawiaeth; (2) am gallasai Duw farw; (3) am na ddylid pregethu dirgelwch nas gellir ei esbonio. Dywedais fy mod wedi derbyn hyn gan Dduw, ac nid oddiwrth ddyn, ac y gwnawn ei bregethu; y gwnai Duw dori ffordd i mi trwy ddiaflaid a dynion; a phe y baent oll yn sefyll yn erbyn, nad oeddwn yn edrych. arnynt yn fwy na gwybed. Nad oeddwn yn gofidio am ddim ond oblegyd eu hanwybodaeth hwy am y dirgelwch, yr hwn yw fy mwyd i. Dangosais na ddarfu i Dduw ddyoddef, ac nas gallasai; ond i'r Duw-ddyn ddyoddef; nid y Dyn na'r Duw ar wahan, ond y ddwy natur yn nghyd; ac na welais i erioed mo hono yn Ddyn, ond yn Dduw yn ogystal. Pe y buaswn wedi ei weled yn y preseb, y gwnaethwn ei addoli; ac yr addolaswn ei gorph marw cysegredig ar waelod y bedd, am fod y corph mewn undeb a'r Duwdod, yn gystal a'i enaid yn mharadwys. Am yr athrawiaeth hon, dywedais fy mod yn foddlon ei selio â fy ngwaed; ac hyd nes y darfu i mi ei chredu, nad oeddwn wedi fy rhyddhau rhag ofn angau. Datgenais fy mod yn caru y Morafiaid, am fy mod yn credu eu bod yn perthyn i'r Arglwydd; ond oddiar fy adnabyddiaeth gyntaf o honynt, nad oeddwn wedi cyduno a'r oll o'u daliadau, a'm bod wedi pregethu yn erbyn eu cyfeiliornadau yn Llundain ac yn Hwlffordd, gan rybuddio y brodyr yn erbyn y cyfryw gyfeiliornadau. Pan y dywedent (yn y Gymdeithasfa) fy mod yn addoli gwaed Crist, dywedais fy mod, fel rhan o Grist, gan nad oedd un rhan o hono ar wahan oddiwrth ei Dduwdod. Pan y dywedasant fy mod wedi cyfnewid yn fy null o bregethu, fy mod ar y cyntaf yn taranu, a chwedi hyny yn cyhoeddi rhad ras, ac yn ganlynol ffrwythau ffydd, atebais fod yr oll trwy yr un Yspryd; fy mod yn cael fy arwain i daranu yn awr weithiau, ond fod yn rhaid i mi bregethu fel ei rhoddir i mi. Addefais nad oeddwn, oblegyd fy nghnawdolrwydd a'm pechod, yn chwilio



Nodiadau golygu