Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-20)

Howell Harris (1746) (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-21)

iddo ymddigio, ond fy ngwaith yn glynu wrth y brawd Beaumont, a thrwy hyny gyfiawnhau yr hyn nad yw yn iawn. Yr wyf yn gobeithio ddarfod ein huno eto yn y gwirionedd. Dywedais wrth Rowland ei fod wedi pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth. Gwadodd hyn, a maentymiai ei fod yn edrych arnaf fel cenad Duw, ond addefai ei fod yn edrych i lawr ar y cynghorwyr. Arglwydd, dinystria y teimlad hwn ynddo. Creda hyd yn nod yn awr fy mod yn rhy dyner at y Morafiaid; ond am heddwch yr wyf fi, a chariad, a thawelwch yn nhŷ yr Arglwydd."

Aeth y ddau i Lwynyberllan. Pregethodd Howell Harris ar ogoniant yr eglwys; yna llefarodd Daniel Rowland oddiar Mat. ix. 49, a chafodd odfa nerthol tu hwnt. Yma ymadawent; aeth Harris i Bronydd, lle yr oedd nerth a dylanwad yn cydfyned a'r genadwri; oddiyno i Merthyr, Erwd, Llanfair-muallt, a Llangamarch. Yr oedd goleuni a nerth anarferol yn cydfyned a'i eiriau yn y lle diweddaf. Boreu y Sul dilynol yr oedd yn Dolyfelin; oddiyno aeth yn ei flaen i Rhaiadr, lle yr oedd mewn cadwyn wrth geisio llefaru, a chyrhaeddodd Tyddyn y noswaith hono. Yr oedd. cynulleidfa anferth wedi dod yn nghyd yma, a chafodd yntau odfa dda. Gwedi y bregeth buwyd mewn seiat breifat hyd ddeuddeg o'r gloch. Am waed Crist, ei Dduwdod, ei ogoniant, a'i ddirgelwch, y llefarai Harris yn y seiat; dywedai mai dyma y sail, a bod Duw a ninau yn un yn y fan yma. Dywedai, yn mhellach, fod pump peth yn cael eu priodoli yn yr Ysgrythyr i waed Crist (1) Anfeidrol rinwedd, (2) Gallu i ddofi anfeidrol lid, (3) Ei fod wedi diddymu angau i'r credadyn, (4) Wedi diffodd y tân tragywyddol iddo, (5) Ac wedi dwyn i mewn fendithion annherfynol. "Nid oes un Duw ond Crist," meddai; "ac os wyt wedi dy uno â Christ, yr wyt wedi dy uno a'r oll sydd Dduw." Er hwyred ydoedd pan y gorphenwyd y seiat, nid aeth Howell Harris i'w wely, eithr arosodd i lawr trwy gydol y nos, yn anerch ac yn rhybuddio y cynghorwyr. Tranoeth, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yma. Nid yw yn ymddangos fod yr un o'r offeiriaid yn bresenol, ond daeth lliaws o'r cynghorwyr yn nghyd; dechreuent hwy edrych ar Harris fel eu cadben. Athrawiaethodd yntau ar y dirgelwch, gan ddangos fel yr oedd ei enaid mewn undeb ag enaid Crist, a'i gorph â chorph Crist am dragywyddoldeb,

Eglurodd yn nesaf y modd yr oedd rhaniadau yn dyfod i'w mysg, sef trwy fod rhai yn rhoddi arbenigrwydd ar un gwirionedd, megys cyfiawnhad, gan alw y rhai sydd yn pwysleisio ar sancteiddhad yn rhai deddfol; tra yr oedd eraill yn rhoddi arbenigrwydd ar sancteiddhad, ac yn galw y rhai a bwysleisient ar gyfiawnhad yn Antinomiaid. Ymdriniwyd yno ag athrawiaeth y Drindod, ac am undod y Duwdod. Cronicla ei fod mor lluddedig gan feithder ei daith, a'r nifer o weithiau yr oedd wedi pregethu, fel nas gallasai fwyta. Ymadawodd o gwmpas pedwar dydd Llun, a chafodd gerydd am rywbeth gan ryw gyfaill anwyl, yr hyn oedd yn dra dolurus i gnawd, ac hyd yn nod i ras.

St. Harmon, ar derfyn Sir Faesyfed, yw y lle y mae yn ymweled ag ef yn nesaf; gwedi hyny y mae yn nhŷ un Hugh Edwards. Yma cafodd ei gymeryd i fynu yn anarferol gan ogoniant corph yr Arglwydd Iesu, a rhed yr ymadrodd, "Bwyta ei gorph, ac yfed ei waed," yn barhaus trwy ei feddwl. Gwedi hyny cawn ef yn cyfeirio ei gamrau tua thŷ William Evans, Nantmel. Ar y ffordd, fel yr oedd dylanwad personol Daniel Rowland yn gwanhau ar ei deimlad, ymddengys fod yr hen gweryl yn cael lle mwy yn ei feddwl. "Gwelais yn glir," meddai, "fel yr oedd Duw wedi fy nghadw yn y canol rhwng pob cyfeiliornadau, ac fel y darfu i'r brawd Rowland, trwy fy ngwrthwynebu, leddfu fy ngwroldeb, a a gwanhau fy mreichiau. Gwelais fod gogoniant Duw wedi cilio allan o'i galon, a hunan wedi cripio i fewn. Gwelais y cyfodai Duw fi i fynu, ac y safai o'm plaid." Y mae yn syn darllen fod y fath deimladau annheilwng yn cael lle yn ei feddwl am ei gyfaill, yr un y dawnsiai mewn gorfoledd ychydig ddyddiau cyn hyny, oblegyd cael heddwch ag ef. Nid yw yr ymdoriad hwn yn un clod i ben na chalon Howell Harris. Ond nid croniclo hanes dynion perffaith yr ydym. Yr oedd yn bur ddolurus ei galon wrth fyned i dy William Evans; ymddengys fod yr hen gynghorwr o Nantmel yn un o bleidwyr Daniel Rowland yn Nhrefecca. Ond cafodd undeb yspryd a'r brawd, ac ymadawsant wedi deall eu gilydd yn well. Yn nesaf, aeth i dŷ y brawd Buffton, lle y pregethodd ar waed Crist, gan, ar yr un pryd, anog y brodyr i gyd-ddwyn a'u gilydd. Yr oedd James Beaumont wedi pregethu yn flaenorol ar ddirgelwch Duw. Eisteddasant



Nodiadau golygu