Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-21)

Howell Harris (1746) (tud-20) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-22)

yn nghyd yn breifat hyd yr hwyr, gan agor eu calonau i'w gilydd, a symud rhagfarnau. Yr oedd Beaumont yn myned gryn lawer yn mhellach na Harris yn ei ymadroddion; ac amddiffyn Beaumont oedd un o'r cyhuddiadau a roddid yn erbyn Harris. Buy Diwygiwr yma ar ei oreu yn ceisio cymedroli rhai o syniadau Beaumont, yn arbenig ei esboniad ar yr ymadrodd, "Bwyta corph ac yfed gwaed" ein Harglwydd. Dywedai wrtho, hyd yn nod os oedd y gwirionedd ganddo, nad oedd yr amser i'w gyhoeddi wedi dyfod eto. Yna, aeth trwy Dolyberthog, Llansantffraid, Ty'ncwm, a Dolywilod, dychwelodd i Drefecca, ar ol taith o yn agos i dair wythnos. Y mae un nodiad am ei helynt yn Llansantffraid yn haeddu ei gofnodi. "Cefais lawer o ryddid," meddai, "i siarad ag offeiriad y plwyf, Mr. Williams. Ceisiais hefyd ei dyneru at y brawd Beaumont, yr hwn oedd wedi ei dramgwyddo, fel y mae wedi tramgwyddo llawer o rai eraill." Profa y difyniad fod athrawiaeth Beaumont yn dyfod yn gyffredinol anghymeradwy, a da fuasai i Harris beidio gwneyd cymaint cyfaill o hono.

Tranoeth i'w ddychweliad, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca; nid oedd un o'r offeiriaid ynddi, a Howell Harris a lywyddai. Llefarodd yn helaeth am waed Crist, a rhoddodd gyfarwyddiadau i'r cynghorwyr pa fodd i ymddwyn, gan ei fod ef ar fyned i Lundain. Bu priodas y cynghorwr Thomas Jones hefyd dan sylw, a'r hyn y cytunwyd. Derbyniodd Howell Harris Grynwr i'w dŷ, yn Nhrefecca, i letya, fel y gallai fwynhau breintiau y lle. Ai nid dyma flaenffrwyth "teulu" Trefecca? Trefecca? Dywed iddo hefyd gael ei gyfarwyddo gan yr Arglwydd i anfon ei geffyl i'r cynghorwr Thomas James. Tua chanol Awst, y mae yn cychwyn am Lundain, ac ar ei ffordd yno yn tramwyo rhanau helaeth o Siroedd Morganwg a Mynwy, gan bresenoli ei hun yn y Gymdeithasfa Fisol yn y Groeswen. Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno; felly, efe a lywyddai. Nid yw yn ymddangos ei bod yn Gymdeithasfa hollol hapus. Yr oedd cryn wrthwynebiad yn Watford a'r Groeswen i arddull ei weinidogaeth; yn wir, oddiyma y cychwynasai y gwrthwynebiad. "Aethum i fysg y brodyr, sef y pregethwyr," meddai; "dywedais wrthynt nad oeddwn yn eu clywed yn cwyno digon am eu hanwybodaeth o Dduw a Christ, a'u tuedd at Antinomiaeth; a'm bod yn ofni am danynt nad oeddynt yn argyhoeddedig o'u hanwybodaeth, neu ynte, eu bod yn rhy hunanol i'w addef. Cyfaddefent ychydig o hyn, ond yr oeddynt yn dramgwyddedig am nad oeddwn yn gwahaniaethu yn ddigon clir (yn fy ngweinidogaeth). Yna, agorais iddynt y geiriau, Bwyta cnawd Mab y Dyn,' fel y gwnaethum yn Aberthyn. Čeisiais hefyd symud ymaith eu maen tramgwydd. Ceryddais eu balchder, ond ni dderbyniwyd ef. Agorais fy nghalon iddynt, fel yr egyr tad ei galon i'w blant, fy mod yn credu yn y Drindod, ond fod fy ffydd yn rhy wan i ymborthi ar yr athrawiaeth, nac i'w phregethu; ond fy mod yn cael fy ngalw i bregethu undeb person Crist, ac mai dyma fy ymborth. Perswadiais hwy nad oeddwn am ymuno a'r Morafiaid. Yna, aethum ymaith tua Watford a'm calon yn drom." Ar y ffordd yno, teimlai bwysigrwydd y lle a lanwai; ei fod wedi cael ei osod yn mysg y tadau yn nhŷ Dduw, ochr yn ochr a'r offeiriaid ordeiniedig.

Gellid meddwl fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn rhanol yn Watford, yn gystal a'r Groeswen. A boreu tranoeth, cyfarfyddodd Harris a'r cynghorwyr drachefn yn Watford, gan eu hanerch gyda golwg ar ei berthynas ef â hwy. "Dangosais i'r brodyr ieuainc eu lle," meddai, "a'm lle inau; a'r modd yr oeddwn yn teimlo fod yr Yspryd Glân wedi fy ngosod fel tad dros y cynghorwyr; mai fy nghynorthwywyr i ydynt; ond nad oeddynt yn caniatau i mi awdurdod tad i'w ceryddu; ond fy mod yn cael fy nghateceisio ganddynt, a'm dwylaw yn cael eu gwanhau, a'm gweinidogaeth ei rhwystro, ac yr ymddangosent i mi fel wedi ymgolli mewn balchder. Dywedais fy mod yn argyhoeddedig ddarfod i mi fyned yn rhy bell wrth geisio eu boddloni, ac egluro fy hun, a darostwng fy hun iddynt. Ceryddais hwynt am eu balchder, a'u diffyg gofal am ogoniant Duw. Toddodd un o honynt wrth fy mod yn gweddïo; dywedodd un arall fy mod yn dwyn cyfeiliornadau i'r eglwys. Gofynais gan Dduw faddeu iddo, ac aethum i ffwrdd." Na, nid oedd yn Gymdeithasfa hapus. Ceir awgrymiadau fod Howell Harris yn trin y cynghorwyr gyda llaw uchel, a'i fod yn dysgwyl ymostyngiad personol a gwarogaeth iddo ef oddiwrthynt; a'i fod yn ystyried ei hunan yn ben arnynt, rhagor Daniel Rowland, a'r ddau offeiriad arall.



Nodiadau golygu