Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-25)

Howell Harris (1746) (tud-24) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-26)

land. Yn Gelligaer, ar y ffordd yno, ysgrifena: "Yr oeddwn yn caru y brawd Rowland; teimlwn nas gallwn ymadael ag ef, er ei fod ef yn foddlon ymadael â mi; ond am frawd arall-Benjamin Thomas—y mae yn gorwedd yn bwysau arnaf, a gweddïais ar i'r Arglwydd ei ddarostwng." Cyrhaeddodd y Gymdeithasfa yn y prydnhawn. Ar y cyntaf, yr oedd pawb yn dra dystaw, fel pe byddent arnynt ofn eu gilydd; yna, dechreuodd Harris agor ei fynwes, gan ddatgan fod y brodyr wedi pechu yn ei erbyn, trwy goleddu drwgdybiau am dano, ac eiddigedd at yr athrawiaethau a bregethai, a'i wresawgrwydd wrth draddodi. Cyfaddefodd Rowland ei fod ar fai wrth ddarllen gormod ar lythyrau yn achwyn arno, ac y teimlai yn hollol rydd at Harris a'i weinidogaeth, ond iddo wadu pwyntiau neillduol y Morafiaid. Atebodd yntau na fu yn eu coledd erioed; ei fod wedi pregethu yn eu herbyn yn Llundain, ac yn erbyn yr Antinomiaid wrth eu henwau. Yna, agorasant eu calonau i'w gilydd, a chawsant eu bod yn cydweled yn hollol. Yn ganlynol, pregethodd Daniel Rowland, a chafodd odfa nerthol. Teimlai Harris fod yr athrawiaeth wrth ei fodd. "Cefais heddwch yn fy enaid," meddai; "gwelais fod y brawd Rowland wedi cael un ddawn, a minau ddawn arall." Gellir meddwl mai yn y Groeswen y cynhelid y cyfarfod, gan y sonir am danynt yn myned yn nghyd i Watford wedi i'r odfa orphen. Cydgerddai Harris gyda Morgan John Lewis; yr oedd y gymdeithas rhyngddynt yn dra melus; a dywedai ei holl feddwl wrtho. Buont i lawr yn rhydd-ymddiddan hyd bump o'r gloch y boreu. "Yr ydym yn deall ein gilydd," meddai Harris, "ein hundeb diweddaf yw yr egluraf a'r goreu ydym wedi gael." Boreu dranoeth, agorodd Howell Harris ei feddwl drachefn, gan ddangos y modd yr oeddynt oll wedi syrthio i bechod; fel yr oedd yn cashau Antinomiaeth, a'i fod yn un a'i frodyr yn ei olygiadau. Cyfeiriai at yr hyn y beuid ef o'i herwydd, sef ei fod yn llefaru yn barchus am y Morafiaid, a dywedai y rhaid fod hyny yn codi o'i ras, oblegyd ei fod yn wrthwynebol iddynt ar lawer pwynt. Yna, ymadawodd am Rhywderyn, lle y pregethodd am ogoniant Crist. Yn St. Bride, ei destun ydoedd: "Ac efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Cyrhaeddodd dŷ un Robert Evans, yn agos i Gaerlleon-ar-Wysg, nos Sadwrn, a phregethodd gyda gwresawgrwydd a nerth oddiar y geiriau: "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol." Dengys ei fyfyrdodau boreu y Sul canlynol nad oedd wedi llwyr wella oddiwrth y teimlad a gawsai. "Yr wyf yn gweled,' meddai, "fod ein profedigaeth ddiweddar wedi arwain pob un i adnabod ei le yn well, ac i astudio mwy ar ffurf-lywodraeth eglwysig. Yr wyf yn gweled mai fy lle i yw bod yn rhydd, i edrych ar ol y seiadau a gesglais yn nghyd, oni fydd iddynt fy ngwrthod. Gwelaf fod llawer o'r brodyr yn fy nirmygu, ac yn ddolurus o herwydd fy ngwendidau; ond yr wyf yn cael nerth i gyflwyno yr oll i'r Arglwydd, ac i ofyn iddo ar iddo fy nghadw yn fy lle." Yn nesaf, yr ydym yn ei gael yn teithio trwy Lanfaches a'r New Inn. Yn y lle diweddaf, mewn seiat breifat, cymerodd fantais. i ddangos y gwahaniaeth rhwng yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid. "Yr ydym ni," meddai, (1) yn pregethu yn benaf i'r galon a'r yspryd, ac yr ydym yn eu cyrhaedd, gan glwyfo y cnawd, a'i wneyd yn ddolurus. Pwysleisiwn am gael ffydd yn y galon, yn hytrach na goleu yn y pen. mae eu goleuni hwythau (yr Ymneillduwyr) yn dyfod o'r pen, yn gwneyd yr enaid yn esmwyth, ac nid yw yn cryfhau ffydd. (2) Yr ydym ni yn cyffroi yr enaid i'w ddyfnder, gan gario yr argyhoeddiad i'r gwaelodion, gan roddi gwybodaeth helaethach trwy yr Yspryd o Grist; y maent hwythau yn gadael yr enaid yn dawel a digyffro. (3) Nid ydynt yn chwilio y galon, ac yn dangos eu ffydd mewn ymarferiad, fel y mae ganddynt mewn athrawiaeth. (4) Nid ydynt yn rhydd o duedd i dynu eneidiau atynt (oddiwrth y Methodistiaid). Dywedodd un fod y seiadau yn honi hawl i ofyn i'r sawl a fynent ddod i bregethu i'w mysg. Atebais inau fy mod yn erbyn eu gorfodi i dderbyn unrhyw un yn groes i'w hewyllys; ond os oeddynt yn edrych arnaf fel un a fu yn offeryn i'w casglu yn nghyd ar y cyntaf, ac os oeddynt wedi syrthio i mewn a'r drefn a sefydlwyd gan Mr. Whitefield, mewn cydymgynghoriad a'r brodyr, y rhaid i mi fel tad wylio drostynt, ac y rhaid i mi hefyd wybod, a rhoddi fy nghydsyniad parthed pwy fydd yn cydlafurio â mi. Gyda golwg ar y cynghorwyr hefyd, fy mod am wylio trostynt, eu galw yn nghyd i'w cynghori a'u cadarnhau, eu ceryddu, ac hefyd am eu cael i bregethu ar brawf."



Nodiadau golygu