Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1746) (tud-26)

Howell Harris (1746) (tud-25) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1746)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1746)
Howell Harris (1746) (tud-27)

Gwelir na wnai ganiatau penrhyddid i'r seiadau.

Dranoeth, yn y Goetre, drachefn, y mae ffurf briodol ar lywodraeth eglwysig y Methodistiaid yn Nghymru, a'i le ei hun yn eu mysg, yn dyfod yn destun ei fyfyrdod. Fel hyn yr ysgrifena: "Y mae arnaf eisiau gwybod natur a helaethrwydd y lle yn mha un y cefais fy ngosod gan yr Arglwydd, fel na phechwyf rhagllaw, trwy ofn fy hun, na'r gwrthwyneb, ond ei lanw fel y dymunai y Gwaredwr i mi, er adeiladaeth i'r wyn. Gwelaf ein bod yn cael ein harwain i fod i raddau yn gyffelyb i Esgobiaeth a Henaduriaeth, gyda y brawd Whitefield fel archesgob; myfi, er fy mod heb ordeiniad, fel y bu Paul am beth amser, wedi cael fy addysgu i fod yn arolygwr cyffredinol dros y gweithwyr a'r praidd; a'r offeiriaid ordeiniedig fel efengylwyr, i bregethu yn mhob man. Ond y mae un peth yn aneglur i mi; efallai ei fod yn aros yn dywyll am na wyddom yn mha le y terfyna y symudiad; ac o bosibl y cawn ein himpio i mewn i'r Eglwys, ac y daw goleuni ar y mater fel y byddo amgylchiadau yn cyfnewid. Yr hyn sydd yn aneglur i mi yw, a ydyw yr offeiriaid a minau i fod yn unol yn ein gofal am y seiadau, ac yn y pregethu? neu ynte, a ydyw y gwaith preifat yn perthyn i mi yn briodol, a hwythau yn cynorthwyo? neu ynte, a ddylai adran o wlad gael ei rhoddi i bob un? neu ynte, drachefn, a ydym i fyned yn y blaen fel hyn hyd nes y gwthir ni allan, neu y cawn ein derbyn i mewn i'r Eglwys? Modd bynag, yr wyf yn teimlo gofal y seiadau y bum yn foddion i'w foddion i'w casglu yn nghyd, a'r rhai sydd wedi fy newis i fod yn olygwr arnynt, yn gwasgu arnaf yn y fath fodd fel nas gallaf eu rhoddi i fynu. Arglwydd, nid wyf yn gwybod dim; dangos i mi yr hyn sydd yn angenrheidiol dros yr amser presenol, fel na chyfeiliornaf ar y naill law na'r llall. Hyd yn hyn, y mae y gwaith yn Nghymru wedi bod trwyddo draw i bawb; ond amlwg fod eisiau dod i ryw ffurf; da fod y llywodraeth ar dy ysgwydd di, Arglwydd. Eisiau gwybod ewyllys fy Arglwydd sydd arnaf, fel na phechwyf. Gallwn feddwl ein bod yn cael ein harwain i ryw fath o ddysgyblaeth. Arglwydd, dos di o'n blaen. Gallwn feddwl mai gwaith yr offeiriaid. fyddai myned o gwmpas i bregethu, ac i weinyddu y sacramentau, bod yn bresenol yn y Cymdeithasfaoedd, a gweini y cymundeb ynddynt; fy ngwaith inau, myned i'r Cymdeithasfaoedd, a siarad yno, pregethu pan fedraf, ymweled a'r holl seiadau. preifat ac a'r Cymdeithasfaoedd Misol hyd byth ag y medraf, yn Nghymru ac yn Lloegr, er fod gofal Llundain wedi ei osod arnaf hefyd. Beth hefyd (a berthyn i mi) nis gwn eto. Gyda golwg ar berthynas y naill o honom a'r llall, Arglwydd, arwain a goleua fi." Gwelir fod cynllun o ffurflywodraeth eglwysig yn dechreu cael ei ffurfio yn meddwl Howell Harris. Yn y cynllun hwn, ymddengys yn bur glir ei fod am gau yr offeiriaid allan o bob llywodraeth uniongyrchol ar y seiadau a'r cynghorwyr; yr ystyriai hyny yn hawlfraint yn perthyn iddo ei hun; a'i fod am eu cyfyngu hwy, o leiaf yn benaf, i weinidogaeth y Gair, a gweinyddiad o'r sacramentau. Y Goetre oedd y lle diweddaf y bu ynddo ar y daith hon cyn dychwelyd adref.

Y peth cyntaf a glywodd wedi cyrhaedd Trefecca oedd, fod Rowland yn parhau i'w gyhuddo o gyfeiliorni oddiwrth y wir athrawiaeth. Un o'r cynghorwyr a gludodd y chwedl iddo. Nid annhebyg ei fod yn rhy barod i dderbyn chwedlau disail. Penderfynodd oddef, modd bynag, fel na chymerai ymraniad le. Ar y dydd cyntaf o Dachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, eithr nid oedd un o'r offeiriaid yno. Cafwyd anerchiad gan y brawd Beaumont, yn mha un y datganai nad oedd y ddeddf i gael ei phregethu fel moddion i argyhoeddi a deffro pechadur, mai yr hyn a ddylid bregethu oedd ffydd; nad oedd y ddeddf yn rheol bywyd i gredinwyr; a gwadai hefyd dragywyddol genhedliad Crist. Ymddengys fod Beaumont erbyn hyn wedi myned yn Antinomiad rhonc. Buont i lawr am y rhan fwyaf o'r nos yn ceisio ymresymu ag ef, ond yn ofer. Gwedi iddo ef ymadael, bu Harris, a thua haner cant o gynghorwyr, ar lawr hyd y boreu yn gweddïo, yn canu, ac yn molianu, a theimlent fod yr Arglwydd yn wir yn eu mysg. Tua chanol Tachwedd, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Tyddyn, ac aeth Harris yno, gan bregethu mewn amryw leoedd yn Siroedd Brycheiniog a Maesyfed ar y ffordd. Yr oedd Williams, Pantycelyn, yn bresenol, a phregethodd gyda nerth mawr. Daethai dyn o'r Bala yno i ofyn cynghor, am fod y brawd Lewis Evan wedi cael ei fwrw i garchar Dolgellau. Cafodd gyfarwyddyd pa fodd i weithredu, a gwnaed casgliad o bedwar gini yn y man i'w gynorthwyo, er mai deg-ar-hugain



Nodiadau golygu