Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-02)

Howell Harris (1747-48) (tud-01) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-03)

hon." Y mae yn amlwg nad oedd Harris yn glynu yn glos wrth ei destun, ond ei fod yn cymeryd rhyddid i fyned oddiwrtho at unrhyw wirionedd y tybiai mai buddiol fyddai ei draethu. Gwedi y bregeth yr oedd seiat gyffredinol i'r holl aelodau. Ac ymddengys ei bod yn gyfarfod rhyfedd; y dylanwadau dwyfol a lanwent y lle. Yn ngwres y cynhyrfiad, gwaeddai Harris: "Y chwi a fedr fyned ymaith, ewch; ni fynwn neb yma ond y rhai sydd a gorfodaeth. arnynt i ddyfod. Os nad ydych wedi eich geni oddi uchod; os nad ydych o rif y rhai y rhaid iddynt weddio, a bod yn ddiwyd gyda eu hiachawdwriaeth, cedwch draw. Ond nis gallwch gadw draw; y mae yn rhaid i chwi ddyfod, oblegyd yr Arglwydd sydd Dduw, a rhaid i bob peth roddi ffordd. O, gynifer o bethau sydd yn eich tynu yn y blaen! Y mae y cyfamod yn dweyd, Y mae yn rhaid iddynt ddyfod!' Y gwaed sydd yn dywedyd, Rhaid iddynt ddyfod! Felly hefyd y dywed gras, a'r addewidion." Hawdd deall fod tân Duw wedi disgyn i'r lle, a bod calon Harris yn llosgi yn ei fynwes. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn ymddangos i benderfyniadau o bwys gael eu pasio, ond cymhellai y Diwygiwr y cynghorwyr gyda phob difrifwch i osod i fynu gateceisio yn mhob man, ac i anog yr aelodau i ymgydnabyddu a'r Ysgrythyr.

Diwedd yr wythnos, cychwyna am daith o rai wythnosau trwy Wlad yr Haf, Devon, a Chornwall, ond ar ei ffordd y mae yn pregethu mewn amryw leoedd yn Siroedd Morganwg a Mynwy. Aeth y noson gyntaf tua Blaentawe, ac wrth groesi y mynyddoedd, yr oedd ei fyfyrdodau yn sefydlog ar yr Ysgrythyr, a theimlai fod Duw yn gydymaith iddo. Yr oedd y myfyrdod tawel hwn wedi nawseiddio ei yspryd ar gyfer yr odfa. Yr efengyl yn allu Duw er iachawdwriaeth oedd ei fater, a chafodd lawer o ryddid i lefaru. Boreu dranoeth, pregethodd yn Gelly-dorch-leithe, a'r nos yn Castellnedd. Ymddengys fod y seiat yn y lle diweddaf mewn cryn derfysg, fod ynddi rai o olygiadau Arminaidd, yr hon gyfundraeth nas gallai Harris ei goddef. Anerchodd yr aelodau yn gryf, aelodau yn gryf, dywedodd y rhaid iddynt ddewis y naill blaid neu y llall, nas gallent berthyn i'r ddwy. Yna, eglurodd athrawiaeth etholedigaeth, ac atebodd wrthddadleuon. "Paham y geilw Duw arnom i droi, oni feddwn allu i droi?" meddai y gwrthddadleuydd. Atebai yntau: "Os ydym ni wedi colli y gallu i gyflawni, nid yw yr Arglwydd wedi colli ei hawl i ofyn." Eglurodd, yn mhellach, ddarfod i Dduw roddi y gyfraith i ddyn er argyhoeddiad, dangos iddo ei fod yn golledig, a'i gau dan gondemniad. Gwedi hyn, esboniodd iddynt ei safle ei hun, y modd yr oedd yr Arglwydd a'r brodyr wedi ei osod yn ei le, fel Arolygydd cyffredinol dros y seiadau a'r cynghorwyr; ond rhag ofn hunangais nad oedd wedi defnyddio ei awdurdod; a gorchymynodd iddynt na oddefent i neb ddyfod i'w mysg i gynghori ond rhai wedi eu hawdurdodi i hyny. Tybia iddo fod yma, dan fendith Duw, yn foddion i rwystro rhwyg. Gwedi hyn ymwela a'r Hafod, a Nottage. Yn y lle diweddaf, datgana ei farn y byddai i'r Methodistiaid, y Wesleyaid, a'r Morafiaid, gael eu huno a'r Eglwys Sefydledig. Yn sicr, y dymuniad oedd tad y meddylddrych. Dranoeth, y mae mewn lle o'r enw Ffwrnes-newyddar-Daf. Yn y seiat breifat yma cododd Satan wrthwynebiad i athrawiaeth dirgelwch y gwaed, yn mherson rhyw gynghorwr anghyoedd. Ceryddodd Harris ef, a chan ei fod yn parhau yn gyndyn bu raid iddo ei ddiarddel. Y dydd canlynol, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn New Inn, Sir Fynwy. Llefarodd yntau yn helaeth ar ei le ei hun fel Arolygwr cyffredinol; ar ei benderfyniad i beidio gadael Eglwys Loegr, er ei fod yn caru yr Ymneillduwyr; anogodd i ddysgyblaeth mewn teuluoedd, ac ar i bob un adnabod ei le. "Gwedi i mi orphen," meddai, "cefais brofedigaeth oddiwrth y brawd Morgan John Lewis. Dywedai fy mod yn tra awdurdodi arnynt, ac yn eu cadw mewn caethiwed. Nad iawn i mi ddweyd fod pawb a'm gwrthwynebai i yn dywyll, yn gnawdol, a than lywodraeth y diafol. Nad oedd genyf awdurdod Gair Duw dros yr hyn a wnawn, a thros i bawb roddi i fynu eu cred i Grist a'i eglwys, ond fy mod wedi ei gael oddiwrth y Morafiaid. Dywedai ei fod ef yn bleidiol i Rowland, a bod genyf ragfarn at y Parch. Edmund Jones. Canlynwyd hyn gan derfysg dirfawr." A pha eiriau y darfu iddo ateb Morgan John Lewis nid yw yn dweyd; ond ymddengys i'r Gymdeithasfa fod yn dra anhapus. "Yr oedd llawer o frwdaniaeth yno," meddai, "a daeth Satan i lawr." Eithr ymddengys i bethau dawelu cyn y diwedd, ac iddynt drefnu amryw bethau yn heddychol.

Aeth yn ei flaen trwy Bryste, lle y cynhelid Cymdeithasfa, Bath, Wellington,



Nodiadau golygu