Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-03)

Howell Harris (1747-48) (tud-02) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-04)

Exeter, Kingsbridge, Plymouth, a St. Gennis, yn Cornwall. Parhaodd y daith hon am bum' wythnos, ac am ran fawr o honi yr oedd John Wesley yn gydymaith iddo. Tri diwrnod y bu gartref ar ol dychwelyd cyn cychwyn i Gymdeithasfa Fisol Llanfair-muallt. Yr oedd nifer o'r cynghorwyr wedi ymgasglu yma, yn nghyd â dau offeiriad, a'r boneddwr duwiolfrydig, Mr. Gwynn. Galarai Harris o herwydd fod Antinomiaeth ar gynydd yn y parthau hyn. "Arholais bregethwr," meddai, "a daethom i benderfyniad gyda golwg ar dŷ yma." Y "tŷ" hwn oedd Capel Alpha, yr hwn yn fynych, ond yn annghywir, a elwir yn gapel cyntaf y Methodistiaid yn Nghymru. Eu capel cyntaf yn Mrycheiniog ydoedd. Ymwelodd yn ganlynol a'r Tyddyn, lle y treuliodd y Sabbath. A oedd yma fath o Gymdeithasfa, nis gwydd om; ond penderfynodd ef a'r brodyr i wneyd y dydd Mercher canlynol yn ddydd gweddi dros Lewis Evan, yr hwn o hyd oedd yn y carchar. Gweddïodd yn daer dros Ogledd Cymru, ar i Air yr Arglwydd redeg; gwelai mai yn erbyn Duw yr oedd yr holl wrthwynebiad. Y dydd dilynol, yr oedd yn Penybont, Sir Faesyfed, a bu yn dra ĺlym yn y seiat breifat wrth y proffeswyr clauar. "Dangosais y ddyledswydd," meddai, "o roddi y cwbl a feddem. i'r Arglwydd, a chael pob peth yn gyffredin; a'r modd yr oedd yr Arglwydd wedi ymddwyn atynt hwy, a hwythau ato ef.

CAPEL ALPHA, LLANFAIR-MUALLT, SIR FRYCHEINIOG.

[Adeiladwyd gyntaf yn y flwyddyn 1747. Darlun yr ail Gapel ydyw hwn.]

Adroddais iddynt fy hanes; fy mod am amser wedi bod yn teithio haner can' milltir y dydd, ond na wnaent hwy ddyfod ychydig filltiroedd i'r cyfarfodydd, rhag ofn cael anwyd. Datgenais y trown allan bawb a absenolai eu hunain o ddwy seiat, pwy bynag a fyddent; na chaffai tŷ Dduw ei ddirmygu ganddynt, y caent deimlo awdurdod y weinidogaeth." "Yr ydym wedi derbyn cenadwri gan Dduw," meddai; "ac er nad ydym yn galw ein hunain yn esgobion, offeiriaid, na diaconiaid; eto, yr ydym yn weinidogion yr Arglwydd. Y mae Duw yn ein hadwaen. Yma yr oeddwn yn llym, oblegyd nad oedd ganddynt dŷ cwrdd, gan ddangos y gallai amryw o honynt gyfranu pum' neu ddeg punt. Llawer a ddarostyngwyd, ac a oeddynt yn ddrylliog, gan waeddi: 'Myfi yw y gŵr. A darfu i rai o honynt gyduno i gyfarfod, i adeiladu tŷ." Gwelwn ddau beth yn y difyniadau hyn. Sef (1) Fod capelau wedi cael eu hadeiladu mewn cryn nifer o leoedd yn mysg y Methodistiaid, fel y mae Harris yn ei theimlo yn ddyledswydd arno i geryddu seiat Penybont-lle gwledig, yn Sir Faesyfed-am na buasent hwythau wedi gwneyd yn gyffelyb. (2) Cawn yma, am y tro cyntaf, awgrym, ar ba un y gweithredodd Howell Harris ar ol hyn yn Nhrefecca, sef na ddylai Cristionogion ddal eiddo personol, ond bod a phob peth yn gyffredin rhyngddynt. Dranoeth, brysiodd Howell Harris i



Nodiadau golygu