Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-04)

Howell Harris (1747-48) (tud-03) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-05)

Drefecca, lle yr oedd Cymdeithasfa Fisol i gael ei chynal. Agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau: "Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn." Dywed ei fod yma mewn lle ofnadwy, yn sefyll megys rhwng y byw a'r meirw. "Yr oeddwn yn llym at yr Ymneillduwyr," meddai, "a'r holl broffeswyr cnawdol, gan ddangos eu bod oll yn ddigllawn wrthyf am fy mod yn eu ceryddu, ond mai mewn cariad yr oeddwn yn gwneyd hyny, a phe bai yn fy ngallu, y dyrchafwn hwy i fynu o'r llwch. Dangosais ein bod yn gyflawn yn Nghrist, yn ddyogel yn Nghrist, ac yn fwy na choncwerwyr ynddo ef." Yn y seiat breifat a ddilynai, daeth yr Arglwydd i lawr, a rhoddodd i Harris bethau newydd a hen i'w dweyd. Dangosodd nas gallent fyned yn ol, y rhaid iddynt fyned yn mlaen. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn ymddangos i unrhyw benderfyniadau gael eu pasio; treuliwyd yr amser trwy fod Harris yn adrodd am lwyddiant y gwaith yn Lloegr.

Ddechreu mis Mawrth, aeth i Lundain, lle yr arhosodd hyd y Pasg. Prin yr oedd wedi dychwelyd na chawn ef yn cychwyn drachefn i Gymdeithasfa Chwarterol Watford. Y dydd Gwener blaenorol i'r Gymdeithasfa, pregetha yn y Goetre, Sir Fynwy; ac yn y seiat breifat trinia yr aelodau yno yn llym. "Dangosais iddynt,' meddai, "y fath yspryd gwrthwynebol i'm gweinidogaeth oedd yma o'r cychwyn; mor ddiog oeddynt, fel na ddeuent dair milltir o ffordd, i'r New Inn, i'n cyfarfod cyffredinol; ac felly, eu bod yn gwneyd yr oll a allent i rwystro y gwaith. Eu bod yn absenoli eu hunain o'r Eglwys, ac yn gadael ei chymundeb, tra y mae yn amlwg ddarfod i'r Arglwydd ein galw yn y dull hwn; a'u bod yn gwanhau fy nwylaw yn fwy na neb. Dywedais, oni symudent yn mlaen, na ddeuwn i'w mysg; nas gallwn fyned lle nad oedd athrawiaeth y gwaed, a'r gwaed ei hun, trwy yr Yspryd, yn cael rhedeg yn rhydd. Os yw yr athrawiaeth yn faich arnoch, meddwn, y mae, mewn ystyr, felly i mi, oblegyd yr wyf yn appelio at Dduw nas gallaf beidio ei phregethu; nid gan ddyn na dynes ei derbyniais, ond gan Dduw; y mae genyf er ys saith mlynedd. Datgenais mai dyma fy ymweliad olaf, oddigerth i mi weled cyfnewidiad; yna, lleferais yn felus am y gwaed, a'r Yspryd a ddaeth i lawr, ac yr oeddym yn dra thyner." Yr oedd seiat y Goetre yn gyfagos i'r New Inn, lle y gweinidogaethai Morgan John Lewis, yr hwn oedd yn wrthwynebwr cryf i athrawiaethau neillduol Howell Harris, a rhydd hyn gyfrif am y gwrthwynebiad a deimlid yno at y Diwygiwr o Drefecca. Y mae yn ffaith awgrymiadol na ymwelodd Harris. y tro yma a'r New Inn. Aeth i Lanheiddel y Sadwrn; treuliodd y Sul yn nhy Robert Evans, ger Caerleon-arWysg; pregethodd yn Llanfaches dydd. Llun, ac yr oedd yn bur llym at yr aelodau. Daeth i Watford y nos cyn y Gymdeithasfa, a chlywodd y fath chwedlau, fel y gofidiwyd ei enaid ynddo. Nis gwyddai pa fodd i weithredu, gan fod rhyw gynghorwr wedi ei ddwyn yno a droisai efe allan, am nad oedd ei yspryd mewn cydymdeimlad a'r Methodistiaid. Yr oedd yno, hefyd, weinidog perthynol i'r Ymneillduwyr, yr hwn, yn groes i ddymuniad Harris, a elai o gwmpas y seiadau. Yn ei drallod, ymneillduodd i weddïo. Llewyrchodd yr Arglwydd arno pan ar ei liniau; dychwelodd at y brodyr, ac wrth gydymddiddan symudwyd rhan fawr o'i faich. Yna, aeth i'r Groeswen i wrando Daniel Rowland yn pregethu. Y testun oedd, Heb. vi. 7, a chafwyd odfa ryfedd; teimlai Harris ei serchiadau yn ymglymu am ei anwyl frawd wrth wrando, a hyny braidd yn dynach nag erioed.

Y peth cyntaf a wnaed yn y Gymdeithasfa oedd appwyntio tri brawd i gynorthwyo Howell Harris yn ei waith fel arolygydd, sef Benjamin Thomas, y gweinidog Ymneillduol, Thomas a Thomas Williams, o'r Groeswen, oedd y diweddaf, yn ddiau, a phrofa ei appwyntiad ei fod wedi ail-gysylltu ei hun yn llwyr a'r Methodistiaid. Daeth cryn gyffro ac anghydwelediad i fysg y brodyr wrth ymdrin ag achos y cynghorwr yr oedd Harris wedi ei ddiarddel. Er na ddywedir hyny yn bendant, awgryma y dydd-lyfr na chadarnhawyd y ddedfryd. Yn y cyfwng rhwng y cyfarfodydd cafodd Harris ymddiddan preifat pur faith â Rowland, ac ymddengys fod teimladau da yn ffynu rhyngddynt. "Yr Arglwydd a gymerodd ymaith y beichiau annyoddefol oedd yn gwasgu arnaf," meddai Harris; "cefais ryddid i ddweyd wrth y brodyr oll yr hyn a dybiwn oedd allan o le ynddynt, a'r modd y dylem gryfhau breichiau ein gilydd. Y dylai yr offeiriaid a minau ddweyd wrth ein gilydd y pethau a glywn, fel y gallwn ymdrin â hwy cyn dyfod i fysg y brodyr, onide y collwn bob



Nodiadau golygu