Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-05)

Howell Harris (1747-48) (tud-04) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-06)

awdurdod. Cefais nerth i geryddu balchder y brodyr, gan ddangos y dylai gwroldeb, callineb, ffyddlondeb, a thynerwch fod yn ein mysg yn wastad, ac y dylai pob un adnabod ei le. Cefais lef ynof am i'r Arglwydd ddyfod i'n mysg. Gwedi penderfynu amryw bethau, a threfnu cylchdeithiau y brodyr, ymadawsom yn hyfryd, wedi ein dwyn unwaith i fin ymraniad. Ar y terfyn, pregethodd Daniel Rowland oddiar y geiriau: "Onid oes balm yn Gilead?" Ar y cychwyn, yr oedd Harris yn sych; ond pan ddaeth y pregethwr at waed Crist, er mai ychydig eiriau a ddywedodd am dano, cyffrodd ei yspryd ynddo; gwelai ynddo ei hun fynydd o hunan, a byd o falchder; ond gwelai, hefyd, y cai ei waredu oddiwrth y cwbl, gan mai yr Arglwydd sydd Dduw. "Yr wyf yn cael," meddai," nad yw pregethu profiad yn fy mhorthi; eithr pan leferir am y Dyn Crist, yna yr wyf yn cael ymborth." Y mae yr ymadrodd nesaf yn anhawdd ei ddeall. "Crybwyllais wrth y brawd Williams," meddai, "ei fod yn ddeddfol, a'i fod ar ol mewn athrawiaeth, gyda gorchudd ar ei lygaid. Ond wrth ganfod yr Arglwydd gydag ef, ac yntau mor syml, gwnaed fi yn ddiolchgar am yr holl ddoniau a rodded i'r naill a'r llall o honom." Williams, Pantycelyn, ar ol mewn athrawiaeth! Yr ydym ni wedi arfer edrych arno fel y penaf, braidd, o'r duwinyddion; fel un, yn rhinwedd rhyw reddf ysprydol a drigai ynddo, yn dyfod i gydnabyddiaeth â gwirioneddau dwyfol, y methai y duwinyddion athronaidd, gyda eu holl resymeg, ymddyrchafu atynt. Tybiem mai efe oedd y nesaf yn ei syniadau o'r Diwygwyr Methodistaidd at olygiadau neillduol Harris, parthed agosrwydd perthynas y ddwy natur yn mherson ein Harglwydd. Cawn yn ei emynau lawer o'r ymadroddion ag y beïd ar y Diwygiwr o Drefecca am eu defnyddio. Ac eto, cawn yma Harris yn ei gyhuddo o fod yn ddiffygiol mewn duwinyddiaeth, ac o fod â gorchudd ar ei lygaid. Nid oes genym un esboniad i'w roddi ar hyn; rhaid i ni gymeryd y dydd-lyfr fel y mae.

Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas, lle y cafodd odfa felus. Ar y terfyn, cafodd ymddiddan a'r cynghorwr anghyoedd, William Harry, am gryfhau yr undeb rhyngddo ef a'r brawd Rowland. Gwelai y cynghorwr y byddai rhwyg rhwng y ddau arweinydd yn ddinystr i'r seiadau. Ymwelodd, yn nesaf, a'r Aberthyn, lle y llefarodd yn llym, gan ddangos y byddai y rhai nad ydynt yn ufuddhau i'r efengyl yn waeth eu cyflwr na'r paganiaid. Nos Sadwrn, daeth i Lantrisant, a phregethodd yn gyffelyb i'r modd y gwnaethai yn Aberthyn. Yn y seiat breifat a ddilynai gwnaeth ei oreu i uno yr aelodau; cymhellodd hwynt i osod i fynu gateceisio. Boreu y Sul, aeth i'r eglwys, lle y cafodd ei loni gan bregeth dda; a chwedi hyny, yn y sacrament, profodd ddirfawr felusder. Dydd Llun, y mae yn yr Hafod, lle y llefara am natur y gwaith a gerid yn mlaen gan Dduw yn Nghymru er ys deng mlynedd bellach. Cynghora y rhai a gymunent yn y capelau Ymneillduol i barhau i wneyd hyny, a'r rhai a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau yr un modd. Dengys y modd yr arosodd yr Apostolion yn yr Eglwys Iuddewig, er fod yr un rhesymau ganddynt dros droi eu cefnau arni, ag sydd gan y Methodistiaid dros gefnu ar yr Eglwys Sefydledig. Yna, aeth tua Chastellnedd. Ar y ffordd yno gwelai fod Duw yn anfeidrol; yn anfeidrol yn ei berffeithiau, yn anfeidrol yn ei wirionedd, ac yn anfeidrol yn ei gariad, fel nad oes un gwrthddrych mewn un man i'w gymharu iddo. Yn Nghastellnedd, cyfarfyddodd â chwaer grefyddol, a fwriadai ail-briodi, yr hon a honai ei bod wedi cael ateb oddiwrth yr Arglwydd gwahanol i'r hyn a gawsai Harris; daeth hyn yn drwm arno, gan beri iddo lefain ar yr Arglwydd : "Paham y gosodaist fi yn y safle hon?" Eithr gwnaed ef yn dawel yn ei feddwl, gan weled mai yr Arglwydd a drefnasai y lle iddo, ac a roddasai iddo gymhwysderau ar ei gyfer, a hyny er mwyn ei ogoniant ei hun. Pregethodd gyda rhyddid mawr, oddiar Gal. vi. 1. Dangosai y fraint o gael canlyn Crist; taranai yn erbyn anwiredd, gan ddangos fod y cyfamod tragywyddol yn erbyn pechod o bob math. Yn y seiat breifat, gosododd ryw gasgliadau ger eu bron, ac anogodd hwynt i ddysgyblaeth. Dydd Mawrth, cawn ef yn myned i wrando Daniel Rowland, i rywle cyfagos i Gastellnedd. Pregethodd y brawd Rowland yn ogoneddus heddyw," meddai, "ar undeb y credinwyr; dangosodd yr angenrheidrwydd ar iddynt oll gyduno mewn cariad, ac ar i bob un adnabod ei le, ac aros ynddo, fel na bydd y frwynen yn tybio ei hun yn gedrwydden, a'r falwoden yn meddwl ei hun yn gawrfil. Mwynheais ef yn ddirfawr; gwnaed i mi



Nodiadau golygu