Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-06)

Howell Harris (1747-48) (tud-05) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-07)

lawenychu o'i herwydd; a theimlwn yr undeb agosaf ag ef, gan ddymuno cael byw a marw gydag ef. Yr oedd nerth anarferol yn cydfyned a'r Gair; llanwyd eneidiau o'r Arglwydd, a chwythodd awelon balmaidd drosom." Wedi y cyfarfod, aeth Harris i ymweled â brawd claf, oedd yn llawn o ffydd; yna, teithiodd Rowland ag yntau yn nghyd i Glanyrafonddu, pellder o bum'-milltir-ar-hugain, ac ymddengys fod Williams, Pantycelyn, yn y cwmni. "Cefais lawer o ryddid i ddweyd wrth y brawd Rowland am fy undeb ag ef," meddai Harris; "am i ni fod yn un i gadarnhau dwylaw ein gilydd, ac er meddu awdurdod, gan geisio ganddo ef gynorthwyo. Cyfeiriais, hefyd, at yr Cyfeiriais, hefyd, at yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth. Yr oedd ef yn gryf yn erbyn yr athrawiaeth am dystiolaeth yr Yspryd, ac yn ddolurus. ar Mr. Griffith Jones. Llwyddais i'w gymedroli yn y ddau beth. Bu pethau Bu pethau eraill yn destunau ymddiddan, megys fy ngalwad i bregethu; yr Urim a'r Thumim, &c." Dranoeth, wedi cyrhaedd Glanyrafonddu, ysgrifena drachefn: "Y ddoe, wrth drafaelu gyda y brawd Rowland, cefais lawer o ryddid, ond gwelaf fod cryn waith i'w wneyd eto gan yr Arglwydd. Siaredais am sancteiddrwydd y gwaith; am ein hannrhefn, ein diffyg dysgyblaeth, a'n pleidgarwch; ac am i ni gydweled yn breifat gyda golwg ar bob peth, fel y byddom yn myned i fysg yr eneidiau gan lefaru ag un llais. Dangosais am y modd y mae y gwaith i'w gario yn y blaen yn y canol, megys rhwng Esgobyddiaeth a Henaduriaeth; am y brawd Wesley yn dyfod i fysg ein llafur; ac am benderfynu i bob un ei le. Ymddiddanasom am y rhyfel; ac am y cri oedd yn fy enaid ar i mi adael bendith ar fy ol pa le bynag yr awn. Llefarais i'r byw wrtho ef, a'r brawd Williams, gyda golwg ar ysgafnder, am iddynt fod yn ofalus, fel y gallwyf geryddu y brodyr eraill, onide y byddai iddynt redeg am loches at eu hesiampl hwy; ac am iddynt oddef fy lle i yn y gwaith preifat, yr hwn sydd yn perthyn i'm lle a'm swyddogaeth."

Nid oes genym hamdden i sylwi ond ar un peth yn y difyniadau dyddorol hyn, sef yr ysgafnder y rhybuddir Rowland, a Williams, Pantycelyn, rhagddo. Nid oes genym sail o gwbl dros feddwl eu bod yn ddynion ysgeifn yn ystyr arferol y gair; yr oeddynt yn byw gormod yn nghymdeithas gwirioneddau dwysion yr efengyl i arfer ysgafnder; ond ymddengys eu bod yn naturiol yn siriol o dymher, ac yn medru mwynhau chwerthiniad iachus, gan weled yr ochr ddigrif i ambell ddigwyddiad; tra yr oedd Howell Harris, o'r ochr arall, mor eithafol o sobr a dwys, fel yr ymddangosai pob digrifwch iddo, pa mor ddiniwed bynag y gallai fod, fel yn agoshau i gymydogaeth yr hyn sydd bechadurus. Ymwahanodd y cyfeillion yn Glanyrafonddu, ac aeth Harris tua chyfeiriad cartref, gan bregethu ar y ffordd yn Llanddeusant, a Chefnyfedw. Dau ddiwrnod y bu yn Nhrefecca cyn cychwyn drachefn am daith i Sir Drefaldwyn. Ymddengys fod y cynghorwr William Richard yn myned gydag ef, fel cyfaill iddo. cyfaill iddo. Aethant trwy Ty'nycwm, a Llansantffraid, yn Sir Faesyfed, i Mochdref. Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saesneg i nifer o bobl syml, yn dechreu dyfod i wrando yr efengyl. Ei destun oedd, Mat. xi. 28. "Cefais ryddid mawr," meddai, a llawer o nerth i'w gwahodd at Grist. Dangosais nas gallent gael eu hachub trwy eu gweithredoedd; ac os oeddynt yn ymddiried yn eu gweithredoedd, mai eilunaddolwyr ydynt, ac nad yw cariad Duw ynddynt." Gwedi y bregeth, cynhaliwyd seiat breifat; llefarodd y Diwygiwr ar waed Crist; aeth yn lle rhyfedd yno; a buont yn nghyd hyd dri o'r gloch y boreu, yn canu, yn gweddïo, ac yn cynghori. Bloeddiai Harris yn ddiymatal: "Y Gwaed! Y GWAED! Y GWAED!” ac yn y diwedd boddid ei lais gan floeddiadau y cynghorwyr oeddynt yn bresenol. Oddiyma aeth i Lanfair, lle y cafodd odfa rymus, wrth ymosod ar falchder. Yn nesaf, cawn ef yn Llanbrynmair, ac wrth ei fod yn llefaru am waed Crist, daeth yr Yspryd Glân i lawr yn rhyfedd. Dangosodd mai gwaed Duw ydoedd, a bod angenrheidrwydd anorfod am dano; yna, ymhelaethodd ar dduwdod Crist; ac nid oedd neb yn bresenol i wrthwynebu yr athrawiaeth. Yn y seiat breifat a ddilynai, gan fod llawer wedi ymgasglu yno o Môn, a Sir Gaernarfon, eglurodd natur y seiadau, dysgyblaeth y Methodistiaid, ei le ei hun yn mysg y Methodistiaid, yn nghyd a'r modd y dechreuasai fyned o gwmpas i bregethu. Ymhelaethodd, yn mhellach, ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr, ei fod yn (1) Yn wahaniaeth mewn athrawiaeth, gan fod llawer o honynt hwy (yr Ymneillduwyr) yn Baxteriaid. (2) Yn wahaniaeth mewn dysgyblaeth, gan fod y Methodistiaid oddifewn i'r



Nodiadau golygu