Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-07)

Howell Harris (1747-48) (tud-06) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-08)

Eglwys Sefydledig. Ac yn (3) Yn wahaniaeth mewn yspryd. Yn nesaf, aeth i Blaen-Trefeglwys, lle y pregethodd oddiar 1 Ioan v. 4: "Oblegyd beth bynag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu y byd." Cafodd odfa nerthol anghyffredin; daeth yr Arglwydd i lawr mor amlwg, fel y bu raid i'r pregethwr roddi i fynu, am y boddid ei lais gan floeddiadau y dyrfa. Oddiyno teithiodd i'r Tyddyn, a chlywodd am ryw frawd anwyl o gynghorwr a syrthiasai i amryfusedd, fel yr oedd yn rhaid ei dori allan. Aeth calon Harris yn ddrylliau wrth glywed; neshaodd at orsedd gras er gwybod meddwl yr Arglwydd ar y mater; a'r ateb a gafodd oedd fod gogoniant Duw a phurdeb y ddysgyblaeth yn galw am i'r cerydd gael ei weinyddu, ac y byddai yn foddion i gadw i lawr Satan a phechod. Yr oedd nifer o Siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionydd yn y Tyddyn eto; yn wir, ymddengys eu bod yn ei ganlyn trwy ystod y daith; ac yn y seiat breifat a ddilynai y bregeth, cymerodd fantais ar eu presenoldeb i osod gerbron amryw faterion amgylchiadol. "Gosodais o'u blaen," meddai, "achos y tŷ yn Sir Gaerfyrddin; y cynghaws cyfreithiol; a dwyn ffrwyth i'r Yspryd, sef yn benaf, gostyngeiddrwydd. Dywedais y rhaid i ni enill, pa un a gariwn y gyfraith a'i peidio, am fod Duw gyda ni. Anogais hefyd i ddysgyblaeth; gan ddangos pe na byddai ond chwech yn y seiat, fod hyny yn ddigon i fyned yn mlaen yn yr Arglwydd, ac y gwnai efe ychwanegu atynt. Wedi gorphen pregethu, yr oeddwn gyda yr holl bregethwyr; gwelwn fy lle, a bod yr Arglwydd wedi rhoddi goleuni a doniau i mi i'w lanw. Yna, wedi gweddïo, ymadawsom yn felus a'r wyn o'r tair sir bellenig." Tebygol mai capel Llansawel a feddylia wrth y tŷ yn Sir Gaerfyrddin." At ba gynghaws cyfreithiol y cyfeiria sydd anhysbys; yr oedd y Methodistiaid, druain, yn cael eu herlyn mewn rhyw lys neu gilydd yn barhaus yr adeg hon. Tramwyodd oddiyma i Ddolyfelin, a Llanfair-muallt, gan gyrhaedd adref wedi absenoldeb o ryw naw diwrnod. Cronicla fod dylanwadau anarferol yn cydfyned a'i weinidogaeth yn ystod y daith hon. Dylasem grybwyll fod Cymdeithasfa Fisol yn Llanfair-muallt, ac, yn ol cyfrif Harris, yr oedd o bedwar i bum' cant o aelodau yn bresenol.

Yr wythnos ganlynol, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Merthyr Cynog. Daeth y cynghorwr Beaumont i Drefecca y dydd blaenorol; dywedodd Howell Harris wrtho am y pethau a welai allan o le yn y seiadau dan ei ofal, a chyfeiriodd at y dadleuon a'r eiddigedd oedd yn eu mysg. Cydunasant ar ddau beth, sef fod pob un at ei ryddid i draethu y genadwri yn ei ffordd ei hun, ond iddo wneyd hyny mewn symlrwydd; ac yn nesaf, mae yr hyn sydd yn oll-bwysig mewn pregeth yw fod yr Arglwydd ynddi. Aethant yn nghyd tua'r Gymdeithasfa. Ar y ffordd, dadleuai Beaumont mai unig. ddefnydd y ddeddf yw egluro trueni pechadur; na ddylid anog neb i rinwedd, oblegyd fod y ddeddf yn ei orchymyn, ond mai cyfeirio y pechadur at Grist a ddylid. Atebai Harris fod yr athrawiaeth hon yn sawru o Antinomiaeth. Yn Merthyr, ceisiodd Harris ddwyn rhai aelodau crefyddol, oeddynt wedi cwympo allan, i gymod; ond ofer a fu ei ymdrech. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn, ar y morwynion ffol. Gofidiai Harris yn ddirfawr wrth glywed mor lleied o Grist ynddi; tybiai ei bod yn ddeddfol; ac eto, ymdawelai, gan gredu fod y pregethwr yn llaw Duw, ac y byddai iddo ef ei dywys i'r iawn. Gwedi darfod yr odfa, ceryddodd Harris y pregethwr am ryw ymadroddion deddfol a ddefnyddiasai; ond ni dderbyniodd Williams y cerydd mewn yspryd gostyngedig, eithr gwresogodd ei dymher. Dywedai ei fod yn caru pawb, ac na ofalai pa foddion a ddefnyddiai i yru pobl oddiwrth eu pechodau. Eithr cafodd Harris wledd i'w enaid wrth wrando ar Morgan John Lewis yn pregethu ddirgelwch yr iachawdwriaeth yn Nghrist. Dangosai na wnaeth yr Iesu ddim fel Duw, na dim fel dyn, ond pob peth fel Emmanuel; eglurai y modd y dywedasai Crist yn y tragywyddoldeb pell: "Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys, o fy Nuw; a'r modd yr oedd yr Oen wedi ei ladd er dechreuad y byd; dywedai fod nid yn unig ein heuogrwydd wedi ei roddi arno, ond hefyd ein hanwireddau. "Cefais fwy o undeb ag ef nag erioed," meddai Harris; "nis gallwn beidio ei garu." Aeth y ddau yn nghyd yn gariadus i Drefecca, ac agorodd Harris ei holl fynwes i'w gyfaill, gan bwysleisio ar yr angenrheidrwydd am ragor o undeb rhyngddynt, a mynu deall eu gilydd cyn myned gerbron y bobl.

Yr ydym wedi cael aml gyfeiriad yn y dydd-lyfr gyda golwg ar y ddau Wesley yn dyfod i mewn i lafur y Methodistiaid



Nodiadau golygu