Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-08)

Howell Harris (1747-48) (tud-07) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-09)

yn Nghymru. Ymddengys fod John Wesley wedi pregethu yn Nghaerdydd, ac hefyd yn Nghastellnedd, a rhyw leoedd eraill, efallai, yn y Dywysogaeth, yn ystod y flwyddyn 1746, ac ofnai y brodyr Cymreig y ceid dau enwad o Fethodistiaid yn Nghymru, a'r naill yn tynu dan sail y llall. Er cael cyd-ddealltwriaeth ar hyn, gwahoddwyd John Wesley i Gymdeithasfa, a gynhelid yn Mryste, diwedd Ionawr, 1747, ac y mae y penderfyniad y cydunwyd arno yn bwysig a dyddorol. Fel hyn ei ceir yn nghofnodau y Gymdeithasfa: "Ofnid, oblegyd ddarfod i Mr. Wesley bregethu yn Nghastellnedd, mai y canlyniad a fyddai ymraniad yn y seiat. Atebodd Mr. Wesley: Nid wyf yn bwriadu gosod i fynu seiat yn Ngastellnedd, nac mewn unrhyw dref arall yn Nghymru, lle y mae seiat yn barod; ond i wneyd yr oll a allaf i rwystro ymraniad.' Ac yr ydym yn cyduno oll, pa bryd bynag y bydd i ni bregethu yn achlysurol yn mysg pobl ein gilydd, y bydd i ni wneyd ein goreu, nid i wanhau, ond i gryfhau dwylaw ein gilydd, a hyny yn arbenig trwy lafurio i rwystro ymraniad. A chan fod ymraniad wedi cymeryd lle yn Ngorllewin Lloegr, cydunwyd fod brawd oddiwrth Mr. Wesley i fyned yno, gyda y brawd Harris, i geisio iachau y clwyf, ac i anog y bobl i gariad. Cydunwyd, yn mhellach, i amddiffyn yn ofalus gymeriad y naill y llall." A'r adran berthynol i Gymru o'r penderfyniad y mae a fynom ni.

Y mae yn sicr i John Wesley gadw at y cytundeb yn deyrngar, ac mai hyn sydd yn cyfrif am y ffaith na wnaeth Wesleyaeth ei hymddangosiad yn y Dywysogaeth hyd ddechreu y ganrif ddilynol. Teimlai y ddwy adran o'r fyddyn Fethodistaidd, er eu bod wedi ymwahanu, a'u bod yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd. ar rai athrawiaethau o bwys; eto, eu bod wedi cychwyn o'r un ffynhonell, ac yn cael eu llywodraethu gan y cyffelyb yspryd, a'u bod yn rhy agos gyfathrach i ymosod ar eu gilydd trwy osod i fynu seiadau gwrthwynebol.

Ganol mis Mai, cychwynodd Howell Harris am Lundain, a bu yno am agos i ddau fis o amser. Prin y cafodd fod gartref dri diwrnod wedi dychwelyd, nad oedd galw arno i fyned i Gymdeithasfa Chwarterol Cilycwm. Dywed y dydd-lyfr fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn y "Tŷ Newydd," yr hyn a brawf fod yma gapel Methodistaidd wedi ei adeiladu.

Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Peter Williams, y tro cyntaf y darllenwn am dano yn pregethu mewn Sassiwn. Ei destun oedd: "Mor gu genyf dy gyfraith di," a phregethodd yn rhagorol, meddai Harris. Ar ei ol, pregethodd Daniel Rowland yn ardderchog. Teimlai Harris fod yma genadwri oddiwrth yr Arglwydd ato ef; toddwyd ei enaid o'i fewn; ac er fod yn y bregeth rai ymadroddion deddfol, teimlai yn ddiolchgar fod gan Dduw y fath ddyn i sefyll i fynu drosto. "Cefais dystiolaeth ynof," meddai, "fod Duw wedi dyfod i'r gwersyll yn erbyn Satan a phechod, ac felly ein bod yn sicr o'r fuddugoliaeth." Gwedi llawer o gymhell, ufuddhaodd Howell Harris i bregethu, a chafodd odfa hapus iawn. Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa ddedwydd drwyddi. "Yr oeddym yn ddedwydd ac yn gariadlawn," meddai y dydd-lyfr; "a phenderfynasom amryw bethau, yn tueddu at well dysgyblaeth, yn hollol unol, y rhai y methem eu penderfynu yn flaenorol. Darfu i ni gadarnhau dwylaw ein gilydd, a threfnu rheolau parthed priodas. Cawsom hyfrydwch' dirfawr wrth ganu a gweddïo; ac yr oedd yn felus fod yr Arglwydd wedi rhoddi i ni seibiant oddiwrth ystorm enbyd." O'r Gymdeithasfa, aeth Howell Harris i'r Ceincoed, lle y preswyliai Peraidd Ganiedydd Cymru ar y pryd. Boreu dranoeth, pregethodd Thomas Williams, y Groeswen, a Harris ar ei ol. Gwaed Crist, yn ei rinwedd, ei ogoniant, a'i anfeidroldeb, oedd mater Harris; ac ychwanega fod y brawd Williams, Pantycelyn, yn gwrando. Wedi yr odfa, aeth Howell Harris a Thomas Williams yn nghyd i Drefecca, a chawsant gyfeillach felus ar y ffordd.

Tua dechreu Awst, cawn y Diwygiwr yn cychwyn am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Pregethodd yn nghyntaf yn Llanfair-muallt, ar yr heol, i gynulleidfa anferth o bobl. Ffynon wedi ei hagor i dŷ Dafydd ac i breswylwyr Jerusalem oedd ei fater; ac efengylai yn felus, gan wahodd pawb i'r ffynon. Yn y seiat breifat, bu yn ymdrin a'r tŷ cwrdd y bwriedid ei godi yn y dref. O Lanfair, aeth Mr. Gwynn ag yntau i Glanirfon, ger Llanwrtyd; cyfrifa fod y gynulleidfa yma yn ddwy fil o bobl. Dirgelwch ein cyfiawnhad a'n sancteiddhad yn Nghrist, trwy ei fod ef yn cael ei wneyd yn bechod trosom, oedd ei fater, ac ymddengys iddo gael odfa rymus. Yr oedd



Nodiadau golygu