Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-09)

Howell Harris (1747-48) (tud-08) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-10)

ganddo daith o ugain milltir i Gayo, ac yr oedd yn hwyr arno yn cyrhaedd yno; felly, yr oedd y gynulleidfa a ddaethai i wrando arno wedi gwasgaru. Pregethodd boreu dranoeth, modd bynag. Sylwa yma, nad oedd mewn angen am drefnusrwydd, na chanlyn testun, wrth bregethu: "Yr Arglwydd sydd yn siarad," meddai; "yr wyf finau yn argyhoeddi, yn taranu, yn cymhell, neu ynte yn cyhoeddi fod Duw wedi caru y byd, yn union fel y byddaf yn cael fy nghyfarwyddo." Awgryma y sylw mai pregeth ddidestun a roddodd yn Nghayo. Y lle nesaf y pregetha ynddo yw y tŷ cwrdd newydd yn Llansawel; ffynon wedi ei hagor yw y testun; a dywed ei fod yn enbyd o lym at y rhai a broffesent grefydd, ond a aent at yr Ysgrythyr gyda goleuni natur. "Yr oedd yr Arglwydd yn amlwg yn mysg y bobl," meddai; "llawer oeddynt yn ddrylliog, ac a fendithiwyd." Trafaelu yn fras y mae, a chawn ef y noson hono wedi croesi y gadwyn fynyddoedd sydd ar derfyn gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, ac wedi cyrhaedd Maesnoni. Cyd-deithiai ag ef yno ryw glerigwr ieuanc, newydd gychwyn gyda chrefydd, a chynghorai Harris ef yn ddifrifol iawn i fod yn ffyddlawn i Dduw, ac i'r eneidiau dan ei ofal, a pheidio ymgynghori â chig a gwaed. Ei destun yn Maesnoni oedd, Rhuf. vii. 21. Yr oedd dau offeiriad a chynghorwr yn gwrando arno, a chafodd awdurdod a nerth i'w rhybuddio, fel y byddai iddynt. ateb i Dduw, ar iddynt bregethu y gwaed i'r bobl. Yna, aeth at ei hoff bwnc, dirgelwch y Duwdod, a dirgelwch Crist. "Y Dyn hwn yw Duw," meddai, “nid oes un Duw arall. Dangosais fod rhai Cristionogion yn gwneyd tri Duw, ac yn edrych ar y Tad fel uwchlaw Crist." Dranoeth, sylwa drachefn: "Neithiwr, dangosais nad oes yr un Duw ond Crist; nad yw y Tad a'r Yspryd yn Dduwiau eraill, onide na fyddai yr un o honynt yn Dduw; eto, mai y Gair, ac nid y Tad na'r Yspryd, a wnaed yn gnawd. Dangosais y modd y daeth Duw yn ddyn, ac y bu farw, a bod ei waed yn waed Duw." Y lle nesaf y pregetha ynddo yw Cwmcynon, a dirgelwch y gwaed yw y mater. Oddiyno, teithiai trwy Pengwenallt, Llwynygrawys, lle y teimlai yn wael ei iechyd, ac Abergwaun. Odfa ddilewyrch a gafodd yn y lle diweddaf. Dydd Sul, wythnos wedi ei gychwyniad o gartref, cawn ef yn Nghastellyblaidd. Aeth yn y boreu i eglwys Hay's Castle, "lle y mae yr Arglwydd yn casglu ei braidd yn nghyd i'w porthi trwy y brawd Howell Davies," ac efe a weinyddai yn yr eglwys y boreu hwnw. "Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd," oedd ei destun; eithr teimlo yn galed a chnawdol a wnelai Harris wrth wrando. Eithr ar y cymundeb a ddilynai, daeth yr Arglwydd i lawr, a gwnaed pen Calfaria yn hynod felus, wrth fod yr Yspryd yn ei ddangos. "Cefais olwg fwy ardderchog nag erioed ar fendithion a chyfoeth Calfaria," meddai; "yr wyf yn myned it fynu ato ef yno, lle y mae pechod a marwolaeth yn cael eu concro. O, Calfaria! Calfaria! Dyma lle y mae pardwn a phob bendith i'w cael." Gwedi hyny, pregethodd yntau, oddiar Eph. iii. 18, a chafodd odfa rymus anarferol. Y noson hono, aeth i Longhouse, lle y cadwodd seiat breifat, gan ymdrin â nifer o faterion, megys y pleser o gyfarfod Paul, Petr, a Dafydd, yn y nefoedd, gwobrau ffyddlondeb, a'r angenrheidrwydd am oddefgarwch. Ac yna aeth at ei hoff fater, sef dirgelwch Crist.

Dydd Mercher, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Hwlffordd, ac aeth yntau yno. Ar y ffordd, gweddïai yn daer dros y brodyr, ar i hunan gael ei ddinystrio ynddynt, ar i Dduw fod oll yn oll, ac ar i bob un weled ei le ei hun, a lle eraill. Pwy oedd yn y Gymdeithasfa, ni ddywed, ac ni chronicla ymadroddion neb, oddigerth ei eiddo ei hun. Agorodd y gynhadledd gydag anerchiad, yn yr hwn yr aeth dros nifer mawr o wahanol faterion ; dangosodd y modd y tywynodd goleuni yr addewidion amodol arno gyntaf; y modd y dylai ffydd, gras, a gwaith, gael eu pregethu yn eu lleoedd priodol, a'r angenrheidrwydd am dlodi yspryd. Yr oedd yn dra llym wrth gyfeirio at falchder a difaterwch, ac at y rheidrwydd i bob un adwaen ei le, ei berthynas a'r corph, ac a'r Pen. Ymddengys fod rhywrai yn euog o dori eu cyhoeddiadau y pryd hwnw, a dywedai Harris y dylent gael eu hatal i bregethu am flwyddyn. Yna," meddai, "cyfeiriais at waith rhai o'r offeiriaid yn fy nghyhuddo o fod wedi cyfnewid mewn athrawiaeth, ac yn fy ngalw yn Antinomiad. Ymgyngorasom am y modd i dderbyn i'r seiat, ac i dori allan. Gwelwn nad oedd yr un dull ddim yn gweddu pob man, ac y rhaid i ni ymwadu a'n rheswm ein hunain. Yr oeddwn yn finiog wrth. gyfeirio at dderbyn wyneb, ac am yr angenrheidrwydd i ni gryfhau dwylaw ein



Nodiadau golygu