Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-10)

Howell Harris (1747-48) (tud-09) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-11)

gilydd, a dywedais fy mod wedi dod yno i gryfhau dwylaw yr offeiriaid. Yna, aethum i'r ystafell, lle y lleferais oddiar Mat. viii. 26." Gwedi y bregeth, bu seiat drachefn; eisteddodd y cynghorwyr a Harris i fynu hyd ddau o'r gloch y boreu, a dywed ei bod yn noswaith fendigedig. Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa hapus, a phawb yn cydweled; ond y mae yn dra thebyg nad oedd neb o'r offeiriaid yno, a bod Howell Harris yn cael pob peth yn ei ffordd ei hun. Oddiyma, pasia trwy Walton-West, Llangwm, a Mounton, ac yna dychwel i Drefecca, wedi taith o un diwrnod-ar-bymtheg. Y mae yn deilwng o sylw na alwodd y tro hwn yn y Parke, cartref Howell Davies, er ei fod yn pasio yn agos, nac ychwaith yn Llangeitho. Er ei fod yn cydweithio a'i frodyr hyd yn hyn, hawdd gweled fod ei deimladau atynt wedi oeri, ac nad oedd, fel cynt, yn dyheu am eu cymdeithas. Gyda golwg ar y cyhuddiad o Antinomiaeth, y cyfeiria ato fel wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn gan un o'r offeiriaid, efallai fod rhyw gymaint of sail iddo. Cymdeithasai ormod a Beaumont, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell i gyfeiriad Antinomiaeth; wedi bod yn nghyfeillach y brawd hwnw, a chael ei ddylanwadu i raddau ganddo, byddai yn defnyddio ymadroddion nas gellid eu cyfiawnhau, ac yn galw pregethu dyledswydd yn ddeddfol; ond wedi ymryddhau oddiwrth ddylanwad Beaumont, deuai yn ei ol drachefn.

Y mae yn ddrwg genym fod y dyddlyfr, o ganol Awst hyd ddiwedd mis Hydref, ar goll, ac y mae ein gofid yn fwy oblegyd iddo gymeryd taith i'r Gogledd yn mis Hydref. Cawn ef yn ysgrifenu at ei wraig o Lanbrynmair, Hydref 21; ac y mae olysgrif i'r llythyr o'r Bala, y dydd Gwener canlynol. Fel hyn y dywed: "Daethom yn ddiogel yma, a hynod fel y mae yr Arglwydd wedi bod gyda ni. Y mae Duw wedi cymeryd y lle hwn; ni chawsom ddim gwrthwynebiad; ond yr oedd pob peth yn dawel. Nid yw yn debyg y cawn ein rhwystro mwy. mhen deuddeg diwrnod yr wyf yn gobeithio eich gweled eto. Yr ydym yn myned i Sir Gaernarfon, a Môn, ac yna trwy Siroedd Dinbych, a Meirionydd." Tebygol fod James Beaumont gydag ef fel cydymaith. Cawn ef yn yr Amwythig, Hydref 31, yn dychwelyd adref, ac yn ei ddydd-lyfr ysgrifena fel y canlyn: "Daethum yma neithiwr, gwedi taith yn Ngogledd Cymru, lle y dysgwyliaswn y cawn fy llofruddio, a'r lle yr oedd y drws wedi cael ei gau yn fy erbyn am rai blynyddoedd, gan lid y werinos, a chwerwder y clerigwyr, y rhai a gawsent eu cynhyrfu yn waeth am fod y bobl yn gadael yr Eglwys yn hollol ar ol fy ngwrando. Yn awr y mae y drws yn agored, ac er i mi fod yn y Bala, a Sir Gaernarfon, lle y buaswn mewn perygl am fy mywyd, yr oedd y gelyn wedi ei gadwyno, ac yr wyf yn gobeithio i lawer o dda gael ei wneyd. Sefydlwyd seiadau; llawer o'r rhai a adawsent yr Eglwys a arweiniwyd i ddyfod yn eu hol, ac i aros ynddi. Cefais fy nerthu yn oruwchnaturiol i drafaelu o gwmpas deg-milltir-ar-hugain y dydd; it aros i lawr hyd ddeuddeg, a thri, a chwech o'r gloch y boreu; i drefnu seiadau, i holi eneidiau, ac i bregethu. O Arglwydd, ti a glywaist ein gweddïau, ac a roddaist i mi i ddychwelyd. Ti a roddaist i mi i weled dy iachawdwriaeth yn dyfod i Ogledd Cymru, druenus a thywyll. Ymwelaist a'r bobl a eisteddent mewn tywyllwch Aiphtaidd tew. Tebygol y gwneir gwaith mawr yn Siroedd Meirionydd, Caernarfon, Môn, a Dinbych; gellid meddwl fod tueddfryd at wrando yn y bobl; O na chyfrifid fi yn deilwng i ddwyn cenadwri y Brenhin." Felly yr ysgrifena y Diwygiwr yn yr Amwythig, ar ei ffordd adref. Hyfryd fuasai genym ei ganlyn trwy yr holl daith, gan ddeall â pha leoedd yr ymwelai, a pha fath odfa a gaffai yn mhob lle; ond o'r pleser hwn yr ydym wedi cael ein hamddifadu. O'r Amwythig, tramwyodd trwy Berriw, y Tyddyn, a Llanfairmuallt, gan bregethu yn mhob lle ar ei ffordd i Drefecca.

Cyn myned i'r Gogledd, ysgrifenodd lythyr pwysig at y Parch. Edmund Jones; ac er meithed y llythyr, teimlwn y dylai gael ei osod i mewn yn llawn, ar gyfrif ei eglurder, ei yspryd Cristionogol, a'r goleu a deif ar amryw gwestiynau. Fel hyn y darllena: "Anwyl frawd,-Yr wyf yn cael, oddiwrth lythyr o'r eiddoch at Mr. Price, fy mod yn cael fy nghyhuddo o haeru pethau croes i Air Duw, a chroes i'm hymadroddion fy hun ar adegau eraill. Ac nid hyny yn unig, ond hefyd o haeru. mai Duw sydd yn rhoddi hyn i mi yn ddigyfrwng, ac felly, fy mod yn gwneyd Duw yn gelwyddog. Yr ydych yn meddwl fod hyn yn beth enbyd; yr wyf finau yn meddwl yr un peth; ac oddiar pan ei clywais yr wyf wedi bod yn holi fy hun,



Nodiadau golygu