Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-11)

Howell Harris (1747-48) (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-12)

gan wysio fy nghydwybod i gyflawni ei swydd, ond yr wyf yn methu cael fy hun Ar ba seiliau y gwneir y yn euog. cyhuddiad, nis gwn; a pheth a allaswn ddweyd, oddiwrth yr hyn y gallai rhai pobl dda, trwy gamddeall, trwy demtasiwn Satan, neu trwy fy mod yn llefaru yn aneglur, rywbryd neu gilydd, gasglu y cyfryw syniad, nis gallaf gofio; gan nad wyf wedi cael clywed pwy yw y cyhuddwyr, na pheth yw y geiriau a ddefnyddiais. Ond os defnyddiais y cyfryw ymadroddion, neu rywbeth yn ymylu arnynt, yr wyf yn datgan fy mod yn ofidus am danynt. Ond synwn fy mod yn cael fy nghyhuddo, fy mhrofi yn euog, a chael ymddwyn ataf felly, a minau heb glywed dim am y peth. Yr oeddwn yn tybio na wnelai Mr. Jones ymddwyn felly at neb. Efallai eich bod yn meddwl wrth ysgrifenu at arall, heb fy hysbysu i, y cymerwn y cerydd yn fwy tirion gan arall. Ond beth bynag am hyny, nid oedd hyn yn ganlyn y rheol wrth ba un yr ydym i rodio. Ar yr un pryd, gallaf ddweyd fy mod yn ddiolchgar i ddyfod i wybodaeth am fy ffaeleddau rywfodd, oblegyd gwn fy mod yn llawn o honynt. Os gellwch edrych arnaf mewn unrhyw ystyr fel yn cael fy nefnyddio gan Dduw, er fy mod, yn ol y goleu sydd genych chwi, yn cael fy nghamarwain; os gellwch edrych arnaf fodd yn y byd fel brawd, neu gydweithiwr, byddai yn dda pe na baech yn rhoddi coel i adroddiadau sydd yn rhwystro cariad brawdol, yr hwn, y gallaf ddweyd, fy mod yn ei gael yn fy enaid atoch chwi. Er fy mod wedi meddwl fod eich zêl dros Annibyniaeth wedi eich cario weithiau yn rhy bell, i geisio rhwystro y gwaith ag y mae yr Arglwydd, yr wyf yn gostyngedig dybio, wedi ei ymddiried i mi; ac er fy mod wedi ei chael yn ddyled swydd i wrthdystio yn erbyn rhai mesurau a gymerasoch; oni wnaethum hyn mewn gostyngeiddrwydd, a chyda chariad a phwyll, yr wyf yn edrych arno fel un o'r pethau ag y mae yn rhaid i mi alaru o'u herwydd bob dydd.

Bid sicr, y mae rhyw bethau yn ein golygiadau a'n barnau yn ein cadw i raddau yn mhell oddiwrth ein gilydd. Yr wyf wedi, a throsof fy hun yn, dymuno ar i bawb a arddelir i unrhyw fesur gan yr Arglwydd gael cyfleusderau cyffredinol i gyfarfod, i gydymddiddan, ac i benderfynu ar ryw reolau i rwystro oerfelgarwch, rhagfarn, celwydd, a gwanhau dwylaw ein gilydd. Gyda golwg ar y profion a ddygwch yn mlaen y byddai yn well i ni adael yr Eglwys Sefydledig, a'r haeriad ei fod yn ein bwriad i osod ein hunain i fynu fel eglwys; nid wyf yn foddhaol gyda golwg ar y naill na'r llall. Am y diweddaf, ni chlywais gymaint a son am dano o'r blaen. Am y cyntaf, buasai yn dda genyf pe baech yn fy hysbysu parthed defnyddioldeb y brodyr sydd wedi ein gadael. Yr ydych chwi yn addef fod crynswth y bobl ydynt yn marw o eisiau gwybodaeth yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig; ac y mae drysau newyddion yn agor iddynt yn barhaus o fewn cylch eu Heglwys eu hun. Am y brodyr a'n gadawodd, y maent eu hunain yn cyffesu eu bod yn cael mwyaf o'r Arglwydd pan y cyfarfyddant a'u hen gyfeillion. Nid wyf yn cael eu bod yn cael eu bendithio i ail-ddeffro y proffeswyr cysglyd, yn mysg pa rai y maent. A chan fod arnom eisiau cymhorth i fyned allan yn erbyn byd tywyll a drwgdybus, nis gallaf lai na chredu ddarfod i gylch eu defnyddioldeb gael ei gyfyngu yn ddirfawr, o herwydd eu bod yn gadael y gwaith cyhoeddus am un llai cyhoeddus. Gyda golwg ar ein bod yn rhwystro pobl i uno â rhyw frodyr Ymneillduol, nis gallaf lai nag edrych ar y cyhuddiad fel un hollol annheg, gan ei fod yn gwbl wybyddus i'r nifer amlaf o'r cynulleidfaoedd (Ymneillduol), y darfu i ni sefydlu yn eu cymydogaeth, gael eu cynyddu a'u bywhau trwy ein hofferynoliaeth. Yn ol y goleuni a feddem, ymddangosai i ni nad oedd yr eneidiau yn llwyddo (yn mysg yr Ymneillduwyr), ac addefent hwy eu hunain mai yn ein mysg ni yr oeddynt yn cael eu porthi. Am eraill, oeddynt yn fywiog, ac yn taflu eu heneidiau i'r gwaith, tra gyda ni, gwedi iddynt ymneillduo, hwy a aethant yn glauar a difater. Felly, yn lle cynyddu mewn bywyd ysprydol, hwy a aethant yn ol. Eraill a gawsant eu tramgwyddo, a'u cadw rhag dyfod i wrando arnom, trwy dybio ein bod mewn cyfrwysdra yn honi perthynas ag Eglwys Loegr. Yr oedd rhagfarn y rhai hyn yn annyoddefol, a gwnaent eu goreu i dynu pobl o'r lleoedd, yn mha rhai y darfu i'r Yspryd Glân eu cadw, a'u porthi am amser maith. Os ar yr ystyriaethau hyn y darfu i mi lefaru yn erbyn ymddygiadau rhai o honoch, ond i chwi gadw mewn cof y rheol am wneyd i eraill fel yr ewyllysiech i eraill wneyd i chwithau, bydd i'ch digofaint gael ei leddfu i raddau mawr. Pe y deuai rhywrai i fysg y bobl y buoch chwi yn offerynol



Nodiadau golygu