Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-12)

Howell Harris (1747-48) (tud-11) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-13)

i'w galw, a'u casglu allan o'r byd, gan eu harwain ar gyfeiliorn; yn enwedig os oeddynt yn hollol dawel pe y cawsent lonydd; a phe y caech eu bod mewn canlyniad yn myned i wrando pregethwyr nad oeddych yn hollol foddhaus ar eu hathrawiaeth, oni theimlech hi yn galed fod y rhai hyn (sef y rhai a arweinient eich pobl ar gyfeiliorn) yn cwyno am eich bod yn ceisio cadw eich cynulleidfaoedd yn nghyd, tra mewn gwirionedd mai hwy oedd yr ymosodwyr, ac a ruthrasent i mewn i lafur rhai eraill?

Y mae ein rhesymau dros aros yn yr Eglwys Sefydledig yn ymddangos i ni yn drymach o lawer na'r rhesymau dros ei gadael. Felly, credem y pechem yn erbyn yr Arglwydd a'i waith pe y troem ein cefnau arni; a rhoddem gyfle i'r gelyn i rwystro y diwygiad gogoneddus, yr hwn sydd yn helaethu ei derfynau bob dydd. Yn fy nhyb ostyngedig i, pe y codasai rhyw ddiwygiwr yn mysg yr eglwysi Ymneillduol, heb osod i fynu gynulleidfaoedd ar wahan, buasai yn gwneyd mwy o wasanaeth i eglwys Dduw, ac yn rhoddi llai o dramgwydd i eraill. Yr wyf yn dweyd hyn yn unig fel fy syniad i ar y mater; nid wyf yn barnu; gwn fod gan Dduw amrywiol fwriadau, felly, yr wyf yn ddystaw. . . . Fy marn i ydyw, a dyna oedd eich barn chwithau unwaith, fod yr Arglwydd yn gadael yr Ymneillduwyr, ac yn myned i fywhau ei waith yn yr Eglwys Sefydledig. Pe y deuech i'n mysg fel cynt, ac mewn dull na fyddai genym le i feddwl eich bod yn dyfod i geisio ein rhanu, yr wyf yn credu y gwelech ein bod yn y ffurf y mynai Duw i ni fod; a'i fod ef yn ein mysg, er ein llygredigaethau, ein gwendidau, a'n cymysgedd. Pe y deuech felly, cryfhaech ein dwylaw, yn lle eu gwanhau, gan weled ein bod yn dwyn pwys y dydd a'r gwres, a bod yr holl fyd ac uffern yn ein herbyn. Wrth ganfod yr anhawsderau à pha rai yr ydym yn ymladd, cynhyrfid eich calon ddewr ynoch eto, a llosgai eich yspryd mewn cydymdeimlad a'r dynion ieuainc sydd yn myned allan, a'u bywydau yn eu dwylaw, yn erbyn y Philistiaid. Deuwch. Na fydded cynhen rhyngom mwyach. Bydded i ni gytuno yn hyn, sef na byddo i ni wanhau dwylaw ein gilydd; ac os na ellwch gredu ein bod ni yn iawn wrth aros yn yr Eglwys Sefydledig, peidiwch a'n condemnio, pan y sicrhawn chwi mai mater o gydwybod yn hollol ydyw genym. Yr ydym yn gweled y fath waith wedi ei ddechreu; rhai clerigwyr o enwogrwydd wedi cael eu deffro; nifer o bersonau o'r safle fwyaf anrhydeddus yn dyfod i wrando, a rhai o honom wedi cael ein galw i bregethu yn breifat o flaen pendefigion, yn mysg pa rai y mae un ardalydd, un iarll, dwy arglwyddes, a dwy foneddiges o deitl. Yr ydym yn gweled rhagfarn yn syrthio, a drysau yn agor trwy yr oll o Loegr, yn mron, ac, o'r diwedd, yn Ngogledd Cymru, a hyd yn nod yn yr Iwerddon. Felly, peidiwch ein condemnio, os oes arnom ofn rhedeg o flaen yr Arglwydd. . . . Ni frysia yr hwn a gredo. Bydded i ni gymeryd ein dysgu gan Dduw, a bod yn amyneddgar, ac yn ddyoddefus, ac yn ffyddlawn iddo ef; yna, gwelwn y bydd i'r gwirionedd lwyddo yn amser da Ďuw, gan yru cyfeiliornad a phenrhyddid allan o'r Eglwys; neu ynte, caiff Satan y fath allu i greu erledigaeth o fewn i'r Eglwys, fel ag i yru allan yr holl ffyddloniaid. . . . Os ydyw yr hen Eglwys i gael ei gadael i wrthod y goleuni, a chynulleidfaoedd ar wahan iddi i gael eu ffurfio, yr hyn yr wyf yn gobeithio na fydd byth, yna, rhaid i Ragluniaeth drefnu yr amser a'r offerynau. O, gan Dduw, na allech chwi ddyoddef mwy gyda'r hen Ymneillduwyr, a llafurio yn eu mysg mewn amynedd, a cheisio cael dynion ieuainc llawn cariad i ddilyn yr hen weinidogion, a pheidio sefydlu cynulleidfaoedd ar wahan, gan geisio tynu pobl oddiwrthym ni; eithr ein gadael yn yr Eglwys Sefydledig. Yna, mi a allwn eich cyfarfod yn breifat, neu mewn Cymdeithasfa, i'r pwrpas o sefydlu pethau, a'ch anrhydeddu fel un nad wyf yn deilwng i olchi ei draed. Yna, mi a allwn agor fy holl galon i chwi gymaint ag erioed. Yr wyf yn gobeithio fy mod yn ysgrifenu yn symlrwydd yr efengyl. A gallaf yn ddiragrith alw fy hun mor gariadus ag erioed : Eich annheilyngaf Frawd, a chyd-bechadur, eithr wedi ei achub trwy ras, ac yn wir awyddus am eich cyfarfod fry, i gydfoli yn dragywyddol; ac i ymddwyn yma fel eich cyd-ddinesydd, a'ch cyd-lafurwr,-H. HARRIS."

Llythyr cryf, eto boneddigaidd, wedi ei ysgrifenu mewn yspryd Cristionogol, ac yn llawn o natur dda. Y mae rhai pethau sydd i raddau yn dywyll ynddo, megys yr anogaeth i Edmund Jones i lafurio mewn cydweithrediad a'r hen Ymneillduwyr. A oes yma awgrym fod y prophwyd o Bontypwl, er ei holl dduwioldeb, nid yn unig



Nodiadau golygu