Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1747-48) (tud-19)

Howell Harris (1747-48) (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1747-48)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1747-48)
Howell Harris (1747-48) (tud-20)

dychymygol yma a elwch yn Dad. Yr oeddwn yn gryf ar hyn, er y rhaid i mi arfer pob tynerwch at bawb, eto fod yn rhaid i mi sefyll wrth y gwaed hwn." Yr ydym yn cofnodi ei sylwadau yn helaeth, er dangos natur ei olygiadau. Yna aeth yn mlaen i ddangos ei berthynas a'r Ymneillduwyr, ei fod yn eu parchu, ac yn pregethu yn eu capelau; mai ei holl amcan oedd eu dyrchafu at Dduw; nad oedd y Methodistiaid yn bwriadu gosod i fyny blaid, mai yn yr Eglwys Sefydledig yr oeddynt wedi eu galw. Cyfeiriodd hefyd at ryw lythyr a daenid trwy Gymru a Lloegr gyda golwg arno, yr hwn a gynwysai gyhuddiadau hollol anwireddus.

Yr oedd y wasg Saesnig yn tywallt allan bob math o lysnafedd ar y Methodistiaid yr adeg hon. Mewn un pamphledyn, dywedid eu bod yn gwneyd eu canlynwyr yn wallgof; ddarfod i amryw o honynt yn Nghymru gyflawni mwrddradau, a'u bod yn hongian mewn gefynau ar y pryd. Desgrifid Whitefield fel un a melin wynt yn ei ben, ac fel yn myned o gwmpas y byd i geisio rhywun y gallai daro ei ymenydd allan. Ond Griffith Jones, Llanddowror, a enllibid waethaf o bawb. Honai ysgrifenydd arall, yr hwn, fel y mae'r gwaethaf, oedd ŵr dysgedig, fod Methodistiaid Cymru yn arfer godineb, ac na ystyrid puteindra yn bechod ganddynt o gwbl. Dywedai, yn mhellach, fod y pregethwyr Methodistaidd yn peri i'r aelodau gyffesu eu pechodau iddynt, a bod un o honynt, Will Richard, wrth ei enw, a chobler wrth ei gelfyddyd, pan fyddai yn maddeu pechodau un, yn estyn iddo ddarn o bapyr, gan sicrhau y cyfryw y gwnelai y papyr agor drws y nefoedd iddo. Nid annhebyg y cyfeiriai Harris at un o'r rhai hyn.

Boreu dranoeth, derbyniodd lythyr oddiwrth ddau weinidog Ymneillduol, gyda golwg ar ei bregeth y noson cynt. Gwelai y rhaid iddo ddyoddef oblegyd ei weinidogaeth. Aeth i lawr i ymddiddan â hwynt. Dywedodd un o honynt, Thomas Morgan, wrth ei enw, nad oedd y Dyn a ddyoddefodd yn Dduw tragywyddol. Oblegyd yr ymadrodd hwn galwodd Harris ef yn heretic, a dywedodd y gwnai bregethu yn ei erbyn hyd at waed, ond os galwai ei eiriau yn ol, neu yr addefai ei fod yn ddall, y gwnelai yntau fod yn ddystaw hyd nes y caffai ef (Thomas Morgan) oleuni pellach oddiwrth Dduw. "Dywedais ei fod yn fater cydwybod genyf," meddai, "ac y rhaid i mi ymdrechu drosto hyd at waed, mai efe yw y Duw tragywyddol. Dangosais iddynt eu hanwybodaeth, ac na all neb adnabod Crist ond yn ngoleu yr Yspryd Glân; fod yr undeb rhwng y ddwy natur yn Nghrist yn dragywyddol, ac felly mai y cabledd a'r digywilydd-dra mwyaf yn fy ngolwg i, oedd dweyd ei fod yn cyflawni unrhyw beth, neu yn dyoddef fel dyn, ac nid fel y tragywyddol Dduw." Datganai ei obaith y llewyrchai gogoniant y Person hwn yn mysg yr Ymneillduwyr. Ymadawsant yn y diwedd yn hapus; gair diweddaf Howell Harris wrthynt ydoedd: "Peidiwch gwneyd mân wahaniaethau deillion; fflamiwch ar led ogoniant y Dyn hwn, ac yna mi a ddymunaf i chwi ffawd dda." Oddiyma dychwelodd trwy Lacharn, Caerfyrddin, Pontargothi, Capel Llanlluan, Llandremore, Abertawe, Gelly-dorch-leithe, a'r Hafod, gan gyrhaedd Trefecca ar y 24ain o Fedi. Cafodd gynulleidfaoedd. anferth yn mhob man, ac ymddengys fod cryn arddeliad ar ei weinidogaeth. Dirgelwch Crist, ac agosrwydd undeb y ddwy natur ynddo, fel yr oedd y ddynoliaeth yn cael ei dwyfoli fel rhan o'r Person; dyna oedd y mater y pregethai arno yn mhob man, er y byddai yn amrywio ei destynau.

O Medi 25 hyd Rhagfyr 18, y mae y dydd-lyfr ar goll, felly nis gallwn gael unrhyw wybodaeth am ei lafur yn ystod y cyfnod hwn. Dranoeth i'r Nadolig, cynhelid Cyfarfod Cyffredinol—felly y geilw Harris ef yn Nhrefecca. A ydoedd yn Gymdeithasfa reolaidd, nis gwyddom; ond nid oes grybwylliad fod yr un o'r offeiriaid yn bresenol. Agorwyd y cyfarfod gyda phregeth gan Harris, ar yr angelion yn ymweled a'r bugeiliaid pan anwyd Crist. Nid yw yn ymddangos fod llawer o drefn ar y bregeth; aeth ar draws liaws o faterion; dywed iddo lefaru am dair awr, a bod cryn lawer o nerth yn cydfyned a'r genadwri. Fel arfer, ymhelaethodd ar ddirgelwch Crist, gan brofi mai efe oedd y gwir a'r tragywyddol Dduw; nad oes yr un Duw uwchlaw iddo, a bod y Drindod trwy yr undeb sydd yn y Duwdod yn preswylio ynddo. Dangosodd ei Ddwyfol ymostyngiad yn preswylio yn mru y wyryf, ac yn cymeryd ein natur ni, a thrwy hyn, ffurfio y fath Berson na welwyd ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna cyfeiriodd at yr Ymhonwr, gan ddatgan nad oedd arnynt awydd am un brenin i lywodraethu dros eu cyrph ond y brenhin George; ond fod y Brenhin Iesu uwchlaw



Nodiadau golygu