Y Wen Fro/Llanilltud Fawr
← Croesau a Chromlechau'r Fro | Y Wen Fro gan Ellen Evans |
Llandunod (St. Donats) → |
LLANILLTUD FAWR
MAWR obeithiaf y cewch oll rywdro weled Llanilltud Fawr—tref tua deng milltir o'r Barri. Y mae pob heol ynddi yn arwain at yr Eglwys, ac yn y Canol Oesoedd yr oedd croes wrth bob mynedfa i'r dref.
Saif yr eglwys a'r dref tua milltir o lan y môr, ac fel y mwyafrif o eglwysi'r Fro adeiladwyd hi mewn cilfach er diogelwch. Dywedir wrthyf, er na phrofais wirionedd y dywediad, fod tair ffordd ar ddeg o lan y môr i'r dref. Dylai fod yn lle campus i chwarae mig!
Fel y tystia'r enw gelwir y dref ar ôl Eglwys y Sant Illtud. Cyfrifid Illtud yn athro mawr, ac yr oedd ei fri a'i glod yn nodedig. Dywedir bod Gildas, Sant Samson o Dol, a Sant Pol de Leon o Lydaw, St. Padrig a Dewi Sant, ymhlith ei ddisgyblion. Yn ôl traddodiad, enw cyntaf Llanilltud oedd "Côr " neu "Bangor Eurgain." Enw merch Caradog, Brenin y Siluriaid, oedd Eurgain neu Gwladus, a bu fyw yn y drydedd ganrif. Yn ôl yr hen stori aeth i Rufain gyda'i thad, ac yno dysgodd am y grefydd Gristnogol a'i choleddu. Pan ddychwelodd adref, sefydlodd goleg i bedwar ar hugain o fynachod. Dywedir i'r nifer gynyddu nes bod yno rhwng dwy a thair mil o fyfyrwyr, yn byw mewn saith neuadd. Gwelir olion un tŷ byw, ysgubor y degwm, a cholomendy yno heddiw.
LLanulltyd Fawr
Honnir mai dyma'r fan lle'r oedd y sefydliad Cristnogol cyntaf ym Mhrydain. Y mae'r eglwys yn un odiaeth o hardd, a saif ar sylfeini'r hen eglwys gynnar. Rhennir hi, fel y mae heddiw, yn dair rhan yn gyntaf, y rhan gyn-Normanaidd a berthyn i'r nawfed ganrif, ac iddi do o dderw Iwerddon a phorth wedi ei adeiladu o gerrig a gloddiwyd yn amser y Rhufeiniaid; yn ail, y tŵr ysgwâr yn perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg, a'r to yn perthyn i'r bymthegfed ganrif; ac, yn drydedd, yr eglwys ddiwethaf a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Gadewch i ni'n gyntaf ymweled â'r rhan a berthyn i'r nawfed ganrif. Y mae hon ym mhen gorllewinol yr eglwys. Yma gwelir tair croes Geltaidd yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif. Gall Llanilltud Fawr fod yn falch iawn o'i heiddo.
Enwau'r croesau hyn yw Croes Illtud (y Nawdd Sant), Croes Samson (a adeiladwyd gan un o'r seintiau cynnar a'i hanes yn gysylltiedig â Llanilltud), a Chroes Hywel. Darganfuwyd Croes Samson gan Iolo Morganwg, a dodwyd hi yn yr eglwys yn 1905. Y mae Croes Hywel, sydd ar ffurf olwyn, yn un brydferth ac enwog. Y mae'r bleth Geltaidd mewn gwahanol ddulliau yn addurno'r tair croes hyn. Copiwyd Croes Hywel, a dodwyd y copi fel cof golofn ar ysgwâr y dref.
Awn yn awr at y tŵr. Yn y fan hon gwelwch sedd o garreg gydag ochr y mur, oherwydd yn y dechrau yr oedd ystyr yn "y gweiniaid yn mynd at y wal," a dyma hi—yn eglwysi'r Canol Oesoedd nid oedd seddau ond i'r gweiniaid. Byddai pawb arall yn sefyll ac yn penlinio.
Yn awr, awn ymlaen at ran ddiwethaf yr eglwys, a gwelir yma un o'r pethau mwyaf diddorol ynddi—Cangen Jesse, yn perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg. Gwelir arni Jesse a'i holl ddisgynyddion gyda Christ fel y pen cynnyrch. Yn ôl pob tebyg, y gangen hon oedd yr allor cyn llunio'r ysgrîn garreg brydferth (perthynol i'r bedwaredd ganrif ar ddeg) a oedd unwaith wedi ei lliwio a'i llanw â delwau'r seintiau. Gwelir cangen Jesse yn awr mewn rhan o'r eglwys a oedd unwaith, yn ôl pob tebyg, yn perthyn i Gymdeithas Crefftwyr. Ar y mur gwelir darluniau wedi eu paentio, un ohonynt yn dangos Samson yn croesi'r nant.
Y mae un peth arall nodweddiadol iawn i'w weled yn Eglwys Llanilltud Fawr, a hwnnw yw'r Capel Galilea ym mhen gorllewinol yr Eglwys. O'r fan hon, yn amser y mynachod, y cychwynnid ar y gorymdeithiau crefyddol. Ceir un tebyg yn Nurham, ond nid oes un arall yng Nghymru gyfan. Ar gerrig beddau Llanilltud Fawr gwelir beddargraffiadau diddorol. Sylwer mai yn Saesneg yr ysgrifennwyd hwy, oherwydd nid yw'r hen dref hon yn Gymraeg o ran iaith, ond hyd yn oed pan fyddai trefi yn hollol Gymraeg rhoddid beddargraffiadau Saesneg. Dyma rai ohonynt:—
1788
"Lament for me its all in vain ;
My life on earth it was but Pain;
Great gain indeed was Death to me
To draw me from my misery."
1813
"Truth and good works met together in her,
In piety and obedience she lived In peace and joy she died,
Reader
Go thou and do likewise."
Y mae sillafiaeth a gramadeg yr un a ganlyn yn ddiddorol:—
1834—1836
"Harmless babes lies buried here,
Who to their Parents was most dear
With innocence their surely drest
And in Christ's arms they takes their rest."
Y tu mewn i'r eglwys gorwedd rhywun a fu farw yn 129 mlwydd oed. Ymddengys nad oedd yn hawdd ffarwelio â Bro Morgannwg yn y dyddiau a fu!
Saif Neuadd y Dref yn agos i'r Eglwys, ac y mae'n ddiddorol iawn. Adeiladwyd hi yn amser cynnar y Normaniaid, ond nid yw'r adeilad presennol yn hŷn na'r bymthegfed ganrif. Adroddir nifer o storïau hynod am y Neuadd. Dywed un i Edgar, Brenin y Saeson, ladrata'r clychau a chychwyn â hwy ganddo i ffwrdd, ond collodd ei leferydd yn llwyr, ac nis adferwyd nes iddo anfon y clychau'n ôl i'w gwir berchnogion. Nid oedd sôn am Gymdeithas Cynllunio Trefi pan adeiladwyd Llanilltud Fawr. Pa le bynnag y cychwynnwch, byddwch yn sicr o gyrraedd yr Eglwys a Neuadd y Dref. Arwain pob ffordd yno, oherwydd adeiladwyd y dref mewn cyfres o gylchoedd. Ped elai dieithryn yn yr hen amser unwaith i mewn i Lanilltud, anodd iawn fyddai iddo ddianc allan. Awgrymir bod rhyw gynllun mewn peth oedd yn ymddangos yn wallgofrwydd.